Bydd cymunedau gwledig anghysbell yn Nepal yn cymryd rhan mewn astudiaeth ar gynnyrch y mislif sy’n hunan-lanhau
7 Rhagfyr 2023
Bydd nwyddau’r mislif sy’n hunan-lanhau ac a fwriedir i ladd hyd at 99.999% o facteria pan fyddan nhw’n dod i gysylltiad â’r haul yn cael eu dosbarthu mewn cymunedau gwledig diarffordd yn Nepal.
Bydd tri chant pad y gosodir ffabrig ynddyn nhw ac a ddatblygodd gwyddonwyr Prifysgol Caerdydd yn cael eu dosbarthu’n rhan o raglen o dreialon yn y maes a ariennir gan Sefydliad Bill a Melinda Gates.
Mae'r ffabrig, sy'n cynnwys catalyddion metel nad ydyn nhw’n wenwynig, yn defnyddio ynni'r haul i ladd bacteria, cael gwared ar staeniau a niwtraleiddio aroglau. Y cwbl sydd ei angen yw ei rinsio â dŵr ac yna ei adael i sychu yn yr haul am 15 munud i gwblhau'r broses lanhau a diheintio.
Bydd y tîm o ymchwilwyr yn Ysgol Cemeg, Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol a Meddygaeth y Brifysgol yn cymharu eu padiau prototeip â phadiau y gellir eu hailddefnyddio a’u golchi o’r newydd ac sydd eisoes yn cael eu defnyddio ar draws y rhanbarth ac y bydd partneriaid elusennol y prosiect yn eu cyflenwi’n rheolaidd.
Dyma a ddywedodd Dr Jennifer Edwards, arweinydd y prosiect yn Ysgol Cemeg Prifysgol Caerdydd: "Rydyn ni wedi llwyddo i ddeall yn drylwyr sut mae'r ffabrig yn gweithio yn ein labordai ar ôl dwy flynedd o ymchwil a datblygu dwys. Bellach, mae'n bryd mynd â'r cynnyrch i gymunedau yn y byd go iawn lle mae ganddo’r potensial i wneud gwahaniaeth drwy leihau'r risg o heintiau atgenhedlu a'r llwybr wrinol."
Yn gynharach eleni, teithiodd y tîm i Nepal lle amcangyfrifir bod hyd at hanner y gweithwyr amaethyddol benywaidd yn dioddef o heintiau troethgenhedol ar unrhyw adeg benodol.
Yn y de byd-eang, mae heintiau troethgenhedol yn aml yn gysylltiedig ag iechyd a deilliannau atgenhedlu gwael, gan gynnwys camesgor. Maen nhw hefyd yn gysylltiedig â deilliannau cymdeithasol negyddol eraill, gan gynnwys absenoldeb o'r ysgol neu'r gwaith.
Bydd yr astudiaeth chwe mis yn chwilio am adborth gan y sawl a gymerodd ran am eu profiadau o ddefnyddio'r padiau.
Bydd y tîm ymchwil hefyd yn cynnal dadansoddiad cemegol a microbiolegol manwl o badiau yn dilyn sawl mis o ddefnydd arferol gan y sawl a oedd yn cymryd rhan.
Bydd y ddau weithgarwch yn cyfrannu at ddatblygu’r cynnyrch arloesol hwn.
Dyma a ddywedodd yr Athro Jean-Yves Maillard, cyd-arweinydd prosiect Ysgol Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol y Brifysgol: "Mae’r prosiect hwn yn dangos arloesi ar ei orau, sef cyflwyno technoleg gwrthficrobaidd newydd a hynod bwerus i'r byd sydd â’r potensial i fod o fudd i filiynau o fenywod ledled y byd."
Ychwanegodd Dr Edwards: "Bydd y treialon yn y maes yn ein helpu i ddysgu am batrymau defnydd yn y rhanbarth, gan gynnwys golchi a sychu, ac, yn enwedig, y sensitifrwydd diwylliannol sydd hwyrach yn gysylltiedig ag iechyd a hylendid y mislif.
