Ewch i’r prif gynnwys

Mae astudiaeth newydd yn tynnu sylw at 'heriau mawr' profedigaeth yn ystod pandemig COVID-19

27 Tachwedd 2020

Stock image of people holding hands

Mae'r canfyddiadau dros dro, a gafwyd o arolwg o bobl sydd wedi cael profedigaeth yn y DU ers mis Mawrth, wedi dangos yn amlwg yr anawsterau a'r trallod a gafwyd gan y rhai hynny sydd wedi colli berthynas agos eleni.

Cynhaliwyd yr arolwg cyntaf ledled y DU a oedd yn archwilio profiadau o brofedigaeth a chymorth gan Brifysgol Caerdydd a Phrifysgol Bryste, gyda llawer o gyfranogwyr yn disgrifio diffyg cymorth ar ôl i berthynas agos iddynt farw.

Nododd yr arolwg nad oedd yr ysbyty na'r darparwr gofal wedi cysylltu â 45% ohonynt ar ôl iddynt gael profedigaeth, tra na chafodd mwy na hanner unrhyw wybodaeth am gymorth profedigaeth (51%) ac wynebodd 56% o bobl a geisiodd gael gafael ar wasanaethau profedigaeth anawsterau hefyd.

Mae'r ymchwilwyr, gan gynnwys tîm o Ganolfan Ymchwil Gofal Lliniarol Marie Curie, yn cynnal ymchwil i roi llais i brofiadau'r bobl sydd wedi cael unrhyw fath o brofedigaeth yn y DU ers 16 Mawrth. Mae'r tîm wedi rhyddhau canfyddiadau o'r 532 o ymatebwyr cyntaf i'r arolwg, sy'n parhau i fod ar agor tan 31 Rhagfyr.

Gweler y canlynol am yr arolygon hynny hyd yn hyn:

  • Roedd bron hanner (46%) wedi colli perthynas agos a oedd ag achos wedi’i gadarnhau neu achos posibl o haint COVID-19;
  • Roedd marwolaethau COVID-19 yn cael eu cysylltu'n sylweddol â lefelau uwch o brofiadau negyddol o farwolaeth a galaru (e.e. cyswllt â pherthynas agos cyn iddo/iddi farw, ynysu cymdeithasol ar ôl iddo/iddi farw) heblaw am drefniadau angladd cyfyngedig, a effeithiodd bron pob un ymatebwr (94%);
  • Cafodd 70% o bobl sydd wedi cael profedigaeth lle bu farw perthynas agos o achos wedi'i gadarnhau o haint COVID-19 gyswllt cyfyngedig â'r berthynas yn niwrnodau olaf ei fywyd; nid oedd 85% yn gallu dweud hwyl fawr fel y byddent wedi hoffi gwneud a phrofodd 75% ynysu cymdeithasol ac unigedd.

Dywedodd Dr Emily Harrop, o Ganolfan Ymchwil Gofal Lliniarol Marie Curie ym Mhrifysgol Caerdydd a chydymaith ymchwil yn yr Ysgol Meddygaeth: “Hyd yn hyn, mae canlyniadau'r arolwg yn dangos heriau mawr cael profedigaeth yn ystod pandemig o ran profiadau anodd ar ddiwedd bywyd, angladdau cyfyngedig ac ynysu cymdeithasol.

“Yn ogystal â'r anawsterau hyn a lefelau cymharol uchel o anghenion, mae pobl sydd wedi cael profedigaeth hefyd yn rhoi gwybod am broblemau wrth gael gafael ar gymorth gan ffrindiau a theulu a gwasanaethau profedigaeth."

Mae'n hanfodol bod llunwyr polisïau a'r rhai hynny sy'n darparu gofal a chymorth i gleifion yn gwneud newidiadau i gefnogi aelodau'r teulu a ffrindiau agos yn well, cyn ac ar ôl marwolaeth.

