Sganiwr dementia arloesol i gael ei gyflwyno ledled Cymru
20 Mai 2021
Mae sganiwr a ddefnyddir i ganfod rhai o'r mathau cynharaf o ddementia ac anoddaf eu diagnosio, i gael ei gyflwyno ledled Cymru.
Daw ar ôl peilot llwyddiannus rhwng Canolfan Ymchwil Cymru a Delweddu PET Diagnostig Prifysgol Caerdydd yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan a Choleg Brenhinol y Seiciatryddion yng Nghymru.
O'r wythnos hon bydd y dechnoleg ar gael ar draws yr holl fyrddau iechyd - a'r gobaith yw y bydd yn helpu i wella cywirdeb diagnosis a lleihau rhestrau aros a gronnwyd yn ystod y pandemig COVID-19.
Mae sganiau Tomograffeg Allyriadau Positron (PET) - gan ddefnyddio cyffur olrhain ymbelydrol - yn dangos sut mae'ch meinweoedd a'ch organau'n gweithredu. Mewn dementia, gall y sgan ddatgelu rhannau o'r ymennydd sydd â llai o swyddogaeth mewn pobl y tybir bod ganddynt y cyflwr ond nad oes ganddynt lawer o symptomau.
Mae'r dechneg yn caniatáu i gleifion a'u teuluoedd dderbyn diagnosis cynharach a mwy diffiniol, ynghyd â'r cyfle i gael triniaeth gynharach ac ymyriadau seicolegol a ffordd o fyw mwy priodol.
Dywedodd yr Athro Christopher Marshall, Cyfarwyddwr canolfan ddelweddu'r Brifysgol: “Mae’r data o ansawdd uchel a gafwyd gan Brifysgol Caerdydd a Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn ystod y prosiect peilot wedi galluogi Pwyllgor Gwasanaeth Arbenigol Iechyd Cymru i gymeradwyo defnyddio’r prawf hwn yn rheolaidd mewn sganwyr PET ledled Cymru.”
Yn flaenorol mae Cymru wedi llusgo ar ôl gweddill y DU o ran gwneud diagnosis o ddementia; credir bod tua 47% o bobl yn byw gyda'r cyflwr ond heb gael diagnosis.
Nawr, bydd mynediad at sganiau PET ar gyfer dementia ar gael ledled Cymru - gan helpu i glirio peth o'r ôl-groniad o gleifion sy'n aros am ddiagnosis oherwydd y pandemig.
Daw newyddion am y cyflwyniad yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth Dementia ac ar gefn buddsoddiad £10 miliwn llywodraeth Cymru yn y Cynllun Gweithredu Dementia yn 2018.
Dywedodd Dr Chineze Ivenso, cadeirydd y Gyfadran Henoed, Coleg Brenhinol y Seiciatryddion yng Nghymru: “Mae hon yn foment falch i bawb sy’n ymwneud â’r prosiect arloesol hwn o’r dechrau. Mae'n wir yn newyddion gwych i'm cleifion yn ogystal â'u teuluoedd.
“Nid yw’n hawdd byw gyda dementia ond mae diagnosis cynnar yn helpu i reoli’r cyflwr. Cael y cymorth sydd ei angen ar bobl, yn gyflym. Am amser hir, roedd Cymru y tu ôl i'r gromlin o ran diagnosio dementia. Bellach, ni sydd ar y blaen.”
Mae Sue Wigmore yn gweithio yn y Gymdeithas Alzheimer. Cafodd ei thad Mike Runnalls, 88, sgan PET yn ddiweddar a chafodd ddiagnosis o ddementia.
“Fel teulu, roedd yn bwysig i ni fod dad wedi cael y diagnosis cynnar hwnnw i’w alluogi i gael gafael ar feddyginiaeth a chefnogaeth briodol fel y gallem ni ei helpu i reoli’r cyflwr a chynllunio ar gyfer y dyfodol gyda’n gilydd,” meddai.