Ewch i’r prif gynnwys

Bywyd myfyriwr meddygol ym Mhrifysgol Caerdydd

Rydym o'r farn ein bod ymhlith yr ysgolion meddygaeth gorau yn y DU. Mae ein myfyrwyr yn cytuno hefyd.

Gwyliwch fideo Saesneg lle mae ein myfyrwyr meddygaeth yn trafod eu profiadau ym Mhrifysgol Caerdydd.

Beth sy'n ein gwneud ni'n arbennig?

Boddhad myfyrwyr

Mae boddhad myfyrwyr yn bwysig i ni ac rydym yn annog ein myfyrwyr i siarad â ni. Rydym yn gweithio'n agos gyda'n MedSoc, a chyda myfyrwyr unigol, yn datblygu'r cwrs yn gyson i wella profiad myfyrwyr ac i fodloni'r rhan fwyaf o anghenion presennol y GIG.

Dysgu ar leoliad clinigol trwy Gymru gyfan

Mae Cymru yn wlad mor brydferth ac fel rhan o'r cwrs rydych yn cael y cyfle i ymarfer mewn amrywiaeth eang o gymunedau.

Zoe Candlish, un o raddedigion Prifysgol Caerdydd

Mae gennym bartneriaethau ar draws y wlad sy'n golygu bydd Cymru gyfan yn ystafell ddosbarth i chi os ydych chi'n dewis astudio gyda ni.

Cewch brofiadau amrywiol a allai gynnwys ymdrin ag amddifadedd dinesig i ddelio gydag anhwylderau sy'n gysylltiedig ag amaethyddiaeth. Tra eich bod yn profi bywyd mewn prifddinas fywiog, byddwch hefyd yn cael y cyfle i ymarfer meddygaeth mewn lleoedd gwyliau, cymunedau gwledig tawel a threfi ôl-ddiwydiannol.

Mae prosiect cyffrous ar y cyd â Phrifysgol Aberystwyth yn caniatáu i fyfyrwyr wneud cais i dreulio eu trydedd flwyddyn yn aelod gweithredol o dîm meddygfa deuluol yng Ngorllewin Cymru.

Os cewch eich derbyn i’n cynllun Addysg Gymunedol a Gwledig (LLAW), byddwch yn treulio Blwyddyn tri yn rhan werthfawr o dîm gofal sylfaenol cymuned wledig.

Rhai o'n myfyrwyr LLAW yn mwynhau tirwedd hardd gorllewin Cymru.
Rhai o'n myfyrwyr LLAW yn mwynhau tirwedd hardd gorllewin Cymru.

Byddwch yn cyflawni'r un canlyniadau dysgu â myfyrwyr ar brif raglen C21, ond mewn ffordd wahanol: byddwch yn dysgu oddi wrth eich cleifion a'ch tîm clinigol, gyda chefnogaeth lawn gan Brifysgol Caerdydd a goruchwyliwr addysgol clinigol lleol.

Mae'r lleoliad clinigol blwyddyn o hyd hwn yn rhoi amser i chi ddod i adnabod eich cleifion yn dda, ac i gael profiad o’r hyn sydd ar gael, a hynny o bersbectif gweithiwr gofal iechyd proffesiynol ac unigolyn, i glinigwyr y mae'n well ganddynt gyflymder bywyd o fath gwahanol.

Edrychwch ar blogiau LLAW i gael rhagor o wybodaeth gan y myfyrwyr sy’n cymryd rhan.

Cynnwys cleifion a'r cyhoedd

Credwn yn gryf bod cleifion yn ganolog i addysg feddygol.

O'r cychwyn cyntaf bydd eich astudiaethau'n canolbwyntio ar gleifion a'u hanhwylderau. Byddwch yn dysgu am gyflyrau meddygol cyffredin gan gleifion go iawn yn ogystal â'u meddygon, mewn cyfleusterau dilys sydd ag offer o'r safon uchaf.

Byddwch yn dysgu am y wyddoniaeth feddygol sy'n ymateb i'r clefydau hyn, ond hefyd am ochr ddynol meddygaeth: i ddeall ac i helpu'r bobl sy'n byw gyda'r clefydau ac yn dioddef o'u herwydd.

Fideo yn dangos y cyfraniad gwerthfawr mae cleifion a'r cyhoedd wedi'i wneud i'r profiad dysgu.

Dysgu rhyngbroffesiynol

Rydym hefyd wedi cyflwyno dysgu rhyngbroffesiynol lle byddwch chi'n dysgu ochr yn ochr â myfyrwyr gydag arbenigeddau fel Fferylliaeth ac Optometreg. Bydd hyn yn eich galluogi chi i ddysgu amrywiaeth ehangach o sgiliau clinigol a chael y canlyniadau gorau i'ch cleifion.

Ym mlwyddyn 2, byddwch hefyd yn dysgu ddoctoriaid a pharafeddygon am sut i ymateb i argyfwng drwy gymryd rhan mewn sefyllfa sy'n ail greu damwain ffordd wledig realistig.

