Astroffiseg (MSc)
- Hyd: Blwyddyn
- Dull astudio: Amser llawn
Diwrnod agored
Dysgwch am astudio'n ôl-raddedig yma yn ystod ein Diwrnod Agored nesaf.
Pam astudio’r cwrs hwn

Mae'r pynciau a addysgir yn adlewyrchu ein cryfderau rhagorol mewn ymchwil ddamcaniaethol, arsylwadol ac offerynnol ac mae'n cynnwys Cosmoleg, Uwch-Berthynoledd Cyffredinol a Thonnau Disgychol, Offeryniaeth ar gyfer Seryddiaeth a Thechnegau mewn Astroffiseg.
Mae ein cwrs MSc mewn Astroffiseg yn gwrs gradd amser llawn sy’n ceisio rhoi hyfforddiant arbenigol a mantais i fyfyrwyr sydd am weithio ym maes astroffiseg gan fod y farchnad recriwtio ar ei gyfer yn gystadleuol dros ben. Ar y cwrs, byddwn yn ymdrin â meysydd damcaniaethol, arsylliadol a chyfryngol mewn astroffiseg a disgyblaethau gwyddonol eraill. Rydyn ni’n eich annog i ddatblygu ymwybyddiaeth feirniadol o broblemau ymchwil cyfredol a dealltwriaeth newydd sydd ar flaen y gad ym maes seryddiaeth ac astroffiseg. Byddwn hefyd yn trafod cyd-destun gwaith yr astroffisegydd modern, gan gynnwys yr amgylchedd diogelwch, moesegol ac ymchwil.
Ar ôl cwblhau’r cwrs, dylai myfyrwyr allu dilyn gyrfa ym meysydd ymchwil academaidd, gwyddor ffisegol, ymarfer diwydiannol, ymchwil a datblygu, neu yrfaoedd medrus eraill sy’n ymwneud â rhifau.
Nodweddion unigryw
- Tailor the course to your interests with our broad range of optional modules.
- Benefit from our School-based facilities including laboratories and computing facilities.
- Research-led MSc programme, with taught components delivered by experts in their field.
- You will be part of the School’s postgraduate community and will have the support of a personal tutor.
- The high level analytical and numeracy skills that are the basis of this course will open up opportunities in a wide range of professions.

Mae aelodau'r staff yn awyddus iawn i gymryd rhan a helpu pan fo angen. Mwynheais y flwyddyn hon yn fawr, ac rwy’n falch iawn fy mod wedi dewis astudio’r MSc hwn.
Ble byddwch yn astudio
Yr Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth
Mae ein rhaglenni gradd wedi’u hachredu gan y Sefydliad Ffiseg yn cynnwys meysydd arbenigol sy’n adlewyrchu ein diddordebau ymchwil.
Meini prawf derbyn
Academic requirements:
Typically, you will need to have either:
- a 2:1 honours degree in a relevant subject area such as physics, mathematics, engineering, a related physical science, astrophysics, astronomy or an equivalent international degree
- a university-recognised equivalent academic qualification.
- or relevant professional experience evidenced by a reference. This should be signed, dated and less than six months old at the time you submit your application.
English Language requirements:
IELTS with an overall score of 6.5 with 5.5 in all subskills, or an accepted equivalent.
Application deadline:
We allocate places on a first-come, first-served basis, so we recommend you apply as early as possible.
Selection process:
We will review your application and if you meet the entry requirements, we will make you an offer.
Rhagor o wybodaeth am ofynion Iaith Saesneg.
Mae'n rhaid i ymgeiswyr sydd angen Fisa myfyriwr i astudio yn y DU gyflwyno cymhwyster iaith Saesneg derbyniol er mwyn bodloni gofynion UKVI (Fisâu a Mewnfudo y DU).
Euogfarnau troseddol
Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Gwahardd Datgelu) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn.
Os ydych chi'n destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro ar hyn o bryd a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau'ch astudiaethau yn llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu'ch cofnod troseddol. Mae'r amodau'n cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:
- mynediad at gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
- defnyddio offer / dyfeisiau rhyngrwyd a chyfathrebu
- cyrffyw
- rhyddid i symud
- cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.
Strwythur y cwrs
Mae dau gam i’r rhaglen hon. Mae'r cam cyntaf yn cynnwys modiwlau craidd a dewisol a addysgir sy'n dod i gyfanswm o 120 credyd. Rhennir y rhain ar draws semester yr hydref a semester y gwanwyn.
