Ewch i’r prif gynnwys

Arolwg newydd yn datgelu baich COVID-19 ar iechyd meddwl yng Nghymru

11 Tachwedd 2020

Stock image of person looking out of the window

Mae Cymru’n wynebu “ton” o broblemau iechyd meddwl yn sgîl COVID-19, gydag oedolion ifanc, menywod a phobl o ardaloedd difreintiedig yn dioddef fwyaf, yn ôl ymchwil newydd.

Dyna’r rhybudd sy’n deillio o astudiaeth gan yr Athro Robert Snowden o Brifysgol Caerdydd a’r Athro Nicola Gray o Brifysgol Abertawe, sydd wedi bod yn ymchwilio i effaith y pandemig ar les meddyliol pobl Cymru.

Dangosodd canfyddiadau arolwg cychwynnol ym mis Mehefin a Gorffennaf (2020) fod tua hanner y 13,000 o gyfranogwyr wedi nodi gofid seicolegol sy’n arwyddocaol yn glinigol, gyda thua 20% yn dweud eu bod yn dioddef effeithiau difrifol.

Mae eu papur, The influence of the COVID-19 pandemic on mental wellbeing and psychological distress: impact upon a single country, yn cael ei gyhoeddi heddiw yng nghyfnodolyn Frontiers in Psychiatry.

Dywedodd yr Athro Snowden, o Ysgol Seicoleg Prifysgol Caerdydd: “Er bod angen gwyddoniaeth arnom i fynd i’r afael â goblygiadau ffisegol clefyd a lleihau cyfradd yr haint, mae angen i ni ddeall effeithiau penderfyniadau fel cyfnodau clo ar iechyd meddwl a lles pobl fel nad yw unrhyw driniaeth yn waeth na’r clefyd y mae’n gobeithio ei wella.”

Dywedodd yr Athro Gray: “Gwnaethom ymchwilio i les seicolegol a pha mor gyffredin oedd gofid meddwl sy’n arwyddocaol yn glinigol mewn sampl mawr rhwng 11 ac 16 wythnos ar ôl dechrau’r cyfnod clo, cyn mynd ati i gymharu hyn â data sy’n seiliedig ar y boblogaeth a gasglwyd cyn COVID-19. Roedd yn dangos gostyngiad mawr o ran lles o gymharu â’r lefelau cyn COVID-19.”

Dywedodd bod yr effeithiau yng Nghymru - ac ar sail hynny yn y DU a thu hwnt - yn waeth nag oedd astudiaethau blaenorol wedi awgrymu.

“Yn ôl pob tebyg, mae hyn yn adlewyrchu’r ffaith i’r data cyfredol gael ei gymryd yn hwyrach yn y cyfnod clo o gymharu â gwerthusiadau blaenorol. Mae angen i wasanaethau baratoi ar gyfer y don o broblemau iechyd meddwl gyda phwyslais ar oedolion ifanc, menywod, ac mewn ardaloedd lle mae lefelau uwch o amddifadedd,” dywedodd.

Sefydlwyd y prosiect i olrhain effaith y pandemig ar les pobl, gan archwilio nifer yr achosion o ofid seicolegol sylweddol ac edrych ar y ffactorau a allai liniaru neu waethygu'r gofid hwnnw.

Recriwtiwyd y 12,989 o bobl a gymerodd ran yn yr arolwg drwy gyfryngau cymdeithasol a chyhoeddusrwydd a chyda chymorth sefydliadau mawr ledled Cymru a rannodd fanylion yr arolwg dwyieithog gyda staff. Cafodd gefnogaeth pob un o'r saith bwrdd iechyd yng Nghymru, y pedwar llu heddlu yng Nghymru, Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru a'r Gwasanaeth Tân ac Achub yn ogystal â llawer o gyflogwyr mawr a sefydliadau'r trydydd sector.

Mae'r grŵp wedi cyflwyno ei ymchwil i Lywodraeth Cymru a bydd y canfyddiadau yn helpu'r GIG yng Nghymru nid yn unig i ddeall y materion sy'n effeithio ar gymunedau ond hefyd sut y gall lywio gwasanaethau cymorth ar gyfer y dyfodol.

Ar hyn o bryd mae'r ymchwilwyr yn paratoi i ailagor yr arolwg i gasglu mwy o ddata gan gyfranogwyr. Y nod yw archwilio sut mae argyfwng parhaus COVID-19 yn parhau i effeithio ar fywyd bob dydd, pa ffactorau penodol sy'n achosi straen, a chael dadansoddiad pellach o sut mae oedran yn effeithio ar ymatebion a phrofiadau.