Ewch i’r prif gynnwys

Chwilio yn ôl dyddiad

Uchafbwyntiau 2022

“Twll du sy’n siglgrynu” yw’r enghraifft fwyaf eithafol a ganfuwyd erioed

Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Caerdydd wedi canfod symudiad hynod sy’n troelli yng nghylchdroeon dau dwll du sy’n gwrthdaro, sef ffenomen egsotig y mae theori disgyrchiant Einstein wedi’i rhagweld.

Mae eu hastudiaeth, a gyhoeddwyd yn Nature a’i harwain gan yr Athro Mark Hannam, Dr Charlie Hoy a Dr Jonathan Thompson, yn nodi mai dyma'r tro cyntaf i'r effaith hon, a elwir yn flaenori, gael ei chanfod mewn tyllau duon lle bydd y troelli 10 biliwn gwaith yn gyflymach na’r hyn a gafwyd mewn arsylwadau blaenorol.

Daethpwyd o hyd i system y ddau dwll du drwy ddefnyddio tonnau disgyrchiant yn gynnar yn 2020 yn synwyryddion Uwch LIGO a Virgo. Mae'n debyg mai un o'r tyllau du, sy’n 40 gwaith yn fwy na'n Haul ni, yw'r twll du sy'n troelli gyflymaf i'w ganfod drwy ddefnyddio tonnau disgyrchiant. Ac yn wahanol i'r holl arsylwadau blaenorol, roedd y twll du sy'n troelli’n gyflym yn ystumio gofod ac amser cymaint nes bod cylchdro cyfan y system ddeuaidd yn siglgrynu yn ôl ac ymlaen.

Mae'r ffurf hon o flaenori yn benodol i theori Einstein am berthnasedd cyffredinol. Mae'r canlyniadau hyn yn cadarnhau ei fodolaeth yn y digwyddiad ffisegol mwyaf eithafol y gallwn ei arsylwi, sef dau dwll du yn gwrthdaro.

“Rydyn ni wedi wastad wedi meddwl y gall tyllau duon deuaidd wneud hyn,” meddai'r Athro Mark Hannam, o Sefydliad Archwilio Disgyrchiant Prifysgol Caerdydd.

Ein gobaith oedd gweld enghraifft byth oddi ar y canfyddiad cyntaf yn sgîl defnyddio tonnau disgyrchiant. Bu'n rhaid inni aros am bum mlynedd a mwy na 80 o ganfyddiadau ar wahân, ond o'r diwedd mae un gennym ni!

Yr Athro Mark Hannam

Enghraifft symlach o flaenori yw chwyrligwgan sy’n troelli gan y bydd yn siglgrynu – neu’n blaenori - unwaith efallai bob ychydig o eiliadau. Mewn cyferbyniad, fel arfer bydd gan flaenori yng nghyd-destun perthnasedd cyffredinol effaith sydd mor wan nad oes modd ei ganfod. Yn yr enghraifft gyflymaf a fesurwyd cyn hyn o sêr niwtron sy’n cylchdroi o'r enw pylsarau deuaidd, cymerodd fwy na 75 mlynedd i'r cylchdro flaenori. Mae'r ddau dwll du yn yr astudiaeth hon, a elwir ar lafar yn GW200129 (a enwyd ar ôl y dyddiad iddo gael ei arsylwi, sef Ionawr 29, 2020), yn blaenori sawl gwaith bob eiliad - dyma effaith sy’n 10 biliwn gwaith yn gryfach na'r hyn a fesurwyd o'r blaen.

Esboniodd Dr Jonathan Thompson, sydd hefyd yn gweithio ym Mhrifysgol Caerdydd: “Effaith anodd iawn dod o hyd iddi yw hon. Mae tonnau disgyrchiant yn hynod o wan ac er mwyn eu canfod mae angen y cyfarpar mesur mwyaf sensitif sydd ar gael. Effaith wannach fyth a gleddir y tu mewn i'r signal sydd eisoes yn wan yw’r blaenori, felly roedd yn rhaid inni wneud dadansoddiad gofalus i ddod o hyd iddo.”

