Ewch i’r prif gynnwys

Anrhydeddau’r Flwyddyn Newydd

7 Ionawr 2015

Dame Professor Teresa Rees

Mae aelodau o gymuned staff a myfyrwyr y Brifysgol wedi derbyn cydnabyddiaeth am eu gwaith arloesol yn rhestr Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd.

Gwnaed yr Athro Teresa Rees, o Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, yn Fonesig am ei gwasanaethau i'r Gwyddorau Cymdeithasol, yn ychwanegol at ei CBE gwreiddiol yn 2002.

Mae'r Fonesig Teresa yn enwog am ei hymchwil sy'n canolbwyntio ar anghydraddoldebau, menywod a pholisi gwyddoniaeth, y rhywiau yn y prif ffrwd a chyllid addysg uwch, ac sydd wedi canolbwyntio ar gyfrannu at bolisïau yn yr Undeb Ewropeaidd, y Deyrnas Unedig a Chymru, sydd â thystiolaeth yn sylfaen iddynt.

A hithau'n frwd o blaid datganoli, mae wedi cadeirio dau ymchwiliad annibynnol i addysg uwch er mwyn cynorthwyo Cynulliad Cenedlaethol Cymru i ddatblygu ei bolisïau. Roedd y Fonesig Teresa yn aelod o Bwyllgor Llywio'r Llywodraeth ar gyfer sefydlu'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, ac o'r Panel Cydraddoldeb Cenedlaethol a gyflwynodd adroddiad yn 2010.

Ar hyn o bryd, hi yw Prif Ymchwilydd y prosiect Menywod yn Ychwanegu Gwerth at yr Economi (WAVE), mae'n Athro Ymweliadol yng nghanolfan ragoriaeth GEXcel yn Sweden, mae'n aelod o Fwrdd Ymgynghorol Gwyddonol 5 o brosiectau a ariannwyd gan y Comisiwn Ewropeaidd ar fenywod a phrifysgolion, a than yn ddiweddar, bu'n Gyfarwyddwr Cymru ar gyfer Sefydliad Arweinyddiaeth Addysg Uwch.

Ymhlith ei hanrhydeddau eraill, mae'r Fonesig Teresa yn Gymrawd Academi'r Gwyddorau Cymdeithasol a Chymdeithas Ddysgedig Cymru a, hefyd, enillodd Wobr Val Feld yng ngwobrau Welsh Woman of the Year y Western Mail am ei gwaith yn hybu cyfleoedd bywyd menywod yng Nghymru.

Meddai'r Athro y Fonesig Teresa: "Fel gwyddonydd cymdeithasol, rwy'n falch iawn o'r anrhydedd hwn sy'n dathlu cyfraniad y gwyddorau cymdeithasol i bolisïau sy'n seiliedig ar dystiolaeth ac sy'n amlygu pwysigrwydd ymchwil i'r rhywiau, cyfiawnder cymdeithasol a chydraddoldeb."

Ymhlith cyn-fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd a dderbyniodd anrhydeddau oedd Rosaleen Moriarty-Simmonds, a dderbyniodd OBE am ei gwaith yn ymgyrchu dros gydraddoldeb a hawliau pobl anabl, a Tina Donnelly, Cyfarwyddwr y Coleg Nyrsio Brenhinol yng Nghymru, a dderbyniodd CBE am ei gwasanaethau i nyrsio.

Yn croesawu'r newyddion, dywedodd yr Is-ganghellor, yr Athro Colin Riordan: "Ar ran y Brifysgol gyfan, hoffwn longyfarch yr Athro Rees ac yn wir holl raddedigion Prifysgol Caerdydd sydd wedi derbyn anrhydeddau.

"Caiff gwaith Terry Rees ei gydnabod nid yn unig yng Nghaerdydd, ond o gwmpas y byd am ei safon uchaf, ac mae'n bleser mawr i mi ei bod wedi'i hanrhydeddu fel hyn. Mae pob un ohonom yn y Brifysgol yn falch iawn o Terry a holl raddedigion Prifysgol Caerdydd y mae eu gwaith a'u hymroddiad wedi'u cydnabod diolch i'w gwasanaeth ar draws y DU."

Rhannu’r stori hon