Ewch i’r prif gynnwys

Ffiseg Ddisgyrchol

Mae Ffiseg Ddisgyrchol yn faes ymchwil lle galwch ganolbwyntio eich astudiaethau fel rhan o’n cyfres o raglenni ymchwil Deintyddiaeth (MPhil, PhD).

Mae’r Grŵp Ffiseg Disgyrchiant yn un o’r grwpiau mwyaf yn yr Yr Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth. Rydym yn canolbwyntio ar ganfod ac astudio tonnau disgyrchiant o systemau astroffisegol fel systemau deuaidd twll-du a seren-niwron, uwchnofa, a hyrddiau pelydrau gamma. Mae aelodau’r grŵp hefyd yn arweinwyr ym maes perthnasedd rhifiadol, gan efelychu gwrthdrawiadau tyllau du gan ddefnyddio clystyrau cyfrifiadur mawr.

Fe wnaeth y Grŵp gyd-sefydlu prosiect canfod tonnau disgyrchiant GEO 600 Prydain-yr Almaen ac mae’n aelod blaenllaw o’r Cydweithrediad Gwyddonol LIGO. Rydym yn aelodau gweithgar o gydweithrediadau yn astudio manteision gwyddonol system LISA gofod arfaethedig a Thelesgop Einstein (ET) y dyfodol. Fel rhan o'r ymchwil hwn rydym yn datblygu algorithmau a meddalwedd newydd, ac maent bellach yn offer chwilio safonol. Mae Caerdydd hefyd yn gweithredu fel canolfan ddata ar gyfer GEO 600 a LIGO, gyda’r data’n cael ei ddadansoddi yn fewnol gan ddefnyddio clystyrau cyfrifiadur mawr.

Mae ymchwil ddamcaniaethol arall yn canolbwyntio ar brosesau cwantwm yn nechrau’r Bydysawd, cefndiroedd microdonnau cosmig a thonnau disgyrchiant, ffurfio, gwerthuso a natur strwythur ar raddfa fawr yn y Bydysawd, a fformwleiddiadau amgen perthnasedd cyffredinol. Rydym wedi datblygu gêm ar-lein o'r enw Black Hole Hunter i ddangos sut yr edrychwn am signalau tonnau disgyrchiant o uno systemau deuaidd tyllau du. Yr her yw gwrando ar set o draciau sain a nodi yr un sy'n cynnwys y signal o’r cydsoddiad twll du.

Cyswllt

Cyswllt/Cysylltiadau Gweinyddol

Tîm Derbyn Ôl-raddedigion

School of Physics and Astronomy

Cyswllt/Cysylltiadau Academaidd

Professor Mark Hannam

Mae prosiectau ymchwil gweithgar yn cynnwys:

  • Modelu rhifiadol o system ddeuaidd y twll du
  • Chwiliadau ar gyfer tonnau disgyrchiant o gydsoddion seren niwtron a thwll du
  • Seryddiaeth aml-negesydd gyda thonnau disgyrchol, hyrddiau pelydrau gamma, uwchnofa
  • Goblygiadau astroffisegol arsylwadau tonnau disgyrchiant
  • Profion arsylwadol perthnasedd cyffredinol
  • Cosmograffeg gydag arsylwadau tonnau disgyrchiant cyfunwyr deuaidd bach
  • Datblygu’r achos gwyddoniaeth ar gyfer synwyryddion tonnau disgyrchiant yn y gofod, dan y ddaear ac ar y ddaear ar gyfer y genhedlaeth nesaf
  • Deall osgiliadau modd lled-arferol tyllau du

Gwybodaeth am y Rhaglen

I gael gwybodaeth am strwythur y rhaglen, gofynion mynediad a sut i wneud cais ewch i’r rhaglen Ffiseg a Seryddiaeth.

Gweld y Rhaglen
Ewch i weld ein hamrediad o ysgoloriaethau a phrosiectau PhD sydd ar gael.

Cyrsiau cysylltiedig

Pynciau cysylltiedig