Pwyslais ar sgiliau clinigol

Wrth i chi symud ymlaen drwy'r rhaglen fe welwch fod pwyslais cynyddol ar gaffael sgiliau clinigol, i ddechrau mewn amgylchedd efelychu gan symud ymlaen i leoliadau clinigol estynedig gyda chyfrifoldeb cynyddol mewn ysbytai a lleoliadau cymunedol ledled Cymru.

Fideo o daith rithwir o gwmpas y Ganolfan Sgiliau Clinigol

Drwy gydol y cwrs, disgwylir i chi arddangos priodoleddau proffesiynol meddygon dan hyfforddiant.

Dysgu ar sail achosion (CBL)

Mae ein hymagwedd dysgu ar sail achosion yn cadw'r claf yng nghanol eich astudiaethau.

Myfyrwyr yn gwneud hyfforddiant sgiliau clinigol.
Myfyrwyr yn gwneud hyfforddiant sgiliau clinigol.

Drwy ddysgu mewn grwpiau bychan, darlithoedd sydd wedi'u cydlynu, lleoliadau clinigol, hyfforddiant sgiliau clinigol ac astudio hunan-gyfeiriedig, rydym yn cyfuno amrywiaeth o ddisgyblaethau er mwyn integreiddio gwyddoniaeth, gwyddoniaeth cymdeithasol ac ymarfer clinigol.

Rydym yn canolbwyntio arnoch chi ac ar eich addysg: byddwn yn eich cefnogi wrth i chi gymryd mwy o gyfrifoldeb dros eich dysgu. Byddwn yn eich annog hefyd i weithredu ar eich liwt eich hun i fanteisio ar y cyfleoedd a'r profiadau fydd ar gael i chi fel myfyriwr ac fel meddyg wedi hynny.

Sbiral arloesol

Yn ystod pob blwyddyn astudio, byddwch yn ailedrych ar broblemau clinigol cyffredin ac adeiladu ar beth rydych wedi dysgu eisoes. Mae hyn yn golygu bydd hi'n haws cofio gwybodaeth newydd a'i rhoi mewn cyd-destun clinigol pan rydych yn gweld cleifion.

Addysgu a arweinir gan ymchwil

Bydd gwaith ymchwil gwyddonol yn mynd yn ei flaen drwy'r holl Ysgol. Bydd llawer o'ch athrawon eu hunain yn ymchwilwyr sydd ag enw da yn rhyngwladol.

Cewch y cyfle i gyfrannu os hoffech gymryd mantais o hynny. Mae cymryd rhan mewn ymchwil yn rhoi mewnwelediad gwych i chi o'r wyddoniaeth sydd y tu ôl i'r feddygaeth ac yn hogi eich sgiliau academaidd yn ogystal.

Cewch ddigonedd o gyfloedd i wneud ymchwil ac mae'r aelodau staff yn gyfeillgar a chefnogol. Mae'n amgylchedd gwych i hyfforddi ynddo.

Mike Atkinson, dosbarth 2014

Yn Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil y Llywodraeth yn 2014, daeth Prifysgol Caerdydd yn 5ed yn y DU am ansawdd ei hymchwil.

Byddwch chi'n cael y cyfle i siarad gyda'r ymchwilwyr hyn ac i gael mynediad i'w cyfleusterau clinigol a dysgu gwaith hefyd.

Cewch y cyfle hefyd i ddysgu'r sgiliau cyfathrebu holl bwysig hynny sydd yn angenrheidiol i lwyddo fel meddyg.

Harmoneiddio

Mae gennym flwyddyn olaf arloesol sy'n helpu gyda'r pontio o fyfyriwr meddygol i feddyg y GIG.

Cymryd y cam olaf rhwng myfyriwr a doctor y GIG.
Cymryd y cam olaf rhwng myfyriwr a doctor y GIG.

Gyda'ch arholiadau terfynol wedi'u cyflawni cyn i chi ddechrau blwyddyn pump, dyma'r flwyddyn lle gallwch ganolbwyntio ar ymarfer fel meddyg. Byddwch yn treulio llawer o'ch amser mewn ysbytai ac yn y gymuned, gyda gartref lleoliad clinigol dewisol blwyddyn olaf neu dramor fydd yn eich galluogi i ddatblygu yn y maes sydd o ddiddordeb arbennig i chi.

Bydd eich lleoliad olaf yn dilyn meddyg sylfaen, a'r swydd hon byddwch chi'n ei chymryd unwaith i chi raddio os ydych chi'n dewis aros yng Nghymru. Mae hyn yn golygu nad yw eich diwrnod cyntaf fel 'FYI' yn ddechrau swydd newydd frawychus, ond yn rôl gyfarwydd rydych yn dychwelyd iddi mewn lle adnabyddus gyda phobl rydych yn eu hadnabod eisoes.

Darganfod mwy am astudio Meddygaeth

Close up of students' faces

Meddygaeth

Diddordeb mewn bod yn feddyg? Mae gennym lawer o wybodaeth ddefnyddiol am astudio Meddygaeth ym Mhrifysgol Caerdydd i’ch rhoi ar ben ffordd.