Ar ôl i chi basio'r cam cyntaf yn llwyddiannus, gallwch symud ymlaen i ail gam y rhaglen, sef prosiect ymchwil (60 credyd). Byddwch yn ymgymryd â phrosiect ymchwil 4 mis, naill ai gydag un o'r grwpiau ymchwil yn ein Hysgol neu'n allanol ar leoliad gydag un o'n partneriaid diwydiannol. Yna byddwch yn cwblhau traethawd hir yn amlinellu eich ymchwil. Dylid cyflawni’r traethawd hir yn annibynnol o dan oruchwyliaeth aelod priodol o staff academaidd sydd â diddordebau ymchwil yn eich maes dewisol.
Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2023/24. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2023.
Rhaglen 12 mis lawn yw hon. Byddwch yn ymgymryd â'r holl fodiwlau craidd a dewisol a addysgir ym mlwyddyn un. Byddwch hefyd yn cwblhau prosiect ymchwil haf 4 mis o hyd a fydd yn cael ei asesu drwy draethawd hir.
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Research Project | PXT999 | 60 credydau |
Advanced Techniques in Physics and Astrophysics | PXT991 | 20 credydau |
Advanced Study and Research Skills | PXT992 | 20 credydau |
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Theoretical Physics | PXT114 | 10 credydau |
Statistical Mechanics | PXT115 | 10 credydau |
Data Analysis | PXT125 | 10 credydau |
Science Communication | PXT136 | 10 credydau |
Exoplanets and the Search for Life | PXT145 | 10 credydau |
Formation and Evolution of Stars | PXT211 | 10 credydau |
Cosmology | PXT212 | 10 credydau |
High Energy Astrophysics | PXT214 | 10 credydau |
Introduction to General Relativity | PXT221 | 10 credydau |
Advanced General Relativity and Gravitational Waves | PXT224 | 10 credydau |
Galaxies and Galaxy Evolution | PXT227 | 10 credydau |
Energy and Gas in Interstellar Space | PXT228 | 10 credydau |
Gravitational Wave Astrophysics | PXT903 | 10 credydau |
Numerical Relativity and Waveform Modelling | PXT904 | 10 credydau |
Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle’n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Dysgu ac asesu
Sut y caf fy addysgu?
Yng Nghaerdydd rydyn ni’n darparu cyfleusterau addysgu pwrpasol ar gyfer gradd meistr a addysgir, gan gynnwys labordy addysgu pwrpasol, ystafelloedd seminar a chyfarfod a man astudio tawel. Darperir cyfrifiaduron i garfan y radd meistr a addysgir eu defnyddio’n unig.
Mae ein rhaglenni MSc wedi'u cynllunio o amgylch y syniad canolog o adeiladu cymuned o fyfyrwyr gradd meistr a addysgir sy'n gweithio gyda'i gilydd fel grŵp i wella dysgu. Cyflwynwyd y dyluniad arloesol hwn i gymuned ehangach Cymuned Arbenigol Addysgu Addysg Uwch y DU yng Nghynhadledd Amrywiaeth mewn Addysg Cemeg / Addysg Ffiseg (ViCE/PHEC) yn 2016 ochr yn ochr â'n datblygiadau arloesol israddedig ac allgymorth. Gallwch felly fod yn dawel eich meddwl bod eich cwrs MSc wedi'i gynllunio a'i weithredu gan gyfeirio at y datblygiadau diweddaraf mewn ymchwil a methodoleg addysgol.
Bydd y dulliau addysgu y byddwn yn eu defnyddio yn amrywio o un modiwl i’r llall, fel y bo'n briodol, yn dibynnu ar gefndir y myfyrwyr sy'n bresennol, y pwnc a'r dull(iau) asesu. Mae ein hamser addysgu â chyswllt fel arfer yn gymysgedd o ddarlithoedd, seminarau, tiwtorialau, sesiynau grŵp a sesiynau ymarferol.
O ddechrau tymor yr hydref, byddwn yn eich cyflwyno i'n cyfleusterau addysgu pwrpasol, i’r ardaloedd mynediad agored ac i'n labordai ymchwil. Bydd hyn yn eich galluogi i integreiddio'n hawdd i gymuned yr Ysgol. Mae ein carfan MSc hefyd yn cyfarfod yn rheolaidd fel grŵp i drafod pynciau ymchwil, i gyflwyno papurau ac i fynd i'r afael ag ymarferion grŵp a chael hyfforddiant sgiliau ymarferol uwch gyda'i gilydd.
