Ewch i’r prif gynnwys

Canfod celloedd T mwy effeithiol ymhlith goroeswyr canser

24 Gorffennaf 2023

Professor Andrew Sewell with Research Fellow Garry Dolton in a lab
Yr Athro Andrew Sewell gyda'r Cymrawd Ymchwil Garry Dolton

Mae gwyddonwyr o Brifysgol Caerdydd wedi darganfod celloedd T sy’n fwy effeithiol o ran lladd canser, ymhlith cleifion sydd wedi cael adferiad iechyd llwyr yn dilyn canser solet cyfnod terfynol.

Wedi'i gyhoeddi heddiw yn y cyfnodolyn Cell, darganfu'r ymchwilwyr fod celloedd T trechol sy’n llwyddo i ladd canser yn gallu adnabod sawl targed gwahanol sy'n gysylltiedig â chanser ar yr un pryd.

Hyd yma, roedd gwyddonwyr yn credu mai dim ond un targed ar gelloedd canser yr oedd celloedd T unigol sy’n lladd canser, yn eu gweld.

Mae'r celloedd 'aml-bigyn' a ddarganfuwyd gan y tîm yn wahanol i'r rhai a astudiwyd yn flaenorol ac mae ganddynt briodweddau mwy effeithiol, sy'n caniatáu iddynt ymosod ar ganser mewn sawl modd ar yr un pryd.

Beth wnaeth tîm ymchwil Caerdydd?

Edrychodd yr ymchwilwyr ar gleifion â chanser solet cam hwyr a gafodd therapi TIL (lymffosytau sy’n ymdreiddio i diwmor) yn y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Therapi Imiwnedd Canser yn Herlev, Denmarc (CCIT-DK). Golyga therapi TIL gymryd celloedd gwaed gwyn (lymffosytau) o diwmor claf, eu tyfu mewn niferoedd mawr mewn labordy, a’u rhoi yn ôl i'r claf i helpu'r system imiwnedd i ladd y celloedd canser. Mae CCIT-DK wedi arloesi therapi TIL yn Ewrop.

Mewn treial clinigol cam I/II a gynhaliwyd dros y degawd diwethaf, rhoddwyd therapi TIL i 31 o gleifion. Roedd pob un o'r celloedd TIL a roddwyd i'r cleifion hyn yn gelloedd T.

Yna arhosodd y tîm i weld pa rai o'r cleifion y bu i’w hiechyd adfer yn llwyr yn dilyn y canser a chanolbwyntio arnynt.

Yna, fe wnaethant herio celloedd gwaed y cleifion hyn â samplau wedi’u stori o gelloedd tiwmor y cleifion eu hunain i weld pa gelloedd T a ymatebodd.

Canfuwyd bod y sawl a oroesodd y canser yn dal i ddangos ymatebion cryf iawn i'w canser eu hunain gan gelloedd T sy’n lladd canser, a hynny dros flwyddyn ar ôl adfer eu hiechyd yn dilyn y canser.

Aeth yr ymchwilwyr ymlaen wedyn i nodi sut roedd y celloedd T hyn sy’n lladd canser yn wahanol i’r celloedd canser a chelloedd normal.

Artist's impression of T-cells

canser-benodol yn ei adnabod yn seiliedig ar yr hyn yr oedd y celloedd T yn ymateb iddo a pha broteinau yr oeddem yn gwybod eisoes eu bod yn wahanol i gelloedd iach a chelloedd canser.

Bu iddynt ganfod bod y celloedd T 'aml-bigyn' newydd yn gallu adnabod newidiadau lluosog mewn proteinau y tu mewn i gelloedd canser. Ar y cyfan, daethant o hyd i'r celloedd T 'aml-bigyn' hyn ymhlith sawl person sydd wedi goroesi canser.

Dywedodd yr Athro Andy Sewell o Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd a arweiniodd yr ymchwil: “Roeddem am wybod sut y bu’n bosib i rai cleifion â chanser cyfnod terfynol a oedd wedi cael eu trin â therapi TIL weld eu hiechyd yn adfer yn llwyr yn dilyn eu canser, felly aethom i chwilio am atebion.

“Trwy edrych ar waed pobl oedd wedi cael adferiad llwyr o ran eu hiechyd yn dilyn therapi TIL, bu’n bosib i ni ddod o hyd i’r celloedd T oedd yn llwyddo i wneud hyn. Fe wnaethon ni eu profi gyda chanser y person ei hun, canser gan gleifion eraill yn ogystal â mathau eraill o ganser.

