Ewch i'r prif gynnwys
Dogfen

Rheoliadau Academaidd 2023/2024

Cyflwyniad

Bydd y Rheoliadau Academaidd hyn a pholisïau a gweithdrefnau cysylltiedig yn cynnig fframwaith ar gyfer datblygu, rheoli a chyflwyno rhaglenni ac astudio ym Mhrifysgol Caerdydd.  Diben y rheoliadau a’r polisïau cysylltiedig yw gwneud yn siŵr bod Prifysgol Caerdydd yn gallu cyflawni ei dyletswyddau yn effeithiol i’w holl fyfyrwyr yn deg ac yn effeithiol a gwneud yn siŵr bod safonau'r dyfarniadau yn cyd-fynd â’r fframweithiau cymhwyster rhyngwladol perthnasol.

Mae Rheoliadau Academaidd 2023/24 yn berthnasol i fyfyrwyr sydd wedi ymrestru, neu ail ymrestru, ers 1 Awst 2023. Ar gyfer myfyrwyr nad ydynt wedi ymrestru yn y flwyddyn academaidd hon eto, bydd Rheoliadau Academaidd 2022/23 yn berthnasol.

Mae’r rheoliadau wedi’u cyflwyno gan ddefnyddio’r strwythur canlynol:

  • Llywodraethu Academaidd
  • Tîm Derbyn Myfyrwyr
  • Dyfarniadau a Rhaglenni
  • Asesu
  • Astudiaethau ac Ymgysylltiad Myfyrwyr
  • Ymddygiad Myfyrwyr
  • Cwynion ac Apeliadau Myfyrwyr

Mae’r polisïau a’r gweithdrefnau cysylltiedig yn cyd-fynd â’r strwythur hwn.  Mae dolenni ar gael i’r polisïau a gweithdrefnau priodol a gellir dod o hyd i’r rhain yn yr adran Ffynonellau o Wybodaeth Bellach.

Os ydych chi’n fyfyriwr anabl a bod angen addasu’r rheoliadau neu’r gweithdrefnau hyn i’ch galluogi i ymgysylltu’n llawn â’r broses, cysylltwch â Chofrestrydd Academaidd i drafod unrhyw addasiadau rhesymol y gellid eu gwneud i’ch helpu i ymgysylltu.

Gall swyddogion y Brifysgol enwebu dirprwyon i weithredu ar eu rhan.

Newidiadau yn sgîl y cyfarfod 2023/2024

Rheoliad/AdranDisgrifiad o'r newidYn dod i rym o
Rheoliadau Rheoli AcademaiddCylch gorchwyl i gael ei gynnwys ym mhob Pwyllgor Addysg a Phrofiad Myfyrwyr y Colegau (Ymchwil Ôl-raddedig) ar ôl iddo gael eu sefydlu gan y Senedd, ac ar ôl dileu’r Grŵp Strategaeth ôl-raddedig ymchwil, y bydd yn ei ddisodli.Tachwedd 2023
Rheoliadau ynghylch Rhaglenni Modiwl a Addysgir

Cywiriadau ac eglurhadau i newidiadau blaenorol a gymeradwywyd gan y Senedd yw’r canlynol ac fe’u bwriadwyd eu rhoi ar waith fesul tipyn.

Strwythur rhaglenni modiwlaidd israddedig:

  • Eglurhad mai yn achos rhaglenni Meistr integredig israddedig sydd wedi'u cymeradwyo neu eu hailddilysu cyn sesiwn 2023-2024, efallai y bydd blwyddyn Dysgu Profiadol/Proffesiynol neu flwyddyn astudio dramor ar lefel 5.
  • Cywiriad i’r newidiadau blaenorol a wnaed o ran cyfanswm nifer y credydau sydd eu hangen ar gyfer dyfarniadau israddedig, a hynny at ddiben egluro bod y newidiadau yn berthnasol i fyfyrwyr newydd sy'n dechrau o 2023-2024 yn unig.

Rheolau israddedig:

  • Adfer rheolau cynnydd 9 a 10 a rheol dyfarnu 8, ar gyfer graddau meistr integredig, lle cymerir blwyddyn E/PL rhwng blwyddyn 2 a 3, gan fod hynny ar waith o hyd yn y rhaglenni a gymeradwywyd neu a ailddilyswyd cyn sesiwn 2023-2024.
  • Cynnwys Rheol 4 o’r newydd - sef 100 o gredydau (yn dilyn y gostyngiad o 100 i 90 yn Rheol 3), gan fod hynny ar waith o hyd yn y rhaglenni a gymeradwywyd neu a ailddilyswyd cyn sesiwn 2023-2024.

Rheolau ôl-raddedig:

  • Adfer rheol 1 - sef 105 o gredydau, gan fod hyn ar waith o hyd yn y rhaglenni a gymeradwywyd neu a ailddilyswyd cyn sesiwn 2023-2024.
Awst 2023 (cywiro’r camgymeriadau)
Rheoliadau’r Baglor Llawfeddygaeth Ddeintyddol (BDS)Cywiriad i’r gwall teipograffyddol yn y rheol eilradd ar gyfer y BSc Gwyddoniaeth Ddeintyddol, a ddylai gyfeirio at flwyddyn 3, nid blwyddyn 2.Awst 2023 (cywiro’r camgymeriad)
Rheoliadau Therapi Deintyddol a Hylendid (BSc a DipHE)Cywiriad i'r rheol eilaidd ar gyfer y BSc, a oedd yn dyblygu’r rheol anfodiwlaidd o'r Rheoliadau BDS ar gam, yn lle'r rheol modiwlaidd safonol a ddefnyddiwyd yn flaenorol gan y rhaglen ac sydd ar waith o hyd.Awst 2023 (cywiro’r camgymeriad)

Newidiadau ers 2022/2023

Rheoliad/AdranDisgrifiad o'r newidYn dod i rym o
Ffynonellau Rhagor o WybodaethDisodlwyd Cydnabod Dysgu Blaenorol a Pholisi Cydnabod Dysgu Blaenorol trwy Brofiad gan Bolisi Cydnabod Dysgu Blaenorol diwygiedig (Trosglwyddo Credydau a Phrofiad).Cyfuno'r Weithdrefn Methu Ymgysylltu â Rhaglen Astudio, y Weithdrefn Ymgysylltiad Academaidd Myfyrwyr, y Weithdrefn Gohirio Astudio, a'r Weithdrefn Dychwelyd i Astudio gydaGweithdrefn Methu Ymgysylltu â Rhaglen Astudio a Gweithdrefn Gohirio Astudiaethau (rhaglenni a addysgir) diwygiedig.1 Awst 2023
Rheoliadau Rheoli AcademaiddDiwygio geiriad swyddogaethau'r Byrddau Astudio mewn perthynas â chydnabod dysgu blaenorol, trosglwyddiadau mewnol a myfyrwyr sy'n dychwelyd i astudio, i gyd-fynd â'r Polisi Cydnabod Dysgu Blaenorol diwygiedig (Trosglwyddo Credydau a Phrofiad).1 Awst 2023
Rheoliadau Derbyn MyfyrwyrMân-ddiwygiadau testunol i wella’r arddull ac eglurder.1 Awst 2023
Rheoliadau ar gyfer Rhaglenni Modiwlaidd a AddysgirAd-drefnu Rheoliadau yn adrannau Israddedig ac Ôl-raddedig ac integreiddio Rheoliadau Modiwlau a oedd gynt ar wahân.

Marciau’r modiwl: Mewnosod diffiniadau ar gyfer “methiant critigol” a “methiant gorfodol” yn lle yr hyn a elwid gynt yn “farciau cymwys”.

Gwybodaeth am y wobr: eglurhad na ellir ychwanegu dyfarniadau gadael (atodol) at raglen yn ôl-weithredol.

Strwythur rhaglenni modiwlaidd israddedig:

  • Ychwanegu'r Flwyddyn Astudio Dramor/Lleoliad Gwaith i ddangos yn glir y credyd y mae'n rhaid ei astudio ar bob lefel.
  • Addasu cyfanswm y credydau sydd eu hangen ar gyfer dyfarniadau israddedig i gyd-fynd â gofynion FHEQ.

Rheolau israddedig:

  • Dileu rheolau dilyniant 9 a 10 a rheol dyfarnu 8, ar gyfer gradd meistr integredig lle cymerir blwyddyn E/PL rhwng blynyddoedd 2 a 3, gan mai dim ond rhwng blynyddoedd 3 a 4 y caniateir i hyn fod.
  • Lleihau rheol ailadrodd 3 (100 credyd) i 90 credyd.

Ailsefyll (Israddedig ac Ôl-raddedig a Addysgir): Dileu cymal 3.5 a oedd yn caniatáu i Fyrddau Arholi benderfynu a yw'n rhesymol i fyfyriwr sydd wedi methu asesiadau ac sydd hefyd ag asesiadau y caniateir iddo eu cymryd fel ymgais gyntaf (e.e. o ganlyniad i amgylchiadau esgusodol) gymryd yr holl asesiadau hyn o fewn y Cyfnod Ailsefyll Arholiadau.

Strwythur Rhaglenni Modiwlaidd Ôl-raddedig:

  • Ychwanegu cymal sy'n ei gwneud yn ofynnol cael yr holl gredydau ar lefel 7 ar gyfer pob rhaglen ôl-raddedig a gyflwynir neu a ailddilysir o 2023-2024 ymlaen.
  • Newidiwyd dyddiadau terfynau amser a chyflwyno traethawd hir i ddarparu un dyddiad cyson ar gyfer y dyddiad cyflwyno disgwyliedig ar gyfer cyflwyno'r traethawd hir ar gyfer rhaglenni meistr rhan-amser.

Rheolau ôl-raddedig:

  • Dileu Rheol Ailadrodd Israddedig 1 (105 credyd).
  • Dileu rheol 4 ar gyfer rhaglenni MBA gan nad oes angen rheol benodol ar raglenni MBA mwyach.
1 Awst 2023
Rheoliadau Modiwlau (dilëwyd)Mae'r rhain wedi'u hintegreiddio i'r Rheoliadau ar gyfer Rhaglenni Modiwlaidd a Addysgir.1 Awst 2023
Rheoliadau MB BChDiwygio Adran 6.7 a 7.2 i gyd-fynd â rheoliadau israddedig safonol a chaniatáu 3 ymgais ar uned asesu yn hytrach na dwy.1 Awst 2023
Rheoliadau Asesu a’r Bwrdd Arholi

Asesiadau yn y Gymraeg: Diwygiadau i adran 2 i sicrhau cydymffurfiaeth â safonau'r Gymraeg, gan gadarnhau hawl myfyrwyr i gael eu hasesu drwy gyfrwng y Gymraeg.

Cyfnodau arholiadau: Diwygio Adran 8.2 i roi disgresiwn i Benaethiaid Ysgol ganiatáu i gyfnodau arholiadau'r Hydref neu'r Gwanwyn gael eu defnyddio at ddibenion academaidd eraill lle nad oes gan raglen unrhyw arholiadau yn ystod y cyfnod.

Cydoddef: Newid i'r ystod o farciau a ganiateir ar gyfer cydoddef o 35-39% i 30-39% ar gyfer lefelau 3, 4, 5 a 6, ac o 45-49% i 40-49% ar gyfer lefelau 7 ac 8.
1 Awst 2023
Rheoliadau ynghylch Graddau YmchwilYchwanegu 5.3 i adlewyrchu'r ddarpariaeth newydd o dan y Polisi Cydnabod Dysgu Blaenorol, sef y gall myfyriwr sydd wedi tynnu’n ôl gael ei aildderbyn i'w rhaglen  gradd ymchwil.1 Awst 2023
Rheoliadau Astudio ac Ymgysylltu Myfyrwyr

Pwyntiau ymgysylltu: Newid i'r cyfnod y bydd adroddiadau monitro ar gyfer ymgysylltu â systemau TG yn dynodi absenoldeb o 14 diwrnod i 7 diwrnod.

Newidiadau i bolisïau: Newidiadau dilynol i'r rhestr o bolisïau ar ôl adolygu a chydgrynhoi polisïau nad ydynt yn ymwneud ag ymgysylltu.

1 Awst 2023

Ffynonellau rhagor o wybodaeth

Cefnogir y Rheoliadau Academaidd gan nifer o bolisïau a gweithdrefnau. Mae’r rhain ar gael drwy’r dolenni isod.

Llywodraethu academaidd

Rheoliadau rheoli academaidd

1. Llywodraethiant

1.1. Mae’r fframwaith cyfansoddiadol y mae'r Brifysgol yn gweithredu o’i fewn yn seiliedig ar ei Siarter Frenhinol a’r Statudau a’r Ordinhadau ategol.  Mae'r Rheoliadau Academaidd hyn, sy'n ymwneud â rheoliadau academaidd, yn ategu cynnwys y Siarter, Statudau a'r Ordinhadau.

Y Cyngor yw’r corff llywodraethu, ac felly dyma brif awdurdod y Brifysgol. Y corff hwn sydd â'r gair olaf ynglŷn â phob mater sy'n effeithio ar y Brifysgol (Ordinhad 4).

Y Senedd yw ein prif awdurdod academaidd ac mae'n gyfrifol am benderfynu ar bolisïau addysgol ar ran y Cyngor (Ordinhad 5).
Mae'r Pwyllgor Addysg a Phrofiad Myfyrwyr yn gyfrifol am gynghori'r Brifysgol ar bob mater sy'n ymwneud ag addysg a phrofiad myfyrwyr ar draws ystod lawn ei darpariaeth ar gyfer myfyrwyr (Ordinhad 10).

Mae’r Pwyllgor Safonau ac Ansawdd Academaidd yn gyfrifol am gynghori’r Brifysgol ynghylch pob mater sy’n ymwneud â hyrwyddo ansawdd a safonau academaidd (Ordinhad 10).

Mae Pwyllgor Dyfarniadau a Chynnydd y Brifysgol, yn unol â'r awdurdod a ddirprwywyd iddo gan y Senedd a'r Cyngor, yn cael argymhellion gan Fyrddau Arholi ac yn dyfarnu graddau, tystysgrifau, diplomau neu ddyfarniadau eraill y Brifysgol i'r rheiny sy'n gymwys (Ordinhad 10).

2. Strwythur colegau

2.1. Mae ein Hysgolion Academaidd wedi'u trefnu'n dri Choleg fel y manylir yn Ordinhad 9, Cyrff Academaidd.

3. Cyfrifoldebau

3.1 Mae Cyfrifoldebau Rhag Is-gangellorion y Coleg a Phenaethiaid Ysgolion wedi'u manylu yn Ordinhad 9, Cyrff Academaidd.

3.2 Bydd pob cynnig y mae’n ofynnol i Bwyllgorau’r Brifysgol ei gymeradwyo, neu sydd â goblygiadau o ran adnoddau, yn cael ei gymeradwyo’n ysgrifenedig gan Bennaeth yr Ysgol berthnasol/Penaethiaid yr Ysgolion perthnasol.

3.3 Yn ei hanfod, rôl pwyllgorau yw penderfynu ar faterion polisi neu gynghori yn eu cylch; cyn belled â phosibl, caiff y cyfrifoldeb dros faterion gweinyddol o ddydd i ddydd eu dirprwyo i unigolion a enwir.

3.4 Caiff myfyrwyr gyfle i gymryd rhan mewn prosesau penderfynu ar faterion academaidd drwy gyfrwng eu haelodaeth o bwyllgorau perthnasol.

3.5 Penaethiaid yr Ysgolion perthnasol fydd yn gyfrifol am ansawdd y profiadau addysgol a ddarperir i’r myfyrwyr, gan gynnwys y myfyrwyr sy’n dilyn modiwlau a gynigir gan yr Ysgol mewn rhaglenni a addysgir ar y cyd a rhaglenni a gydaddysgir, a rhaglenni lle mae’r flwyddyn gyntaf yn cynnwys cyfraniadau iddynt gan sawl Ysgol.

3.6 Bydd pob Modiwl (Rhaglenni modiwlaidd) neu Uned Astudio a addysgir (Rhaglenni anfodiwlaidd) (defnyddir y term ‘Modiwl’ wedi hyn i gyfeirio at y ddau ohonynt) yn perthyn i un Ysgol yn unig; ni cheir rhannu’r cyfrifoldeb dros Fodiwlau.


