Ewch i’r prif gynnwys

Pwyllgor Archwilio a Risgiau

Un o is-bwyllgorau’r Cyngor yw’r Pwyllgor Archwilio a Risgiau.

Mae’n monitro ac yn adolygu systemau rheoli ariannol y Brifysgol yn ogystal â systemau rheoli mewnol eraill. Mae hefyd yn ystyried gwaith yr uned archwilio fewnol er mwyn cydymffurfio â gofynion gorfodol Côd Ymarfer Archwilio Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru. Mae’r Pwyllgor hefyd yn adolygu’r risgiau strategol a pholisi rheoli risg y brifysgol.

Mae'r pwyllgor yn cynghori’r Cyngor p’un a yw systemau a gweithdrefnau’r Brifysgol yn hyrwyddo arbedion, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd, ac yn diogelu asedau’r Brifysgol yn ogystal ag atal a chanfod twyll neu afreoleidd-dra arall. Michael Hampson yw cadeirydd y Pwyllgor Archwilio.

Mae’n cyflwyno’r Adroddiad Blynyddol a’r Adroddiad Sicrwydd Blynyddol i’r Cyngor.

Cofrestr buddiannau

Yn unol â’n Deddfiadau, ac yn cyd-fynd ag arfer da, mae’r Brifysgol yn cyhoeddi cofrestr buddiannau pob aelod o’r Pwyllgor Archwilio a Risgiau.

Lawrlwytho cofrestr buddiannau diweddaraf y Pwyllgor Archwilio a Risgiau (PDF)

Cadeirydd

Dr Robert Weaver

Cofnodion

Cofnodion pwyllgorau

I weld holl funudau pwyllgorau ar gyfer y flwyddyn bresennol ac ar gyfer y tair blynedd academaidd gynt.