Ewch i’r prif gynnwys

Caethwasiaeth modern

Mae caethwasiaeth fodern yn drosedd ac yn torri hawliau dynol sylfaenol.

Mae’n digwydd ar sawl ffurf, megis caethwasiaeth, caethwasanaeth, gwaith dan orfod a masnachu pobl. Mae’r pethau hyn i gyd yn amddifadu person o’i ryddid er mwyn ei ecsbloetio er budd personol neu fasnachol.

Rydyn ni’n ymrwymedig i wella ein harferion ac i fynd i’r afael â chaethwasiaeth a masnachu pobl. Er mwyn gwneud hyn rydyn ni am ddeall risgiau caethwasiaeth fodern a sicrhau nad oes unrhyw gaethwasiaeth fodern yn ein busnes a’n cadwyni cyflenwi ein hunain.

Gallwch ddysgu mwy am ein cadwyni cyflenwi, polisïau a phrosesau yn y datganiad canlynol:

Datganiad caethwasiaeth fodern

Mae’r datganiad hwn yn cael ei wneud yn unol ag adran 54(1) Deddf Caethwasiaeth Fodern 2015 ac yn ffurfio ein datganiad ar gaethwasiaeth a masnachu pobl ar gyfer y flwyddyn ariannol sy’n dod i ben ar 31/07/2023.

TISC Report

Tiscreport.org yw platfform Data Agored mwyaf y Byd. Mae wedi ymrwymo i roi diwedd ar lygredd, cam-drin llafur yn y gadwyn gyflenwi a chaethwasiaeth fodern, gan uno adroddiadau Tryloywder mewn Cadwyni Cyflenwi (TISC) byd-eang. Mae'n fenter data agored sy'n cwrdd â gofynion cydymffurfio adran 54 Deddf Caethwasiaeth Fodern 2015. Mae Prifysgol Caerdydd yn sefydliad cymeradwy ac o ganlyniad mae ganddi'r hawl i ddefnyddio'r logo i ddangos ein hymrwymiad i gydymffurfio â'r Ddeddf Caethwasiaeth Fodern.

The logo for the TISC Report