4. Strwythur Sylfaenol Rheoli Rhaglenni a Addysgir

Yn unol â’r Ordinhadau, cyfrifoldeb Pennaeth pob Ysgol yw sefydlu’r strwythur sylfaenol yn ei (H)ysgol i reoli Rhaglenni a addysgir.  Bydd hynny’n cynnwys hyn, o leiaf:

4.1 Bwrdd yr Ysgol

Ym mhob Ysgol bydd uwch-bwyllgor, fydd yn cynghori Pennaeth yr Ysgol ac a gadeirir gan y Pennaeth neu ei (h)enwebai, yn ymwneud â materion polisi o bwys sy’n ymwneud â’r Ysgol.

4.1.1 Mewn perthynas â Rhaglenni a addysgir, bydd y rhain yn cynnwys:

.1 sefydlu cenhadaeth ac amcanion yr Ysgol ar gyfer eu hadolygu;
.2 datblygu Cynllun Strategol yr Ysgol yn unol â strategaethau’r sefydliad;
.3 ystyried materion sy'n ymwneud â dysgu, addysgu ac asesu yn unol â blaenoriaethau'r Brifysgol, yn ôl diffiniad strategaeth y Brifysgol, a Rheoliadau a Pholisïau'r Brifysgol;
.4 dyrannu a monitro adnoddau i Raglenni a addysgir;
.5 cael ac ystyried argymhellion gan y Byrddau Astudio ar gyfer newidiadau mawr i raglenni presennol.

4.2 Y Pwyllgor Addysg Ysgol a Phrofiad Myfyrwyr

4.2.1 Bydd Pennaeth yr Ysgol yn sefydlu Pwyllgor Addysg Ysgol a Phrofiad Myfyrwyr, a'r Cadeirydd fydd y Cyfarwyddwr Dysgu ac Addysgu, a fydd yn adrodd i Fwrdd yr Ysgol a Phwyllgor Addysg a Phrofiad Myfyrwyr y Coleg.

4.2.2 Bydd y Pwyllgor Addysg Ysgol a Phrofiad Myfyrwyr yn darparu goruchwyliaeth o'r trefniadau ar gyfer rheoli rhaglenni a addysgir a phrofiad myfyrwyr, gan gynghori / argymell i Bennaeth yr Ysgol trwy Fwrdd yr Ysgol, ar faterion gan gynnwys:

  • derbyn ac ystyried argymhellion gan Fyrddau Astudio;
  • adolygu a dadansoddi adborth myfyrwyr ac ystyried unrhyw argymhellion gan y Panel(au) Staff Myfyrwyr;
  • Sicrhau bod y trefniadau ar gyfer addysgu, asesu a chefnogi myfyrwyr yn glynu wrth reoliadau, polisïau, gweithdrefnau a strategaethau’r Brifysgol ac yn cyd-fynd â nhw.
  • nodi mentrau gwella sy'n cyfrannu at gyflawni nodau'r is-strategaeth Addysg a Myfyrwyr a goruchwyliaeth ar effaith ac effeithiolrwydd y camau a gymerir;
  • sicrhau bod cyflwyniad Adolygiad a Gwelliant Blynyddol (ARE) yr Ysgol wedi'i gwblhau;
  • goruchwylio effeithiolrwydd camau gweithredu’r Cynllun Gwella Profiad y Myfyrwyr a’r ffordd y cânt eu rhoi ar waith;
  • hyrwyddo cyfleoedd ar gyfer datblygu staff;
  • gan integreiddio ystyriaeth o gydraddoldeb, ac amrywiaeth a chynhwysiant a chynaliadwyedd ym mhob mater sy'n dod o fewn ei gylch gwaith.

4.2.3 Bydd y Pwyllgor Addysg Ysgol a Phrofiad Myfyrwyr yn cynghori ac yn adrodd i Bwyllgor Addysg a Phrofiad Myfyrwyr y Coleg ar faterion gan gynnwys:

  • Cynnydd yr Ysgol wrth gefnogi gweithrediad yr is-strategaeth Addysg a Myfyrwyr;
  • cyfleoedd arloesedd a gwelliannau ym maes addysg ac asesu;
  • cyfleoedd i wella profiad myfyrwyr, yn enwedig o ran adborth myfyrwyr;
  • materion neu bryderon sy'n ymwneud ag addysg a phrofiad myfyrwyr y mae angen eu hystyried ymhellach ar lefel Prifysgol.

4.3 Byrddau Astudio

4.3.1 Rhaid i bob Rhaglen fod yn destun goruchwyliaeth Bwrdd Astudio.  Bydd Pennaeth yr Ysgol sefydlu unrhyw Fyrddau Astudio y mae eu hangen i sicrhau cydlynu’r holl faterion academaidd a gweinyddol sy’n gysylltiedig â’r Rhaglenni a addysgir ac a ddarperir gan yr Ysgol.

4.3.2 Each school will have at least one Student Staff Panel for undergraduate and one for postgraduate, with additional Panels established to ensure that issues can be discussed with appropriate representation.

Bydd Byrddau Astudiaethau yn adrodd i'r Pwyllgor Addysg Ysgol a Phrofiad Myfyrwyr.  Byddant yn ymwneud ag un neu ragor o Raglenni, neu rannau o Gyd-raglenni, a gynigir gan yr Ysgol.  Bydd eu swyddogaethau creiddiol yn cynnwys:

.1 bod yn gyfrifol am yr Adolygiad a Gwelliant Blynyddol o’r rhaglenni/rhannau o raglenni;

.2 ystyried, a lle bo hynny'n briodol, cynghori'r Pwyllgor Addysg Ysgol a Phrofiad Myfyrwyr ar faterion fel:

  • cynaliadwyedd parhaol lefel y rhaglen a’r deilliannau dysgu bwriadedig;
  • bod unrhyw ddiwygiadau i strategaeth a strwythur y rhaglen yn unol ag egwyddorion strwythur, dyluniad a darpariaeth y rhaglen;
  • bod yr holl adroddiadau ac ymweliadau achrediadau proffesiynol yn cael eu hadolygu, a bod camau priodol yn cael eu cymryd yn eu cylch;
  • bod yr holl raglenni darpariaeth ar y cyd yn cael eu monitro, gan gyfeirio'n benodol at adroddiadau safonwyr;
  • monitro cynlluniau 'Teach Out' ar gyfer unrhyw raglennu sydd wedi'u diddymu;
  • bod holl adroddiadau arholwyr allanol yn cael eu hadolygu gan gyfeirio'n benodol at adborth ynghylch ansawdd a safonau rhaglenni ac unrhyw gynigion am newidiadau i raglenni.

.3 cymeradwyo, a lle y bo'n briodol, cynghori'r Pwyllgor Addysg Ysgol a Phrofiad Myfyrwyr ar, newidiadau i raglenni fel y caniateir gan y Polisi Datblygu Rhaglenni;

.4 cynghori'r Pwyllgor Addysg Ysgol a Phrofiad Myfyrwyr ar gynigion ar gyfer rhaglenni newydd neu newidiadau mawr i raglenni;

.5 cynghori Pennaeth yr Ysgol ar gynnydd myfyrwyr sy'n gwneud cais am fynediad trwy gydnabod dysgu blaenorol (achrededig a thrwy brofiad), trosglwyddiadau mewnol, a chyn-fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd sy'n dychwelyd i astudio.

.6 cynghori'r Pwyllgor Addysg Ysgol a Phrofiad Myfyrwyr am faterion i'w hystyried ymhellach gan yr Ysgol neu i'w cyfeirio ymlaen at bwyllgorau ar lefel Coleg neu Brifysgol;

.7 adolygu ac ystyried adborth myfyrwyr a gafwyd o arolygon a Phanel(au) Staff Myfyrwyr yn ymwneud â darparu rhaglenni.

4.3.3 Rhaid peidio â rhagnodi cyfansoddiad Byrddau Astudio ac eithrio bod rhaid iddynt gynnwys:

  • o leiaf un cynrychiolydd o staff academaidd pob Modiwl sy’n dod o dan oruchwyliaeth y Bwrdd Astudio;
  • o leiaf un cynrychiolydd o’r myfyrwyr, a’r cynrychiolydd hwnnw fel rheol wedi’i dynnu o’r Paneli Myfyrwyr/Staff a weinyddir gan y Bwrdd Astudio ac wedi’i ethol gan ac o blith yr aelodau o’r Paneli Staff/Myfyrwyr sy’n fyfyrwyr.  Bydd pob Bwrdd Astudio bennu nifer y cynrychiolwyr ychwanegol (os o gwbl) a fydd gan y myfyrwyr ac sydd i’w cynnwys ymhlith aelodau’r Bwrdd hwnnw.

4.4 Panel Myfyrwyr a Staff

4.4.1 Mae Paneli Myfyrwyr/Staff yn cynnig cyfle i fyfyrwyr amlygu problemau a phrofiadau cadarnhaol gyda'r Ysgol sy'n ymwneud â'u profiadau addysgol, a rhoi cyfle i Ysgolion ymgynghori â myfyrwyr ynghylch cynigion sy'n ymwneud â'u profiad addysgol.

4.4.2 Bydd gan bob Ysgol o leiaf un panel Staff/Myfyrwyr ar gyfer rhaglenni a addysgir ac un ar gyfer ymchwil ôl-raddedig fel ei gilydd, gyda phaneli priodol wedi'u sefydlu i wneud yn siŵr y gellir trafod materion gyda chynrychiolaeth briodol, e.g. israddedig ac ôl-raddedig a addysgir.

4.4.3 Bydd Cofnodion Paneli Staff Myfyrwyr ar gyfer rhaglenni a addysgir yn cael eu cyflwyno i'r Byrddau Astudiaethau a’r Pwyllgor Addysg Ysgol a Phrofiad Myfyrwyr perthnasol er mwyn ystyried y materion a godir.  Pan bennir ei bod yn briodol, gellir defnyddio'r cofnodion hefyd i gyfeirio materion yn uniongyrchol gyda'r Cyfarwyddwr Dysgu ac Addysgu, neu Gyfarwyddwr Ymchwil Ôl-raddedig a/neu Benaethiaid Ysgolion.  Caiff cofnodion eu cyflwyno hefyd i Undeb y Myfyrwyr, fydd yn cynhyrchu adroddiadau ar sail semester ynghylch gweithgarwch ar draws y Brifysgol.

4.4.4 Mae cyngor ac arweiniad ar gael mewn Côd Ymarfer ynghylch Cynrychiolaeth Academaidd.

4.5 Byrddau Arholi

4.5.1 Caiff Byrddau Arholi eu sefydlu yn unol â Rheoliadau Asesu’r Senedd a Byrddau Arholi.

4.6 Pwyllgor Addysg a Phrofiad Myfyrwyr y Colegau

4.6.1 Bydd Pwyllgor Addysg a Phrofiad Myfyrwyr y Coleg yn darparu goruchwyliaeth o'r trefniadau ar gyfer cyflwyno rhaglenni a addysgir a phrofiad a mentrau myfyrwyr i gefnogi cyflawni nodau ac amcanion yr is-strategaeth Addysg a Myfyrwyr, gan gynnwys:

  • Nodi mentrau gwella sy’n cyfrannu at gyflawni nodau’r is-strategaeth Addysg a Myfyrwyr;
  • adolygu a gwerthuso adborth myfyrwyr;
  • goruchwylio’r cynnydd ar effeithiolrwydd a’r ffordd y caiff gweithgareddau a mentrau gwella eu rhoi ar waith;
  • gwerthu effaith polisïau sy’n ymwneud â phrofiad y myfyrwyr;
  • Hyrwyddo arloesedd a gwelliannau mewn addysgu ac asesu;
  • hyrwyddo cyfleoedd ar gyfer datblygu staff;
  • ystyried materion a godir gan Bwyllgorau Addysg Ysgol a Phrofiad Myfyrwyr;
  • gan integreiddio ystyriaeth o gydraddoldeb, ac amrywiaeth a chynhwysiant a chynaliadwyedd ym mhob mater sy'n dod o fewn ei gylch gwaith.

4.6.2 Bydd Pwyllgor Addysg a Phrofiad Myfyrwyr y Coleg yn derbyn, ystyried, a lledaenu, i'r Pwyllgorau Addysg Ysgol a Phrofiad Myfyrwyr, fel y bo'n briodol, wybodaeth a dderbynnir ac a ystyrir yng nghyfarfodydd y Pwyllgor Addysg a Phrofiad Myfyrwyr a'r Pwyllgor Safonau Academaidd ac Ansawdd.

4.6.3 Bydd y Pwyllgor yn cael ei gadeirio ar y cyd gan Ddeoniaid y Coleg - Israddedig ac Ôl-raddedig - a bydd ei aelodaeth yn cynnwys: Cyfarwyddwr Dysgu ac Addysgu o bob Ysgol; swyddog sabothol Undeb y Myfyrwyr a enwebwyd gan y Llywydd; dau gynrychiolydd myfyrwyr hŷn.

5. Strwythur Rheoli Graddau Ymchwil

5.1 Pwyllgor Addysg a Phrofiad Myfyrwyr y Colegau

5.1.1 Ym mhob Coleg, ceir Pwyllgor Addysg a Phrofiad y Myfyrwyr Ymchwil Ôl-raddedig, a fydd yn adrodd i'r Pwyllgor Addysg a Phrofiad Myfyrwyr y Brifysgol a'r Pwyllgor Safonau ac Ansawdd Academaidd, a hefyd i bob Bwrdd y Gwahanol Golegau.

5.1.2 Bydd Pwyllgor Addysg a Phrofiad Myfyrwyr y Colegau’n darparu goruchwyliaeth o'r trefniadau ar gyfer cyflwyno rhaglenni ôl-raddedig ymchwil a phrofiad a mentrau myfyrwyr i gefnogi cyflawni nodau ac amcanion yr is-strategaeth Addysg a Myfyrwyr, gan gynnwys:

  • nodi mentrau gwella sy'n cyfrannu at gyflawni
  • amcanion yr Is-Strategaeth Addysg a Myfyrwyr;
  • adolygu a gwerthuso adborth gan fyfyrwyr;
  • goruchwylio’r cynnydd ar weithrediad, effaith ac effeithiolrwydd
  • y gweithgareddau a’r mentrau gwella;
  • gwerthu effaith polisïau sy’n ymwneud â phrofiad y myfyrwyr;
  • hyrwyddo cyfleoedd ar gyfer datblygu staff;
  • ystyried materion a godir gan Bwyllgor Ôl-raddedig Ymchwil yr Ysgol a’r Paneli Myfyrwyr-Staff.
  • integreiddio ystyriaeth o gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant,
  • integreiddio cyflogadwyedd a chynaliadwyedd ym mhob mater sy'n dod o fewn ei gylch gwaith.

5.1.3 Bydd Pwyllgor Addysg a Phrofiad Myfyrwyr y Colegau’n derbyn, ystyried, a lledaenu, i bob Pwyllgor Ymchwil Ôl-raddedig yr Ysgol, fel y bo'n briodol, wybodaeth a dderbynnir ac a ystyrir yng nghyfarfodydd y Pwyllgor Addysg a Phrofiad Myfyrwyr a'r Pwyllgor Safonau Academaidd ac Ansawdd.

5.1.4 Bydd y Pwyllgor yn cael ei gadeirio ar y cyd gan Ddeoniaid Ôl-raddedig y Coleg a bydd ei aelodaeth yn cynnwys: Cyfarwyddwr Astudiaethau Ymchwil Ôl-raddedig o bob Ysgol; swyddog sabothol Undeb y Myfyrwyr a enwebwyd gan y Llywydd; dau gynrychiolydd myfyrwyr hŷn. Yn ogystal, bydd dau reolwr gwasanaethau proffesiynol (ymchwil ôl-raddedig) neu gyfwerth yn bresennol.

5.2 Pwyllgor Ymchwil Ôl-raddedig Ysgol

5.2.1 Penaethiaid Ysgol sy’n gyfrifol am gyfathrebu â myfyrwyr a staff ynghylch unrhyw drefniadau ar gyfer cynnal a rheoli graddau ymchwil, sy'n ategol i reoliadau, polisïau a gweithdrefnau’r Brifysgol o ran llywodraethu graddau ymchwil.

5.2.2 Bydd Pennaeth yr Ysgol yn sefydlu Pwyllgor Ymchwil Ôl-raddedig Ysgol, y Cadeirydd fydd y Cyfarwyddwr Astudiaethau Ymchwil Ôl-raddedig, a fydd yn adrodd i Fwrdd yr Ysgol a Pwyllgor Addysg a Phrofiad Myfyrwyr y Colegau.

