Graddau Ymsang
Bydd gradd ymsang yn mynd â chi’n llawer dyfnach i un o feysydd penodol meddygaeth, ac ar ddiwedd y daith bydd gennych chi BSc.
Yn ystod blwyddyn ymsang, byddwch chi’n cwblhau gradd BSc mewn pwnc meddygol cysylltiedig. Gallwch chi wneud hyn ar ôl y drydedd flwyddyn neu’r bedwaredd flwyddyn yn eich astudiaethau MBBCh.
Mae tua 100 o fyfyrwyr yn astudio graddau ymsang bob blwyddyn. Mae’r rhan fwyaf ohonyn nhw’n astudio cyrsiau BSc ym Mhrifysgol Caerdydd neu ym Mhrifysgol Bangor, lle mae gennym gysylltiadau agos.
Y rhesymau dros astudio gradd ymsang
Ymhlith manteision cwblhau gradd ymsang y mae’r canlynol:
- astudio maes diddordeb yn fanylach na’r hyn a gwmpesir gan radd Meddygaeth
- gwneud darn gwreiddiol o ymchwil
- gwella eich sgiliau trosglwyddadwy sy'n gysylltiedig ag ymchwil. Bydd hyn yn fanteisiol ichi mewn gyrfaoedd academaidd a chlinigol
- datblygu gwybodaeth ddamcaniaethol sylfaenol a rhwydweithiau ymchwil posibl, ar gyfer MD neu PhD mewn maes arbenigol penodol yn y dyfodol
O ystyried bod blwyddyn ymsang bellach yn orfodol mewn rhai ysgolion meddygol, mae BSc yn rhywbeth deniadol i’w ychwanegu at eich CV.
Cyrsiau ymsang yng Nghaerdydd
Ysgol y Biowyddorau
Anatomeg
Nod y flwyddyn ymsang yw cynnig cydbwysedd rhwng astudiaethau anatomegol clasurol a’r ddealltwriaeth gyfoes o fioleg celloedd a datblygiad, geneteg a mecanweithiau clefydau.
Cewch y cyfle i dreulio blwyddyn academaidd mewn amgylchedd ymchwil lle bydd eich dysgu’n cyd-fynd yn agos â meysydd ymchwil sy’n wirioneddol ar flaen y gad o ran meddygaeth a datblygiad technolegau meddygol cyfoes, fel peirianneg meinweoedd.
Biocemeg
Mae ymchwil fiocemegol yn sail i lawer o ddatblygiadau diweddar a pharhaus ym maes meddygaeth; er enghraifft, datblygu therapïau canser wedi’u targedu, defnyddio therapïau sy’n seiliedig ar RNA a bôn-gelloedd, a’r ddealltwriaeth o bwysigrwydd camblygu proteinau i anhwylderau niwro-ddirywiol fel clefyd Alzheimer a chlefyd CreutzfeldtJakob.
Mae’r radd ymsang mewn Biocemeg yn cynnig y cyfle i chi ymuno â chwrs a arweinir gan ymchwil yn y maes hynod berthnasol hwn sy’n datblygu’n gyflym.
Mae’r modiwlau craidd yn datblygu dealltwriaeth ddwys o ymchwil flaengar ym meysydd genomeg, rheoleiddio genynnol, bioleg synthetig a pheirianneg proteinau, gan gynnwys strwythur 3D a dynameg y genom a defnyddio egwyddorion peirianneg ar gyfer systemau biolegol.
Niwrowyddoniaeth
Mae niwrowyddoniaeth yn faes biofeddygaeth sy'n datblygu'n gyflym wrth i ddulliau arbrofol soffistigedig newydd gael eu datblygu'n gyson i fynd i'r afael â chymhlethdod y system nerfol.
Byddwch yn cael y cyfle i dreulio blwyddyn academaidd mewn sefydliad addysgu a arweinir gan ymchwil lle mae niwrowyddoniaeth yn faes cynyddol. Mae'r modiwlau rydych chi'n eu hastudio yn adlewyrchu'r defnydd cynyddol o fioleg foleciwlaidd, geneteg, seicopharmacoleg, niwroffisioleg a gwyddor ymddygiadol i ddeall y system nerfol a'r anhwylderau niwroseiciatrig cysylltiedig.
Ffisioleg
Byddwch yn astudio ffisioleg uwch a phathoffisioleg gan ddefnyddio gwybodaeth sy'n deillio o ymchwil gyfredol i ddeall sut mae'r systemau cardiofasgwlaidd, arennol, gastroberfeddol, anadlol ac endocrin yn cael eu rheoli o'r lefel foleciwlaidd i swyddogaeth integredig y corff.
Mae gennym fodiwlau dewisol ar gael i'ch galluogi i ddewis ac archwilio pynciau penodol o ddiddordeb (e.e. peirianneg meinweoedd, bioleg gyhyrysgerbydol, canser).
