Ewch i’r prif gynnwys

Lleoliad Dewisol

Yn aml, astudio lleoliad dewisol yn y flwyddyn olaf fydd uchafbwynt amser myfyriwr meddygol yn y brifysgol.

Byddwch chi’n dylunio profiad sy'n canolbwyntio ar faes pynciol sydd o ddiddordeb ichi a gallwch chi drefnu eich prosiect eich hun neu weithio gydag un o'n sefydliadau partner gan weithio gartref neu dramor.

Er bod gennym gysylltiadau â phrifysgolion yn Ewrop ac Asia, efallai y bydd hi’n well gennych chi drefnu astudio’ch lleoliad dewisol yn unrhyw le bron iawn o Awstralia i Sambia. Bydd gofyn ichi ariannu eich taith eich hun felly i’ch helpu chi, mae gennym ni hefyd dimau rheoli pwrpasol, rhaglenni hynod o drefnus a bwrsariaethau ariannol.

Lleoliadau dewisol y gorffennol

Tansanïa. Dr Kathryn Siddle.

Tanzania Hospital
Ysbyty Dar es Salaam, Tanzania.

Ysbyty anabledd ym mhrifddinas Dar es Salaam oedd yr ysbyty yr ymwelais ag ef.

Ro’n i’n ymwneud yn bennaf â’r gwaith yn yr adran ffistwla obstetrig, sef anaf geni sy’n gyffredin iawn yng ngwledydd Affrica ond sydd bron yn ddieithriad yn y DU. Caiff ei achosi yn dilyn esgor hirfaith pan fydd pen y ffetws yn mynd yn sownd yn y llwybr esgor ac ni all fynd trwodd.

Yn y DU, gan ein bod yn gallu cyrraedd yr ysbyty’n rhwydd, cael esgoriadau offerynnol a thoriadau cesaraidd, nid yw hyn yn tueddu i achosi problemau. Fodd bynnag, yn Tansanïa, mae llawer o fenywod yn rhoi genedigaeth gartref, maen nhw’n dlawd ac mae ganddyn nhw fynediad cyfyngedig i gyfleusterau iechyd lle bydd y gofal yn aml yn wael ac yn gyfyngedig.

Ro’n i’n ddigon ffodus i dreulio amser mewn clinigau, yn y llawdrinfa ac ar y wardiau, i weld y gofal yr oedd y menywod hyn yn ei dderbyn. Treuliais i ddiwrnodau mewn ysbytai eraill i gynorthwyo gyda’r esgor a gweld pa mor wahanol yw gofal esgor yno. Siaradais hefyd â’r cwnselwyr sy’n gweithio yn yr ysbyty a oedd wedi rhannu rhai o straeon erchyll rhai o’r menywod hyn; yr oedd eu gwŷr yn aml wedi eu gadael a’u cymunedau wedi cefnu arnyn nhw oherwydd camddealltwriaeth gyffredin am ffistwla.

Tanzanian beach
Traeth hyfryd yn Zanzibar.

Mae astudio dramor yn caniatáu ichi ddysgu am broblemau iechyd sy'n digwydd yn anaml neu byth yn y DU, yn ogystal â'ch cyflwyno i ddiwylliant a system gofal iechyd hollol wahanol gyda'i chryfderau a'i gwendidau ei hun.

Yn amlwg, rhan amlwg o hyn yw teithio o amgylch yr ardal leol. Es i Zanzibar am benwythnos tra ro’n i yn Tansanïa, gan ymweld â thraethau lle mae môr sy’n lasach a thywod sy’n wynnach na’r hyn y gallwn i erioed ei ddychmygu. Dyna oedd paradwys.

Soweto. Dr Katie Maw

Ar gyfer fy lleoliad dewisol es i i ysbyty Chris Hani Baragwanath yn Soweto, ychydig y tu allan i Johannesburg.

Soweto
Dr Katie Maw ar ei dewis yn Soweto

Dyma ysbyty trawma mawr ac adnabyddus mewn ardal gythryblus yn Ne Affrica sy'n delio'n rheolaidd â chlwyfau oherwydd gynnau a thrywaniadau yn ogystal â damweiniau traffig pan fydd llawer o gerbydau ynghlwm.

Dewisais i’r lleoliad hwn gan fy mod i’n gwybod y byddwn i’n cael fy ngorfodi i ddelio'n annibynnol â chleifion a oedd yn ddifrifol wael tra’n gorfod meddwl hefyd am ofalu amdanyn nhw dan bwysau eithafol. Roedd y sifftiau pedair awr ar hugain yn eithaf blinderus hefyd!

Roedd y lleoliad dewisol yn waith caled ac yn hynod emosiynol a gwelais i bethau na allwn byth fod wedi'u dychmygu ond fyddwn i ddim yn newid unrhyw beth. Oherwydd y lleoliad, cefais i brofiadau anhygoel a dyma'r penderfyniad gorau imi ei wneud erioed - byddwn i’n argymell yn fawr dewis sy'n eich herio go iawn.

Roedd y teithio wedyn hefyd yn anhygoel, gan roi’r cyfle imi ymweld â rhan hardd o’r byd a threulio amser yn ymlacio ym mharc cenedlaethol Kruger a nifer o warchodfeydd anifeiliaid.