Ewch i’r prif gynnwys

Ffiseg a Seryddiaeth

Mae’r ystod eang o arbenigedd yn yr Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth yn galluogi'r ysgol i gynnig amrywiaeth o gyfleoedd ar gyfer graddau uwch drwy ymchwil.

Mae'r ysgol yn arbenigo mewn ystod eang o feysydd ymchwil a mae myfyrwyr ôl-raddedig yn cael eu hintegreiddio'n llawn yn y meysydd hyn.

Ein nod yw cynnig amgylchedd heriol a chefnogol lle mae ein myfyrwyr yn meithrin y sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen arnynt i lwyddo ym meysydd diwydiant, ymchwil neu academaidd. Mae gennym brofiad helaeth o ragoriaeth ymchwil ac mae labordai o'r radd flaenaf yma i gefnogi ein hystod eang o weithgareddau ymchwil. Mae'r gwaith ymchwil a wneir yn yr ysgol hefyd yn cynnwys prosiectau cydweithio ledled y byd a defnyddio cyfleusterau cenedlaethol a rhyngwladol blaengar.

Byddwch yn cael eich goruchwylio gan dîm o arbenigwyr fydd yn cefnogi eich cynnydd ac yn eich helpu i gyflawni eich potensial. Bydd mentor yn cael ei neilltuo i chi o grŵp ymchwil arall a fydd yn ymddwyn fel eich tiwtor personol.

Nodau'r rhaglen

I gynnig gwybodaeth ac arbenigedd ar gyfer gyrfa yn y byd academaidd, y diwydiant neu i fynd ar drywydd amrywiaeth o gyfleoedd eraill lle mae cefndir mewn ffiseg, astroffiseg neu gyfrifiadureg yn ddefnyddiol ac yn bwysig.

Nodweddion unigryw

  • Mae myfyrwyr ymchwil yn cymryd cyrsiau academaidd arbenigol a chyrsiau i ddatblygu eu sgiliau cyfathrebu a’u sgiliau personol.
  • Mae rhaglen lawn o seminarau ac mae’r grwpiau ymchwil unigol yn cynnal cyfarfodydd rheolaidd lle mae aelodau’n cyflwyno canlyniadau newydd ac yn trafod eu hymchwil yn fanwl.
  • Mae cynhadledd ôl-raddedig flynyddol a chystadleuaeth poster myfyrwyr ymchwil.
  • Mae cydweithredu gweithredol gyda grwpiau ymchwil tramor a phresenoldeb rheolaidd mewn cynadleddau rhyngwladol mawr gan staff a myfyrwyr.

Ffeithiau allweddol

Math o astudiaeth Amser llawn, rhan amser
Cymhwyster PhD, MPhil
Hyd amser llawn PhD 3-4 blynedd, MPhil 1-2 flynedd
Hyd rhan-amser PhD 5-7 blynedd; MPhil 2-3 flynedd
Derbyniadau Ionawr, Ebrill, Gorffennaf, Hydref

Meysydd ymchwil

Seryddiaeth ac Astroffiseg

Mae Seryddiaeth ac Astroffiseg yn faes ymchwil lle galwch ganolbwyntio eich astudiaethau fel rhan o’n cyfres o raglenni ymchwil Ffiseg a Seryddiaeth (MPhil, PhD).

Offeryniaeth Seryddiaeth

Mae Offeryniaeth Seryddiaeth yn faes ymchwil lle galwch ganolbwyntio eich astudiaethau fel rhan o’n cyfres o raglenni ymchwil Ffiseg a Seryddiaeth (MPhil, PhD).

Mater Cywasgedig a Ffotoneg

Mae Mater Cywasgedig a Ffotoneg yn faes ymchwil lle galwch ganolbwyntio eich astudiaethau fel rhan o’n cyfres o raglenni ymchwil Ffiseg a Seryddiaeth (MPhil, PhD).

Ffiseg Ddisgyrchol

Mae Ffiseg Ddisgyrchol yn faes ymchwil lle galwch ganolbwyntio eich astudiaethau fel rhan o’n cyfres o raglenni ymchwil Deintyddiaeth (MPhil, PhD).