Byddwch hefyd yn ymgymryd â phrosiect blwyddyn olaf sy'n canolbwyntio ar ffisioleg mewn labordy, neu gallwch wneud rhywfaint o ymchwil addysgol, dadansoddi data neu brosiect cyfathrebu gwyddoniaeth.
Yr Ysgol Meddygaeth - Cyrsiau BSc
Gofal Brys, Cyn Mynd i'r Ysbyty ac Ar Unwaith
Mae'r cwrs BSc Gofal Brys, Cyn Mynd i’r Ysbyty ac Ar Unwaith (ymsang) (EPIC iBSc) yn eich trwytho ym maes gofal acíwt.
Fideo o Dr Huw Williams yn sôn am strwythur y cwrs a sut y gall fod o fudd i chi.
Mae ein cwricwlwm strwythuredig yn eich galluogi i ddatblygu'r wybodaeth a'r sgiliau clinigol sydd eu hangen i roi diagnosis a thriniaeth yn gyflym mewn achosion brys, sy’n bethau anodd eu gwneud. Mae'r modiwlau'n cynnwys:
- Achosion Chwaraeon, Achosion Cyn Mynd i'r Ysbyty ac Achosion Brys Eraill
- Diagnosteg Frys
- Gwyddor Dadebru
- Gwyddor Trawma
- Meddygaeth Bediatrig Frys
- Prosiect Ymchwil Ymsang
Mae’r wythnosau addysgu yn y Brifysgol yn cynnwys darlithoedd, tiwtorialau a sesiynau sgiliau clinigol ac efelychu ar gampws Parc y Mynydd Bychan yng Nghaerdydd.
Mae myfyrwyr yn ymgymryd â lleoliadau clinigol mewn Adrannau Achosion Brys prysur ledled Cymru. Byddant yn magu profiad o achosion cyn mynd i’r ysbyty bob wythnos gyda Gwasanaethau Ambiwlans Cymru (naill ai mewn ambiwlans neu mewn cerbyd ymateb cyflym). Mae thema pob wythnos ar leoliad clinigol yn ymwneud â phwnc maes llafur, lle bydd gofyn i chi gymryd rhan mewn clwb cyfnodolion (yn gwerthuso papur pwysig yn feirniadol) a thiwtorial lleoliad gwaith, gan gynnwys sefyll arholiad ffug. Byddwch hefyd yn mynd i ddiwrnodau hyfforddiant ar y cyd gyda hyfforddeion ôl-raddedig ym maes meddygaeth frys.
Mae’r clwb cyfnodolion yn sicrhau eich bod yn datblygu’r sgiliau gwerthuso beirniadol sydd eu hangen i gwblhau modiwl y Prosiect Ymchwil Ymsang yn llwyddiannus, tra bydd profiadau ymarferol o wneud ymchwil yn cael eu goruchwylio gan feddyg neu ymchwilydd profiadol ym maes meddygaeth frys.
Bydd y cwrs hwn yn eich paratoi ar gyfer gyrfa gyffrous ym maes meddygaeth ysbyty frys neu faes meddygaeth ysbyty cyn mynd i’r ysbyty.
Edrychwch ar ragor o wybodaeth fanwl am y cwrs iBSc EPIC.
Cyfeiriwch at y cwestiynau cyffredin cyn gwneud cais i ddilyn rhaglen iBSC EPIC. Wrth wneud cais i ddilyn y rhaglen, gofynnir i chi gadarnhau eich bod wedi darllen y wybodaeth ar y dudalen Cwestiynau Cyffredin. Gofynnir i chi gadarnhau hefyd eich bod yn deall y wybodaeth hon ac yn cytuno iddi.
Addysg Feddygol
Disgwylir i bob meddyg addysgu. Ar y cwrs hwn, byddwch yn ystyried theori ac ymarfer dysgu ym maes addysg feddygol gyfoes, yn datblygu eich sgiliau addysgu, yn darganfod ac yn defnyddio technolegau addysgol newydd ac yn ymchwilio i faterion allweddol ym maes addysgu clinigol.
Fideo o Julie Browne yn sôn am strwythur y cwrs a sut y gall fod o fudd i chi.
Ffarmacoleg
Mae a wnelo Ffarmacoleg ag astudio sut mae cyffuriau a meddyginiaethau’n gweithio ar lefel gellog ac isgellog i gael effaith lesol (a niweidiol, weithiau) ar bobl.
Fideo o Dr Kirsten Pugh yn sôn am strwythur y cwrs a sut y gall fod o fudd i chi.
Bydd y rhai sy’n dilyn y rhaglen BSc (ymsang) hon yn meithrin dealltwriaeth gadarn o effeithiau biolegol a mecanweithiau gweithredu amrywiaeth eang o sylweddau bioactif, yn arbennig y rhai a ddefnyddir i drin clefydau dynol.
Meddygaeth y Boblogaeth
Yn rhan o’r rhaglen BSc Meddygaeth y Boblogaeth, byddwch yn astudio sut mae epidemioleg yn cael ei defnyddio i ddelio â’r problemau sy’n dod i’r amlwg wrth roi gofal neu driniaethau i unigolion.