Dr Emily Harrop Cydymaith ymchwil

Hefyd, disgrifiodd cyfranogwyr broblemau cyfathrebu â darparwyr gofal iechyd pan roedd eu perthynas agos yn cael gofal ac yn marw, gydag un o bedwar yn adrodd nad oedd yn rhan o benderfyniadau am ofal ei berthynas agos.

Dywedodd un ferch a oedd wedi cael profedigaeth yn ystod yr astudiaeth: “Y tro olaf i mi weld fy nhad oedd pan na adawodd yr ysbyty i mi fynd i mewn gydag ef o'r ambiwlans. Roedd yn ddydd Gwener ac ni chawsom siarad ag unrhyw un tan ddydd Mawrth.

“Roedd yn anodd cysylltu ac unwaith i mi wneud hynny nododd y person yng nghanol y sgwrs fod gan dad COVID-19 - roedd yn sioc. Ni chawsom lawer iawn o wybodaeth o gwbl a dim cymorth na chysylltiad."

Ar sail y canfyddiadau dros dro hyn, a fydd yn cael eu dosbarthu i lunwyr polisïau a gwasanaethau profedigaeth ac sydd ar gael ar wefan yr astudiaeth, mae'r ymchwilwyr yn argymell y canlynol:

* Cymerir camau i leihau trawma o brofiadau gwael o farwolaeth, drwy sicrhau bod gweithwyr proffesiynol gofal iechyd yn cyfathrebu'n well ar ddiwedd bywyd, gan gynnwys y teulu wrth wneud penderfyniadau a galluogi teulu i gael cyswllt lle y bo'n bosibl;

* Mae darparwyr gofal iechyd yn cefnogi teuluoedd yn well ar ôl marwolaeth, gan gynnwys rhoi gwybodaeth am wahanol fathau o gymorth a gwasanaethau profedigaeth;

* Trefniadau swigod cymorth hyblyg ar gyfer y rhai sydd newydd gael profedigaeth er mwyn mynd i'r afael ag ynysu cymdeithasol a theimlo'n agored i newid yn gynnar ar ôl cael profedigaeth ac yn ystod angladdau;

* Mwy o ddarpariaeth o ran gwasanaethau profedigaeth mewn ardaloedd sydd â rhestrau aros hir ar hyn o bryd.

Mae'r ymchwilwyr hefyd yn annog mwy o ddynion a phobl o gefndiroedd o leiafrifoedd ethnig i gymryd rhan er mwyn sicrhau bod yr arolwg yn cynrychioli'r boblogaeth a effeithiwyd.

Dywedodd Dr Lucy Selman, o'r Grŵp Ymchwil Gofal Lliniarol a Diwedd Oes a'r Ganolfan ar gyfer Gofal Sylfaenol Academaidd ym Mhrifysgol Bryste: "Bellach, mae mwy na 70,000 o farwolaethau ychwanegol wedi bod yn y DU yn ystod y pandemig, yn ogystal ag amcangyfrif o 450,000 o farwolaethau bob 9 mis.

“Gyda phob marwolaeth yn gadael tua phum person mewn profedigaeth, mae 2.6 miliwn o bobl wedi cael profedigaeth yn y DU ar adeg o aflonyddwch enfawr i'n rhwydweithiau cymorth cymdeithasol yn ogystal â phwysau trwm ar ofal iechyd a chymdeithasol. Bellach mae gennym y cyfle i atal argyfwng iechyd meddwl pellach drwy roi ein hargymhellion ar waith i wella gofal diwedd oes a chymorth profedigaeth."

Ariannwyd yr arolwg gan dîm Ymchwil ac Arloesedd y DU drwy'r Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol. Caiff canfyddiadau llawn yr astudiaeth eu dadansoddi a'u cyhoeddi mewn cyfnodolyn a adolygir gan gymheiriaid yn ystod chwarter cyntaf 2021.

Er mwyn cymryd rhan yn yr arolwg cyn Rhagfyr 31, ewch i https://www.covidbereavement.com/

Rhannu’r stori hon

Mae’r Ysgol yn ganolfan ryngwladol bwysig ar gyfer addysgu ac ymchwil, sy’n ymrwymo i wella iechyd y ddynoliaeth.