5.2.3 Bydd y Pwyllgor Ymchwil Ôl-raddedig Ysgol yn darparu goruchwyliaeth o'r trefniadau ar gyfer rheoli rhaglenni ymchwil ôl-raddedig a chefnogaeth academaidd i fyfyrwyr ymchwil ôl-raddedig, gan gynghori / argymell i Bennaeth yr Ysgol trwy Fwrdd yr Ysgol, ar faterion gan gynnwys:

  1. sicrhau bod y trefniadau ar gyfer goruchwylio a monitro myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig yn cydymffurfio â gofynion y Brifysgol, ac yn hygyrch i'r holl staff a myfyrwyr;
  2. sicrhau bod yr holl fyfyrwyr yn cael eu goruchwylio’n ddigonol wrth iddynt fynd ar drywydd eu nodau ymchwil a’u hanghenion o ran datblygiad proffesiynol;
  3. ystyried a chadarnhau hawliau myfyrwyr, gan gynnwys darpariaeth o ran gofod / seilwaith, mynediad at gyllid ar gyfer cynadleddau, costau ymchwil, teithio a hyfforddiant, a chyfleoedd addysgu;
  4. sicrhau trefniadau priodol ar gyfer ystyried ceisiadau a chynnal cyfweliadau;
  5. adolygu ac ystyried adborth myfyrwyr a gafwyd o arolygon a'r Panel Staff Myfyrwyr;
  6. adolygu gwybodaeth reoli, gan gynnwys cynnydd, cyflwyno, cwblhau, adborth gan fyfyrwyr ac arholwyr, a defnyddio gwybodaeth o'r fath i lywio gweithredoedd yr Ysgol;
  7. sicrhau bod cyflwyniad Adolygiad a Gwelliant Blynyddol (ARE) yr Ysgol wedi'i gwblhau;
  8. cyfleoedd i wella profiad y myfyrwyr;
  9. cynigion ar gyfer rhaglenni ymchwil newydd;
  10. gan integreiddio ystyriaeth o gydraddoldeb, ac amrywiaeth a chynhwysiant a chynaliadwyedd ym mhob mater sy'n dod o fewn ei gylch gwaith.

5.2.4 Bydd y Pwyllgor Ymchwil Ôl-raddedig Ysgol yn cynghori'r Pwyllgor Addysg a Phrofiad Myfyrwyr y Colegau, trwy Ddeon y Coleg (Ôl-raddedig):

  • cyfleoedd i wella profiad y myfyrwyr;
  • materion neu bryderon sy'n ymwneud â'r trefniadau ar gyfer graddau ymchwil a / neu brofiad myfyrwyr y mae angen eu hystyried ymhellach ar lefel Prifysgol.

5.2.5 Ni ragnodir cyfansoddiad y Pwyllgor Ymchwil Ôl-raddedig Ysgol heblaw y bydd yn cynnwys staff academaidd sy'n gyfrifol am oruchwylio a monitro myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig ac o leiaf un cynrychiolydd myfyrwyr.


6. Amrywio’r Strwythur Penderfynu Academaidd Sylfaenol


Bydd unrhyw achos o blaid amrywio’r strwythur penderfynu academaidd sylfaenol sydd wedi’i gymeradwyo gan y Senedd yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Safonau ac Ansawdd Academaidd, a bydd gan y pwyllgor hwnnw’r awdurdod i gymeradwyo’r amrywiadau hynny.

Amrywio’r trefniadau

1. Newidiadau i reoliadau'r brifysgol

1.1 Mae'r Brifysgol yn cadw'r hawl i ychwanegu, dileu neu wneud newidiadau rhesymol i’r Rheoliadau lle, ym marn y Brifysgol, bydd hyn yn ei chynorthwyo i ddarparu addysg briodol. Fel arfer gwneir newidiadau am un neu fwy o'r rhesymau canlynol:

  • I adolygu a diweddaru’r Rheoliadau er mwyn sicrhau eu bod yn addas at y diben;
  • I adlewyrchu newidiadau yn yr amgylchedd allanol, gan gynnwys newidiadau cyfreithiol neu reoliadol, newidiadau i drefniadau ariannu neu ariannol neu newidiadau i bolisi, gofynion neu ganllawiau llywodraeth;
  • I ymgorffori canllawiau’r sector neu arfer gorau;
  • I ymgorffori adborth gan fyfyrwyr; a/neu
  • I helpu eglurder neu gysondeb dull.
1.2 Bydd y Brifysgol yn ymgynghori â Swyddogion Etholedig Undeb y Myfyrwyr cyn gwneud unrhyw newidiadau sylweddol i'r Rheoliadau.

1.3 Fel arfer, bydd unrhyw newidiadau yn dod i rym ar ddechrau'r flwyddyn academaidd nesaf, er y gellir cyflwyno newid yn ystod y flwyddyn academaidd lle mae’r Brifysgol yn rhesymol yn ystyried fod hyn er budd myfyrwyr neu lle mae hyn yn ofynnol gan y gyfraith neu amgylchiadau eithriadol eraill. Bydd y Brifysgol yn cymryd pob cam rhesymol i darfu cyn lleied â phosibl ar fyfyrwyr lle bo hynny'n rhesymol bosibl, er enghraifft, drwy roi hysbysiad rhesymol o'r newidiadau i'r Rheoliadau cyn iddynt ddod i rym, neu drwy gyflwyno’r newidiadau yn raddol, os yn briodol.

1.4 Bydd y Rheoliadau wedi’u diweddaru ar gael ar wefan y Brifysgol, a gallant gael eu cyhoeddi mewn ffyrdd eraill fel bod myfyrwyr yn ymwybodol o unrhyw newidiadau.

2. Amrywiad i raglenni neu wasanaethau/cyfleusterau eraill

2.1 Bydd y Brifysgol yn gwneud pob ymdrech resymol i gyflwyno rhaglenni a chyfleoedd ymchwil sy'n arwain at ei dyfarniadau a gwasanaethau a chyfleusterau addysgol cysylltiedig eraill, fel y disgrifir yn y wybodaeth berthnasol a gyhoeddwyd gan y Brifysgol ar gyfer y flwyddyn academaidd y byddwch yn dechrau'r cwrs ynddi.

2.2 Bydd gan y Brifysgol hawl i wneud newidiadau rhesymol i'w rhaglenni lle bydd hynny'n galluogi'r Brifysgol i gyflwyno rhaglen gyfatebol neu brofiad addysgol o ansawdd gwell i fyfyrwyr sydd wedi cofrestru ar y rhaglen. Gall enghreifftiau o newidiadau o'r fath gynnwys:

  • tcynnwys a maes llafur y rhaglen lle mae datblygiadau yn y maes pwnc yn gwneud hynny'n angenrheidiol;
  • amserlen, lleoliad y rhaglen a nifer y dosbarthiadau;
  • y dull o gyflwyno’r rhaglen, y gwasanaethau a'r cyfleusterau;
  • strwythur a/neu amseru’r flwyddyn academaidd; a
  • y trefniadau ar gyfer y broses arholi ac asesu a'r dulliau o'i dilyn.

Mae enghreifftiau o amgylchiadau lle gallai fod angen i'r Brifysgol wneud newidiadau o'r fath yn cynnwys:

  • lle mae staff allweddol wedi cymryd absenoldeb estynedig neu wedi gadael y Brifysgol;
  • lle nad yw'r cwrs neu'r modiwl perthnasol yn hyfyw yn ariannol mwyach;
  • yn dilyn newidiadau i'r cyllid y mae'r Brifysgol yn ei dderbyn;
  • lle bydd y newidiadau'n galluogi'r Brifysgol i gynnig profiad addysgol o ansawdd gwell i fyfyrwyr ar y cwrs; ac
  • ailstrwythuro'r cwrs i wella profiad myfyrwyr y Brifysgol a’i heffeithlonrwydd.

2.3 Mewn achosion o'r fath, dim ond y newidiadau sydd wir angen eu gwneud er mwyn sicrhau ansawdd gofynnol profiad y myfyrwyr y bydd y Brifysgol yn eu gwneud. Bydd y Brifysgol hefyd yn hysbysu ac yn ymgynghori â'r myfyrwyr yr effeithir arnynt ymlaen llaw ynghylch unrhyw newidiadau angenrheidiol.

2.4 Weithiau mae amgylchiadau y tu hwnt i reolaeth resymol y Brifysgol na ellid bod wedi'u hatal hyd yn oed pe bai'r Brifysgol wedi cymryd gofal rhesymol ("Digwyddiadau y tu hwnt i'n rheolaeth") yn golygu bod y Brifysgol yn cael ei hatal rhag darparu neu ei rhwystro rhag darparu, neu fel arall ni all gyflwyno’r rhaglenni a/neu gyfleoedd ymchwil sy'n arwain at ei dyfarniadau a gwasanaethau a chyfleusterau addysgol cysylltiedig eraill fel y disgrifir. Mae enghreifftiau o ddigwyddiadau y tu hwnt i'n rheolaeth yn cynnwys y canlynol (ond nid ydynt yn gyfyngedig iddynt):

  • gweithredoedd Duw, llifogydd, daeargryn, storm wynt neu drychineb naturiol arall;
  • pandemigau, epidemigau clefydau heintus a bygythiadau eraill i iechyd y cyhoedd;
  • tân, ffrwydrad neu ddifrod damweiniol;
  • terfysgaeth;
  • aflonyddwch gwleidyddol neu sifil;
  • strwythurau adeiladau’n dymchwel, peiriannau, cyfrifiaduron neu gerbydau yn methu;
  • difrod, torri ar draws neu ddiffyg mynediad at adeiladau, cyfleusterau neu offer;
  • anghydfod gweithwyr, gan gynnwys streiciau a gweithredu diwydiannol neu weithredu arall;
  • toriad neu fethiant mewn gwasanaeth cyhoeddus, gan gynnwys ond heb ei gyfyngu i bŵer trydan, nwy neu ddŵr;
  • gweithredoedd, ordinhadau, deddfwriaeth, rheoliadau neu gyfyngiadau unrhyw lywodraeth;
  • absenoldeb annisgwyl neu ymadawiad aelod allweddol o staff;
  • lle mae'r niferoedd sydd wedi'u recriwtio ar gyfer rhaglen a/neu fodiwl mor isel, nid yw'n bosibl darparu addysg o safon briodol ar gyfer y myfyrwyr sydd wedi cofrestru.
  • mewn ymateb i ofynion corff achredu neu reoleiddiwr proffesiynol;
  • gweithredoedd neu oedi unrhyw awdurdod llywodraethol neu leol; a/neu
  • lle mae agwedd ar gwrs yn dibynnu ar arbenigedd penodol aelod o staff sy'n sâl neu sy'n gadael, ac nad yw'n rhesymol bosibl dod o hyd i rywun arall sydd â'r arbenigedd perthnasol.

2.5 Lle mae digwyddiadau y tu hwnt i'n rheolaeth yn digwydd, bydd y Brifysgol yn rhoi gwybod i fyfyrwyr yr effeithiwyd arnynt am y digwyddiadau ac yn cymryd pob cam rhesymol i leihau'r effaith ar brofiad dysgu'r myfyriwr drwy, er enghraifft:

  • gyflwyno fersiwn diwygiedig o'r un rhaglen; neu
  • roi'r gefnogaeth ddysgu a/neu’r gwasanaethau a’r cyfleusterau eraill y mae'n eu hystyried yn briodol i'r myfyrwyr hynny yr effeithir arnynt;
  • cyflwyno'r rhaglen mewn ffordd wahanol, o leoliad arall neu ar-lein, neu ar adeg arall;
  • darparu gwasanaethau a chyfleusterau eraill mewn ffordd wahanol, o leoliad gwahanol neu ohirio'r dyddiad dechrau ar gyfer y cwrs ar-lein; a/neu
  • roi cyfle i'r myfyrwyr hynny yr effeithir arnynt, lle bo’n bosibl yn ymarfer, drosglwyddo i raglen arall, neu dynnu yn ôl, a rhoi cefnogaeth resymol iddynt symud i brifysgol arall.

2.6 Bydd y Brifysgol yn rhoi sicrwydd parhaus o safon ac ansawdd y dyfarniad. Hysbysir y myfyrwyr am unrhyw newidiadau yn y gefnogaeth ddysgu, y gwasanaethau a’r cyfleusterau gan y Brifysgol mor fuan ag sy’n ymarferol.

2.7 Os nad yw unrhyw fyfyrwyr yn fodlon ar unrhyw gamau o'r fath i sicrhau y bydd digwyddiadau y tu hwnt i’n rheolaeth yn tarfu arnynt cyn lleied â phosibl, gallant derfynu eu contract gyda'r Brifysgol a/neu wneud cwyn o dan Weithdrefn Gwyno'r Brifysgol.

2.8 Os bydd angen cau neu derfynu neu roi'r gorau i gyflwyno rhaglen o ganlyniad i ddigwyddiadau y tu hwnt i'n rheolaeth, bydd y Brifysgol yn rhoi cyfle i fyfyrwyr yr effeithiwyd arnynt drosglwyddo i raglen arall ym Mhrifysgol Caerdydd neu dynnu'n ôl a chael cymorth rhesymol i ddod o hyd i le mewn prifysgol arall.

Rheoliadau derbyn

Trosolwg sefydliadol

Mae'r Senedd wedi cymeradwyo’r Rheoliadau Derbyn a'r polisïau a'r gweithdrefnau cysylltiedig.  Bydd y rheoliadau a'r polisïau yn cael eu hadolygu'n rheolaidd i wneud yn siŵr eu bod yn parhau i gefnogi prosesau mewnol i weithredu'n effeithlon ac yn effeithiol, ac i fodloni gofynion Côd Ansawdd diwygiedig Addysg Uwch y DU ynllawn. Mae'r disgwyliadau a'r arferion a nodwyd yn y cyngor a'r arweiniad ategol ar Dderbyn, Recriwtio ac Ehangu Mynediad yn arbennig o berthnasol:

Disgwyliadau o ran safonauDisgwyliadau o ran ansawdd
Mae gwerth y cymwysterau a ddyfernir i fyfyrwyr, wrth iddynt gymhwyso a thros amser, yn unol â'r safonau a gydnabyddir gan y sector.O gael eu derbyn hyd at gwblhau, caiff yr holl fyfyrwyr y cymorth sydd ei angen arnynt i lwyddo mewn addysg uwch, ac elwa ohoni.
Arferion craidd o ran safonauArferion craidd o ran ansawdd
Mae'r darparwr yn sicrhau bod myfyrwyr y dyfernir cymwysterau iddynt yn cael y cyfle i gyflawni safonau y tu hwnt i'r trothwy y gellir eu cymharu'n rhesymol â'r rheiny a gyflawnir mewn darparwyr eraill yn y DU.Mae gan y darparwr system dderbyn ddibynadwy, deg a chynhwysol.
 Mae'r darparwr yn gwneud pob ymdrech i ymgysylltu â myfyrwyr, yn unigol ac ar y cyd, er mwyn gwella safon eu profiadau academaidd.
 Mae gan y darparwr weithdrefnau teg a thryloyw ar gyfer mynd i’r afael â chwynion ac apeliadau sydd ar gael i bob myfyriwr.

1. Cyflwyniad

Mae’r Brifysgol yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob cefndir sydd â’r potensial a’r penderfyniad i lwyddo ar ein rhaglenni. Rydym yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn ein holl arferion gweithio a’n gweithgareddau sy’n gysylltiedig â recriwtio, dethol a derbyn myfyrwyr.

2. Gofynion Mynediad Cyffredinol:

2.1 Mae gan y Brifysgol ofynion mynediad cyffredinol i sicrhau bod gan ymgeiswyr yr hanfodion i lwyddo ar raglen yn y Brifysgol. Rhaid i’r gofynion mynediad a bennir fodloni’r Brifysgol y bydd ymgeiswyr yn cyrraedd safon academaidd briodol i gwblhau’r rhaglen

2.2 Rhaid i ymgeiswyr fedru dangos lefel gallu yn y Gymraeg neu’r Saesneg a fydd yn eu galluogi i elwa’n llawn ar eu rhaglen; bydd y lefel ofynnol yn amrywio o raglen i raglen. Caiff y lefel ei phennu gyda chyfeiriad at TGAU mewn Iaith Gymraeg neu Saesneg, astudiaeth lefel uwch fel Lefelau A neu raglen radd a ddysgir drwy gyfrwng y Saesneg, neu brawf IELTS. Cyhoeddir rhestr lawn o brofion a chymwysterau cyfatebol derbyniol, ynghyd â sgoriau y mae angen i ymgeiswyr eu cyflawni, ochr yn ochr â’r polisïau Mynediad ar wefan y Brifysgol.
Mae'n rhaid i ymgeiswyr sydd angen fisa i astudio yn y DU gyflwyno cymhwyster iaith Saesneg derbyniol er mwyn bodloni rheolau Mewnfudo Llywodraeth y DU.