"Byddwn ni hefyd yn casglu data ar sut mae ein cynnyrch yn ymateb i'r micro-organebau a geir yn Nepal i sicrhau bod ein prototeip yn effeithiol yn erbyn sbectrwm eang o bathogenau."
Gan weithio gyda'r Ganolfan Ymchwil Treialon (CTR) ym Mhrifysgol Caerdydd, arbenigwyr ymchwil ym Mhrifysgol Tribhuvan a’r sefydliad anllywodraethol Global Action Nepal, nod y tîm yw deall yn well anghenion defnyddwyr mewn gwledydd incwm isel a chanolig lle mae cael gafael ar gynnyrch mislif unwaith yn unig yn gostus ac yn gyfyngedig.
Dyma a ddywedodd Dr David Gillespie, Cyfarwyddwr Treialon Heintiau, Llid ac Imiwnedd yn y Ganolfan: "Rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr at gefnogi'r astudiaeth hon ar iechyd byd-eang drwy gynnig ein harbenigedd ar gyfer y gwerthusiad hwn yn y fan a’r lle.
"Dylai gwerthusiadau cadarn, gan gynnwys astudiaethau dichonoldeb a gwaith peilot, fod wrth wraidd pob arloesi fel hyn, ac rydyn ni’n awyddus i weld beth fyddwn ni’n ei ddysgu yn sgil y treial hwn i wella yn y pen draw y ffordd y byddwn ni’n ehangu’r prosiect."
Ychwanegodd Rebecca Milton, Cydymaith Ymchwil/Rheolwr Treialon yn y Ganolfan: "Mae meithrin gwaith ar y cyd rhwng cyrff anllywodraethol, ymchwilwyr, academyddion a hyrwyddwyr cymunedol yn Nepal yn hollbwysig i sicrhau llwyddiant yr astudiaethau ymchwil hyn.
"Rydyn ni’n awyddus i ddysgu gan ein partneriaid yn Nepal ac i rannu arferion gorau ar hyd y ffordd. Bydd hyn yn sicrhau hirhoedledd cynnyrch mislif sydd â'r potensial i wella ansawdd bywyd menywod yn y rhanbarth hwn."
Bydd y rhaglen o astudiaethau yn y maes hefyd yn cynnwys grwpiau ffocws a gweithdai mewn cymunedau sy’n derbyn cymorth cyrff anllywodraethol a hyrwyddwyr cymunedol, er enghraifft Krishna Poudel, ‘dyn lleol y padiau’ sy'n gweithgynhyrchu padiau, yn rhoi addysg mewn ysgolion sy'n ymwneud ag iechyd a hylendid y mislif ac yn dysgu menywod a merched sut i wneud eu cynnyrch traddodiadol eu hunain.
Yn sgil y sesiynau hyn, bydd y tîm yn gallu dangos sut i ddefnyddio'r cynnyrch tra’n dysgu hefyd am y ffactorau cymdeithasol, economaidd, diwylliannol ac amgylcheddol sy'n ymwneud â’r mislif yng nghefn gwlad Nepal.
Roedd Dr Edwards a Dr Pascoe yn un o 11 tîm prosiect a ddewiswyd i gyflwyno eu hymchwil gerbron Bill Gates yn ystod sesiwn bosteri yng Nghyfarfod Blynyddol Heriau Mawr ym mis Hydref.
O dan thema gyffredinol "Science Saves Lives," cynhaliwyd cyfarfod eleni yn Dakar, Senegal ac ystyriodd sut y gall y gymuned iechyd fyd-eang ehangu ffiniau gwyddoniaeth ac arloesi er mwyn achub a gwella bywydau.
Ychwanegodd Dr Pascoe: "Mae ein hymchwil yn treiddio’n ddwfn i galon yr her fyd-eang hon." Roedd yn bleser cael tynnu sylw at y cynnydd mawr a wnaethom yng Nghyfarfod Blynyddol Heriau Mawr — sef dangos sut yr aethon ni ati i ddylunio cynnyrch mislif sy’n ddiogel, yn economaidd hygyrch ac yn amgylcheddol gynaliadwy."