Fideo o Dr Zoe Roberts yn sôn am strwythur y cwrs a sut y gall fod o fudd i chi.
Mae a wnelo epidemioleg ag astudio dosbarthiad a phenderfynyddion digwyddiadau neu gyflyrau sy’n gysylltiedig ag iechyd (gan gynnwys clefydau) er mwyn rheoli clefydau a phroblemau iechyd eraill.
Byddwch yn datblygu dealltwriaeth eang a chadarn o ddulliau ymchwil y gellir eu defnyddio i wella iechyd a gofal iechyd, gan gynnwys nodi sut y gellir cymhwyso arferion iechyd a chanfyddiadau ymchwil i feysydd pwnc penodol (e.e. heintiau, cyflyrau hirdymor, iechyd y cyhoedd, gwella gofal clinigol, anghydraddoldebau ac iechyd gwledig).
Darllenwch 'Reflections And Awards Of A Supervised Intercalated Student' - blog agored a gonest gan un o'n myfyrwyr sy'n rhyngateb.
Seicoleg a Meddygaeth
Prif amcan y cwrs yw hybu gwybodaeth a dealltwriaeth o seicoleg ym maes meddygaeth ar lefelau cysyniadol ac ymarferol fel ei gilydd.
Fideo o Dr Xavier Caseras yn sôn am strwythur y cwrs a sut y gall fod o fudd i chi.
Byddwch yn cael eich annog i werthuso theori a methodoleg amrywiaeth o feysydd pwnc seicolegol yn feirniadol, gan gynnwys gwneud y cysylltiad rhwng prosesau seicolegol sylfaenol a symptomau a chyflyrau seiciatrig a niwrolegol.
Bydd hyn yn cael ei wneud drwy gyfuno cynnwys y modiwlau craidd â modiwlau'r Ysgol Seicoleg a fydd ar gael i’w gwneud gan fyfyrwyr. Byddwch yn cael profiad ymarferol o wneud ymchwil drwy gynnal prosiect a fydd yn cael ei oruchwylio gan wyddonydd profiadol.
Yr Ysgol Meddygaeth – Cyrsiau MSc
Applied and Experimental Clinical Immunology
Mae’r cwrs hwn wedi’i gynllunio gan arbenigwyr rhyngwladol sy’n gweithio ym meysydd haint, imiwnedd a llid. Bydd y cwrs amser llawn hwn yn eich cyflwyno cymaint â phosibl i’r arbenigedd ymchwil sydd i’w gael yn yr Is-adran Haint ac Imiwnedd a Sefydliad Ymchwil Imiwnedd Systemau’r Brifysgol.
Fideo yn edrych ar yr MSc Imiwnoleg Glinigol Gymhwysol ac Arbrofol.
Ar ôl cwblhau'r cwrs MSc hwn, byddwch wedi datblygu ymwybyddiaeth feirniadol o faterion cyfoes a datblygiadau mewn pynciau clinigol a phynciau gwyddoniaeth sylfaenol sy'n cyd-fynd â meysydd haint, imiwnedd a llid.
Cyrsiau ymsang ym Mangor
Darperir y cyrsiau canlynol gan yr Ysgol Gwyddorau Dynol ac Ymddygiad.
Niwroseicoleg
Addysgir y BSc mewn Niwroseicoleg gan niwrolegwyr, niwroseicolegwyr clinigol a niwrowyddonwyr o Ganolfan Wolfson ar gyfer Niwrowyddoniaeth Glinigol a Gwybyddol sydd wedi ennill clod rhyngwladol.
Mae'n rhoi'r cyfle i chi astudio'r ymennydd dynol yn fanwl mewn iechyd a chlefydau ac ymgymryd â phrosiect ymchwil yn un o'u labordai niwrowyddoniaeth ddynol.
Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff
Gan ddilyn dull astudio seiliedig ar ymchwil, mae agweddau allweddol y radd gwyddor chwaraeon hon yn cynnwys astudio sut y gellir gwella perfformiad corfforol a meddyliol i helpu unigolion i gyflawni eu potensial personol.
Fideo yn edrych ar y cwrs Gwyddor Chwaraeon ym Mhrifysgol Bangor.
Rhagor o wybodaeth am astudio Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff ym Mhrifysgol Bangor.
Graddau ymsang sefydliadau eraill yn y DU
Gall myfyrwyr rhagorol astudio graddau ymsang mewn sefydliadau eraill yn y DU ar gyfer cyrsiau nad ydyn nhw ar gael yma. Rydyn ni hefyd yn derbyn ceisiadau am raddau ymsang gan fyfyrwyr meddygol sy'n astudio mewn ysgolion meddygol eraill ar hyn o bryd.
Cysylltu â ni
I gael gwybod mwy am radd ymsang, cysylltwch â:
Medicine Intercalation
Astudiwch ein cyrsiau sy’n canolbwyntio ar y claf ac sy’n cael eu harwain gan ymchwil yn un o ysgolion meddygol mwyaf y DU.