Gwybodaeth ariannol
Prifysgol Caerdydd yw un o brifysgolion mwyaf y DU, gyda throsiant blynyddol o dros £500m.
Yn 2019/20 dychwelodd y Brifysgol i warged gweithredu o £14.1 miliwn, gwelliant o £21 miliwn ar ddiffyg gweithredu y llynedd. Ar ôl addasu ar gyfer eitemau untro, cyfanswm y gwarged ar gyfer 2019/20 oedd £31 miliwn.
Mae’r eitemau untro hyn yn cynnwys buddiant ariannol gwerth £55 miliwn yn gysylltiedig â Chynllun Pensiwn USS, o ganlyniad i brisiad actiwaraidd y cynllun yn 2018. Gosodwyd hyn yn erbyn ein cyfran ni mewn prisiadau actiwaraidd cynlluniau pensiwn eraill a arweiniodd at golledion anariannol untro gwerth £40 miliwn.
Dylanwadwyd ar y perfformiad ariannol cyffredinol o ganol mis Mawrth 2020 ymlaen gan effaith y pandemig COVID-19, nid yn unig drwy leihau ffynonellau incwm penodol yn is na'r disgwyliad arferol ond hefyd drwy leihau gwariant ar weithgareddau gweithredu, er bod y gostyngiadau hyn mewn costau wedi'u gwrthbwyso'n rhannol gan wariant ar ein hymateb i'r pandemig.
Er y bydd 2020/21 yn flwyddyn anodd wrth inni fynd i’r afael â heriau parhaus, mae’r Brifysgol mewn sefyllfa ariannol gref i oroesi’r hinsawdd allanol ansicr ac i adeiladu ar ei statws fel Prifysgol uchelgeisiol ac arloesol.

Adroddia Blynyddol 2020
Y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Gorffennaf 2020.
Os na all eich meddalwedd gynorthwyol ddarllen y ddogfen hon, gallwch chi ofyn am fersiwn hygyrch drwy ebostio web@caerdydd.ac.uk. Cynhwyswch yr adnoddau cynorthwyol a ddefnyddiwch chi a’r fformat sydd ei angen arnoch.
O ble y daw ein harian
£569 miliwn oedd cyfanswm ein hincwm ar gyfer 2019/20, cynnydd o £31 miliwn ers y flwyddyn flaenorol.
Ein dwy brif ffynhonnell incwm yw ffioedd dysgu o hyd, a welodd gynnydd o £18 miliwn i £297 miliwn, a grantiau ymchwil, a welodd ostyngiad bach o £3 miliwn o flwyddyn i flwyddyn o ganlyniad i deithio COVID-19, mesurau pellter cymdeithasol a mesurau gweithio gartref sy'n effeithio ar ein gallu i ymchwilio ar y safle.
Gwelodd grantiau Corff Cyllido gwerth £78 miliwn gynnydd yn ein grant addysgu ac ymchwil craidd a chynnydd tebyg mewn grantiau cyfalaf tuag at gostau adeiladu ac offer.
Gwelwyd gostyngiadau yng ngweddill ein hincwm gweithredol, a effeithiwyd gan COVID-19.
Dadansoddiad o Incwm ar gyfer 2019/20
Categori | 2019/20 | 2018/19 |
---|---|---|
Ffioedd Dysgu a Grantiau Cymorth | £297 miliwn | £279 miliwn |
Grantiau a Chytundebau Ymchwil | £113 miliwn | £116 miliwn |
Grantiau Cyrff Ariannu | £78 miliwn | £58 miliwn |
Incwm Arall | £74 miliwn | £76 miliwn |
Rhoddion, Gwaddolion ac Incwm o Fuddsoddiad | £7 miliwn | £9 miliwn |
Cyfanswm Incwm | £569 miliwn | £538 miliwn |
Ar beth rydym ni’n gwario ein harian
Yn 2019/20, fe wnaethom wario £555 miliwn o’i gymharu â £552 miliwn yn y flwyddyn flaenorol, sy’n gynnydd o £3 miliwn.
Rydym yn parhau i ganolbwyntio ein gwariant ar addysgu ac ymchwil.
£326 miliwn oedd costau ein staff gwaelodol yn 2019/20 o gymharu â £312 miliwn y flwyddyn flaenorol.
Mae costau staff yn cynnwys cynnydd o £4 miliwn yn y ddarpariaeth o absenoldeb i weithwyr, o ganlyniad i gynnydd dros dro yn yr hawl i gario gwyliau ymlaen i gydnabod effaith COVID-19 ar gynlluniau gwyliau staff.
Y costau gweithredu eraill (ac eithrio dibrisiant) yn 2019/20 oedd £174 miliwn o gymharu â £180 miliwn yn y flwyddyn flaenorol. Gellir priodoli'r gostyngiad mewn costau i effaith COVID-19 wrth i swyddfeydd gau, teithio gael ei gyfyngu’n sylweddol a gweithgareddau ymchwil leihau.
Fodd bynnag, gwariwyd £4 miliwn ar fesurau i fyfyrwyr a staff a oedd yn gysylltiedig â COVID-19, gan alluogi a gwella ein cyfleusterau dysgu myfyrwyr ar-lein yn gyflym, a chefnogi staff i weithio gartref, addasu seilwaith mewnol ein hadeiladau addysgu ac ymchwil i gefnogi mesurau pellter cymdeithasol a sefydlu cyfleuster profi COVID-19 i fyfyrwyr a staff.
Dadansoddiad o Wariant 2019/20 yn ôl Categori
Categori | 2019/20 | 2018/19 |
---|---|---|
Adrannau Academaidd | £235 miliwn | £235 miliwn |
Grantiau a Chytundebau Ymchwil | £81 miliwn | £86 miliwn |
Gwasanaethau Academaidd | £32 miliwn | £32 miliwn |
Gwasanaethau eraill a ddarparwyd | £36 miliwn | £38 miliwn |
Adeiladau | £39 miliwn | £34 miliwn |
Gwasanaethau canolog a gweinyddu | £30 miliwn | £30 miliwn |
Preswylfeydd, arlwyaeth a chynadleddau | £12 miliwn | £14 miliwn |
Treuliau eraill | £30 miliwn | £24 miliwn |
Llog taladwy a dirwyon ariannol | £12 miliwn | £12 miliwn |
Dibrisiant | £40 miliwn | £41 miliwn |
Costau sy’n gysylltiedig â COVID-19 | £8 miliwn | - |
Y Cynllun Diswyddo Gwirfoddol | - | £6 miliwn |
Cyfanswm y Gwariant | £555 miliwn | £552 miliwn |