Ewch i’r prif gynnwys

Cydraddoldeb ac amrywiaeth

Mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.

Rydym yn darparu amgylchedd cynnes a chroesawgar i’n staff a’n myfyrwyr i gyd.

Mae gennym Bwyllgor Cydraddoldeb ac Amrywiaeth, sydd wedi sefydlu nifer o fentrau i sicrhau bod yn teimlo’n gyfforddus ac yn gallu cyflawni eu potensial llawn. Mae manylion ein rhestr o Gamau Gweithredu a gynigir i wella ein gweithle mewn perthynas â materion cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant i’w gweld yn ein Cynllun Gweithredu Athena Swan Juno.

Dysgu hygyrch

Rydym ni’n darparu cymorth i fyfyrwyr sydd ag ystod eang o anghenion – o Anableddau Dysgu Arbennig (SpLD) ac anableddau y mae angen cymorth gwybyddol ychwanegol ar eu cyfer, i anableddau corfforol a cholli clyw neu olwg.

Mae pob un o’n darlithfeydd, ein swyddfeydd a’n labordai yn hygyrch i ddefnyddwyr cadair olwyn, ac mae gennym Gynghorwyr Anabledd yn yr Ysgol i roi cyngor ac arweiniad ar yr ystod o wasanaethau sydd ar gael.

Y Gymuned LHDT+

Mae Prifysgol Caerdydd yn ymdrechu i wella profiad ein staff a myfyrwyr LHDT+, ac rydym wedi cael ein cydnabod dro ar ôl tro am ein hymdrechion. Mae Cymdeithas LHDT+ i fyfyrwyr, Cymdeithas LHCT+ Prifysgol Caerdydd (CU Pride) a rhwydwaith staff ac ôl-raddedigion hynod weithgar o’r enw ‘Enfys’.

Rydym ni’n falch o fod ar frig y prifysgolion (ac yn safle 10 ymhlith 100 o gyflogwyr) ar Fynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle Stonewall 2020. Mae mudiad Stonewall hefyd wedi ein cydnabod fel Cyflogwr Gwych i Bobl Drawsrywiol, yn ogystal â Hyrwyddwr Amrywiaeth.

Ehangu mynediad

Rydym yn credu ei fod yn bwysig sicrhau bod y Brifysgol yn hygyrch i bob grŵp yn y gymuned, a bod cyfleoedd ar gael i’r grwpiau hynny a dangynrychiolir ym maes addysg uwch yn draddodiadol.

Rydym yn cydnabod manteision meddu ar gymuned o fyfyrwyr amrywiol a dawnus, ac rydym wedi ymrwymo i sicrhau cyfle cyfartal i bawb.

Ein nod yw gwella amrywiaeth ac ehangu mynediad i’r Brifysgol trwy wneud y canlynol:

  • Cynnal amrywiaeth eang o weithgareddau ymgysylltu ag ysgolion er mwyn ysbrydoli pobl ifanc a’u hannog i barhau i astudio ffiseg a seryddiaeth, ac ystyried y maes hwn fel gyrfa.
  • Recriwtio cymuned amrywiol o fyfyrwyr, a chroesawu ceisiadau gan fyfyrwyr o bob cefndir.
  • Darparu cymorth a chefnogaeth i’n myfyrwyr i’w galluogi i lwyddo ac i gyrraedd eu potensial llawn.

Menywod, lleiafrifoedd du ac ethnig ym meysydd ffiseg a seryddiaeth: Gwobr Arian Athena Swan a Hyrwyddwr Juno

Mae mynd i’r afael â’r anghydbwysedd presennol rhwng y rhywiau mewn pynciau STEM (gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg) yn un o’n blaenoriaethau. Rydym yn meithrin amgylchedd lle gall staff a myfyrwyr benyw ffynnu a chyrraedd eu potensial llawn. Rydym yn hyrwyddo cydraddoldeb hiliol a system sy'n cefnogi ac yn annog unrhyw leiafrif i sicrhau dysgu a thwf sefydliadol.