“Fe gawsom ni’n synnu’n fawr gan ein canfyddiadau gan nad oedd neb yn gwybod y gallai celloedd T unigol adnabod celloedd canser trwy nifer o wahanol broteinau sy’n gysylltiedig â chanser, ar yr un pryd."

“Dangoswyd bod gan berson oedd wedi goroesi canser gelloedd T aml-bigyn sy’n gallu lladd celloedd canser, sy’n sylweddol fwy effeithiol o ran adnabod canser na chelloedd T gwrth-ganser arferol sy’n lladd canser.

“Yn ogystal, roedd y gallu i ymateb ar yr un pryd i broteinau lluosog sy’n gysylltiedig â chanser yn golygu y gallai’r celloedd T hyn ymateb i’r rhan fwyaf o fathau o ganser gan mai dim ond un o’r targedau afreolaidd oedd angen i ganserau eu dangos er mwyn cael eu hadnabod yn rhai peryglus a’u lladd.

“Yn bwysig, rydym wedi gweld niferoedd mawr o gelloedd T aml-bigyn yng ngwaed goroeswyr canser. Hyd yma nid ydym wedi  canfod celloedd T aml-bigyn o'r fath ymhlith pobl lle mae canser yn gwaethygu. Mae niferoedd cleifion yn fach hyd yn hyn, ond mae’n dal yn bosibl y gallai celloedd T aml-bigyn fod yn gysylltiedig â gwellhad llwyr – neu ar gael gwared yn llwyr ar y canser.”

Beth sydd nesaf i'r tîm ymchwil?

Er bod yr astudiaeth newydd yn dangos y gall celloedd T unigol ymhlith goroeswyr canser adnabod sawl targed gwahanol ar yr un pryd a lladd ystod eang o ganserau, bydd angen gwneud rhagor o waith ar garfannau mwy o gleifion i gysylltu celloedd T aml-bigyn yn derfynol â chael gwared ar ganser.

Mae rhagweld yn llwyddiannus yr hyn y mae cell-T yn ei adnabod yn un o'r Heriau Mawr ym maes Canser ac mae gan hyn y potensial i wella triniaeth canser yn sylweddol yn y dyfodol drwy ganiatáu inni ddeall yr hyn y mae celloedd T gwrth-ganser ymhlith cleifion a gawsant adferiad iechyd llwyr yn dilyn eu canser, yn ei adnabod mewn gwirionedd.

Professor Andrew Sewell

Dyma a ddywedodd yr Athro Sewell: “Mae’r ymchwil hwn yn gwella ein gwybodaeth am rôl y system imiwnedd mewn canser, ac er bod angen gwneud mwy o waith, mae’n gam cadarnhaol yn natblygiad imiwnotherapïau i drin canser yn y dyfodol.”

Dywedodd Dr Garry Dolton, sy'n un o brif awduron yr erthygl: “Erbyn hyn rydym wedi gweld celloedd T aml-bigyn ymhlith nifer o oroeswyr canser, felly bydd archwilio a yw'r celloedd hyn yn gysylltiedig â phrognosis da yn gam nesaf allweddol.

“Y tu hwnt i hynny, gallwn gynhyrchu’r math hwn o gell T trwy ddulliau’n ymwneud a geneteg yn y labordy. Felly, rydym yn gobeithio ymchwilio i weld a ellir defnyddio celloedd T aml-bigyn wedi'u cynhyrchu, i drin ystod eang o ganserau mewn ffordd debyg i'r ffordd y mae celloedd T sy’n Dderbynyddion Atigenau Cimerig (CAR-T) sydd wedi’u cynhyrchu yn cael eu defnyddio nawr i drin rhai mathau o lewcemia. Mae’r ymchwil honno rai blynyddoedd i ffwrdd eto, ond rydym wedi ein calonogi gan ein canfyddiadau hyd yn hyn.”

Mae'r ymchwil Targeting of Multiple Tumor-Associated Antigens by Individual T-cell Receptors During Successful Cancer Immunotherapy wedi’i gyhoeddi yn y cyfnodolyn Cell ac fe'i hariannwyd gan Wellcome a sefydliadau o Ddenmarc. Roedd ymchwilwyr ym Mhrifysgol Warwick ac Ysbyty Herlev yn Copenhagen ynghlwm â’r gwaith.