Ewch i’r prif gynnwys

Nifer y carcharorion o Gymru sy'n cysgu ar y stryd wrth eu rhyddhau yn fwy na threblu mewn blwyddyn

15 Tachwedd 2023

Mae nifer y bobl sy'n cysgu ar y stryd ar ôl cael eu rhyddhau o'r carchar wedi mwy na threblu yng Nghymru, yn ôl ffigurau newydd gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru, Prifysgol Caerdydd.

Yn ei ffeil ffeithiau Carchardai yng Nghymru, mae data gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn dangos bod 332 o bobl a reolir gan wasanaethau prawf Cymru yn cysgu ar y strydoedd yn 2023, o'i gymharu â 107 yn 2022. Mae hyn yn cyfateb i godiad o 210%.

Yn Lloegr, cynyddodd nifer y bobl sy'n cysgu ar y stryd wrth eu rhyddhau, ac a reolir gan wasanaethau prawf Lloegr, o 159%.

Yr adroddiad hwn yw'r diweddaraf mewn llinell o gyhoeddiadau sy'n canolbwyntio ar system cyfiawnder troseddol Cymru, a ddechreuodd yn 2018, gan dynnu ynghyd wybodaeth a gyhoeddwyd gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder, yn ogystal â data nas gwelwyd o'r blaen a gafwyd gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder drwy Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000.

Mae canfyddiadau pellach yn dangos bod gan Gymru gyfradd carcharu “yng ngwlad” sylweddol uwch na rhannau eraill o'r DU, sef 177 fesul 100,000 o'r boblogaeth. Dilynir hyn gan Loegr (146), Yr Alban (146) a Gogledd Iwerddon (100) .Mae'r cyfrifiad hwn, a gymerwyd o ffigurau 2023, yn seiliedig ar nifer y bobl a gedwir yn y carchar o fewn ffiniau'r wlad honno. *

Mae Cymru'n llawer mwy na'r lefel a gofnodwyd mewn unrhyw wlad arall yng ngorllewin Ewrop.

Ym ngharchardai Cymru, wrth gymharu chwe mis cyntaf 2023 â chwe mis cyntaf 2022, cynyddodd nifer yr ymosodiadau carcharor-ar-garcharor 80%, gydag ymosodiadau ar staff yn codi 43%, a digwyddiadau hunan-niweidio 23%.

Dywedodd awdur blaen yr adroddiad, Dr Robert Jones: “Mae'r canfyddiadau diweddaraf hyn yn cyflwyno darlun digalon o'r system cyfiawnder troseddol yng Nghymru. Wrth iddo wella o bandemig Covid-19, gwelwn barhad ac hefyd ddychwelyd set barhaus o broblemau. Mae diffyg data cyfiawnder Cymru-yn-unig yn parhau i gyflwyno rhwystrau mawr i ddeall a gwella'r sefyllfa ac mae'n dangos bod yr asiantaethau sy'n ffurfiol gyfrifol am gyfiawnder yng Nghymru yn dal i esgeuluso'r cyfle i gymryd Cymru a chyd-destun Cymru o ddifrif.

“Pedair blynedd ers i ni ddatgelu am y tro cyntaf mai Cymru sydd â'r gyfradd garcharu uchaf yng ngorllewin Ewrop, ni wnaethpwyd unrhyw ymgais i gyfrif am y canfyddiad braidd yn syfrdanol hwn. Rydym yn gweld nifer cynyddol o bobl yn gadael y carchar fel rhai sy'n cysgu ar y stryd ac er bod arwyddion o rai gwelliannau mewn lefelau diogelwch ledled Cymru, mae'r data diweddaraf ar gyfer 2023 yn dangos dychwelyd at y problemau a gyrhaeddodd y lefelau uchaf erioed cyn y pandemig. Mae pryderon mawr eisoes y bydd nifer cynyddol o garcharorion yn gwaethygu'r sefyllfa ymhellach.”

Er gwaethaf cynnydd sydyn yn nifer y bobl sy'n cysgu ar y stryd yng Nghymru, mae'r adroddiad yn nodi bod cyfran uwch (53%) o'r rhai a reolir gan wasanaethau prawf Cymru wedi mynd i lety sefydlog ar ôl eu rhyddhau yn 2022/23, o'i gymharu â'r rhai a reolir gan wasanaethau prawf yn Lloegr (48%).

Mewn mannau eraill yn yr adroddiad, ar gyfer pob 10,000 o bobl Dduon sy'n byw yng Nghymru, roedd 53 yn y carchar yn 2022. Mae hyn yn cymharu â chyfradd o 29 fesul 10,000 ar gyfer unigolion o gefndir Cymysg, 20 ar gyfer y rhai o grŵp ethnig Asiaidd, ac 14 ar gyfer Gwyn.

Cafodd un o bob pump (21 y cant) o'r holl fenywod a ddedfrydwyd i ddalfa ar unwaith mewn llysoedd yng Nghymru yn 2022, ddedfrydau o fis neu lai. Yn 2022, roedd 226 o fenywod o Gymru yn y carchar, o'i gymharu â 218 o garcharorion benywaidd o Gymru yn 2021.

Ychwanegodd Dr Jones: “Er gwaethaf ymrwymiadau dro ar ôl tro i leihau nifer y menywod o Gymru yn y carchar gan lywodraethau Cymru a'r DU, mae'r cyfraddau wedi cynyddu'n raddol yn ystod y cwpl o flynyddoedd diwethaf. Gyda dim carchar menywod yng Nghymru, dangoswyd y gall y ddalfa gael goblygiadau aruthrol o ddifrifol ar fenywod a'u teuluoedd. Fel y manylir yn yr adroddiad, ceir pryderon eang eisoes na fydd canolfan breswyl menywod sydd wedi'i chynllunio yn Abertawe yn gwneud fawr ddim i leddfu hynny.

“Mae ein dadansoddiad hefyd yn dangos bod unigolion o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig yn parhau i gael eu gorgynrychioli ymhlith poblogaeth carchardai a phrawf Cymru. O’u cymryd gyda'i gilydd, dylai'r canfyddiadau hyn atgoffa swyddogion y llywodraeth o'r angen brys am newidiadau sylweddol yng nghyfeiriad polisi dedfrydu a pholisi cosbi yng Nghymru yn y dyfodol.”

* Mae'r adroddiad hefyd yn cynnwys cyfradd carcharu Cymru yn seiliedig ar gyfeiriad cartref unigolyn. Y gyfradd ddiweddaraf ar gyfer Cymru, o ffigurau 2022, yw 151 o garcharorion Cymreig fesul 100,000 o boblogaeth Cymru. Mae hyn yn cael ei gymharu â chyfradd o 134 o garcharorion Seisnig am bob 100,000 o boblogaeth Lloegr. Mae gan Gymru hefyd y gyfradd garcharu uchaf yng Ngorllewin Ewrop ar y mesur hwn.

Rhannu’r stori hon

We undertake innovative research into all aspects of the law, politics, government and political economy of Wales, as well the wider UK and European contexts of territorial governance.