2.3 Rhaid i ymgeiswyr fodloni pob gofyniad (neu ofynion) mynediad a thelerau ymrestru fel y’u cyhoeddwyd o dan ofynion mynediad y rhaglen a/neu fel y nodwyd yn y cynnig ffurfiol i astudio neu ymrestru. Gall hyn gynnwys gofynion academaidd, profiad proffesiynol perthnasol, a gofynion fel y nodwyd gan gyrff proffesiynol, statudol neu reoleiddiol gan gynnwys gwiriadau’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS), ac archwiliadau iechyd a meddygol, ynghyd â chymhwysedd bwrsariaeth.

Mae mynediad i rai rhaglenni ymchwil drwy lwybrau cyllido penodol yn unig. Bydd yn ofynnol i ymgeiswyr sicrhau, a chyflwyno tystiolaeth eu bod wedi sicrhau, y cyllid gofynnol i fod yn gymwys i gael mynediad ar y rhaglenni hyn.

Bydd angen tystiolaeth ffurfiol i gadarnhau bod yr holl ofynion wedi’u cyflawni. Rhaid cyflwyno’r dystiolaeth hon erbyn y dyddiad cau penodedig.

3. Gofynion mynediad rhaglenni gradd

3.1 Mae gofynion mynediad yn cael eu pennu gan yr Ysgol Academaidd. Yn achos graddau a addysgir, bydd gofynion mynediad wedi’u pennu gyda chytundeb y Grŵp Strategaeth Recriwtio a Derbyn. Mae’r Rheoliadau hyn yn disgrifio ar ba sail y bydd gofynion mynediad yn cael eu pennu ar gyfer rhaglenni astudio ym Mhrifysgol Caerdydd.

3.2 Bydd gofynion mynediad yn cael eu pennu’n unol â gofynion Cod Ansawdd y Gwasanaeth Sicrhau Ansawdd (QAA) ar gyfer Addysg Uwch.

3.3 Rhaid i ymgeiswyr ar gyfer pob lefel astudio gyflawni’r Gofynion Mynediad Cyffredinol fel y nodir yn y Rheoliadau hyn.

3.4 Rhoddir y gofynion ar gyfer lefelau astudio penodol isod:

Rhaglenni gradd israddedig

Mae’n ofynnol bod ymgeiswyr ar gyfer rhaglenni gradd israddedig naill ai’n medduar gymwysterau ar lefel 3 (neu uwch) Fframwaith Credydau a Chymwysterau Cymru (CQFW) neu gyfatebol fel y nodir gan Brifysgol Caerdydd yn ei chanllawiau cyfwerthedd cymwysterau, neu wedi cael eu hasesu gan yr Ysgol Academaidd fel bod â phrofiad/dysgu proffesiynol cyfatebol.

Rhaglenni ôl-raddedig a addysgir

Mae’n ofynnol bod ymgeiswyr ar gyfer rhaglenni ôl-raddedig a addysgir naill ai’n medduar gymwysterau ar lefel 6 (neu uwch) Fframwaith Credydau a Chymwysterau Cymru (CQFW) neu gyfatebol fel y nodir gan Brifysgol Caerdydd yn ei chanllawiau cyfwerthedd cymwysterau, neu wedi cael eu hasesu gan yr Ysgol Academaidd fel bod â phrofiad/dysgu proffesiynol cyfatebol.

Rhaglenni Gradd Ymchwil

Mae’n ofynnol bod ymgeiswyr ar gyfer gradd ymchwil ôl-raddedig yn medduar gymwysterau ar lefel 6 (neu uwch) Fframwaith Credydau a Chymwysterau Cymru (CQFW) neu gyfatebol fel y nodir gan Brifysgol Caerdydd yn ei chanllawiau cyfwerthedd cymwysterau Beth bynnag fo cymwysterau ymgeisydd, rhaid i'r Ysgol o dan sylw fodloni ei hun bod ymgeisydd o'r safon academaidd ofynnol i gwblhau'r rhaglen ymchwil arfaethedig.

Rhaid i ymgeisydd ar gyfer y radd MD fod wedi cymhwyso mewn gradd Baglor mewn Meddygaeth a Baglor mewn Llawdriniaeth o leiaf 3 blynedd cyn eu derbyn.

Yn achos lleoedd ymchwil a ariennir, gall gofynion mynediad gael eu pennu’n unol â’r gofynion cyllido.

4. Cynnig Ffurfiol i astudio: telerau ac amodau

4.1 Os cewch gynnig lle, bydd cynnig ffurfiol yn cael ei anfon atoch a fydd yn nodi’r telerau ac amodau ar gyfer eich derbyn ar raglen astudio benodedig.

4.2 Bydd y cynnig ffurfiol yn cynnwys gwybodaeth am eich rhaglen astudio, ffioedd dysgu ar gyfer y flwyddyn astudio gyntaf, blaendal (os yn gymwys), eich dyddiad cychwyn, y dyddiad cwblhau disgwyliedig, ac unrhyw amodau academaidd/anacademaidd/cofrestru y bydd angen i chi eu bodloni.

4.3 Bydd eich cynnig naill ai’n amodol neu’n ddiamod.

Mae Amodol yn golygu bod gofynion academaidd, anacademaidd, neu iaith Gymraeg/Saesneg y bydd yn rhaid eu cyflawni cyn y gellir cadarnhau lle.

Mae Diamod yn golygu eich bod, mewn egwyddor, wedi bodloni’r holl ofynion academaidd, anacademaidd, neu iaith Gymraeg/Saesneg, ac y bydd lle’n cael ei gadarnhau ar ôl derbyn y lle erbyn y dyddiad gofynnol ac, os yn briodol, talu unrhyw flaendal gofynnol. Bydd angen i chi gyflwyno tystiolaeth ffurfiol eich bod wedi bodloni’r gofynion cyn ymrestru (fel cyflwyno tystysgrifau cymwysterau).

4.4 Mae cynnig ffurfiol i astudio’n ddilys ar gyfer y rhaglen astudio a’r dyddiad dechrau a nodwyd yn unig.

5. Dyddiadau dechrau a gohirio mynediad

5.1 Bydd dyddiad mynediad i’r rhaglen y gwnaed cais amdani yn cael ei gadarnhau yn y cynnig ffurfiol.

5.2 Cyn cyflwyno cais, gall ymgeiswyr wneud cais ar gyfer unrhyw dderbyniad sydd ar gael, a all gynnwys mynediad wedi’i ohirio.

5.3 Ar ôl i gais gael ei gyflwyno, neu ar ôl i gynnig i astudio gael ei wneud, gall ymgeiswyr ofyn am gael gohirio eu cais/lle am hyd at 12 mis o ddyddiad dechrau’r rhaglen roeddent wedi gwneud cais ar ei chyfer yn wreiddiol. Nid oes sicrwydd y caiff y cais i ohirio ei gymeradwyo. Bydd yn rhaid i ymgeiswyr sy’n dymuno gohirio mynediad am fwy na 12 mis ar ôl y dyddiad dechrau wneud cais arall.

6. Newid Rhaglen

6.1  Ar ôl i gais gael ei gyflwyno, neu ar ôl i gynnig i astudio gael ei wneud, gall ymgeiswyr ofyn am gael newid eu rhaglen astudio. Nid oes sicrwydd y caiff y cais i newid rhaglen ei gymeradwyo, a bydd yn amodol ar argaeledd lleoedd a bod yr ymgeisydd yn cyflawni’r gofynion mynediad ar gyfer y rhaglen astudio newydd.

7. Ymddygiad a chyfrifoldeb ymgeiswyr

7.1 Mae’r Brifysgol wedi ymrwymo i bolisi o gydraddoldeb a chyfle, ac mae’n ymdrechu i sicrhau amgylchedd dysgu, gweithio a chymdeithasol diogel heb unrhyw wahaniaethu. Ein nod yw gwneud yn siŵr bod myfyrwyr, staff, ymwelwyr ac eraill sy'n gysylltiedig â'r Brifysgol yn cael eu trin ag urddas, parch a thegwch, ni waeth beth fo unrhyw wahaniaeth amhriodol, fel oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd, mamolaeth, hil, crefydd, cred, rhyw a chyfeiriadedd rhywiol (sydd wedi’u nodi fel 'nodweddion gwarchodedig' o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010).

7.2 Os byddwch yn ymddwyn yn groes i bolisïau’r Brifysgol o ran Cydraddoldeb ac Amrywiaeth neu Urddas yn y Gweithle ac wrth Astudio (y mae'n ofynnol i’r holl fyfyrwyr a staff y Brifysgol lynu wrthynt), rydym yn cadw'r hawl i'ch diarddel os ydych wedi cael eich derbyn/ymrestru, ac i ddiddymu unrhyw gontract.

7.3 Cyfrifoldeb yr ymgeisydd a enwir yw rhoi gwybodaeth lawn a chywir yn eu cais, a gwneud yn siŵr bod y Brifysgol yn cael gwybod am unrhyw newidiadau i’w manylion cyswllt neu eu hamgylchiadau personol, ac ymateb i unrhyw geisiadau ychwanegol am wybodaeth sydd ei hangen sy’n berthnasol i’w cais yn brydlon.

7.4 Ni fydd y Brifysgol yn ystyried ymhellach unrhyw ymgeisydd sy’n rhoi gwybodaeth anwir neu gamarweiniol, a bydd yn prosesu penderfyniad aflwyddiannus. Ar ôl cynnig lle, gall cynnig gael ei dynnu’n ôl neu ei newid os daw gwybodaeth i sylw'r Brifysgol a allai fod wedi dylanwadu ar benderfyniad neu ganlyniad cais. Mae hyn yn cynnwys cyflwyno gwybodaeth anwir neu gamarweiniol i ategu cais.

7.5 Pan fo ymgeisydd neu drydydd parti sy’n gweithredu ar ran ymgeisydd wedi camarwain y Brifysgol yn fwriadol neu’n ddiofal drwy gyflwyno gwybodaeth anwir neu anghywir, bydd y Brifysgol yn hysbysu’r partïon perthnasol. Bydd y rhain yn cynnwys UCAS yn achos ceisiadau israddedig, y Swyddfa Gartref lle gallai gwybodaeth a ddatgenir gael ei defnyddio’n anwir i gael fisa i gael mynediad i’r DU, a heddlu perthnasol yn y DU mewn achos o dwyll a chamarwain difrifol.

7.6 Mae’r Brifysgol yn cymryd ei dyletswyddau diogelu o ddifrif. Os daw gwybodaeth i law'r Brifysgol ynghylch (neu â allai fod ynghylch) mater diogelu, bydd y Brifysgol yn gweithredu’n unol â'i dyletswyddau ac yn rhoi gwybod am unrhyw bryderon i'r partïon cymwys (yn unig) o fewn y Brifysgol fel sy'n briodol, a gyda sefydliadau allanol perthnasol fel yr Heddlu (gan gynnwys yr Asiantaeth Gwrthderfysgaeth), Gwasanaethau Plant neu'r Gwasanaethau Cymdeithasol.

8. Polisïau a gweithdrefnau mynediad

8.1  Mae’r Rheoliadau Mynediad Myfyrwyr yn cael eu hategu gan Bolisïau Mynediad y Brifysgol

8.2 Mae proses derbyn y Brifysgol yn seiliedig ar yr egwyddorion canlynol:

  • tegwch;
  • tryloywder;
  • proffesiynoldeb;
  • hygyrchedd ar gyfer ymgeiswyr a’u cynghorwyr;
  • defnydd cyson o bolisïau a gweithdrefnau.

8.3 Mae’r polisïau a’r gweithdrefnau canlynol yn gysylltiedig â’r Rheoliadau hyn:

Polisi Gwirio Ymgeiswyr: mae’n manylu am y polisi a’r weithdrefn ar gyfer ymchwilio i bryderon am wybodaeth anwir, anghywir, neu gamarweiniol.

Gweithdrefn cwynion yn erbyn ymgeiswyr: mae'n darparu'r gweithdrefnau i drydydd parti gyflwyno cwyn am ymddygiad ymgeisydd.

Y Weithdrefn Gwyno ac Apelio ar gyfer ymgeiswyr: mae’n nodi manylion am y polisi a’r weithdrefn sy’n galluogi ymgeiswyr i wneud cwyn neu i apelio os ydynt yn anfodlon â’r modd y cafodd proses fynediad y Prifysgol ei chynnal, neu ganlyniad y broses honno.

Polisi Mynediad Cyd-destunol: mae’n ymwneud â’r defnydd o wybodaeth ychwanegol fel rhan o’r broses dderbyn, i roi cyd-destun i berfformiad a chyflawniad ymgeisydd unigol o ran eu cais i’r Brifysgol.

Polisïau, gweithdrefnau a chanllawiau Euogfarnau Troseddol: mae’n manylu am y gofynion i ddatgelu euogfarnau troseddol a’r weithdrefn ar gyfer ystyried unrhyw ddatgeliad.

Blaendaliadau ar gyfer rhaglenni ôl-raddedig (gan gynnwys ad-daliadau): mae'n manylu ar y gofynion ar gyfer pwy sy'n gorfod talu blaendal, gan gynnwys eithriadau, ac yn amlinellu'r meini prawf ar gyfer ad-daliadau.

Gofynion iaith Saesneg: mae'n manylu ar y gofynion ar gyfer astudiaethau israddedig ac ôl-raddedig ar gyfer academaidd ac i fodloni gofynion trwydded noddwyr UKVI.

Polisi Amgylchiadau Esgusodol: mae’n manylu am y polisi a’r weithdrefn sy’n ystyried anawsterau neu amgylchiadau personol sylweddol ymgeisydd sy’n cael effaith arwyddocaol ar eu gallu academaidd neu eu gallu i gwblhau neu gymryd rhan mewn unrhyw fath o asesiad o ganlyniad i faterion y tu hwnt i’w rheolaeth.

Gwybodaeth am statws ffioedd: canllawiau ar ba gategori ffioedd y gall ymgeisydd ddod o dan a sut i wneud cais am asesiad ychwanegol.

Polisi Addasrwydd i Ymarfer: mae’n manylu am y polisi a’r weithdrefn ar gyfer mynediad i ymgeiswyr i raglenni a reoleiddir sy’n gysylltiedig â’u hymddygiad a’u llesiant,

Polisi Rhaglen Chwaraeon Lefel Uchel: mae’n ymwneud â’r defnydd o wybodaeth ychwanegol fel rhan o’r broses dderbyn, i roi cyd-destun i berfformiad a chyflawniad ymgeisydd unigol ym meysydd chwaraeon ac yn academaidd, o ran eu cais i’r Brifysgol.

Polisi Cyfweliadau a Chlyweliadau Derbyn: mae’n manylu am y polisi a’r weithdrefn ar gyfer cynnal cyfweliadau derbyn i asesu addasrwydd ymgeiswyr i’w derbyn ar raglen astudio.

Polisïau gordanysgrifio: sy'n rhoi'r polisi a'r weithdrefn ar gyfer Ysgolion Deintyddiaeth, Gwyddorau Gofal Iechyd, Meddygaeth ac Optometreg a Gwyddorau’r Golwg o ran capio niferoedd.

Cyflwyno dogfennaeth wreiddiol adeg cofrestru: mae'n manylu ar y weithdrefn ar gyfer darparu dogfennau copi caled i'r Brifysgol ar gais.

Polisi Cydnabod Dysgu Blaenorol (trosglwyddo credyd a phrofiad): mae’n manylu ar y gweithdrefnau ar gyfer sut mae Prifysgol Caerdydd yn cydnabod dysgu blaenorol a sut mae ymgeiswyr yn gwneud cais am eithriad o rai rhannau o raglen trwy gydnabod eu dysgu o brofiadau blaenorol a chredyd academaidd.

Polisïau lefel ysgol: sy'n rhoi manylion polisïau derbyn ychwanegol ar gyfer Ysgolion/rhaglenni arbenigol.

Polisi Cyfnod Perthnasedd Cymwysterau Academaidd Blaenorol: mae’n manylu am y polisi ar y cyfnod perthnasedd ar gyfer cymwysterau academaidd ar gyfer mynediad er mwyn sicrhau gwybodaeth gyfredol.

Hysbysiad diogelu data myfyrwyr ac ymgeiswyr: mae'n nodi sut rydym yn delio â gwybodaeth bersonol pobl sy'n gwneud cais i'r Brifysgol, neu'n astudio ynddi.