Rydym ni’n eithriadol falch bod ein hymrwymiad i fenywod a lleiafrifoedd ym maes ffiseg wedi arwain at ennill Statws Arian Athena Swan a statws Hyrwyddwr Prosiect Juno y Sefydliad Ffiseg . Ni yw'r Brifysgol gyntaf yng Nghymru i gael cydnabyddiaeth ar gyfer y ddau statws.

Fel rhan o’r broses hon, rydym yn monitro ein cydbwysedd o ran rhywedd ac ethnigrwydd yn gyson mewn llawer o feysydd. Mae hyn yn amrywio o dderbyn myfyrwyr israddedig i nifer y siaradwyr benywaidd mewn seminarau, a’r nod yw canfod unrhyw rwystrau i fenywod a mynd i’r afael â nhw yn ôl y galw.

Mae’r Ysgol yn cefnogi grŵp rhwydwaith o’r enw TWiSTEM (Menywod Trevithick mewn Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg) ar gyfer benywod sy’n gweithio ar ein campws ynghyd â benywod o’r Ysgol Peirianneg a’r Ysgol Cyfrifiadureg.

Urddas yn y gwaith

Mae gennym rwydwaith o ymgynghorwyr Urddas yn y Gwaith sydd wedi’u hyfforddi i ddarparu cyngor mewn awyrgylch anffurfiol, i unrhyw aelodau staff sydd â phryderon (gweler y siart llif Urddas yn y Gwaith yn y dogfennau cysylltiedig). Mae nifer o’n tîm yn nodi eu bod yn cynnig rhywle diogel i drafod materion sy’n ymwneud â LHDT+ drwy wisgo cortynnau gwddf lliwiau’r enfys.

Ein cynghorwyr Urddas yn y Gwaith ar hyn o bryd yw:

  • J Emyr MacDonald (Athro) – Grŵp Mater Cywasgedig a Ffotoneg
  • Juan Pereiro Viterbo (Darlithydd) - Grŵp Mater Cywasgedig a Ffotoneg
  • Wendy J Sadler (Uwch-ddarlithydd) – Grŵp Ymchwil Addysg Ffiseg
  • Andreas Papageorgiou (Cydymaith Ymchwil) – Grŵp Offeryniaeth Seryddiaeth
  • Ian Walker (Rheolwr y Rhaglen) - Grŵp Offeryniaeth Seryddiaeth.

Gweithio hyblyg

Rydym yn croesawu ceisiadau ar gyfer gweithio’n hyblyg, ac mae gennym fodel oriau gwaith craidd lle cynhelir pob cyfarfod pwysig rhwng 10am a 4pm. Mae gennym gynllun dychwelwyr yn yr Ysgol ar gyfer absenoldeb astudio i’r rhai hynny sydd wedi cael cyfnod i ffwrdd o’r gwaith oherwydd salwch neu gyfrifoldebau gofalu.

Mae ein trefniadau gweithio’n hyblyg yn galluogi’r staff i sicrhau eu bod yn cael cydbwysedd priodol rhwng bywyd a gwaith, i ennill cymwysterau datblygiad personol, ac i ystyried yr angen i ofalu am ddibynyddion neu deuluoedd ifanc.

Absenoldeb ymchwil

Mae ein cynllun absenoldeb ymchwil ar draws y brifysgol ar gael i’r holl staff ac yn darparu cyllid ar gyfer cyflenwi addysgu yn ystod cyfnodau o 6-12 mis, gan ganolbwyntio ar gynhyrchu cyhoeddiadau o safon uchel a/neu rai sy’n cael llawer o effaith.

Dychwelyd wedi absenoldeb

Rydym yn cynnig cefnogaeth a hyblygrwydd ychwanegol i staff sy’n dychwelyd o absenoldeb hirdymor er mwyn lleiafu effaith absenoldeb estynedig ar gyflawni eu dyletswyddau. Mae hynny’n caniatáu iddyn nhw loywi eu sgiliau, eu gwybodaeth a’u hyder, gan eu galluogi i barhau i ddatblygu eu gyrfa.

