Cyfleoedd iaith Gymraeg
Mae medru’r Gymraeg yn gallu bod yn ddefnyddiol dros ben yn ystod eich hyfforddiant ac wrth ddechrau gyrfa ym maes gofal iechyd yng Nghymru.
Rydym wedi ymrwymo i’ch helpu i ddatblygu eich Cymraeg yn academaidd ac mewn sefyllfa glinigol/broffesiynol. Yn ystod eich amser yma, byddwch yn gallu:
- weithio gyda thiwtoriaid Cymraeg eu hiaith a thiwtoriaid iaith Gymraeg
- gweithio gyda mentoriaid Cymraeg eu hiaith yn ystod rhai o’ch lleoliadau (lle bo’n bosib)
- gweithio gyda myfyrwyr Cymraeg eu hiaith ar aseiniadau grŵp (lle bo’n bosib)
- sefyll arholiadau ac asesiadau ysgrifenedig yn Gymraeg.
Pa un a ydych chi’n siarad Cymraeg neu’n awyddus i ddysgu, gallwn gynorthwyo datblygiad eich sgiliau iaith Gymraeg er mwyn sicrhau eich bod yn hyderus i’w defnyddio yn broffesiynol.
Mae grant ar gael hefyd drwy Gynllun Ysgoloriaethau'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol i fyfyrwyr sy’n cwblhau traean o’u cwrs drwy gyfrwng y Gymraeg.
Rhagor o wybodaeth
Dysgwch mwy am waith Awen Iorwerth ein Darlithydd cyfrwng Cymraeg.
Cysylltwch â thîm y Gymraeg am fanylion y cymorth Cymraeg a dwyieithog sydd ar gael ymhob rhaglen.
Tîm iaith Gymraeg Meddygaeth
Bydd astudio trwy gyfrwng y Gymraeg yn helpu eich gyrfa ac yn agor drysau newydd i chi y y Brifysgol a thu hwnt.