Telerau ac amodau'r cynnig: copi o'r ddogfen a ddarperir i ymgeiswyr pan fyddant yn derbyn cynnig astudio ffurfiol.

Polisi o dan 18: Mae’r polisi’n nodi’r sail i’r Brifysgol dderbyn myfyrwyr dan 18 oed ar ddechrau eu rhaglen astudio.

Dyfarniadau a rhaglenni

Rheoliadau dyfarniadau

1. Dyfarniadau Prifysgol Caerdydd

1.1 Caiff Dyfarniadau Prifysgol Caerdydd eu dynodi fel a ganlyn

Doethuriaeth Uwch
DMusDoethur mewn Cerddoriaeth
DDDoethur mewn Diwinyddiaeth
DLittDoethur mewn Llên
DScDoethur mewn Gwyddoniaeth
DDScDoethur mewn Gwyddoniaeth Ddeintyddol
DScEconDoethur mewn Astudiaethau Economaidd a Chymdeithasol
LLDDoethur yn y Cyfreithiau
Doctorate (CQFW credit level 8)
MDDoethur mewn Meddygaeth
PhDDoethur mewn Athroniaeth
Doethuriaeth (lefel credyd 8 FFCCHC)
DClinPsyDoethur mewn Seicoleg Glinigol
DEdPsyDoethur mewn Seicoleg Addysg
EdDDoethur mewn Addysg
EngDDoethur mewn Peirianneg
DSWDoethur mewn Gwaith Cymdeithasol
DAHPDoethur mewn Ymarfer Gofal Iechyd Uwch
DHSDoethur mewn Astudiaethau Iechyd
SPPDDoethur mewn Polisi Cymdeithasol a Chyhoeddus
Ymchwil Meistr (lefel credyd 7 FFCCHC)
MResAthro mewn Ymchwil
MPhilAthro mewn Athroniaeth
Meistr a Addysgir (lefel credyd 7 FFCCHC)
MAAthro yn y Celfyddydau
MScAthro mewn Gwyddoniaeth
MScDAthro mewn Gwyddoniaeth Ddeintyddol
MScEconAthro mewn Astudiaethau Economaidd a Chymdeithasol
MBAAthro mewn Gweinyddiaeth Fusnes
MDAAthro mewn Gweinyddu Dylunio
MPAAthro mewn Gweinyddiaeth Gyhoeddus
MEdAthro mewn Addysg
LLMAthro yn y Cyfreithiau
MThAthro mewn Diwinyddiaeth
MPHAthro mewn Iechyd Cyhoeddus
MClinDentAthro mewn Deintyddiaeth Glinigol
Meistr Integredig a Baglor Estynedig  (lefel credyd 7 FFCCHC)
MArchAthro mewn Pensaernïaeth
MBiochemAthro mewn Biocemeg
MBiolAthro mewn Gwyddorau Biolegol
MBiomedAthro mewn Gwyddorau Biofeddygol
MChemAthro mewn Cemeg
MEngAthro mewn Peirianneg
MSciAthro yn y Gwyddorau
MESciAthro mewn Gwyddor Daear
MMathAthro mewn Mathemateg
MMORSAthro ym Mathemateg, Ymchwil Weithredol ac Ystadegaeth
MNeuroAthro mewn Niwrowyddorau
MOptomAthro mewn Optometreg
MPharmAthro mewn Fferylliaeth
MPhysAthro mewn Ffiseg
BDSBaglor mewn Llawfeddygaeth Ddeintyddol
MB BChBaglor mewn Meddygaeth a Baglor mewn Llawfeddygaeth
Diploma a Thystysgrif Ôl-raddedig (lefel credyd 7 FFCCHC)
PG DipDiploma Ôl-raddedig
PG CertTystysgrif Ôl-raddedig
Baglor (lefel credyd 6 FFCCHC)
BABaglor yn y Celfyddydau
BScBaglor mewn Gwyddoniaeth
BScEconBachelor of Economic and Social Studies/Baglor mewn Astudiaethau Economaidd a Chymdeithasol
BEngBaglor mewn Peirianneg
BEdBaglor mewn Addysg
LLBBaglor yn y Cyfreithiau
BMusBaglor mewn Cerddoriaeth
BArchBaglor mewn Pensaernïaeth
BNBaglor mewn Nyrsio
BMidBaglor mewn Bydwreigiaeth
BSDBaglor mewn Gwyddoniaeth mewn Deintyddiaeth
BMedScBaglor mewn Gwyddor Feddygol
BThBaglor Diwinyddol
Diploma a Thystysgrif Raddedig (lefel credyd 6 FFCCHC)
Grad DipDiploma Graddedig
Grad CertTystysgrif Raddedig
Lefelau Credyd (lefel credyd 5 FFCCHC)
 Diploma Addysg Uwch
Lefel C Tystysgrif (HEQF); (lefel credyd 4 FFCCHC)
CertHETystysgrif Addysg Uwch
Astudiaethau Sylfaen (lefel credyd 3 FfCChC)
 Tystysgrif Astudiaethau Sylfaen

1.2 Mae'r canlynol yn rhestr o gyn-ddyfarniadau dynodedig Prifysgol Caerdydd nad ydyn nhw bellach ar gael i'w rhoi:

Cyn-ddyfarniadau
MChAthro mewn Llawfedd
DDSDoethur mewn Llawfeddygaeth Ddeintyddol
DNursSciDoethur mewn Gwyddor Nyrsio
DNursDoethur mewn Nyrsio
DAHSPDoethur Gwyddoniaeth ac Ymarfer Gofal Iechyd Uwch
MEPAthro mewn Ymarfer Addysgol
MMusAthro mewn Cerddoriaeth
PGCETystysgrif Raddedig Broffesiynol mewn Addysg (Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol) (PCET)
Tystysgrif Raddedig Broffesiynol mewn Addysg (Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol) (PCET) (Yn y Gweithle)
BDBaglor mewn Diwinyddiaeth
 Cymhwyster Cenedlaethol Tiwtoriaid Cymraeg i Oedolion
 Diploma mewn Astudiaethau Cyfreithiol (ar gyfer myfyrwyr cyfnewid)

1.3 Fframwaith Credydau a Chymwysterau Cymru (FfCChC) sy’n rhoi’r fframwaith cyffredin sydd ar waith ledled Cymru ac a ddefnyddir i ddiffinio lefel a maint dysgu ar sail credyd.

1.4 Mae credyd yn ddyfarniad a roddir i ddysgwr i gydnabod eu bod wedi cyflawni deilliannau dysgu penodedig ar lefel gredyd benodol. Mae faint o Gredyd a ddyfernir i fodiwl yn seiliedig ar amcangyfrif o’r amser a fyddai’n gymryd ar gyfartaledd i ddysgwr gyflawni’r deilliannau dysgu a bennir. Bydd ugain credyd yn cynnwys o leiaf dau gant o oriau astudio gan gynnwys oriau cyswllt cysylltiedig, astudio annibynnol ac asesiad.

1.5 Mae lefel y credyd yn ddangosydd o alw cymharol, cymhlethdod a dyfnder y dysgu ac annibyniaeth y dysgwr. Fe’i diffinnir fel a ganlyn:

FFCCHC Lefel 3: Credyd a enillir fel arfer ar raglenni sylfaen gyda’r safon yn cyfateb i TAG Safon Uwch, ac a fyddai’n paratoi myfyrwyr ar gyfer dechrau astudio gradd israddedig;

FFCCHC Lefel 4: Credyd a enillir fel arfer ym mlwyddyn gyntaf rhaglenni israddedig ac sy’n briodol i ennill dyfarniad Tystysgrif Addysg Uwch Prifysgol;

FFCCHC Lefel 5: Credyd a enillir fel arfer yn ail flwyddyn rhaglenni israddedig ac sy’n briodol i ennill dyfarniad Diploma Addysg Uwch Prifysgol;

FFCCHC Lefel 6: Credyd a enillir fel arfer ym mlwyddyn olaf rhaglenni israddedig ac sy’n briodol i ennill dyfarniad gradd anrhydedd;

FFCCHC Lefel 7: Credyd a enillir fel arfer mewn rhaglenni ôl-raddedig a addysgir ac sy’n briodol i ennill dyfarniad Gradd Meistr Integredig neu Radd Meistr;

FFCCHC Lefel 8: Credyd a enillir fel arfer mewn rhaglenni ymchwil ôl-raddedig ac sy’n briodol i ennill dyfarniad doethuriaeth;

1.6 Diploma Graddedig fydd y dyfarniad priodol i fyfyriwr sy’n cael ei dderbyn gyda chydnabyddiaeth o ddysgu blaenorol (trosglwyddo credyd) i radd israddedig ym Mhrifysgol Caerdydd ar sail gradd gyntaf mewn disgyblaeth gysylltiedig a lle mae’r gofynion Credyd a nodwyd uchod wedi’u cyflawni. Diben y ddarpariaeth hon yw atal credyd a gyflawnwyd rhag cael ei gyfrif ddwywaith tuag at ddyfarniadau gradd ar wahân.

Rheoliadau rhaglenni a addysgir

Trosolwg sefydliadol

Mae'r Senedd wedi cymeradwyo’r Rheoliadau ar gyfer Rhaglenni a Addysgir.  Bydd y rheoliadau’n cael eu hadolygu'n rheolaidd i wneud yn siŵr eu bod yn parhau i gefnogi prosesau mewnol i weithredu'n effeithlon ac yn effeithiol, ac i fodloni gofynion Côd Ansawdd diwygiedig Addysg Uwch y DU yn llawn.  Mae'r disgwyliadau a'r arferion a nodwyd yn y cyngor a'r arweiniad ategol ynghylch Dylunio a Datblygu Cyrsiau, Asesu, Galluogi Cyflawniad Myfyrwyr, Arbenigedd Allanol, Dysgu ac Addysgu, a Phartneriaethau yn arbennig o berthnasol:

Disgwyliadau o ran safonauDisgwyliadau o ran ansawdd
Mae safonau academaidd cyrsiau yn bodloni gofynion y fframwaith cymwysterau cenedlaethol perthnasol.Mae cyrsiau wedi'u dylunio'n dda, ac yn rhoi profiad academaidd o safon uchel i bob myfyriwr, ac yn galluogi ffordd ddibynadwy o asesu cyrhaeddiad myfyriwr.
Mae gwerth y cymwysterau a ddyfernir i fyfyrwyr, wrth iddynt gymhwyso a thros amser, yn unol â'r safonau a gydnabyddir gan y sector.O gael eu derbyn hyd at gwblhau, caiff yr holl fyfyrwyr y cymorth sydd ei angen arnynt i lwyddo mewn addysg uwch, ac elwa ohoni.
Arferion craidd o ran safonauArferion craidd o ran ansawdd
Mae’r ddarparwr yn sicrhau bod safonau’r trothwy ar gyfer ei gymwysterau yn gyson â’r fframweithiau cenedlaethol perthnasol.Mae’r darparwr yn dylunio ac/neu’n cyflenwi cyrsiau o ansawdd uchel.
Mae'r darparwr yn sicrhau bod myfyrwyr y dyfernir cymwysterau iddynt yn cael y cyfle i gyflawni safonau y tu hwnt i'r trothwy y gellir eu cymharu'n rhesymol â'r rheiny a gyflawnir mewn darparwyr eraill yn y DU.Mae gan y darparwr staff cymwysedig digonol sy'n meddu ar sgiliau i gynnig profiad academaidd o safon uchel.
Pan fydd darparwr yn gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau eraill, bydd wedi gosod trefniadau effeithiol er mwyn gwneud yn siŵr bod safonau ei ddyfarniadau'n gredadwy ac yn ddiogel waeth ble neu ym mha fodd y darperir cyrsiau, neu bwy sy'n eu darparu.Mae gan y darparwr gyfleusterau, adnoddau dysgu a gwasanaethau cynorthwyo myfyrwyr digonol a phriodol er mwyn darparu profiad academaidd o safon uchel.
Mae’r darparwr yn defnyddio arbenigedd allanol, prosesau asesu a dosbarthu sy’n ddibynadwy, teg a thryloyw.Mae'r darparwr yn ymgysylltu'n weithredol â myfyrwyr, yn unigol ac ar y cyd, o ran safon eu profiadau addysg.
 Pan fydd darparwr yn gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau eraill, mae ganddo drefniadau effeithiol ar waith i sicrhau bod y profiad academaidd o ansawdd uchel waeth ble neu sut y caiff cyrsiau eu cyflwyno a phwy sy'n eu darparu.
 Mae'r darparwr yn cefnogi pob myfyriwr i lwyddo yn academaidd ac yn broffesiynol.
Arferion cyffredin o ran safonauArferion cyffredin o ran ansawdd
Mae’r darparwr yn adolygu ei arferion craidd ar gyfer safonau’n rheolaidd ac yn defnyddio’r canlyniadau i sbarduno gwelliant.Mae’r darparwr yn adolygu ei arferion craidd ar gyfer ansawdd yn rheolaidd ac yn defnyddio’r canlyniadau i sbarduno gwelliant.
 Mae agwedd y darparwr tuag at reoli ansawdd yn cymryd i ystyriaeth arbenigedd allanol.
 Mae'r darparwr yn ymgysylltu â myfyrwyr, yn unigol ac ar y cyd wrth ddatblygu, gwarantu a gwella safon eu profiadau academaidd.

Rheoliadau ar gyfer Rhaglenni Modiwl a Addysgir

1. Gwybodaeth am Raglenni

1.1 Mae Pennaeth Ysgol yn gyfrifol am sicrhau bod gwybodaeth am raglenni ar gael ar gyfer pob rhaglen a gynigir gan yr Ysgol, gan gynnwys pob amrywiad ar raglen (e.e. rhan-amser neu amser llawn, rhaglenni gyda blwyddyn ar leoliad, gwahanol ddyddiadau dechrau).

1.2 Bydd gwybodaeth am raglenni’n cynnwys yr wybodaeth ganlynol:

  • dyfarniad bwriadedig;
  • pwyntiau ymadael cymeradwy;
  • hyd y rhaglen;
  • modd mynychu;
  • disgrifiad o’r rhaglen;
  • deilliannau dysgu ar lefel rhaglen; wedi’u halinio â deilliannau dysgu modiwlau craidd a gofynnol;
  • cyfeiriad at ddatganiad meincnod pwnc yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd (QAA);
  • cyfeiriad at achrediad gan gorff proffesiynol;
  • strwythur y rhaglen, e.e. cyfanswm nifer y credydau a lefel, nifer y camau;
  • cynnydd a rheolau dosbarthiad y dyfarniad;
  • bydd iaith y dysgu, goruchwylio ac asesu yn Saesneg a/neu yn Gymraeg, ac eithrio mewn rhaglenni sydd wedi’u llunio i gynnwys caffael sgiliau iaith.

2. Gwybodaeth am y modiwl

2.1 Mae modiwl yn gydran benodol o ddysgu gydag uned ddiffiniedig o gredyd a lefel credyd.

2.2 Bydd modiwlau’n cael eu cyflwyno mewn unedau o 10 credyd, 15 credyd (rhaglenni ôl-raddedig yn unig), 20 credyd, 30 credyd neu 40 credyd. Ni fydd dim modiwl yn fwy na modiwl 40 credyd nac yn para mwy nag 1 sesiwn, heblaw mewn prosiectau a thraethodau a chyfnodau o hyfforddiant proffesiynol/diwydiannol neu astudio/profiad gwaith dramor.

2.3 Bydd disgrifiad o fodiwl yn cynnwys yr wybodaeth ganlynol:

  • Lefel CFQW/FHEQ ac oriau dysgu dan arweiniad,
  • deilliannau dysgu,
  • cynnwys y maes llafur,
  • sut bydd y modiwl yn cael ei asesu, gan gynnwys y pwysoli ar gyfer pob elfen o asesu,
  • cyfleoedd ar gyfer asesu ffurfiannol,
  • sut bydd y modiwl yn cael ei ailasesu

2.4 Ym mhob cam o raglen, rhaid pennu cyfres o fodiwlau cymeradwy. Bydd dynodiad modiwlau’n dod o fewn y mathau canlynol:

Modiwl Gofynnol:

Modiwl y mae’n rhaid i bob myfyriwr sydd wedi’u cofrestru ar raglen benodol ei ddilyn a’i basio drwy gyflawni’r isafswm marc llwyddo. Os nad yw myfyriwr wedi llwyddo mewn modiwl gofynnol, fydd dim modd mynd i gam nesaf y rhaglen na graddio gyda’r cymhwyster arfaethedig.

