Ewch i’r prif gynnwys

Pwyllgor Taliadau

Y Pwyllgor Taliadau yw'r corff sydd â chyfrifoldeb cyffredinol dros ymagwedd y Brifysgol at gyflogau.

Fel rhan o'r rôl hon, mae'n gwneud penderfyniadau am dâl yr unigolion yn swyddi uchaf y Brifysgol, gan gynnwys yr Is-Ganghellor.

Prif rôl y Pwyllgor yw pennu fframweithiau a pholisïau tâl priodol ar gyfer cyflogau. Mae'n goruchwylio gwaith rheolwyr y Brifysgol o'u rhoi ar waith, ac yn cadarnhau eu bod yn cael eu gweithredu mewn modd priodol. Polisi'r Brifysgol yw nad oes unrhyw un yn cyfrannu at y gwaith o bennu ei gyflog ei hun, felly mae'r Pwyllgor hefyd yn ysgwyddo'r cyfrifoldeb am bennu cyflog yr Is-Ganghellor, y Rhag Is-Ganghellor, y Dirprwy Is-Gangellorion, a'r Prif Swyddog Gweithredu.

Mae pwyllgor rheoli uwch ar wahân (Pwyllgor Cyflogau Athrawol a Staff Uwch) sy'n gyfrifol am roi'r polisïau a safonau a bennir gan y Pwyllgor Taliadau ar waith.

Mae'r Pwyllgor Taliadau wedi'i sefydlu gan y Cyngor, ac yn atebol iddo. Y Cyngor sydd ag atebolrwydd cyffredinol dros y Brifysgol, ond mae ganddo ddigon o awdurdod i weithredu'n annibynnol.

Mae cylch gorchwyl llawn y Pwyllgor Taliadau ar gael yn yr Cyfansoddiadau Pwyllgor Prif Bwyllgorau.

Aelodaeth

Mae gan y Pwyllgor Taliadau bum aelod, ac mae pob un ohonynt yn annibynnol o dîm rheoli'r Brifysgol. Mae Cadeirydd y Pwyllgor yn aelod annibynnol uwch o'r Cyngor ac mae'r cylch gorchwyl ar gyfer y Pwyllgor yn nodi na chaiff Cadeirydd y Cyngor gael y rôl hon.

Pennaeth Arweinyddiaeth a Datblygiad Staff, neu aelod arall o’r tîm Adnoddau Dynol ar lefel gyfatebol, yw Ysgrifennydd y Pwyllgor. Gallai fod gofyn i aelodau eraill tîm rheoli'r Brifysgol fynd i'r Pwyllgor Taliadau i'w lywio ac i gynnig cefnogaeth dechnegol, ond nid ydynt yn cymryd rhan mewn penderfyniadau. Mae gofyn iddynt adael yr ystafell ar gyfer trafodaethau ynglŷn â'u cyflog eu hun.

Polisi cyflog staff uwch

Senior Staff Pay Policy - Welsh

Polisi cyflog uwch-aelodau staff Prifysgol Caerdydd o 2017.