Astudiaethau achos

Mae ein staff a’n myfyrwyr yn elwa o nifer o wahanol drefniadau sydd wedi cael eu datblygu i weddu i’w hamgylchiadau penodol.

Yr Athro Stephen Fairhurst, Cyfarwyddwr y Ganolfan Hyfforddiant Doethurol mewn Gwyddoniaeth Data-ddwys

Mae Stephen yn rhan o’r Sefydliad Archwilio Seryddiaeth Ddisgyrchol

Cysylltodd â’r Ysgol i drafod gweithio pedwar diwrnod yr wythnos er mwyn helpu i fagu teulu ifanc a sicrhau gwell cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith, ochr yn ochr â pharhau i ymgymryd â’i ymrwymiadau ymchwil, addysgu a gweinyddol yn y Brifysgol.

“Roedd yr Ysgol yn gefnogol iawn ac nid oedd unrhyw broblemau o ran sefydlu’r trefniant rhan-amser,” dywedodd. Nid oes llawer o staff academaidd yn yr Ysgol sy’n gweithio’n rhan-amser, ond rwy’n cael bod hynny’n addas iawn i mi ac mae’n fy ngalluogi i gael bywyd mwy cytbwys yn ogystal â gwneud cyfraniad sylweddol i waith y Brifysgol.”

Yn ôl Stephen, mae e’r un mor gynhyrchiol yn ystod ei oriau gwaith, ac mae’r diwrnod ychwanegol i ffwrdd o’r gwaith yn rhoi amser iddo ar gyfer ei ddiddordebau ei hun, yn ogystal ag amser i helpu i ofalu am ei deulu ifanc. Mae e’n gwneud ymdrech i gadw ei ddiwrnod i ffwrdd yn hollol rydd, ac yn sicrhau nad yw e’n gwirio e-byst a galwadau gwaith pan nad yw’n gweithio.

Rhiannon Lunney, Myfyriwr PhD

Mae Rhiannon yn dioddef o gyflwr o’r enw ffibromyalgia, sy’n deillio o anaf i’w gwddf yn ei hachos hi. Mae wedi sefydlu trefniant arbennig sy’n ei galluogi i ymgymryd â’i PhD dros bum mlynedd yn hytrach na phedair, a thrwy astudio bedwar diwrnod yr wythnos yn hytrach na phump.

Mae ffibromyalgia yn effeithio ar 2% o’r boblogaeth ac nid yw’n anghyffredin, ond gall achosi blinder eithafol, niwl yn yr ymennydd a phoen, yn enwedig ar ôl eistedd am gyfnodau hir heb gynhaliaeth briodol. Rhoddwyd cadair ergonomig i Rhiannon, ac mae ganddi’r hawl i recordio cyfarfodydd fel bod modd iddi atgoffa ei hun yn ddiweddarach. Mae angen hefyd iddi gael cymaint o olau â phosibl, oherwydd bod ffibromyalgia yn gysylltiedig â hwyliau isel ac iselder, felly dyrannwyd swyddfa briodol iddi gyda goleuo rhagorol. Mae hi wedi canfod bod staff yn yr Ysgol yn deall ei sefyllfa ac yn gymwynasgar iawn, ac mae ei goruchwylwyr wedi bod yn barod iawn i gytuno i’r trefniadau arbennig y mae eu hangen arni i wneud ei PhD.

Dywedodd Rhiannon: “Mae pobl wedi bod yn gymwynasgar iawn ac mae hynny wedi creu argraff arnaf. Mae fy nhrefniadau arbennig yn fy helpu i ymdopi â’m cyflwr, ac mae’r diwrnod ychwanegol o wyliau yn fy helpu i orffwys ac ymadfer fel bod modd i mi gynnal cydbwysedd arferol rhwng bywyd a gwaith. Fel arall, ni fyddai unrhyw egni gennyf ar gyfer y gweithgareddau pob dydd eraill mae myfyrwyr yn cymryd rhan ynddynt tu allan i’w hastudiaethau.”