Rhagwelodd Einstein donnau disgyrchiant ym 1916. Daeth offerynnau Uwch LIGO o hyd iddyn nhw yn uniongyrchol am y tro cyntaf yn 2015 yn sgîl dau dwll du’n mynd yn un, sef darganfyddiad arloesol a arweiniodd at Wobr Nobel 2017. Mae seryddiaeth tonnau disgyrchiant bellach yn un o'r meysydd bywiocaf ym myd gwyddoniaeth, ac mae rhwydwaith o synwyryddion Uwch LIGO, Virgo a KAGRA ar waith yn yr Unol Daleithiau, Ewrop a Siapan. Hyd yma cafwyd mwy na 80 o ddarganfyddiadau, ac mae pob un ohonyn nhw wedi darganfod tyllau duon neu sêr niwtron sy’n mynd yn un.

“Hyd yn hyn mae'r rhan fwyaf o dyllau duon rydyn ni wedi dod o hyd iddyn nhw drwy ddefnyddio tonnau disgyrchiant wedi bod yn troelli'n weddol araf,” meddai Dr Charlie Hoy, ymchwilydd ym Mhrifysgol Caerdydd yn ystod yr astudiaeth hon, ac sydd bellach yn gweithio ym Mhrifysgol Portsmouth. “Roedd y twll du mwy ei faint yn y system ddeuaidd hon, a oedd tua 40 gwaith yn fwy na'r Haul, yn troelli’r un mor gyflym bron â’r hyn sy’n gorfforol bosibl. Mae ein modelau cyfredol o sut mae systemau deuaidd yn ymffurfio yn awgrymu bod yr un yma’n hynod brin, sef digwyddiad un ym mhob mil efallai. Neu hwyrach ei bod yn arwydd bod yn rhaid i'n modelau newid.”

Mae'r rhwydwaith rhyngwladol o synwyryddion tonnau disgyrchiant yn cael ei uwchraddio ar hyn o bryd a bydd yn dechrau ei chwiliad nesaf o'r bydysawd yn 2023. Maen nhw’n debygol o ddod o hyd i gannoedd yn fwy o dyllau duon sy’n gwrthdaro â’i gilydd, a bydd gwyddonwyr yn gwybod a oedd GW200129 yn eithriad prin, neu'n arwydd bod ein bydysawd hyd yn oed yn fwy ddieithr na’r hyn yr oedden nhw’n ei feddwl.

Cyhoeddir General-relativistic precession in a black-hole binar yn Nature a byddwch yn gallu darllen yr erthygl yma.

Cefnogwyd yr awduron gan gyllid gan Gyngor y Cyfleusterau Gwyddoniaeth a Thechnoleg (STFC) a'r Cyngor Ymchwil Ewropeaidd (ERC).

Ieir am oes nid cinio yn unig

Roedd anifeiliaid, sydd bellach yn cael eu bridio ar raddfa fawr ar gyfer cig ac wyau, yn cael eu hystyried yn y lle cyntaf yn bethau anarferol ac anghyffredin ac roedd ganddynt swyddogaethau arbennig

 Dr Martin Scurr, Prof Andrew Godkin, Dr James Hindley, Cardiff University / ImmunoServ Ltd.

Mae prawf gwaed pigo bys yn rhoi gwybod a oes imiwnedd rhag COVID-19

Mae mesur celloedd T yn dangos faint o risg sydd o gael eich heintio o’r newydd

Uchafbwyntiau 2021

Sganiwr dementia arloesol i gael ei gyflwyno ledled Cymru

Mae Move yn dilyn peilot llwyddiannus gan Brifysgol Caerdydd a Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan

Billie-Jo Redman

Covid Hir yn rhoi ‘baich enfawr’ ar deuluoedd sydd wedi goroesi’r feirws, yn ôl ymchwil newydd

Galwad am 'system gymorth' i deuluoedd y mae Covid wedi effeithio'n ddifrifol ar eu bywydau

Gwyddonwyr o bosibl wedi datrys rhan bwysig o ddirgelwch y clotiau gwaed sy’n gysylltiedig â brechlynnau COVID-19 adenofeirol

Ymchwilwyr yng Nghaerdydd ac UDA yn nodi mecanwaith posibl y tu ôl i’r sgîl-effaith hynod anghyffredin

Uchafbwyntiau 2020

Stock image of people holding hands

Mae astudiaeth newydd yn tynnu sylw at 'heriau mawr' profedigaeth yn ystod pandemig COVID-19

Arolwg o bobl sydd wedi cael profedigaeth a gynhaliwyd ledled y DU gan brifysgolion Caerdydd a Bryste

Stock image of woman working at a desk at home

Gallai'r proffesiwn cyfreithiol fod yn fwy hygyrch i bobl anabl oherwydd y cynnydd mewn gweithio hyblyg

