Ewch i’r prif gynnwys

Safonau'r Iaith Gymraeg

Bydd Safonau'r Iaith Gymraeg, sy'n disodli Cynllun Iaith Gymraeg y Brifysgol, yn dod i rym ar 1 Ebrill 2018.

Sefydlodd Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 fframwaith cyfreithiol ar gyfer gosod dyletswydd ar sefydliadau cyhoeddus i gydymffurfio ag un neu fwy o'r safonau ymddygiad ynglŷn â'r Gymraeg, a wnaed yn iaith swyddogol yng Nghymru. Golyga hyn na chaiff y Gymraeg ei thrin yn llai ffafriol na'r Saesneg.

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i wneud cyfraniad cadarnhaol at ddatblygiad y Gymraeg, a bydd yn:

  • Sicrhau na chaiff y Gymraeg ei thrin yn llai ffafriol na'r Saesneg.
  • Annog siaradwyr Cymraeg i fanteisio ar y gwasanaethau y mae ganddynt hawl i'w derbyn gennym yn Gymraeg.
  • Cynnig hyfforddiant ymwybyddiaeth i'r holl staff ynglŷn â Safonau'r Gymraeg a chefnogi'r rhai y mae angen cymorth arnynt gyda'r Gymraeg.

Rydym yn dangos ein hymrwymiad i'r Safonau ac yn nodi sut y byddwn yn cydymffurfio â nhw yn y polisïau canlynol:

Adroddiad Monitro Blynyddol ar Safonau’r Gymraeg 2022

Adroddiad Monitro Blynyddol ar Safonau’r Gymraeg 2022

Trefniadau llywodraethau

Bwrdd Gweithredol y Brifysgol sy'n gyfrifol yn y pen draw am wneud yn siŵr bod y Brifysgol yn cydymffurfio'n gyffredinol â Rheoliadau (Rhif 6) y Gymraeg 2017, yn ogystal â holl faterion eraill sy'n ymwneud â gweithredu a monitro polisïau.

Mae gan y Cydymffurfiaeth a Risg yn yr Swyddfa ysgrifennydd y Brifysgol gyfrifoldeb penodol mewn cysylltiad â gweithredu'r hyn sy'n ofynnol o dan Safonau'r Gymraeg. Mae’r Cydymffurfiaeth a Risg yn darparu adroddiadau i'r Grŵp Llywio Iaith Gymraeg, dan gadeiryddiaeth ein Dirprwy Is-Gangehellor.

Mae’r grŵp yn gyfrifol am weithredu ein gweithgareddau o ddydd i ddydd sy'n sicrhau ein bod yn cydymffurfio â Safonau Iaith Gymraeg a'n Polisïau.

Mae gan y Brifysgol Rhwydwaith Hyrwyddwyr y Gymraeg gweithredol gydag o leiaf un aelod o staff o bob Ysgol, Coleg ac Adran. Maen nhw sydd y man cyswllt cyntaf ar gyfer Cydymffurfiaeth a Risg a'r Ysgol/Adran y maent yn gweithio ynddi.

Mae Cydymffurfiaeth a Risg yn cyfathrebu'n rheolaidd â'r hyrwyddwyr i ledaenu gwybodaeth ac arweiniad sy'n helpu'r Brifysgol i gydymffurfio â'r Safonau ac mae cyfarfodydd chwarterol lle mae'r grŵp yn cwrdd i rannu arferion da a thrafod syniadau.

Ein cynnig i fyfyrwyr

  • Rydym ni'n croesawu gohebiaeth ac ymholiadau yn Gymraeg a byddwn yn sicrhau bod unrhyw ohebiaeth Gymraeg a ddaw i'r Brifysgol yn derbyn ateb yn Gymraeg wedi'i lofnodi.
  • Os ydych chi'n derbyn cylchlythyrau a llythyrau safonol gennym ni, bydd y rhain yn ddwyieithog.
  • Bydd y cyhoeddiadau a gynhyrchir gennym ni'n ganolog a'r deunyddiau print hefyd yn cael eu cyhoeddi'n ddwyieithog.
  • Bydd holl dudalennau gwe Corfforaethol y Brifysgol a hafanau ein Colegau, Ysgolion, Adrannau, Canolfannau a Sefydliadau Ymchwil ar gael yn Gymraeg a Saesneg.

Dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo'n llawn i'r datblygiadau diweddar ar draws y sector mewn perthynas â darpariaeth cyfrwng Cymraeg. Erbyn hyn gallwn gynnig dewis sylweddol o fodiwlau y gellir eu hastudio drwy gyfrwng y Gymraeg ar draws ystod eang o bynciau o'r Gyfraith i Feddygaeth.

Mae gennym ni gynlluniau cyffrous hefyd i ddatblygu llawer mwy o gyfleoedd i astudio drwy gyfrwng y Gymraeg, a gallwch ddarllen am y rhain ar wefan ein Cangen ni o'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Tiwtora

Gallwch ofyn am diwtor personol sy'n siarad Cymraeg, cyhyd â bod aelodau o'r staff addysgu yn eich maes pwnc chi sy'n medru'r Gymraeg. Os nad oes aelodau o'r staff addysgu yn medru'r Gymraeg, gofynnir i aelod priodol o staff o Ysgol arall eich tiwtora chi.

Yn Ysgol y Gymraeg a Chanolfan Cymraeg i Oedolion Bro Morgannwg, mae gan yr holl fyfyrwyr diwtoriaid Cymraeg eu hiaith.

Arholiadau

Byddwch yn cael cynnig y cyfle i sefyll eich arholiadau drwy gyfrwng y Gymraeg, pa un a ydych chi wedi derbyn eich tiwtora drwy'r Gymraeg ai peidio.

Os ydych chi'n dymuno sefyll eich arholiadau yn Gymraeg byddwn ni'n sicrhau bod eich gwaith cwrs asesedig, eich papurau arholiad a'ch sgriptiau'n cael eu cyfieithu os nad oes marcwyr Cymraeg eu hiaith ar gael. Mae'r trefniadau hyn yn amodol ar unrhyw ganllawiau neu reoliadau cenedlaethol neu gan gyrff proffesiynol neu Arweiniad yr ASA.

Cyfathrebu

Os ydych chi'n byw yng Nghymru, byddwn ni'n cynnig dewis i chi gael eich cyfweld yn Gymraeg pan fyddwn ni'n eich gwahodd am gyfweliad.

Llety

Bydd cyfle i chi ymgeisio am lety sydd wedi'i neilltuo'n arbennig i siaradwyr Cymraeg mewn dwy neuadd breswyl, sef Llys Senghennydd a Talybont Gogledd.

Gwasanaethau eraill

Gyda ni, mae gennych chi hawl i:

  • llythyrau
  • ymgeisio am gymorth ariannol
  • llyfryn croeso
  • prosbectws
  • tiwtor personol sy'n medru'r Gymraeg
  • gwasanaethau cwnsela
  • cyfarfodydd
  • tystysgrifau
  • cyflwyno gwaith ysgrifenedig yn Gymraeg
  • ffurflenni.

Polisi Iaith Gymraeg Darparu Gwasanaethau

Mae'r polisi yn cynnig arweiniad ynghylch y gwasanaethau y mae'n rhaid eu darparu yn Gymraeg ac yn Saesneg, a'n hymrwymiad i wneud yn siŵr na chaiff y Gymraeg ei thrin yn llai ffafriol na'r Saesneg.

Polisi Safonau Gweithredol y Gymraeg

Mae'r polisi'n cynnig arweiniad ar weithrediadau sy'n gorfod cael eu cynnal yn Gymraeg, monitro dewisiadau iaith staff a chyfleoedd i hyrwyddo'r Gymraeg ymhlith staff newydd a chyfredol.

Cysylltwch â ni

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am Safonau'r Gymraeg cysylltwch ag y Tîm Cydymffurfiaeth a Risg:

Cydymffurfiaeth a Risg