Byddwn yn dyrannu goruchwyliwr a mentor i chi ar gyfer eich prosiect ymchwil haf. Fel arfer, bydd eich goruchwyliwr yn aelod o staff academaidd sy’n arbenigwr sy’n cael ei gydnabod yn rhyngwladol ym maes ymchwil. Byddwch yn cyfarfod yn rheolaidd â'ch goruchwyliwr a'i grŵp drwy gydol eich prosiect. Mae mentor eich prosiect yn aelod diduedd o staff academaidd a fydd yn monitro eich cynnydd, yn rhoi cyngor ac yn sicrhau bod eich prosiect ymchwil haf yn mynd yn ddidrafferth.
Sut y caf fy asesu?
Asesir a ydych wedi cyflawni’r deilliannau dysgu yn ein modiwlau a addysgir drwy arholiadau bob semester.
Bydd eich prosiect ymchwil ar ddiwedd y cwrs yn cael ei asesu drwy draethawd hir. Gellir dewis eich pwnc ymchwil o amrywiaeth o deitlau prosiect a gynigir gan staff academaidd, fel arfer mewn meysydd o ddiddordeb ymchwil cyfredol. Rydych hefyd yn cael eich annog i gyflwyno eich syniad eich hun ar gyfer prosiect.
Sut y caf fy nghefnogi?
Mae tiwtor personol yn cael ei neilltuo i bob un o'n myfyrwyr pan fyddan nhw’n cofrestru ar y cwrs. Mae tiwtor personol yno i'ch cefnogi yn ystod eich astudiaethau, a gall roi cyngor i chi ar faterion academaidd a phersonol a all fod yn effeithio arnoch. Dylech gael cyfarfodydd rheolaidd â’ch tiwtor personol er mwyn sicrhau eich bod yn cael cefnogaeth lawn.
Bydd gennych fynediad i Lyfrgell Trevithick, sy'n dal ein casgliad o adnoddau ffiseg ac astroffiseg, yn ogystal ag adnoddau o ddisgyblaethau Peirianneg a Chyfrifiadureg.
Byddwn yn rhoi copi i chi o'r Llawlyfr Myfyrwyr, sy'n cynnwys manylion polisïau a gweithdrefnau'r Ysgol. Rydyn ni hefyd yn cefnogi myfyrwyr trwy amgylchedd dysgu rhithwir y Brifysgol, Dysgu Canolog, lle gallwch ofyn cwestiynau mewn fforwm neu ddod o hyd i ddogfennau cysylltiedig â’r cwrs
Mae Prifysgol Caerdydd hefyd yn cynnig ystod eang o wasanaethau cymorth sy'n agored i'n myfyrwyr, fel Canolfan y Graddedigion, cwnsela a llesiant, cynghorwyr ariannol a gyrfaoedd, y swyddfa ryngwladol ac Undeb y Myfyrwyr.
Adborth
Rydyn ni’n cynnig adborth ysgrifenedig ac adborth llafar, yn dibynnu ar y gwaith cwrs neu'r asesiad rydych wedi'i wneud. Fel arfer, byddwch yn derbyn adborth amserol gan arweinydd y modiwl. Os oes gennych gwestiynau am eich adborth, mae arweinwyr modiwlau fel arfer yn hapus i roi cyngor ac arweiniad i chi ar eich cynnydd.
Pa sgiliau y byddaf yn eu hymarfer a’u datblygu?
- Deall cyfreithiau ac egwyddorion sylfaenol ffiseg, a gallu eu cymhwyso i amrywiaeth o feysydd mewn seryddiaeth ac astroffiseg.
- Meddu ar wybodaeth ymarferol am amrywiaeth o dechnegau arbrofol, mathemategol a chyfrifiadurol sy'n berthnasol i ymchwil gyfredol ym maes astroffiseg.
- Deall cyfyngiadau gwybodaeth a thechnolegau cyfredol a'r angen i gael gwybodaeth newydd drwy astudio mwy.
- Gwybod sut i gynllunio, gweithredu ac adrodd ar ganlyniadau ymchwiliad neu arbrawf ac i ddadansoddi a gwerthuso ei ganlyniadau yng nghyswllt damcaniaethau cyfredol sylfaenol.
- Y gallu i gyfleu syniadau gwyddonol cymhleth, casgliadau arbrawf, ymchwiliad neu brosiect yn gryno, yn gywir ac yn llawn gwybodaeth.

Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2023
Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.
Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd
Ffioedd am statws cartref
Blwyddyn | Ffioedd Dysgu | Blaendal |
---|---|---|
Blwyddyn un | £10,950 | Dim |
Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir
Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2023/24 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.
Ffioedd am statws ynys
Dysgwch ragor am ffioedd ol-raddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.
Ffioedd am statws tramor
Blwyddyn | Ffioedd Dysgu | Blaendal |
---|---|---|
Blwyddyn un | £25,450 | £2,000 |
Rhagor o wybodaeth am ffioedd dysgu a blaendaliadau, gan gynnwys ar gyfer myfyrwyr rhan-amser a pharhaus.
Cymorth ariannol
Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.
Costau ychwanegol
Bydd yr Ysgol yn talu am bopeth sy’n rhan hanfodol o'r rhaglen - esbonnir hynny’n eglur yn yr holl wybodaeth am y rhaglen ac mewn unrhyw gyfarwyddiadau a roddir gan diwtoriaid ar lafar.
Mae'r Brifysgol o'r farn nad oes angen i'r ysgolion dalu'r costau canlynol gan nad ydyn nhw’n hanfodol neu maen nhw’n gostau sylfaenol y dylid disgwyl i fyfyriwr eu talu eu hunain:
- Gliniaduron
- Cyfrifianellau
- Deunydd ysgrifennu cyffredinol
- Gwerslyfrau (y tybir eu bod ar gael yn y llyfrgell)
- Copïo/argraffu sylfaenol.
Os oes costau/ffioedd dewisol i'w talu gan y myfyriwr, nid yw'r rhain yn ofyniad i basio'r radd.
A fydd angen unrhyw gyfarpar penodol arnaf I astudio'r cwrs hwn?
Byddwn yn darparu offer sy'n hanfodol i'r cwrs. Fodd bynnag, rydym yn argymell eich bod yn dod â gliniadur gyda meddalwedd priodol (e.e. rhaglenni Office), USB neu yriant caled, deunydd ysgrifennu cyffredinol a rhywfaint o offer llunio sylfaenol.
Byddwch yr holl feddalwedd ac offer perthnasol sy'n gysylltiedig â TG ar gael ar eich cyfer ar gyfrifiaduron ein rhwydwaith. Byddwch hefyd yn gallu cael gafael ar offer arbrofol mewn sesiynau labordy cysylltiedig.
Costau byw
Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.
Gyrfaoedd a lleoliadau gwaith
Gall MSc mewn Astroffiseg agor y drws i amrywiaeth eang o yrfaoedd posibl yn y dyfodol. Mae ein cyn-raddedigion wedi sicrhau cyflogaeth ym meysydd ffotoneg, bioffiseg, ymchwil a datblygu offerynnol, ffiseg lled-ddargludyddion mewn gwyddoniaeth academaidd ac ymarfer diwydiannol. Gallwch hefyd ddewis ymgymryd ag astudiaethau ôl-raddedig pellach neu ymchwil academaidd ym maes astroffiseg, neu ddechrau gyrfa rifol hynod fedrus mewn disgyblaeth arall.
Lleoliadau
Mae gennym gysylltiadau cryf a sefydledig â’r diwydiant ac efallai y gallwn gynnig lleoliad i chi gydag un o'r partneriaid hyn ar gyfer eich prosiect ymchwil. Efallai y bydd gennym hefyd rai lleoliadau academaidd ar gael yn yr Ysgol dros yr haf, a all fod yn hynod werthfawr i fyfyrwyr sy'n ceisio parhau mewn ymchwil academaidd.
The MSc Astrophysics course at Cardiff has been a fantastic stepping stone towards being an early stage researcher. It has given me a lot of experience in studying and reviewing literature, conducting research, writing grant proposals, and presenting my final experimental/computational results. The course also helped me develop my data analysis skills and improve my knowledge of cosmology, star formation, galaxy evolution, observational astronomy and astronomical instrumentation. The MSc coordinators have been incredibly welcoming and played a very important role in creating a supportive environment amongst my peers and the staff.
Arian
Camau nesaf
Ymweliadau Diwrnod Agored
Cofrestrwch ar gyfer gwybodaeth am ein dyddiadau yn 2023.Gwnewch ymholiad
Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth am y cwrs hwn.Rhyngwladol
Mwy o wybodaeth am ein prifysgol fyd-eang.Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.