Ewch i’r prif gynnwys

Cymru sydd â’r gyfradd uchaf o garcharu yng ngorllewin Ewrop

16 January 2019

Inside a modern prison

Mae gan Gymru’r gyfradd uchaf o garcharu yng ngorllewin Ewrop, yn ôl ymchwil gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd.

Heddiw, fe gyhoeddwyd ‘Sentencing and Immediate Custody in Wales: A Factfile’ (dydd Mercher 16 Ionawr), sy’n amlinellu cymhariaeth ystadegol fanwl o ffigyrau ynghylch dedfrydu a charcharu yng Nghymru a Lloegr.

Derbynnir yn gyffredinol mai Cymru a Lloegr ar y cyd sydd â'r gyfradd uchaf o garcharu yng ngorllewin Ewrop. Ond dyma'r tro cyntaf i’r ffigyrau ar gyfer y ddwy wlad gael eu dadansoddi ar wahân.

Drwy ddefnyddio cyfeiriadau cartref y troseddwyr er mwyn gwahaniaethu rhwng y ddwy wlad, cafnu’r ymchwil fod gan Gymru ganran uwch o’i phoblogaeth gyffredinol yn y carchar na Lloegr bob blwyddyn ers 2013, pan ddaeth y data ar gael.

Yn 2017, roedd 154 o garcharorion Cymreig am bob 100,000 o boblogaeth Cymru. Mae hyn o’i gymharu â chyfradd o 141 o garcharorion Seisnig am bob 100,000 o boblogaeth Lloegr.

Hefyd, mae’r adroddiad yn dangos er bod cyfanswm nifer y dedfrydau gan lysoedd Lloegr wedi gostwng 16% rhwng 2010 a 2017, aeth y nifer i fyny ychydig (0.3%) yn llysoedd Cymru yn ystod yr un cyfnod. Mae hyn er gwaethaf y ffaith bod nifer y troseddau a recordiwyd gan yr heddlu yn is yng Nghymru nag yn Lloegr bob blwyddyn rhwng 2013 a 2017.

Dywedodd Dr Robert Jones o Ganolfan Llywodraethiant Cymru: “Derbynnir yn gyffredinol mai Cymru a Lloegr sydd â'r gyfradd uchaf o garcharu yng ngorllewin Ewrop. Ond am y tro cyntaf, mae’r adroddiad hwn yn edrych ar Gymru ar wahân yn y categori hwnnw. Mae’n dangos bod gan Gymru gyfradd uwch o garcharu na Lloegr mewn gwirionedd.

Mae'r adroddiad yn datgelu nifer o anghyfartaleddau sylweddol eraill rhwng Cymru a Lloegr, gan gynnwys:

  • Yn 2017, 17.2 mis oedd hyd y ddedfryd o garcharu ar gyfartaledd am yr holl droseddau yn Lloegr. Roedd hyn o’i gymharu â 13.4 mis ar gyfartaledd am hyd y ddedfryd o garcharu yng Nghymru.
  • Cafwyd canran uwch o ddedfrydau pedair blynedd neu fwy yn Lloegr (8.9%) nag yng Nghymru (6.2%) rhwng 2010 a 2017.
  • Cafwyd cyfran uwch o ddedfrydau carchar byrdymor yng Nghymru nag yn Lloegr rhwng 2010 a 2017. Roedd 68.1% o’r holl ddedfrydau o garchar yng Nghymru yn llai na 12 mis o gymharu â 63.9% yn Lloegr.
  • Roedd menywod yng Nghymru yn fwy tebygol na dynion o gael dedfryd o garchar byrdymor. Rhoddwyd dedfrydau o lai na 12 mis i fwy na thri chwarter (78.6%) o’r holl fenywod a gafodd ddedfryd o garchar yn syth yng Nghymru rhwng 2010 a 2017. Mae hyn o’i gymharu â 67% o droseddwyr gwryw a gafodd ddedfryd yng Nghymru. Cafodd un o bob pedair menyw (24.8%) a gafodd ddedfryd o garchar yn syth yng Nghymru ei dedfrydu i fis neu lai yn y carchar rhwng 2010 a 2017.
  • Tangynrychiolwyd carcharorion Cymreig a Seisnig o’r grŵp ethnig Gwyn yn y carchar yn 2017. Roedd lefel yr anghydraddoldeb hiliol yn uwch ym mhoblogaethau carchardai Cymru nag yn Lloegr.
  • Ar gyfartaledd, troseddwyr Gwyn a gafodd ddedfryd o garchar yn syth yng Nghymru a gafodd y dedfrydau byrraf o garchar yn 2017 (13.2 mis). Fe recordiwyd mai yng Nghymru, troseddwyr Duon a gafodd y dedfrydau hiraf o garchar ar gyfartaledd (21.5 mis), gyda throseddwyr Asiaidd (19 mis) a Hil Gymysg (17.7 mis) yn eu dilyn.

Cafwyd data am boblogaethau carchardai yng Nghymru’n unig ac yn Lloegr yn unig gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder ar sail Deddf Rhyddid Gwybodaeth.

Ychwanegodd Dr Jones: "Yn raddol, mae darlun manwl yn dod i’r amlwg o’r system gyfiawnder yng Nghymru, a sut mae’n eitha gwahanol i un Lloegr.

“Mae angen trafodaeth drylwyr am pam mae’r patrymau hyn o ddedfrydu a charcharu i’w gweld yng Nghymru ac ai’r canlyniadau hyn y mae Llywodraethau’r DU a Chymru am eu gweld yn y system cyfiawnder troseddol.”

Share this story

We undertake innovative research into all aspects of the law, politics, government and political economy of Wales, as well the wider UK and European contexts of territorial governance.