Ewch i’r prif gynnwys

Darganfod crater meteorit anferth o dan len iâ'r Ynys Las

14 Tachwedd 2018

Greenland meteorite

Mae crater anferth a adawyd gan wrthdrawiad trychinebus meteorit a drawodd y Ddaear wedi'i ddarganfod yn ddwfn o dan y rhewlifoedd yn yr Ynys Las.

Cafodd y crater 31 km o led, sy'n fwy o faint na Paris, ei ddarganfod gan dîm rhyngwladol o wyddonwyr sy'n credu iddo gael ei achosi gan wrthdrawiad meteorit ar y Ddaear rhwng 3 miliwn a 12,000 o flynyddoedd yn ôl.

Darganfuwyd y crater dan Rewlif Hiawatha yng ngogledd-orllewin yr Ynys Las a dyma'r tro cyntaf erioed i geudwll gwrthdrawiad o unrhyw faint gael ei ddarganfod o dan un o lenni iâ cyfandirol y Ddaear.

Mae tystiolaeth a gyhoeddwyd heddiw yn y cyfnodolyn Science Advances yn awgrymu i'r crater gael ei ffurfio pan drawodd meteorit un cilometr o led i ogledd yr Ynys Iâ cyn i iâ orchuddio'r wlad.

Ers hynny mae'r crater wedi'i gladdu dan iâ sydd dros gilometr o drwch, gan gadw cyfrinachau digwyddiad dramatig y mae'n bosibl iddo newid yr hinsawdd yn sylweddol ac a arweiniodd at ganlyniadau difrifol i fywyd ar y Ddaear ar y pryd.

Arweiniwyd y tîm gan ymchwilwyr o'r Ganolfan ar gyfer GeoGenetics yn Amgueddfa Astudiaeth Natur Denmarc, Prifysgol Copenhagen. Gwnaeth y tîm ddarganfod y crater ym mis Gorffennaf 2015, pan wnaethant ddigwydd dod o draws 'pant crwn' na sylwyd arno o'r blaen o dan Rewlif Hiawatha wrth iddynt archwilio map newydd o’r dopoleg o dan len iâ yr Ynys Las.

Plane flying over crater

Cododd y darganfyddiad hwn ddiddordeb y tîm, a gwnaethon nhw beilota awyren ymchwil dros y rhewlif er mwyn defnyddio radar o'r radd flaenaf i fesur yr iâ, ac roedd y tu hwnt i bob disgwyliad gan ddatgelu crater y gwrthdrawiad yn fanwl iawn.

O ganlyniad i ddadansoddiad cemegol manwl a gyflawnwyd ym Mhrifysgol Caerdydd, llwyddodd yr ymchwilwyr i greu darlun o'r math o wrthrych a allai achosi dinistr enfawr o'r fath drwy fesur y gwaddod o afon sy'n draenio'n syth drwy'r rhewlif.

Yn benodol, roedd yr arbenigwyr yn edrych am arwyddion o blatinwm, paladiwm, rhodiwm ac aur, ymysg metelau eraill, gan y byddai hynny'n awgrymu presenoldeb meteorit.

"Pan ddaeth y canlyniadau o'r dadansoddiad cemegol, roeddent yn sicr yn annisgwyl," esboniodd cyd-awdur yr ymchwil Dr Iain McDonald, o Ysgol Gwyddorau'r Ddaear a'r Môr ym Mhrifysgol Caerdydd.

I ddechrau roedden ni'n meddwl efallai y byddem yn dod o hyd i lofnod meteorit crondritig neu 'garegog' ond roedd yn rhaid mai'r unig esboniad am y patrwm o fetelau y daethom o hyd iddo oedd cymysgedd rhwng y cerrig cramennog yn yr ardal o'i amgylch ac asteroid haearn anarferol.

Dr Iain McDonald Senior Lecturer

Daethpwyd o hyd i nifer o meteoritau haearn, gan gynnwys darn 20 tunnell sydd bellach yn sefyll yn amlwg yng nghwrt yr Amgueddfa Ddaearegol yn Copenhagen, gynt yn yr ardal o gwmpas Cape York heb fod ymhell o safle Hiawatha yng ngogledd Greenland.

Arweiniodd hyn i'r gwyddonwyr gredu bod rhaid bod gwrthdrawiad meteorit wedi digwydd yn rhywle yn yr ardal, ond hyd yma nid oedd gan y tîm dystiolaeth i gefnogi eu damcaniaeth.

"Nid oedd y llofnod a nodwyd gennym yn union yr un fath â'r meteorit haearn a welwyd o'r blaen yn Cape York; fodd bynnag, mae asteroidau haearn yn cynrychioli tameidiau o greiddiau metel y tu mewn i blanetoidau a gafodd eu chwalu'n gatastroffig gan wrthdrawiadau yn ystod hanes cynnar Cysawd yr Haul.

"Yn gemegol, mae ein samplau a'r meteorit haearn yn hynod heterogenaidd ac mae'n debygol eu bod yn cynrychioli tameidiau gwahanol a gafodd eu glynu at ei gilydd gan ddisgyrchiant.  Mae meteoritau haearn rhanedig yn bethau prin ac mae'n bosibl y bydd dod o hyd i ddau ddigwyddiad o'r fath yn agos at ei gilydd yn fwy na chyd-ddigwyddiad.

"Er bod angen mwy o ymchwil, rydym o'r farn ei fod yn bosibl mai rhannau allanol neu hyd yn oed yn gerrig mawrion ar wyneb y prif feteorit yw haearnau Cape York. Rydym yn amau i'r rhain dorri'n rhydd ym maes disgyrchiant y Ddaear ac yna arafu wrth iddynt fynd i mewn i'r atmosffer i gwympo i'r dde o geudwll Hiawatha," parhaodd Dr McDonald.

Crater the size of Paris

Meddai awdur arweiniol yr ymchwil, yr Athro Kurt H. Kjær, o Amgueddfa Astudiaeth Natur Denmarc: "Mae'r crater wedi'i gadw'n eithriadol o dda ac mae hynny'n syndod, oherwydd bod rhew y rhewlif yn erydydd hynod effeithlon a fyddai wedi dileu olion y gwrthdrawiad yn gyflym."

"Y cam nesaf yn yr ymchwiliad fydd mynd ati’n hyderus i bennu dyddiad ar gyfer y gwrthdrawiad. Bydd hyn yn her oherwydd y mae'n debyg y bydd yn gofyn am gael hyd i ddeunydd a oedd wedi toddi yn ystod y gwrthdrawiad yng ngwaelod y strwythur, ond mae hyn yn hollbwysig os ydym i ddeall yr effaith a gafodd gwrthdrawiad Hiawatha ar fywyd ar y Ddaear," parhaodd yr Athro Kjær.

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol wedi ymrwymo i sicrhau’r safonau uchaf mewn ymchwil ac addysg ac – o dan arweiniad ymchwil – i ddarparu amgylchedd cyfoethog ac amrywiol.