Benthyciadau Llywodraeth y DG i ôl-raddedigion doethuriaeth

Gallai ymgeiswyr ar gyfer y rhaglen Doethuriaeth Broffesiynol fod yn gymwys i wneud cais am fenthyciad doethuriaeth ôl-raddedig gan Lywodraeth y DU..

Benthyciadau Llywodraeth y DG i ôl-raddedigion doethuriaeth

Arian

Edrychwch ar ein prosiectau a'n hysgoloriaethau PhD diweddaraf a chael rhagor o wybodaeth am gyfleoedd ariannu eraill.

Ffioedd dysgu

Myfyrwyr o'r DU

Mynnwch y wybodaeth ddiweddaraf am ffioedd ôl-raddedigion.

Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir

Mynnwch y wybodaeth ddiweddaraf am ffioedd ôl-raddedigion.

Myfyrwyr o weddill y byd (rhyngwladol)

Mynnwch y wybodaeth ddiweddaraf am ffioedd ôl-raddedigion.

Yn addas ar gyfer graddedigion gyda gradd anrhydedd dosbarth cyntaf neu ail ddosbarth uchel mewn Ffiseg, Astroffiseg, Mathemateg, Electroneg neu bwnc cysylltiedig, yn dibynnu ar y maes ymchwil.

Gofynion Iaith Saesneg

IELTS gyda sgôr gyffredinol o 6.5 gydag o leiaf 5.5 ym mhob is-sgil, neu gyfwerth. Darllenwch ein canllawiau am ein Gofynion Iaith Saesneg am ragor o fanylion.

Prosiect a ariennir

Os ydych yn gwneud cais am brosiect a ariennir sydd wedi’i hysbysebu, nid oes angen i chi gwblhau cynnig ymchwil. Dim ond y canlynol sydd eu hangen arnoch:

  • Teitl y prosiect a ariennir
  • Datganiad personol
  • CV
  • Tystysgrifau a thrawsgrifiadau ar gyfer yr holl addysg ôl-ysgol uwchradd hyd yma. Os ydych yn dal i astudio ar gyfer eich gradd israddedig, ni fydd gennych unrhyw dystysgrifau na thrawsgrifiadau terfynol yn ôl pob tebyg. Fodd bynnag, dylech gyflwyno unrhyw drawsgrifiadau interim diwedd blwyddyn sydd gennych hyd yma.
  • Dau eirda academaidd. Yn ddelfrydol, dylech lwytho eich geirdaon gyda'ch cais, neu fel arall gall eich canolwyr ebostio eu geirdaon at physics-admissions@caerdydd.ac.uk neu admissions@caerdydd.ac.uk os byddai'n well ganddynt.

Prosiect yr ydych yn ei ariannu eich hun

Os ydych yn gwneud cais am brosiect yr ydych yn ei ariannu eich hun, bydd angen i chi ddarparu'r canlynol:

  • Cynnig ymchwil
  • Datganiad personol
  • CV
  • Tystysgrifau a thrawsgrifiadau ar gyfer yr holl addysg ôl-ysgol uwchradd hyd yma. Os ydych yn dal i astudio ar gyfer eich gradd israddedig, ni fydd gennych unrhyw dystysgrifau na thrawsgrifiadau terfynol yn ôl pob tebyg. Fodd bynnag, dylech gyflwyno unrhyw drawsgrifiadau interim diwedd blwyddyn sydd gennych hyd yma.
  • Dau eirda academaidd. Yn ddelfrydol, dylech lwytho eich geirdaon gyda'ch cais, neu fel arall gall eich canolwyr ebostio eu geirdaon at physics-admissions@caerdydd.ac.uk neu admissions@caerdydd.ac.uk os byddai'n well ganddynt.

Cyswllt

Cyswllt/Cysylltiadau Gweinyddol

Tîm Derbyn Ôl-raddedigion

School of Physics and Astronomy

Cyswllt/Cysylltiadau Academaidd

Dr Matthew W L Smith

Dr Matthew W L Smith

Lecturer
Director of Postgraduate Research Studies
Astronomy Group
Cardiff Hub for Astrophysics Research and Technology

Email
matthew.smith@astro.cf.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2087 5106

Gwneud cais

Gwneud cais nawr
Ewch i weld ein hamrediad o ysgoloriaethau a phrosiectau PhD sydd ar gael.

Cyrsiau cysylltiedig

Pynciau cysylltiedig