Modiwl Craidd:

Modiwl y mae’n rhaid i bob myfyriwr sydd wedi eu cofrestru ar raglen benodol ei astudio.

Modiwl Dewisol:

Modiwl sy’n ddewisol i fyfyrwyr sydd wedi eu cofrestru ar raglen.

Modiwl Cyn-ofynnol:

Modiwl y mae’n rhaid i bob myfyriwr sydd wedi eu cofrestru ar raglen benodol ei astudio ar yr un pryd.

Modiwl Rhagflaenol:

Modiwl sy’n cynnwys oriau astudio y bydd angen i fyfyriwr fod wedi’i gwblhau er mwyn gallu symud ymlaen i fodiwl penodol dilynol, ond sydd heb gael credyd ar ei gyfer o reidrwydd, cyn dechrau’r modiwl dilynol.

Modiwl Rhagofynnol:

Modiwl y bydd yn rhaid i fyfyriwr fod wedi derbyn credyd ar ei gyfer er mwyn symud ymlaen i fodiwl penodol dilynol.

Ni chaiff unrhyw fodiwl sydd wedi’i amserlenni ar gyfer Semester yr Hydref fod yn rhagofyniad ar gyfer cael mynediad ar fodiwl sydd wedi’i amserlenni ar gyfer Semester y Gwanwyn sy’n dilyn yn union wedi hynny.

Marciau’r Modiwl

2.5 Bydd y marc ar gyfer modiwl unigol yn cael ei gyfrifo’n ôl y pwysoliadau ar gyfer asesiad crynodol pob elfen a bennir yn y disgrifiad modiwl, wedi eu talgrynnu a’u cofnodi fel rhif cyfan. Bydd y marciau ar gyfer pob elfen o asesiad crynodol yn rhifau cyfan rhwng 0 a 100.

2.6 Y marc isaf i basio mewn modiwl yw:

  1. 40% ar gyfer modiwlau lefel 3, 4, 5 a 6.
  2. 50% ar gyfer modiwlau lefel 7 ac 8;

2.7 Methiant critigol - Mae'r rhain yn digwydd yn ystod asesiadau ymarferol lle mae myfyriwr yn gwneud camgymeriad critigol ar un neu fwy o'r gorsafoedd a aseswyd sy'n rhoi diogelwch y claf/cleient mewn perygl (e.e. rhagnodi dos marwol o feddyginiaeth, neu fethu â chanfod meningitis).

2.8 Methiant gorfodol - yw lle mae modiwl wedi'i farcio fel un a fethwyd er y gallai'r cydrannau adio hyd at bas, gan fod asesiad(au) gofynnol y mae'n rhaid eu pasio er mwyn pasio'r modiwl.

Ailasesu

2.9 Bydd myfyriwr sy’n cael ei ailasesu mewn modiwl, sy’n ailsefyll neu’n ailadrodd, ac sy’n pasio asesiad a fethwyd yn flaenorol, yn cael credyd o isafswm marc asesu am basio; os yw ailasesiad drwy asesiad synoptig, bydd marc y modiwl yn cael ei gapio ar y marc pasio isaf.

Cynigion mewn modiwl

2.10 Yn amodol ar allu parhau ar raglen:

  1. caniateir tri chynnig i fyfyriwr israddedig ennill credyd mewn modiwl (cynnig cyntaf a dau gynnig ailasesiad. Caiff hwn ei gynnal fel arfer yn ystod y cyfnod ailsefyll a/neu drwy ailadrodd y sesiwn academaidd nesaf).
  2. caniateir dau gynnig i fyfyriwr ôl-raddedig i ennill credyd mewn modiwl (cynnig cyntaf a chynnig ailasesiad)

2.11 Ni chaniateir i fyfyriwr y dyfarnwyd credyd iddo mewn modiwl gael ei ailasesu yn y modiwl hwnnw i gael marc uwch.

3. Gwybodaeth am Ddyfarniadau

3.1 Bydd gan bob rhaglen ddyfarniad dynodedig. dyfarniad bwriadedig y myfyriwr, a gall hefyd bennu dyfarniad(au) ymadael y gall myfyrwyr fod yn gymwys i’w cael ar ôl cwblhau cam o raglen yn llwyddiannus.

3.2 Y Dyfarniad Bwriadedig yw'r dyfarniad a enwir sy'n cael ei ddilyn yn rhan o'r rhaglen astudio sydd wedi'i chofrestru. Mae Dyfarniad Ymadael (Atodol) yn ddyfarniad amgen cymeradwy y gellir ei wneud os nad yw myfyriwr wedi cyflawni gofynion llawn y dyfarniad a fwriadwyd, ond ei fod wedi cyflawni gofynion credyd digonol ar gyfer dyfarniad amgen sydd ar gael ar ei raglen astudio.

3.3 Rhaid i bob Dyfarniad Ymadael (Atodol) gael ei gymeradwyo ac ni ellir ei ychwanegu at raglen yn ôl-weithredol.

4. Rhaglenni Israddedig

Strwythur Rhaglenni Israddedig Modiwlaidd

4.1 Bydd strwythur rhaglenni israddedig modiwlaidd a addysgir yn cynnwys credydau fel y nodir isod:

Lefel 4 neu uwchLefel 5 neu uwchLefel 6 neu uwchLefel 7 neu uwchCyfanswm
Tystysgrif Addysg Uwch120   120
Diploma Addysg Uwch120120  240
Tystysgrif Raddedig 2040 60
Diploma Graddedig 3090 120
Gradd Baglor120120120 360
Gradd Baglor gyda Blwyddyn E/PL120240 including 120 E/PL120 480
Gradd Ymsang Baglor  120 120
Gradd Meistr Integredig120120120120480
Gradd Meistr Integredig gyda Blwyddyn E/PL120120120 including 120 E/PL1120600

4.2 Bydd rhaglenni israddedig pedair blynedd gyda blwyddyn o Ddysgu trwy Brofiad/Proffesiynol (E/PL) neu flwyddyn o astudio dramor yn cynnwys cam ychwanegol o 120 credyd ar lefel 5.

4.3 Bydd rhaglenni Meistr integredig israddedig pum mlynedd gyda blwyddyn o Ddysgu trwy Brofiad/Proffesiynol (E/PL) neu flwyddyn o astudio dramor yn cynnwys cam ychwanegol o 120 credyd ar lefel 61.

1Ar gyfer rhaglenni Meistr integredig israddedig sydd wedi'u cymeradwyo neu eu hailddilysu cyn sesiwn 2023-2024 efallai y bydd blwyddyn Dysgu Profiadol/Proffesiynol neu flwyddyn astudio dramor ar lefel 5.

4.4 Bydd camau a hyd rhaglenni gradd israddedig modiwlaidd a addysgir fel a ganlyn:

DyfarniadNifer y camauHyd y rhaglen
Tystysgrif Raddedig1 cam1 semester amser llawn
1 flwyddyn yn rhan-amser
Diploma Graddedig1 cam1 flwyddyn amser llawn
2 flynedd yn rhan-amser
Gradd Baglor3 cham3 blynedd amser llawn
6 blynedd yn rhan-amser
Gradd Baglor gyda Blwyddyn E/PL4 cam4 blynedd amser llawn
Gradd Ymsang Baglor1 cam1 flwyddyn amser llawn
2 flynedd yn rhan-amser
Gradd Ymsang Baglor4 cam 4 blynedd amser llawn
8 mlynedd yn rhan-amser
Gradd Meistr Integredig gyda Blwyddyn E/PL5 cam5 mlynedd amser llawn

Terfynau Amser

4.5 Y terfyn amser i fyfyrwyr i gwblhau eu Rhaglen yw dim mwy na 2 flynedd yn fwy na hyd cymeradwy’r Rhaglen.

Cynnydd Israddedigion a Chymhwysedd ar gyfer Ailasesu

4.6  Mae Rheolau Cynnydd yn nodi'r amgylchiadau lle gall myfyrwyr symud ymlaen i'w cam astudio nesaf.

4.7 I fynd ymlaen i gam nesaf eu rhaglen, rhaid i fyfyrwyr fod wedi cyflawni:

  • nifer y credydau a bennwyd gan reolau cynnydd perthnasol eu rhaglen; a
  • chredyd mewn unrhyw fodiwlau gofynnol; a
  • phan yn berthnasol, y cymwyseddau proffesiynol gofynnol fel y nodwyd yng ngwybodaeth y rhaglen.

4.8 Rhaid i bob rhaglen israddedig nodi un o'r rheolau dilyniant a roddir isod ar gyfer pob rhaglen. Bydd hyn yn cael ei ddefnyddio i benderfynu a yw myfyrwyr yn gymwys i symud ymlaen o un cam o’r rhaglen i’r nesaf.

Rheolau dilyniant

Rhaglenni modiwlaidd 3 blynedd is-raddedig a addysgir:

CamRheol cynnydd 1
(Pob credyd yn ofynnol)
Rheol cynnydd 2
(Gall myfyrwyr gario 30 credyd a fethwyd).
Rheol cynnydd 3
(Ar gyfer rhaglenni lle mae myfyrwyr yn ymgymryd â modiwlau lefel 5 yn ail semester blwyddyn 1).
Ar ddiwedd lefel 4120 Credyd ar Lefel 4 neu uwch90 Credyd ar Lefel 4 neu uwch60 Credyd ar Lefel 4 neu uwch
Ar ddiwedd lefel 5240 credyd
(gan gynnwys 120 ar Lefel 5 neu uwch)
210 credyd
(gan gynnwys 90 ar Lefel 5 neu uwch)
240 credyd
(gan gynnwys 180 ar Lefel 5 neu uwch)

Rhaglenni Meistr integredig modiwlaidd 4 blynedd israddedig a addysgir.

CamRheol cynnydd 4
(Pob credyd yn ofynnol)
Rheol cynnydd 5
(Gall myfyrwyr gario 30 credyd a fethwyd)
Ar ddiwedd lefel 4120 Credyd ar Lefel 4 neu uwch90 Credyd ar Lefel 4 neu uwch
Ar ddiwedd lefel 5240 credyd
(gan gynnwys 120 ar Lefel 5 neu uwch)
210 credyd
(gan gynnwys 90 ar Lefel 5 neu uwch)
Ar ddiwedd Lefel 6360 credyd
(gan gynnwys 120 ar Lefel 6 neu uwch)
330 credyd
(gan gynnwys 90 ar Lefel 6 neu uwch)

Rhaglenni Modiwlaidd 4 Blynedd israddedig a addysgir sy'n cynnwys blwyddyn o Ddysgu trwy Brofiad a/neu Broffesiynol (E/PL) neu astudio dramor:

CamRheol cynnydd 6
(Pob credyd yn ofynnol)
Rheol Cynnydd 7
(Gall myfyrwyr gario 30 credyd a fethwyd).
Rheol cynnydd 8
(Ar gyfer rhaglenni lle mae myfyrwyr yn ymgymryd â modiwlau lefel 5 yn ail semester blwyddyn 1).
Ar ddiwedd lefel 4120 Credyd ar Lefel 4 neu uwch90 Credyd ar Lefel 4 neu uwch60 Credyd ar Lefel 4 neu uwch
Ar ddiwedd blwyddyn 2
(h.y. cyn y Flwyddyn o Ddysgu drwy Brofiad/Proffesiynol neu astudio dramor)
240 credyd
(gan gynnwys 120 ar Lefel 5 neu uwch)
210 credyd
(gan gynnwys 90 ar Lefel 5 neu uwch)
240 credyd
(gan gynnwys 180 ar Lefel 5 neu uwch)
Ar ddiwedd lefel 5
(h.y. ar ddiwedd y flwyddyn o Ddysgu drwy Brofiad/Proffesiynol neu astudio dramor)
360 credyd
(gan gynnwys 240 ar Lefel 5 neu uwch)
330 credyd
(gan gynnwys 210 ar Lefel 5 neu uwch)
360 credyd
(gan gynnwys 300 ar Lefel 5 neu uwch)

Rhaglenni modiwlaidd 5 mlynedd Meistr israddedig lle ymgymerir â'r flwyddyn o Ddysgu drwy Brofiad a/neu Broffesiynol E/PL neu Astudio Dramor rhwng blynyddoedd 2 a 3 (ar gyfer rhaglenni a gymeradwyir neu a ailddilysir cyn sesiwn 2023-2024 yn unig):

CamRheol cynnydd 9
(Pob credyd yn ofynnol)
Rheol cynnydd 10
(Gall myfyrwyr gario 30 credyd a fethwyd).
Ar ddiwedd lefel 4120 Credyd ar Lefel 4 neu uwch90 Credyd ar Lefel 4 neu uwch
Ar ddiwedd blwyddyn 2 (h.y. cyn y flwyddyn o ddysgu drwy brofiad/proffesiynol (E/PL) neu astudio dramor)240 Credyd
(gan gynnwys 120 ar Lefel 5 neu uwch)
210 credyd
(gan gynnwys 90 ar Lefel 5 neu uwch)

Ar ddiwedd Lefel 5 (h.y. ar ddiwedd y flwyddyn o ddysgu drwy brofiad/proffesiynol (E/PL) neu astudio dramor)

360 credyd
(gan gynnwys 240 ar Lefel 5 neu uwch)
330 credyd
(gan gynnwys 210 ar Lefel 5 neu uwch)
Ar ddiwedd Lefel 6480 credyd
(gan gynnwys 120 ar Lefel 6 neu uwch)
460 credyd
(gan gynnwys 100 ar Lefel 6 neu uwch)

Rhaglenni israddedig Meistr integredig 5 mlynedd lle cymerir blwyddyn E/PL neu astudio dramor rhwng blynyddoedd 3 a 4:

CamRheol cynnydd 11
(Pob credyd yn ofynnol)
Rheol cynnydd 12
(Gall myfyrwyr gario 30 credyd a fethwyd).
Ar ddiwedd lefel 4140 Credyd ar Lefel 4 neu uwch110 Credyd ar Lefel 4 neu uwch
Ar ddiwedd lefel 5280 Credyd
(gan gynnwys 120 ar Lefel 5 neu uwch)
250 credyd
(gan gynnwys 120 ar Lefel 5 neu uwch)

Ar ddiwedd blwyddyn 3

(h.y. cyn y Flwyddyn o Ddysgu drwy Brofiad/Proffesiynol neu astudio dramor)

400 credyd
(gan gynnwys 120 ar Lefel 6 neu uwch)
370 credyd
(gan gynnwys 90 ar Lefel 6 neu uwch)
Ar ddiwedd Lefel 6520 credyd
(gan gynnwys 240 ar Lefel 6 neu uwch)
490 credyd
(gan gynnwys 210 ar Lefel 6 neu uwch)
Rheolau ailsefyll

4.9 Cynhelir pob asesiad ailsefyll yn y Cyfnod Ailsefyll Arholiadau, cyn dechrau’r sesiwn academaidd ganlynol.

4.10 Os nad yw myfyriwr wedi ennill digon o gredydau i symud ymlaen, caniateir i’r myfyriwr hwnnw ailsefyll asesiadau/modiwl(au) a fethwyd yn ystod y Cyfnod Ailsefyll Arholiadau ar yr amod nad yw wedi methu mwy o gredydau nag a nodir yn y rheol ailsefyll a fabwysiadwyd gan ei Ysgol.  Os yw swm y credyd a fethwyd yn fwy na'r hyn a ganiateir gan y rheol ailsefyll berthnasol, gellir caniatáu i fyfyrwyr ailadrodd eu hastudiaethau os ydynt o fewn y trothwy a osodwyd ar gyfer y rheol Ailadrodd a fabwysiadwyd gan eu Hysgol (gweler 4.14 isod).

4.11 Rheolau ailsefyll ar gyfer rhaglenni modiwlaidd israddedig a addysgir:

Credydau wedi eu methu
Rheol ailsefyll 160 credyd
Rheol ailsefyll 240 credyd
Rheolau Ailadrodd

4.12 Cynhelir asesiadau ailadrodd yn y sesiwn academaidd ganlynol, naill ai trwy ddulliau presenoldeb mewnol neu allanol.  Cytunir ar ddull presenoldeb ar gyfer ailasesiadau myfyrwyr unigol ar sail trafodaeth gyda’r myfyriwr a’r staff academaidd perthnasol, a chaiff ei gadarnhau erbyn dechrau rhaglen y flwyddyn honno fan bellaf.

4.13 Os nad yw myfyriwr wedi sicrhau digon o gredydau i symud ymlaen neu i ailsefyll, caniateir i’r myfyriwr ailadrodd y modiwl(au) a fethwyd yn ystod y sesiwn academaidd ganlynol ar yr amod nad yw wedi methu mwy o gredydau nag a nodir yn y rheol a fabwysiadwyd gan ei Ysgol.

