Ewch i’r prif gynnwys

Canolfan ymchwil dementia £13m

20 Ebrill 2017

Tu allan i adeilad Hadyn Ellis
Tu allan i adeilad Hadyn Ellis

Bydd gan Brifysgol Caerdydd rôl bwysig ym menter ymchwil fwyaf y DU ym maes dementia drwy lansio canolfan ymchwil dementia £13m.

Gyda’r posibilrwydd o gael £17m yn rhagor o arian ymchwil dros y pum mlynedd nesaf, y ganolfan newydd ym Mhrifysgol Caerdydd fydd y buddsoddiad mwyaf erioed mewn astudiaethau gwyddonol ym maes dementia yng Nghymru.

Ganfod, trin ac atal dementia

Bydd y ganolfan ymchwil newydd yn un o chwe chanolfan yn y DU ac felly’n rhan bwysig o Sefydliad Ymchwil Dementia y DU (UK DRI). Menter newydd gwerth £250m yw’r sefydliad hwn sydd wedi’i ariannu gan y Gymdeithas Ymchwil Feddygol, Cymdeithas Alzheimer ac Ymchwil Alzheimer y DU. Ei nod yw canfod ffyrdd o ganfod, trin ac atal dementia a gofalu am bobl sy’n dioddef o’r cyflwr. Mae’r canolfannau newydd yn fuddsoddiad pwysig gan UK DRI gan fod cyfanswm o £55m yn cael ei roi i ganolfannau ar gyfer rhaglenni sylfaen ac adnoddau.

Julie Williams
Professor Julie Williams

Yr Athro Julie Williams, Prif Gynghorydd Gwyddonol Llywodraeth Cymru ac Athro Geneteg Niwroseicolegol ym Mhrifysgol Caerdydd, fydd yn arwain y ganolfan newydd.

Bydd hefyd yn Gyfarwyddwr Cyswllt i Sefydliad Ymchwil Dementia DU. Dywedodd: “Bydd UK DRI ym Mhrifysgol Caerdydd yn gam enfawr ymlaen o ran ein helpu i ddeall y clefydau cymhleth hyn a chynhyrchu triniaethau newydd ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol...”

“Mae bod yn rhan o’r tîm sy’n arwain UK DRI ac arwain grŵp o wyddonwyr rhagorol ac ymroddgar yn gyfle hynod gyffrous.”

Yr Athro Julie Williams Professor of Neuropsychiatric Genetics & Genomics

Dywedodd yr Athro Colin Riordan, Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd: “Yng Nghymru y ceir y cyfraddau gwaethaf yn y DU ar gyfer canfod dementia. Mae hyn yn effeithio ar y gefnogaeth a roddir i’r unigolion sydd wedi’u heffeithio, a’u teuluoedd...”

“O ystyried y cyd-destun cenedlaethol hwn, a baich dementia ar draws y byd, mae Prifysgol Caerdydd wedi gwneud ymchwil ynghylch dementia yn flaenoriaeth strategol ac yn gonglfaen o'n Strategaeth Arloesedd Clinigol gyda'r GIG.”

Yr Athro Colin Riordan Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd

“Drwy lansio canolfan newydd DRI UK ym Mhrifysgol Caerdydd, byddwn yn adeiladu ar y sylfaen gadarn hon i ganfod ffyrdd newydd o fynd i’r afael â dementia.”

Bydd hyd at 60 o ymchwilwyr gwyddonol yn cael eu cyflogi yn y ganolfan yng Nghaerdydd dros y pum mlynedd nesaf, a’u nod fydd deall hanfodion y clefyd a datblygu therapïau newydd. Disgwylir i raglen datblygu ymchwil arwain at gynnydd yn nifer y staff gwyddonol wrth iddi ehangu ar ôl y cyfnod cychwynnol pum mlynedd o hyd.

Bydd y Ganolfan yn adeiladu ar lwyddiant Canolfan y Cyngor Ymchwil Feddygol ar gyfer Geneteg Niwroseiciatrig a Genomeg ym Mhrifysgol Caerdydd, a bydd yn defnyddio’r dros 30 o enynnau sydd wedi’u canfod gan wyddonwyr yng Nghymru sy’n cyfrannu at naill ai glefydau Alzheimer neu Huntington.

“Enw da rhyngwladol”

Ychwanegodd yr Athro Bart De Strooper, Cyfarwyddwr UK DRI: “Y weledigaeth a rennir rhwng y canolfannau fydd wrth wraidd llwyddiant DRI, a’r creadigrwydd hwn fydd yn ein helpu i ddeall dementia mewn gwirionedd a sut mae gwahanol fathau o’r clefyd yn datblygu. Fe ddewiswyd y canolfannau gennym ar sail gwyddoniaeth arloesol a rhagorol, tystiolaeth o arweiniad cadarn, sut maent yn cyd-fynd â nodau DRI yn gyffredinol, a’u gallu i dyfu a chydweithio wrth i waith y sefydliad fynd o nerth i nerth.

“Bydd pwyslais Prifysgol Caerdydd ar imiwnedd cynhenid yn ein galluogi i gael dealltwriaeth ehangach o effaith aflonyddgar dementia. Mae gan yr Athro Williams enw da rhyngwladol am ei brosiectau genetig graddfa fawr. Ochr yn ochr â’r posibilrwydd o gymhwyso rhaglenni ei thîm, mae cyfle cyffrous i ddatblygu yn y ganolfan hon.”

Hadyn Ellis Building

Bydd UK DRI yn ategu gwaith Canolfan y Cyngor Ymchwil Feddygol ar gyfer Geneteg Niwroseiciatreg a Genomeg ym Mhrifysgol Caerdydd, Sefydliad Ymchwil Niwrowyddorau ac Iechyd Meddwl, Sefydliad Ymchwil Imiwnedd Systemau, Canolfan Ymchwil Delweddu'r Ymennydd Prifysgol Caerdydd (CUBRIC), Uned Atgyweirio’r Ymennydd a Niwrotherapiwteg Mewngreuanol Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, a Rhwydwaith Ymchwil Dementia Prifysgol Caerdydd. Bydd adeilad Hadyn Ellis y Brifysgol yn cael ei adnewyddu i fod yn gartref ar gyfer y ganolfan newydd.

“Wella bywydau pobl”

Dywedodd y Gweinidog Gwyddoniaeth, Jo Johnson: “Mae dementia yn effeithio ar filiynau o bobl ledled y byd, ond gallwn wella bywydau pobl yn sylweddol drwy ddeall y clefyd yn well.

“Mae’r cyhoeddiad heddiw am leoliadau canolfannau’r sefydliad yn dangos y cyfoeth o wybodaeth ac arbenigedd ymchwil sydd yn y DU a sut gallwn fod ar flaen y gad wrth ddatblygu triniaethau newydd i fynd i’r afael â’r clefyd hwn...”

“Dyma’n union y math o brosiect fydd yn sail ar gyfer ein Strategaeth Ddiwydiannol i wneud yn siŵr bod y DU yn parhau i arwain ym maes gwyddoniaeth y byd.”

Jo Johnson Gweinidog Gwyddoniaeth

Bydd y canolfannau eraill yng Ngholeg Prifysgol Llundain (pencadlys DRI), Prifysgol Caergaint, Prifysgol Caeredin, Coleg Imperial Llundain a Choleg y Brenin Llundain.

Rhannu’r stori hon

Creu newid sylweddol i gyflymu'r ffordd gall arloesedd clinigol wella gwasanaethau iechyd.