Pwyllgor Llywodraethu
Mae’r Pwyllgor Llywodraethu’n Bwyllgor i Gyngor y Brifysgol.
Mae’n cynghori ac yn gwneud argymhellion i’r Cyngor ar faterion yn ymwneud â llywodraethu’r brifysgol.
Mae’n sicrhau y cedwir at ofynion deddfwriaeth a rheoliadau eraill sy’n berthnasol i’r brifysgol. Mae’n goruchwylio materion cyfreithiol a chyfansoddiadol, gan gynnwys Statudau a Deddfiadau.
Mae’r Pwyllgor Llywodraethu hefyd yn adolygu swyddi gwag ar gyfer apwyntiadau aelodau lleyg ac yn argymell y rhain i’r Cyngor.
Is-bwyllgorau
Mae gan y Pwyllgor Llywodraethu sawl is-bwyllgor:
- Pwyllgor Safonau Biolegol
- Pwyllgor Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
- Is-bwyllgor Iechyd, Diogelwch a Lles
- Pwyllgor Moeseg a Gonestrwydd Ymchwil Agored (cyd-bwyllgor gyda’r Senedd)