Cyflog yr Is-Ganghellor
Rydym wedi ymrwymo i fod yn dryloyw o ran cyflogau staff uwch, gan gynnwys yr Is-Ganghellor, a chyhoeddi’r rhain bob blwyddyn yn natganiadau ariannol y Brifysgol.
Cyflog yr Is-Ganghellor, yr Athro Colin Riordan, yw 289,275 y flwyddyn.
Mae cyflog sylfaenol yr Is-Ganghellor a'r gymhareb cyflog ddilynol i'r cyflog staff canolrifol yn parhau i fod ar ben isaf Grŵp Russell, lle mae'r cyflog sylfaenol cyfartalog sy'n cynnwys taliadau yn lle pensiwn tua £340,000.
Cyflog dros 2019/21 | £269,0001 |
---|---|
Adolygiad cyflog | Adolygiad blynyddol o gyflog sylfaenol yn unol â’r farchnad |
Dyfarniad Cyflogau Cenedlaethol | Yr un fath ag ar gyfer staff eraill |
Bonws | Cynllun Gwobrwyo Is-Gangellorion, cynllun bonws sefydliadol hirdymor dros 2018-2023 |
Pensiwn | Dim cyfraniad pensiwn y tu allan i farwolaeth mewn gwasanaeth |
Gofal iechyd preifat | Hyd at £1,000 |
Llety | Ie |
Lwfans adleoli | £8,000 yn unol â'r trefniadau safonol ar gyfer Staff Athrawol/Uwch eraill |
Car | Defnydd o un o geir y Brifysgol sydd ar gael i Aelodau Bwrdd Gweithredol y Brifysgol hefyd |
Treuliau teithio | Dosbarth teithio a rheoliadau fel y rhai ar gyfer staff eraill |
Manteision eraill | Dim |
Sabothol | Fel ar gyfer staff eraill |
Taliadau ar gyfer cyfrifoldebau allanol | Byddai hyn yn cael ei ystyried fesul achos unigol a’i gymeradwyo gan Gadeirydd y Cyngor |
Dyddiad dechrau | 1 Medi 2012 |
Tymor | Tymor presennol tan 31 Awst 2023 |
1Cymerodd yr Is-ganghellor doriad o 20% mewn cyflog sylfaenol am 6 mis yn ystod 2020, a oedd yn ostyngiad o £28,500.
Mae’r Pecyn Cydnabyddiaeth wedi cael ei bennu’n ôl sawl ffactor gan gynnwys, ond nid yn gyfyngedig i:
- brofiad arweinyddiaeth a rheolaeth a phrofiad academaidd yr Is-Ganghellor yn y sector addysg uwch;
- ei gyfrifoldebau arwain dros un o brifysgolion mwyaf y DU, sy’n cynnwys 33,260 o fyfyrwyr a 5,945 o staff cyfwerth ag amser llawn; yn ogystal â chymuned fyd-eang o 160,000 o gynfyfyrwyr ar draws mwy na 180 o wledydd;
- y cyfrifoldebau ariannol dros sefydliad sydd â throsiant blynyddol dros £500 miliwn; ac sy’n cyfrannu mwy na £3.23 biliwn i economi’r DU, gan gynhyrchu £6.30 ar gyfer pob £1 yr ydym yn ei gwario ac yn cynnal 1 o bob 130 o swyddi yng Nghymru; ac
- atebolrwydd dros gynnal profiad addysgol lefel Arian TEF ar gyfer ein myfyrwyr; a phortffolio ymchwil gwerth £100 miliwn sy’n arwain y byd ac yn mynd i’r afael â'r heriau mwyaf yn fyd-eang, er lles cymdeithas y DU a’r byd i gyd.
Y Pwyllgor Taliadau sy’n pennu cyflogau’r staff uwch a’r Is-Ganghellor. Mae hwn yn rhan o Gyngor y Brifysgol, ei chorff llywodraethu, sy’n cynnwys aelodau allanol annibynnol y Cyngor, sydd â gwybodaeth ac arbenigedd masnachol am gyflogau’r sector cyhoeddus. Gellir gweld eu cylch gorchwyl o fewn Ordiniannau’r Brifysgol.
Ymgymerodd yr Athro Colin Riordan â swydd Llywydd ac Is-Ganghellor Prifysgol ar 1 Medi 2012.