Ewch i’r prif gynnwys

Gweithdrefn gwyno i fyrfyrwyr

Rydym yn cydnabod y gall fod adegau pan fydd myfyrwyr yn anfodlon ar y cyfleodd, y gwasanaethu a'r cyfleusterau ac y gallai myfyrwyr fod yn eisiau cwyno.

Mae'r weithdrefn gwyno i fyfyrwyr yn esbonio sut mae gan unrhyw fyfyriwr sydd wedi ymrestru/cofrestru yr hawl i gyflwyno cwyn. Mae'r weithdrefn hefyd yn cynnwys gwybodaeth ynghylch yr opsiwn o gyflwyno cwyn fel grŵp ac yn esbonio'r amgylchiadau lle gellir penodi cynrychiolydd.

Gweithdrefn Gwyno I Fyfyrwyr

Gweithdrefn Gwyno I Fyfyrwyr

Mae terfynau amser i'r weithdrefn; mae'n rhaid cyflwyno cwyn o fewn 28 diwrnod o'r tro cyntaf i'r pryder godi – neu'r tro diwethaf i'r hyn sydd o dan sylw ddigwydd, os yw'n barhaus.

Bydd cwynion a gyflwynwyd ar ôl 28 diwrnod ond yn gymwys i gael eu hystyried os ydych yn gallu dangos rheswm eithriadol (gyda thystiolaeth annibynnol) ynghylch pam nad oeddech yn gallu cyflwyno o fewn yr amserlen arferol.

Mae'n rhaid i chi gyflwyno'r gŵyn i Weinyddwr Cwynion eich Ysgol, neu ar gyfer y Coleg neu'r Adran lle cododd y materion os yn briodol, ynghyd â'r dogfennau/tystiolaeth rydych eisiau dibynnu arnynt.

Cwynion eraill

Mae gweithdrefnau ar gyfer mathau eraill o gwynion ar gael. Os oes gennych fater ynghylch:

Cymorth a chyngor

Mae rhagor o wybodaeth a'r ffurflenni ar gyfer gwneud cwyn ar gael i'r myfyrwyr ar fewnrwyd y myfyrwyr.

Cysylltwch â'r Tîm Achosion Myfyrwyr os oes gennych unrhyw gwestiynau am y weithdrefn gwyno i fyfyrwyr:

Achosion Myfyrwyr

Cyngor annibynnol

Mae Swyddfa’r Dyfarnwr Allanol ar gyfer Addysg Uwch (OIA) yn cynnal cynllun annibynnol er mwyn adolygu cwynion myfyrwyr.

Mae Prifysgol Caerdydd yn aelod o'r cynllun hwn. Os ydych yn anhapus â'r canlyniad gallwch ofyn i Swyddfa'r Dyfarnwr Annibynnol (OIA) adolygu eich cwyn. Mae rhagor o wybodaeth am godi cwyn gyda'r OIA, yr yn y mae'n gallu ac nad yw'n gallu ystyried, a'r hyn y gall wneud i unioni pethau.

I gael cyngor annibynnol, gallwch gysylltu â'r gwasanaeth Cyngor i Fyfyrwyr yn Undeb y Myfyrwyr sy'n cynnig cyngor diduedd a chyfrinachol yn rhad ac am ddim yn ogystal â chefnogaeth a chynrychiolaeth ynghylch rheoliadau'r Brifysgol.

Canolfan Cyngor i Fyfyrwyr