Mae'r adroddiad yn dangos bod COVID-19 wedi normaleiddio gweithio o gartref

Stock image of person looking out of the window

Arolwg newydd yn datgelu baich COVID-19 ar iechyd meddwl yng Nghymru

Mae ymchwil ar y cyd rhwng Prifysgolion Caerdydd ac Abertawe yn awgrymu bod lles meddyliol wedi dirywio’n fawr o’i gymharu â’r cyfnod cyn y pandemig

Uchafbwyntiau 2019

Inside a modern prison

Cymru sydd â’r gyfradd uchaf o garcharu yng ngorllewin Ewrop

Adroddiad Cyfiawnder Newydd gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru

River Wye

Gall rheoli llygredd mewn afonydd leihau effaith cynhesu'r hinsawdd

Gallai ymdrechion i wella ansawdd dŵr mewn afonydd wrthbwyso effaith newid yn yr hinsawdd ar infertebratau mewn afonydd

Fossil forest in a sandstone quarry in Cairo, New York

Gwyddonwyr yn datgelu coedwig hynaf y byd

Ffosiliau o goed sy'n dyddio'n ôl 386 miloedd o flynyddoedd wedi'u canfod ar waelod chwarel Efrog Newydd

Uchafbwyntiau 2018

Greenland meteorite

Darganfod crater meteorit anferth o dan len iâ'r Ynys Las

Mae gwyddonwyr wedi datguddio crater gwrthdrawiad meteor 31-km o led wedi'i guddio'n ddwfn o dan Rewlif Hiawatha

River Taff

Darganfod plastig mewn hanner cant y cant o bryfed dŵr croyw

Ymchwil newydd yn dangos bod microblastigau'n cael eu diystyru mewn ecosystemau afonydd lle maent yn gwenwyno pryfed ac yn peryglu bywyd gwyllt

Uchafbwyntiau 2017

Coffee cup and coffee beans

Lleihau’r defnydd o gwpanau coffi

Mae ymchwil gan Bewley’s a Phrifysgol Caerdydd yn nodi mesurau a all helpu i annog pobl sy’n yfed coffi i ddefnyddio cwpanau amldro

Tu allan i adeilad Hadyn Ellis

Canolfan ymchwil dementia £13m

Prifysgol Caerdydd wedi’i dewis yn ganolfan ar gyfer menter ymchwil fwyaf y DU ym maes dementia

Image of Head of the clinic performing eye test on patient

Gwobr Pen-blwydd y Frenhines i Uned Ymchwil Golwg Syndrom Down Prifysgol Caerdydd

Mae Uned Ymchwil Golwg Syndrom Down Prifysgol Caerdydd wedi ennill gwobr academaidd fwyaf clodfawr y DU – gwobr Pen-blwydd y Frenhines – am ei hymchwil arloesol a’i thriniaethau ar gyfer problemau golwg mewn plant sydd â syndrom Down.


Uchafbwyntiau 2016

The Queen arrives at CUBRIC

Y Frenhines yn agor Canolfan Ymchwil Delweddu'r Ymennydd

Y Parti Brenhinol yn cael eu tywys o amgylch y cyfleuster gwerth £44m sy'n unigryw yn Ewrop

Gravitational waves

Crychdonnau gofod-amser wedi'u canfod am y tro cyntaf

Gwyddonwyr Prifysgol Caerdydd yn agor ffenestr newydd i'r Bydysawd wrth i donnau disgyrchiant gael eu canfod am y tro cyntaf

Graham Hutchings receiving Regius Professorship

Prifysgol Caerdydd yw’r prifysgol cyntaf yng Nghymru i dderbyn teitl Athro Regius

Cyflwynwyd Gwarant Frenhinol wedi’i llofnodi gan Ei Mawrhydi y Frenhines i Ysgol Cemeg Prifysgol Caerdydd i gyflwyno teitl Athro Regius Cemeg yn swyddogol


Uchafbwyntiau 2015

Graham Hutchings

Caerdydd yn ymuno â Chymdeithas Max Planck i ffurfio cynghrair gatalysis o’r radd flaenaf

Bydd Prifysgol Caerdydd yn ymuno â chorff ymchwil blaenllaw yr Almaen i ddatblygu gwaith catalysis

Dame Professor Teresa Rees

Anrhydeddau’r Flwyddyn Newydd

Anrhydeddau yn cydnabod cymuned Caerdydd

Bangladesh

Dull arloesol o helpu gwlad i benderfynu ar anghenion ynni

Gwaith y Brifysgol o fudd i un o wledydd mwyaf poblog y byd