Cwrdd â'ch athrawon
Mae ein dulliau addysgu’n cael eu datblygu drwy ddefnyddio tystiolaeth ymarferol o’r hyn sy’n gweithio orau o ran addysg feddygol ledled y byd.
Rydym yn mynd ati i sicrhau ein bod yn addysgu ein myfyrwyr yn y ffordd orau bosibl i'w galluogi i lwyddo.
Mae ein hathrawon yn glinigwyr ac yn ymchwilwyr mawr eu bri’n rhyngwladol – byddwch yn dysgu gan rai o’r arbenigwyr blaenllaw yn eu meysydd ac yn gweithio ochr yn ochr â nhw.
Dyma rai o'n staff addysgu...
Yr Athro Steve Riley MD, FRCP, FAcadMed
Deon Meddygaeth

Pwyntiau allweddol fy ngyrfa ym maes neffroleg yw rhoi sylw i fanylion, yr her o wneud y diagnosis prin a datblygu perthynas hirdymor rhwng meddyg a chlaf.
Cyfunwch hyn â gofal o'r ansawdd uchaf i bob claf – p'un a yw'r problemau'n gyffredin neu'n brin – ac mae gennych chi'r hyn sydd eu hangen i ddechrau gyrfa hir a ffrwythlon mewn meddygaeth.
Fy athrawon a mentoriaid a ddysgodd y nodweddion hyn i mi a chaniataodd hyn i mi ddatblygu fy sgiliau a fy niddordebau yn ystod fy hyfforddiant. Rwy'n awyddus i ddangos yr un brwdfrydedd i'r myfyrwyr rwy'n eu haddysgu a rhoi'r gallu iddynt edrych am y pethau unigryw ac anghyffredin yn eu hymarferion o ddydd i ddydd.
Fy ngwaith yw eich arfogi â'r wybodaeth a'r sgiliau i ddatgloi diddordeb meddygaeth glinigol ac ymdrechu am ragoriaeth ym mhob cyfle.
Os ydych chi wedi gwneud hyn ac wedi'i wneud yn hwyl yna rydych chi'n gwybod eich bod chi wedi cael eich hyfforddi yng Nghymru.
Yr Athro Rhian Goodfellow
Darllenydd Clinigol a Chyfarwyddwr C21

Fel rhywun siaradus a chwilfrydig o ran ei natur, ac efallai y bydd rhai pobl yn dweud fy mod yn fusnesgar, meddygaeth oedd y dewis gyrfaol delfrydol imi a hyd yma mae wedi rhagori ar yr holl ddisgwyliadau.
Mae'r fraint a'r wefr o wrando ar gleifion, gwneud diagnosis a gallu trin unigolion wedi hynny yn parhau i fy nghyffroi ac mae hyn oll yn ei gwneud hi'n hawdd mynd i'r gwaith bob bore.
Fel Uwch Ddarlithydd Clinigol mewn Rhewmatoleg, nid oes byth amser i ddiflasu neu laesu dwylo.
Bydd her wahanol bob dydd, gan gynnwys trafod meddygaeth flaenllaw ‘o’r fainc i erchwyn y gwely’ (gan gyfuno theori sylfaenol gwyddoniaeth ac ymarfer clinigol), trin cefn gwael unigolyn oedrannus yn ogystal ag addysgu a meithrin brwdfrydedd yn y genhedlaeth nesaf o feddygon.
Allwn i ddim dychmygu fy hun yn gwneud unrhyw beth arall.
Dr Sarju Patel
Uwch-gymrawd yr Academi Addysg Uwch
Deon Cyswllt dros Gydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynwysoldeb

Fel rhywun sydd wedi bod yn dysgu meddygaeth a chynnal ymchwil ers dros 20 mlynedd, rwy'n chwarae rhan allweddol yn y gwaith o ddylunio, cyflwyno ac asesu eich cwricwlwm meddygol israddedig.
Mae myfyrwyr meddygaeth bob amser wedi bod yn ddisglair ac yn chwilfrydig ond nid yw gwybodaeth glinigol yn unig yn ddigon ar gyfer llwyddo yn y byd sydd ohoni: mae amgylcheddau dysgu da hefyd yn darparu cymorth bugeiliol cryf, gyda chyfleoedd dysgu cynhwysol a diogel i’w galluogi. Mae fy nghredoau a'm gwerthoedd yn bwysig wrth gyflwyno’r dasg hon, wrth imi weithio'n galed i rymuso tegwch, parch, gonestrwydd a chydraddoldeb i'm cydweithwyr ac i'n myfyrwyr.
Mae gennyf hefyd angerdd dros Ehangu Mynediad, gan annog pobl ifanc o bob cefndir i ystyried gyrfa mewn Meddygaeth; cefais Wobr Seren Medic am Gyfraniad Eithriadol at Weithgareddau Ymgysylltu am fy arweinyddiaeth yn y maes hwn.
Nid yw datblygiad personol byth yn stopio, ac wrth i mi addysgu myfyrwyr, rwy'n dysgu fy hun. Mae sesiynau grŵp bach, lle dwi’n cael ymgysylltu â'm myfyrwyr, yn un o nifer o resymau dwi wrth fy modd yn addysgu.
Yr Athro Marcus Coffey
Uwch-gymrawd yr Academi Addysg Uwch

Rwy'n addysgu pwnc Ffarmacoleg i'n hisraddedigion ar y rhaglen radd Meddygaeth (MBBCh).
Mae deall sut mae cyffuriau'n gweithio yn rhan hanfodol o hyfforddi meddygon i ddod yn rhagnodwyr diogel. Er ein bod am i'r cyffuriau rydyn ni'n eu defnyddio gael effaith therapiwtig arnom yn unig, mae'n rhaid i ni gydnabod hefyd bod gan bob meddyginiaeth y potensial i achosi sgîl-effeithiau diangen. Felly, gall dealltwriaeth well o gamau gweithredu cyffuriau helpu i leihau nifer yr achosion o 'adweithiau niweidiol i gyffuriau'.
Er mwyn helpu ein myfyrwyr i ddysgu am y cyffuriau y gellir eu hystyried ar draws yr holl wahanol arbenigeddau meddygol sy'n rhan o'r cwrs, rwy'n defnyddio ystod o dechnegau addysgu sy'n helpu i egluro effeithiau cyffuriau. Mae hyn yn cynnwys rhoi'r defnydd o gyffuriau sy'n targedu system neu feinwe benodol yn y corff Dynol yn ei gyd-destun. Felly, rwy'n creu deunyddiau addysgu sy'n ymdrin â phopeth o gardioleg i imiwnoleg i seiciatreg ... a phopeth rhyngddynt!
Rwyf wedi ennill nifer o wobrau am fy nulliau arloesol o addysgu, ac mae gennyf ddiddordeb arbennig mewn creu Adnoddau e-Ddysgu rhyngweithiol ac sy'n ysgogol yn weledol y gall Myfyrwyr Meddygol eu defnyddio i wella eu gwybodaeth am faes pwnc penodol.
Yr Athro Susan Wong
Athro Metabolaeth a Diabetes Arbrofol

Mae fy ngwaith addysgu'n canolbwyntio ar ddiabetes, sydd, fel y gwyddoch eisoes mae'n debyg, yn fwy nag un math o gyflwr yn unig. Mae gweithio gyda phobl sydd â gwahanol fathau o ddiabetes yn heriol ond yn werth chweil ac rwy'n mwynhau rhannu'r profiadau hyn gyda fy myfyrwyr. Mae'r hyn y byddwch yn ei ddysgu gyda mi yn seiliedig ar fy ngwaith clinigol gyda phobl sy'n byw gyda diabetes yn ogystal â'm gwaith academaidd clinigol, yn ymchwilio i achosion diabetes Math 1.
Gwybodaeth yw popeth ym maes gofal iechyd a rhan hanfodol o'n gwaith ni’r meddygon yw ymgysylltu â’r cyhoedd a’u haddysgu i ddeall materion meddygol ac ymchwil wyddonol. Mae fy myfyrwyr yn gweithio gyda mi i wneud hyn mewn gwahanol ffyrdd, gan gynnwys cyfrannu at arddangosfa mewn oriel gelf ysbyty, gan ddathlu canmlwyddiant defnyddio inswlin.
Rwy’n edrych ymlaen at gwrdd â chi.
Yr Athro Paul Frost
Chyfarwyddwr Sgiliau Clinigol ac Efelychu a Ymgynghorydd Anrhydeddus mewn Meddygaeth Gofal Dwys, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro

Fel ymgynghorydd ym maes meddygaeth gofal dwys, rwy'n gofalu am gleifion sy'n ddifrifol wael a chleifion sydd wedi'u hanafu. Mae'n swydd amrywiol a diddorol sy’n cynnwys rheoli’n glinigol pob math o argyfwng meddygol.
Nid oes llawer sy’n rhoi mwy o foddhad wrth roi gwasanaeth meddygol nag achub bywyd person sydd ar fin marw a’i weld yn gwella a mynd adref i’w deulu.
Cyn dechrau ar fy swydd bresennol yng Nghaerdydd, roeddwn yn ddigon ffodus i gael treulio deng mlynedd yn Awstralia a Seland Newydd yn gweithio mewn canolfannau trawma mawr, unedau llosgiadau ac unedau gofal dwys pediatreg ac adfer cleifion a oedd yn ddifrifol wael yn aerofeddygol.
Rwy'n deall yn dda iawn faint mae meddygon dan hyfforddiant a myfyrwyr meddygol yn poeni ynghylch delio â’r cleifion sâl iawn hyn, ond rydym yn ymfalchïo yng Nghaerdydd mewn addysgu ein myfyrwyr sut i wneud hyn yn dda.
Braint i mi, fel Cyfarwyddwr Sgiliau Clinigol ac Efelychu, yw arwain ar y rhan hon o'r cwricwlwm.
Dr Naomi Stanton
Darlithydd a Meddyg Teulu

Fe wnaeth graddio o Ysgol Meddygaeth Caerdydd fy mharatoi ar gyfer gyrfa werth chweil, sy’n cynnwys amryw o rolau, lle rwy’n gallu gwneud gwahaniaeth i fywyd fy nghleifion a helpu fy myfyrwyr i lwyddo.
Rwyf bellach yn Ddarlithydd, gyda ffocws ar Anghydraddoldebau Iechyd, sy'n golygu fy mod yn datblygu sesiynau addysgu ac adnoddau ar agweddau cymdeithasol o iechyd ac anghydraddoldebau iechyd, yn ogystal ag addysgu clinigol ar gyfer pob blwyddyn. Mae hyn yn cynnwys meddygaeth ffordd o fyw, a chynaliadwyedd ac iechyd. Wrth ddarparu gofal a thriniaeth dda, mae’n hanfodol sylweddoli bod mwy i hynny na 'meddyginiaethau' yn unig.
A minnau hefyd yn feddyg teulu yng Nghymoedd y Rhondda, rwyf wrth fy modd yn helpu fy myfyrwyr i roi’r hyn y maent yn ei ddysgu, ar waith.
Rwy'n aelod o Grŵp Derbyn Myfyrwyr yr Ysgol Meddygaeth gan fod helpu pobl ifanc i ganfod eu ffordd i faes Meddygaeth yn rhywbeth sy’n agos iawn at fy nghalon. Rwy'n gweithio gyda myfyrwyr meddygol ac ysgolion, gan ddatblygu gweithgareddau diddorol i annog disgyblion nad ydynt efallai wedi sylweddoli eto, y byddant yn feddygon gwych rhyw ddydd.
Y tu allan i'r gwaith, rwyf wrth fy modd yn cerdded ym Mannau Brycheiniog neu ar draeth Ogwr gyda fy mhlant a fy nghi / wookie.
Yr Athro Paul Morgan
Sefydliad Ymchwil Imiwnedd Systemau a Sefydliad Ymchwil Dementia

Rwy'n Fiocemegydd Clinigol sydd â hanes o wneud ymchwil ym maes Imiwnoleg.
Fi oedd Deon a Phennaeth yr Ysgol yn wreiddiol rhwng 2008 a 2013, ond penderfynais gamu'n ôl er mwyn gallu treulio mwy o amser yn gwneud ymchwil a gwaith clinigol. Yna, yn 2018, camais yn ôl o’r gwaith clinigol. Erbyn hyn, rwy’n cael y pleser o fod yn ymchwilydd llawn amser ac arwain tîm sy'n gweithio ar lid a llid yr ymennydd yn benodol.
Rwy'n mwynhau addysgu, yn enwedig addysgu un-i-un ac addysgu grwpiau bach, ac rwyf wedi mwynhau heriau'r cwricwlwm newydd. Rwyf wedi dysgu cymaint o ryngweithio â myfyrwyr ac wedi sylweddoli bod ein myfyrwyr yn rhan annatod o’n Hysgol Meddygaeth – ein hadnodd mwyaf gwerthfawr a’r bobl i fynd atynt i gael y cyngor gorau ar wella'r cwrs a phrofiad y myfyrwyr.
A modernised curriculum with more small group teaching, more patient contact and earlier finals.