4.14 Rheolau ailadrodd ar gyfer rhaglenni modiwlaidd israddedig a addysgir:

Credydau wedi eu methu
Rheol ailadrodd 160 credyd
Rheol ailadrodd 280 credyd
Rheol ailadrodd 390 credyd
Rheol ailadrodd 4
(ar gyfer rhaglenni a gymeradwyir neu a
ailddilysir cyn sesiwn 2023-2024 yn unig)
100 credyd

4.15 Pan fydd myfyriwr yn ailadrodd modiwl(au) fel myfyriwr mewnol, bydd y myfyriwr yn mynychu'r holl addysgu ac yn cael ei asesu yn yr un modd â myfyrwyr eraill sy'n cymryd y modiwl yn ystod y sesiwn. Dim ond mewn elfennau o'r asesiad nad ydynt wedi'u cwblhau'n llwyddiannus yn y modiwl hwnnw y caiff myfyrwyr sy'n ailadrodd yn fewnol eu hasesu, yn erbyn canlyniadau dysgu gwreiddiol y modiwl.  Bydd myfyrwyr yn cael y marc uchaf a enillwyd am unrhyw gydran a fethwyd.

Os yw modiwl wedi newid yn sylweddol neu wedi cael ei ddisodli gan fodiwl newydd, bydd myfyrwyr sy'n ailadrodd yn fewnol yn ymgymryd â'r holl elfennau asesu a nodir ar gyfer y modiwl newydd.

4.16 Pan fydd myfyriwr yn ailadrodd modiwl(au) fel myfyriwr allanol, ni fydd y myfyriwr yn gorfod mynychu sesiynau addysgu a chaiff ei asesu mewn elfennau o’r asesiad nad yw wedi’u cwblhau’n llwyddiannus yn y modiwl hwnnw, yn erbyn y deilliannau dysgu sy’n gymwys pan oedd y myfyriwr wedi rhoi cynnig ar y modiwl fel myfyriwr mewnol. Bydd myfyrwyr yn cael y marc uchaf a enillwyd am unrhyw gydran a fethwyd.

Gwahardd o raglen

4.17 Ni chaniateir i fyfyriwr barhau i ddilyn rhaglen oni bai ei bod yn bosibl iddynt gwblhau'r rhaglen o fewn y terfyn amser cymeradwy.  Pan nad yw Bwrdd Arholi yn caniatáu i fyfyriwr gael ei ailasesu neu symud ymlaen i gyfnod academaidd nesaf y Rhaglen, bydd y myfyriwr yn tynnu'n ôl o'u rhaglen.

4.18 Bydd myfyriwr israddedig sydd wedi methu un neu fwy o fodiwlau ar 3 achlysur yn cael ei eithrio o'r rhaglen.

Dyfarniad

4.19 Bydd myfyriwr sydd wedi cyflawni'r nifer gofynnol o gredydau yn unol â'r tabl canlynol yn gymwys ar gyfer y dyfarniad a nodir, ar yr amod eu nod yn ymrestru ar raglen astudio berthnasol.

CredydauLefel 4 neu uwchLefel 5 neu uwchLefel 6 neu uwchLefel 7 neu uwchCyfanswm
Tystysgrif AU120   120
Diploma AU120120  240
Tystysgrif Raddedig 2040 60
Diploma Graddedig 3090 120
Gradd Baglor Pasio12012080 320
Gradd Baglor Anrhydedd
(Ar gyfer myfyrwyr sy'n parhau
yn 2023-2024 a thu hwnt)
120120100 340
Gradd Baglor Anrhydedd
(Ar gyfer myfyrwyr newydd
o 2023-2024 ymlaen)
120120120 360
Gradd Ymsang Baglor  120 120
Gradd Meistr Integredig
(Ar gyfer myfyrwyr sy'n parhau
yn 2023-2024 a thu hwnt)
120120120 460
Gradd Meistr Integredig
(Ar gyfer myfyrwyr newydd
o 2023-2024 ymlaen)
120120120120480

4.20 Bydd yn ofynnol i fyfyrwyr is-raddedig sydd ar raglenni sy'n cynnwys Blwyddyn o Ddysgu drwy Brofiad neu Broffesiynol neu Astudio Dramor, gyflawni 120 o gredydau ychwanegol ar y lefel a nodir yn 4.1.

Dosbarthiad Dyfarniadau Israddedig

4.21 Y marc terfynol a ddefnyddir i ddosbarthu graddau yw cyfartaledd cyfunol marciau’r modiwl (cyfrifo fel a bennir yn adran 2) gan gyfrannu at y dyfarniad terfynol, wedi ei bwysoli’n ôl y rheol dosbarthiad ar gyfer y rhaglen a statws credyd y modiwlau a gyfrifwyd, wedi eu talgrynnu a’u cofnodi fel rhif cyfan.

4.22 Yn achos pob rhaglen, bydd un o’r rheolau dosbarthiad isod yn cael ei bennu i’w ddefnyddio i gyfrifo’r marc terfynol.

Rhaglenni blwyddyn (Gradd Ymsang) a lle mae myfyrwyr yn trosglwyddo i Brifysgol Caerdydd yn uniongyrchol i flwyddyn olaf graddau israddedig drwy gytundebau mynegiant gyda sefydliadau eraill:

Rheol 1
Lefel Pwysoliad
6100%

Rhaglenni 3 blynedd:

Naill ai:  Neu: 
Rheol 2Rheol 3
LefelPwysoliad LefelPwysoliad
5130% 5140%
670% 660%

Rhaglenni Meistr 4 blynedd integredig:

Rheol 4
LefelPwysoliad
5120%
630%
750%

Rhaglenni 4 blynedd lle mae blwyddyn 3 yn flwyddyn o Ddysgu drwy Brofiad a/neu Broffesiynol a/neu flwyddyn astudio dramor:

Naill ai:  Neu: 
Rheol 5 Rheol 6
LefelPwysoliad LefelPwysoliad
5120% 5130%
Blwyddyn E/PL10% Blwyddyn E/PL10%
670% 660%

Rhaglenni Meistr Integredig 5 mlynedd lle mae blwyddyn 4 yn flwyddyn o Ddysgu drwy Brofiad/Proffesiynol neu’n flwyddyn o astudio dramor:

Rheol 7 
LefelPwysoliad
5110%
630%
Blwyddyn E/PL10%
750%

Rhaglenni Meistr Integredig 5 mlynedd lle mae blwyddyn 3 yn flwyddyn o Ddysgu drwy Brofiad/Proffesiynol neu’n flwyddyn o astudio dramor (ar gyfer rhaglenni a gymeradwyir neu a ailddilysir cyn sesiwn 2023-2024 yn unig):

Rheol 8
LefelPwysoliad
5110%
Blwyddyn E/PL10%
630%
750%

1Lle mae rhaglenni’n cynnig modiwlau lefel 6 ym mlwyddyn 2, bydd y pwysoliad lefel 5 yn cael ei weithredu i fodiwlau a ddilynir ym mlwyddyn 2.

Rhaglenni sy’n arwain at ddyfarniad targed Diploma Addysg Uwch:

Rheol 9
LefelPwysoliad
5 neu uwch100%

4.23 Bydd y dosbarthiad cyffredinol ar gyfer myfyriwr yn cael ei bennu drwy gymhwyso’r marc terfynol fel y nodir isod:

Gradd Baglor Anrhydedd a Gradd Meistr Integredig

Marc TerfynolDosbarthiad Graddau
70%+Anrhydedd Dosbarth Cyntaf
60%<70%Anrhydedd Ail Ddosbarth, Isadran I (2:1)
50%<60%Anrhydedd Ail Ddosbarth, Isadran II (2:2)
40%<50%Anrhydedd Trydydd Dosbarth

Dyfarniadau arfaethedig Diploma Addysg Uwch, Tystysgrif Raddedig, Diploma Graddedig

Marc TerfynolDosbarthiad Graddau
70%+Rhagoriaeth
60%<70%Teilyngdod

Os yw myfyriwr yn gymwys i gael dyfarniad nad yw wedi'i ddosbarthu, bydd yn cael ei ddynodi fel 'Pasio'.

4.24 Nid oes dosbarthiad ar gael ar gyfer y dyfarniadau canlynol:

  • Tystysgrif Addysg Uwch
  • Dyfarniadau Ymadael Diploma Addysg Uwch
Rheol Eilaidd

4.25 Yn ogystal â darpariaethau 4.23 uchod mae’r canlynol yn berthnasol, ac eithrio credydau a gafwyd yn ystod Blwyddyn o Ddysgu drwy Brofiad a/neu Broffesiynol, neu Flwyddyn Astudio Dramor:

Ar gyfer Rhaglenni Gradd Ymsang 1 Flwyddyn
  • Dyfernir Gradd Anrhydedd Dosbarth Cyntaf i fyfyrwyr sy’n ennill marc terfynol o 68% neu 69% ar yr amod eu bod wedi cael marc modiwl o 70% neu fwy mewn modiwlau ar Lefel 6 sy’n werth hyd at o leiaf 60 credyd.
  • Dyfernir Gradd Anrhydedd Ail Ddosbarth, Isadran I (2:1) i fyfyrwyr sy’n ennill marc terfynol o 58% neu 59% ar yr amod eu bod wedi cael marc modiwl o 60% neu fwy mewn modiwlau ar lefel 6 sy’n werth o leiaf 60 credyd.
  • Dyfernir Gradd Anrhydedd Ail Ddosbarth, Isadran II (2:2) i fyfyrwyr sy’n ennill marc terfynol o 48% neu 49% ar yr amod eu bod wedi cael marc modiwl o 50% neu ragor mewn modiwlau ar lefel 6 sy’n werth hyd at o leiaf 60 credyd.
  • Dyfernir Gradd Anrhydedd Trydydd Dosbarth i fyfyrwyr sy’n ennill marc terfynol o 38% neu 39% ar yr amod eu bod wedi cael marc modiwl o 40% neu fwy mewn modiwlau ar lefel 6 sy’n werth hyd at o leiaf 60 credyd.
Ar gyfer 3 Gradd Baglor
  • Dyfernir Gradd Anrhydedd Dosbarth Cyntaf i fyfyrwyr sy'n cyflawni marc terfynol o 68% neu 69% ar yr amod:
    • eu bod wedi cael marc modiwl o 70% neu fwy mewn modiwlau ar lefel 5 neu lefel 6 sy’n werth hyd at o leiaf 120 credyd; a
    • bod o leiaf 60 o’r credydau hyn wedi’u cyflawni ar lefel 6.
  • Dyfernir Gradd Anrhydedd Ail Ddosbarth, Isadran I (2:1) i fyfyrwyr sy'n cyflawni marc terfynol o 58% neu 59% ar yr amod:
    • eu bod wedi cael marc modiwl o 60% neu fwy mewn modiwlau ar lefel 5 neu lefel 6 sy’n werth hyd at o leiaf 120 credyd; a
    • bod o leiaf 60 o’r credydau hyn wedi’u cyflawni ar lefel 6.
  • Dyfernir Gradd Anrhydedd Ail Ddosbarth, Isadran II (2:2) i fyfyrwyr sy'n cyflawni marc terfynol o 48% neu 49% ar yr amod:
    • eu bod wedi cael marc modiwl o 50% neu fwy mewn modiwlau ar lefel 5 neu lefel 6 sy’n werth hyd at o leiaf 120 credyd; a
    • bod o leiaf 60 o’r credydau hyn wedi’u cyflawni ar Lefel 6.
  • Dyfernir Gradd Anrhydedd Trydydd Dosbarth i fyfyrwyr sy'n cyflawni marc terfynol o 38% neu 39% ar yr amod:
    • eu bod wedi cael marc modiwl o 40% neu fwy mewn modiwlau ar lefel 5 neu lefel 6 sy’n werth hyd at o leiaf 120 credyd; a
    • bod o leiaf 60 o’r credydau hyn wedi’u cyflawni ar lefel 6.
Ar gyfer Gradd Meistr Integredig
  • Dyfernir Gradd Anrhydedd Dosbarth Cyntaf i fyfyrwyr sy'n cyflawni marc terfynol o 68% neu 69% yn amodol ar y canlynol:
    • eu bod wedi cael marc modiwl o 70% neu fwy mewn modiwlau ar lefel 6 neu lefel 7 gwerth hyd at o leiaf 120 credyd; a
    • bod o leiaf 60 o’r credydau hyn wedi’u cyflawni ar lefel 7.
  • Dyfernir Gradd Anrhydedd Ail Ddosbarth, Isadran I (2:1) i fyfyrwyr sy'n cyflawni marc terfynol o 58% neu 59% yn amodol ar y canlynol:
    • eu bod wedi cael marc modiwl o 60% neu fwy mewn modiwlau ar lefel 6 neu lefel 7 gwerth hyd at o leiaf 120 credyd; a
    • bod o leiaf 60 o’r credydau hyn wedi’u cyflawni ar lefel 7.
  • Dyfernir Gradd Anrhydedd Ail Ddosbarth, Isadran II (2:2) i fyfyrwyr sy'n cyflawni marc terfynol o 48% neu 49% ar yr amod:
    • eu bod wedi cael marc modiwl o 50% neu fwy mewn modiwlau ar lefel 6 neu lefel 7 gwerth hyd at o leiaf 120 credyd; a
    • bod o leiaf 60 o’r credydau hyn wedi’u cyflawni ar lefel 7.
  • Dyfernir Gradd Anrhydedd Trydydd Dosbarth i fyfyrwyr sy'n cyflawni marc terfynol o 38% neu 39% ar yr amod:
    • eu bod wedi cael marc modiwl o 40% neu fwy mewn modiwlau ar lefel 6 neu lefel 7 gwerth hyd at o leiaf 120 credyd; a
    • bod o leiaf 60 o’r credydau hyn wedi’u cyflawni ar lefel 7.

5. Rhaglenni Ôl-Raddedig

Strwythur Rhaglenni Ôl-raddedig Modiwlaidd a Addysgir

5.1 Bydd strwythur rhaglenni israddedig modiwlaidd a addysgir yn cynnwys credydau fel y nodir isod:

Lefel 4 neu uwchLefel 5 neu uwchLefel 61 neu uwchLefel 71 neu uwchCyfanswm
Tystysgrif Ôl-raddedig  204060
Diploma Ôl-raddedig  3090120
Gradd Meistr  30150180

1Ar gyfer rhaglenni ôl-raddedig a gyflwynwyd, neu a ailddilyswyd o 2023-2024 ymlaen, bydd angen i bob credyd fod ar lefel 7.

5.2 Bydd rhaglenni ôl-raddedig a addysgir gyda blwyddyn o Ddysgu drwy Brofiad/Proffesiynol neu flwyddyn o astudio dramor yn cynnwys cam ychwanegol o 120 credyd ar lefel 7.

5.3 Bydd camau a hyd rhaglenni gradd israddedig modiwlaidd a addysgir fel a ganlyn:

DyfarniadNifer y camauHyd y rhaglen
Tystysgrif Ôl-raddedig1 cam1 semester amser llawn
1 flwyddyn yn rhan-amser
Diploma Ôl-raddedig1 cam1 flwyddyn amser llawn
2 flynedd yn rhan-amser
Gradd Meistr1 cam

2 gam
Diploma a Gradd Meistr

3 cham
Tystysgrif, Diploma a Gradd Meistr
1 flwyddyn amser llawn

1 flwyddyn amser llawn
2 flynedd yn rhan-amser

1 flwyddyn amser llawn
2 flynedd yn rhan-amser
Gradd Meistr
Diploma Ôl-raddedig
Tystysgrif Ôl-raddedig
1 cam7 mlynedd

Terfynau Amser

5.4 Y terfyn amser i fyfyrwyr i gwblhau eu Rhaglen yw dim mwy na 2 flynedd yn fwy na hyd cymeradwy’r Rhaglen.

5.5 Y dyddiad cyflwyno ar gyfer y traethawd hir ar Raglenni Meistr fydd:

  1. Yn achos Rhaglenni blwyddyn amser llawn, rhaid i'r dyddiad cyflwyno beidio â bod yn fwy na 50 wythnos ar ôl dechrau’r rhaglen, oni nodir fel arall o dan 5.5.3 isod.
  2. Yn achos Rhaglenni rhan-amser, y dyddiad dyledus fydd 26 wythnos o’r dyddiad cofrestru ar y Radd Meistr (cam y traethawd hir).
  3. Yn achos rhaglenni Meistr blwyddyn amser llawn sy'n cynnwys cryn ymwneud clinigol neu gysylltiedig-â-chlinigol adeg Cam (traethawd hir) y radd Meistr, gall y Pwyllgor Safonau ac Ansawdd Academaidd, ar argymhelliad Pennaeth Ysgol, gymeradwyo dyddiad priodol, yn achos rhaglenni penodedig, ar gyfer cyflwyno Traethawd Hir, a'r dyddiad hwnnw heb fod dros 18 mis ar ôl dyddiad dechrau’r rhaglen.  Rhaid cytuno ar hyn ar adeg cymeradwyo'r rhaglen.
  4. Ymestynnir tri mis ar y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno Traethawd Hir Rhaglenni Meistr yn awtomatig lle caniateir i ymgeisydd, ar ddiwedd y Cyfnod Diploma, ailsefyll Modiwlau yn y Cyfnod Ailsefyll Arholiadau nesaf.

