Ewch i’r prif gynnwys

Caerdydd yn ymuno â Chymdeithas Max Planck i ffurfio cynghrair gatalysis o’r radd flaenaf

6 Ionawr 2015

Graham Hutchings

Bydd Prifysgol Caerdydd yn ymuno â chorff ymchwil blaenllaw yr Almaen i ddatblygu gwaith catalysis o bwysigrwydd byd-eang a allai achub bywydau.

Bydd yr Athro Graham Hutchings, Cyfarwyddwr Sefydliad Catalysis Caerdydd, yn gweithio gyda'r Athro Robert Schlögl o Sefydliad Fritz Haber Cymdeithas Max Planck.

Gyda'i gilydd, bydd eu timau o ymchwilwyr yn datblygu rhaglen newydd o ymchwil gatalysis yn rhan o Rwydwaith Ynni Maxnet y Gymdeithas.

Bydd y bartneriaeth, a gyhoeddir heddiw yng nghynhadledd Sefydliad Catalysis Caerdydd, yn rhoi arbenigedd ymchwil gatalysis Prifysgol Caerdydd wrth wraidd sefydliad ymchwil blaenllaw yr Almaen.

Ers ei sefydlu ym 1948, mae 18 llawryfog Nobel wedi dod o Gymdeithas Max Planck, gan ei roi ar yr un lefel â'r sefydliadau ymchwil gorau ac uchaf eu parch ar draws y byd.

Dywedodd yr Athro Hutchings: "Mae catalysis yn gallu achub bywydau, gwella iechyd a glanhau'r byd. Bydd dod â Chaerdydd a Chymdeithas Max Planck yn agosach at ei gilydd yn cadarnhau statws Caerdydd fel arweinydd byd-eang o ran ymchwil gatalysis."

Ychwanegodd yr Athro Schlögl: "Rwy'n falch iawn bod Sefydliad Catalysis Caerdydd wedi ymuno â ni yn MaxNet on Energy ac edrychwn ymlaen at gydweithredu'n agos ar raglenni ymchwil."

Mae technoleg gatalysis wrth wraidd tua 80-90% o'r holl gynhyrchion. Mae'r ffenomen yn golygu bod deunydd, nad yw'n un o'r adweithyddion, yn cyflymu adwaith cemegol heb fod angen cynnydd mewn tymheredd.

Mae ymchwilwyr yng Nghaerdydd, dan arweiniad yr Athro Hutchings, wedi darganfod bod aur yn gallu achub bywydau, gwella iechyd a glanhau'r amgylchedd trwy weithredu fel catalydd ar gyfer ffurfio clorid finyl – y prif gynhwysyn wrth gynhyrchu PVC – gan ddisodli catalydd mercwri sy'n niweidiol i'r amgylchedd.

Mae catalysis, sy'n rhan o'r sector cemegol, yn rhan eithriadol o bwysig o economi gyffredinol y Deyrnas Unedig. Yn y blynyddoedd diweddar, mae allbwn y Deyrnas Unedig wedi dod i gyfanswm o fwy na £50 biliwn ac mae wedi'i raddio'n 7fed yn y byd, er gwaethaf cystadleuaeth gan genhedloedd sy'n datblygu.

Mae mwy na 3,200 o gwmnïau yn y Deyrnas Unedig yn ymwneud â chatalysis, gyda busnesau bach a chanolig yn cyflawni swyddogaeth flaenllaw. Mae'r sector yn cynhyrchu balans masnach cadarnhaol o £5.5 biliwn, a chaiff dros 80% o'i allbwn ei allforio. Yn ogystal, mae'r sector yn ennill tua £1 biliwn o incwm breindal trwy fanteisio ar ei sylfaen wybodaeth yn rhyngwladol.

Bydd yr Athro Hutchings a'i dîm yn symud i gartref newydd o'r radd flaenaf yn 2018 ar gampws Arloesedd newydd Prifysgol Caerdydd, sy'n cael ei adeiladu i sbarduno twf a chreu swyddi ar draws y dinas-ranbarth. 

Ychwanegodd yr Athro Hutchings: "Bydd symud Sefydliad Catalysis Caerdydd i ganolfan gatalysis newydd o'r radd flaenaf yn 2018 yn rhoi cyfle euraid i ni gryfhau'r berthynas hon. Bydd rhannu ein gwybodaeth gyda Chymdeithas Max Planck yn ein helpu i ddatblygu deunyddiau sydd â chymwysiadau ar draws ystod o ddiwydiannau, o'r sectorau plastigau a phecynnu, modurol ac awyrofod i adeiladu ac electroneg. Mae'n gyfle gwych i Gaerdydd ac i Gymru."

Bydd ystod eang o arweinwyr diwydiannol ym maes catalysis yn mynychu cynhadledd Caerdydd, gyda chynrychiolwyr o BP, BASF, ChemCom Industries, CompactGTL, Dow, Huntsman, Invista, JM, a Solvay.