Cynnydd Ôl-raddedigion a Chymhwysedd ar gyfer Ailasesu

5.6 Mae Rheolau Cynnydd yn nodi'r amgylchiadau lle gall myfyrwyr symud ymlaen i'w cam astudio nesaf. I fynd ymlaen i gam nesaf eu rhaglen, rhaid i fyfyrwyr fod wedi cyflawni:

  • nifer y credydau a bennwyd gan reolau cynnydd perthnasol eu rhaglen; a
  • chredyd mewn unrhyw fodiwlau gofynnol; a
  • phan yn berthnasol, y cymwyseddau proffesiynol gofynnol fel y nodwyd yng ngwybodaeth y rhaglen.

5.7 Rhaid i un o’r rheolau cynnydd a roddir isod gael eu pennu ar gyfer pob rhaglen. Bydd hyn yn cael ei ddefnyddio i benderfynu a yw myfyrwyr yn gymwys i symud ymlaen o un cam o’r rhaglen i’r nesaf.

Rhaglenni Meistr
Rheol cynnydd 1
(rhaglenni 3 cham)

(Pob credyd yn ofynnol)
Rheol cynnydd 2
(rhaglenni 2 gam)

(Pob credyd yn ofynnol)
Rheol cynnydd 3
(rhaglenni sy'n cynnwys Blwyddyn o Ddysgu drwy Brofiad a/neu Ddysgu Proffesiynol

(Pob credyd yn ofynnol)
Ar ddiwedd cam y Tystysgrif

Bydd myfyrwyr y dyfarnwyd 60 Credyd iddynt ar Lefel 6 neu uwch, gydag o leiaf 40 ohonynt ar Lefel 71:

  • naill ai’n symud ymlaen i gam Diploma eu Rhaglen;
  • neu dyfernir Tystysgrif Ôl-raddedig iddynt

Ddim yn berthnasol

Ddim yn berthnasol

Ar ddiwedd y cam Diploma

Bydd myfyrwyr y dyfarnwyd 120 Credyd iddynt ar Lefel 6 neu uwch, gydag o leiaf 90 ohonynt ar Lefel 71:

  • naill ai’n symud ymlaen i gam Gradd Meistr eu Rhaglen;
  • neu dyfernir Diploma Ôl-raddedig iddynt

Bydd myfyrwyr y dyfarnwyd 120 Credyd iddynt ar Lefel 6 neu uwch, gydag o leiaf 90 ohonynt ar Lefel 71:

  • naill ai’n symud ymlaen i gam Gradd Meistr eu Rhaglen;
  • neu dyfernir Diploma Ôl-raddedig iddynt

Bydd myfyrwyr y dyfarnwyd 120 Credyd iddynt ar Lefel 6 neu uwch, gydag o leiaf 90 ohonynt ar Lefel 71:

  • naill ai’n symud ymlaen i'r Flwyddyn Dysgu drwy Brofiad/Dysgu Proffesiynol;
  • neu dyfernir Diploma Ôl-raddedig iddynt
Ar ddiwedd y Flwyddyn Dysgu drwy Brofiad/ Dysgu Proffesiynol  

Bydd myfyrwyr y dyfarnwyd 240 Credyd iddynt ar Lefel 6 neu uwch, gydag o leiaf 210 ohonynt ar Lefel 71:

  • naill ai’n symud ymlaen i gam Gradd Meistr eu Rhaglen;
  • neu dyfernir Diploma Ôl-raddedig iddynt

1Ar gyfer rhaglenni ôl-raddedig a gyflwynwyd, neu a ailddilyswyd o 2023-2024 ymlaen, bydd angen i bob credyd fod ar lefel 7.

Gall myfyriwr, â chymeradwyaeth Pennaeth yr Ysgol, gychwyn ar waith paratoadol dan oruchwyliaeth neu heb fod o dan oruchwyliaeth ar gyfer y Traethawd Hir cyn cwblhau Cam y Diploma Ôl-raddedig, ond ni allant gyflwyno gwaith i'w arholi nes bydd Cam Diploma Ôl-raddedig y rhaglen wedi'i basio.

Rheolau ailsefyll

5.8 Cynhelir pob asesiad ailsefyll yn y Cyfnod Ailsefyll Arholiadau, cyn dechrau’r sesiwn academaidd ganlynol.

5.9 Os nad yw myfyriwr wedi ennill digon o gredydau i symud ymlaen, caniateir i’r myfyriwr hwnnw ailsefyll asesiadau/modiwl(au) a fethwyd yn ystod y Cyfnod Ailsefyll Arholiadau ar yr amod nad yw wedi methu mwy o gredydau nag a nodir yn y rheol ailsefyll a fabwysiadwyd gan ei Ysgol. Os yw swm y credyd a fethwyd yn fwy na'r hyn a ganiateir gan y rheol ailsefyll berthnasol, gellir caniatáu i fyfyrwyr ailadrodd eu hastudiaethau os ydynt o fewn y trothwy a osodwyd ar gyfer y rheol Ailadrodd a fabwysiadwyd gan eu Hysgol (gweler 5.13 isod).

5.10 Rheolau ailsefyll ar gyfer rhaglenni modiwlaidd ôl-raddedig a addysgir:

Credydau wedi eu methu
Rheol ailsefyll PGT 160 credyd
Rheol ailsefyll PGT 240 credyd
Rheol ailsefyll PGT 330 credyd
Rheolau Ailadrodd

5.11 Cynhelir asesiadau ailadrodd yn y sesiwn academaidd ganlynol, naill ai trwy ddulliau presenoldeb mewnol neu allanol. Cytunir ar ddull presenoldeb ar gyfer ailasesiadau myfyrwyr unigol ar sail trafodaeth gyda’r myfyriwr a’r staff academaidd perthnasol, a chaiff ei gadarnhau erbyn dechrau rhaglen y flwyddyn honno fan bellaf.

5.12 Os nad yw myfyriwr wedi sicrhau digon o gredydau i symud ymlaen neu i ailsefyll, caniateir i’r myfyriwr ailadrodd y modiwl(au) a fethwyd yn ystod y sesiwn academaidd ganlynol ar yr amod nad yw wedi methu mwy o gredydau nag a nodir yn y rheol a fabwysiadwyd gan ei Ysgol.

5.13 Rheolau ailadrodd ar gyfer rhaglenni modiwlaidd ôl-raddedig a addysgir:

Credydau wedi eu methu
Rheol ailadrodd PGT 1
(ar gyfer rhaglenni a gymeradwyir neu
a ailddilysir cyn sesiwn 2023-2024 yn unig)
105 credyd
Rheol ailadrodd PGT 280 credyd
Rheol ailadrodd PGT 360 credyd
Rheol ailadrodd PGT 490 credyd

5.14 Pan fydd myfyriwr yn ailadrodd modiwl(au) fel myfyriwr mewnol, bydd y myfyriwr yn mynychu'r holl addysgu ac yn cael ei asesu yn yr un modd â myfyrwyr eraill sy'n cymryd y modiwl yn ystod y sesiwn. Dim ond mewn elfennau o'r asesiad nad ydynt wedi'u cwblhau'n llwyddiannus yn y modiwl hwnnw y caiff myfyrwyr sy'n ailadrodd yn fewnol eu hasesu, yn erbyn canlyniadau dysgu gwreiddiol y modiwl. Bydd myfyrwyr yn cael y marc uchaf a enillwyd am unrhyw gydran a fethwyd.

Os yw modiwl wedi newid yn sylweddol neu wedi cael ei ddisodli gan fodiwl newydd, bydd myfyrwyr sy'n ailadrodd yn fewnol yn ymgymryd â'r holl elfennau asesu a nodir ar gyfer y modiwl newydd.

5.15 Pan fydd myfyriwr yn ailadrodd modiwl(au) fel myfyriwr allanol, ni fydd y myfyriwr yn gorfod mynychu sesiynau addysgu a chaiff ei asesu mewn elfennau o’r asesiad nad yw wedi’u cwblhau’n llwyddiannus yn y modiwl hwnnw, yn erbyn y deilliannau dysgu sy’n gymwys pan oedd y myfyriwr wedi rhoi cynnig ar y modiwl fel myfyriwr mewnol. Bydd myfyrwyr yn cael y marc uchaf a enillwyd am unrhyw gydran a fethwyd.

Gwahardd o raglen

5.16 Ni chaniateir i fyfyriwr barhau i ddilyn rhaglen oni bai ei bod yn bosibl iddynt gwblhau'r rhaglen o fewn y terfyn amser cymeradwy. Pan nad yw Bwrdd Arholi yn caniatáu i fyfyriwr gael ei ailasesu neu symud ymlaen i gyfnod academaidd nesaf y Rhaglen, bydd y myfyriwr yn tynnu'n ôl o'u rhaglen.

5.17 Bydd myfyriwr ôl-raddedig sydd wedi methu un neu fwy o fodiwlau ar 2 achlysur yn cael ei eithrio o'r rhaglen.

Myfyrwyr sy’n Methu ar Gam y Gradd Meistr

5.18 Methiant trwy beidio â chyflwyno: Pan fydd myfyriwr sydd wedi symud ymlaen i Gam y Gradd Meistr yn methu â chyflwyno traethawd hir cyn y dyddiad cau penodedig, ac nid yw'r Brifysgol wedi caniatáu estyniad, bydd y myfyriwr wedi methu asesiad y traethawd hir trwy beidio â chyflwyno a sero fydd y marc a ddyfernir iddo.

5.19 Pan fydd myfyriwr wedi methu ei draethawd hir (gan gynnwys methiant trwy beidio â chyflwyno), caniateir un cyfle iddynt ailgyflwyno cyn pen chwe mis ar ôl cael gwybod yn ffurfiol am y marc a fethwyd.

5.20 Pan fydd traethawd hir yn cael ei ailgyflwyno yn y flwyddyn academaidd ganlynol, efallai y bydd rhaid i fyfyriwr ailgofrestru a thalu ffi ailgofrestru.

Dyfarniad

5.21 Bydd myfyriwr sydd wedi cyflawni'r nifer gofynnol o gredydau yn unol â'r tabl canlynol yn gymwys ar gyfer y dyfarniad a nodir, ar yr amod eu nod yn ymrestru ar raglen astudio berthnasol.

CredydauLefel 4 neu uwchLefel 5 neu uwchLefel 61 neu uwchLefel 71 neu uwchCyfanswm
Tystysgrif Ôl-raddedig  204060
Diploma Ôl-raddedig  3090120
Gradd Meistr  30150180

1Ar gyfer rhaglenni ôl-raddedig a gyflwynwyd, neu a ailddilyswyd o 2023-2024 ymlaen, bydd angen i bob credyd fod ar lefel 7.

5.22 Yn achos myfyrwyr sy’n dilyn rhaglenni Meistr, ni chaniateir i’r dyfarniad ymadael gynnwys credydau a ddyfarnwyd am draethawd neu brosiect cyfatebol.

Dosbarthiad Dyfarniadau Ôl-raddedig a Addysgir

5.23 Y marc terfynol a ddefnyddir i ddosbarthu graddau yw cyfartaledd cyfunol marciau’r modiwl (cyfrifo fel a bennir yn adran 2) gan gyfrannu at y dyfarniad terfynol, wedi ei bwysoli’n ôl y rheol dosbarthiad ar gyfer y rhaglen a statws credyd y modiwlau a gyfrifwyd, wedi eu talgrynnu a’u cofnodi fel rhif cyfan.

5.24 Yn achos pob rhaglen ôl-raddedig a addysgir, bydd un o’r rheolau dosbarthiad isod yn cael ei phennu i’w defnyddio i gyfrifo’r marc terfynol.

Rheol 1  Rheol 2 
 Pwysoliad  Pwysoliad
Modiwlau a addysgir2/3 (66.666...%) Modiwlau a addysgir1/2 (50%)
Cam Gradd Meistr1/3 (33.333...%) Cam Gradd Meistr1/2 (50%)
Rheol 3 (Rhaglenni sy'n cynnwys Blwyddyn o Ddysgu drwy Brofiad a/neu Ddysgu Proffesiynol (h.y. blwyddyn allan)Rheol 5 (Rhaglenni sy'n cynnwys Blwyddyn o Ddysgu drwy Brofiad a/neu Ddysgu Proffesiynol h.y. blwyddyn allan)
 Pwysoliad  Pwysoliad
Modiwlau a addysgir9/20 (45%) Modiwlau a addysgir3/5 (60%)
Blwyddyn allan1/10 (10%) Blwyddyn allan1/10 (10%)
Cam Gradd Meistr9/20 (45%) Cam Gradd Meistr3/10 (30%)
Rheol 6 (rhaglenni 1 cam)
 Pwysoliad
Cam100%
Rheol 7 (rhaglenni 1 cam sy'n cynnwys Blwyddyn o Ddysgu
drwy Brofiad a/neu Ddysgu Proffesiynol h.y. blwyddyn allan)
 Pwysoliad
Modiwlau a addysgir a thraethawd hir/prosiect9/10 (90%)
Blwyddyn allan1/10 (10%)

5.25 Bydd y dosbarthiad cyffredinol ar gyfer myfyriwr yn cael ei bennu drwy gymhwyso’r marc terfynol fel y nodir isod:

Dyfarniadau arfaethedig Gradd Meistr, Diploma Ôl-raddedig, Tystysgrif Ôl-raddedig
Marc TerfynolDosbarthiad Graddau
70%+Rhagoriaeth
60%<70%Teilyngdod

Os yw myfyriwr yn gymwys i gael dyfarniad nad yw wedi'i ddosbarthu, bydd yn cael ei ddynodi fel 'Pasio'.

Rheol Eilaidd

5.26 Yn ogystal â darpariaethau 5.25 uchod mae’r canlynol yn berthnasol, ac eithrio credydau a gafwyd yn ystod Blwyddyn o Ddysgu drwy Brofiad a/neu Broffesiynol, neu Flwyddyn Astudio Dramor:

Ar gyfer Gradd Meistr Ôl-raddedig
  • Dyfernir dosbarthiad Rhagoriaeth i fyfyrwyr sy’n ennill marc terfynol o 68% neu 69% ar yr amod eu bod wedi cael marc modiwl o 70% neu fwy mewn modiwlau ar lefel 7 sy’n werth hyd at o leiaf 50 credyd.
  • Dyfernir dosbarthiad Teilyngdod i fyfyrwyr sy’n ennill marc terfynol o 58% neu 59% ar yr amod eu bod wedi cael marc modiwl o 60% neu fwy mewn modiwlau ar lefel 7 sy’n werth hyd at o leiaf 50 credyd.
Ar gyfer Diploma Ôl-raddedig
  • Dyfernir dosbarthiad Rhagoriaeth i fyfyrwyr sy’n ennill marc terfynol o 68% neu 69% ar yr amod eu bod wedi cael marc modiwl o 70% neu fwy mewn modiwlau ar lefel 7 sy’n werth hyd at o leiaf 60 credyd.
  • Dyfernir dosbarthiad Teilyngdod i fyfyrwyr sy’n ennill marc terfynol o 58% neu 59% ar yr amod eu bod wedi cael marc modiwl o 60% neu fwy mewn modiwlau ar lefel 7 sy’n werth hyd at o leiaf 60 credyd.

Rheoliadau Penodol i'r Rhaglen/Dyfarniad

Mae'r rhaglenni a'r dyfarniadau canlynol yn dilyn rheoliadau academaidd penodol ar wahân i’r rheoliadau cyffredinol ar gyfer rhaglenni a addysgir.  Gellir gweld y rhain drwy’r dolenni isod:

Rhaglenni ymchwil

Rheoliadau graddau ymchwil

Trosolwg sefydliadol

Mae'r Senedd wedi cymeradwyo’r Rheoliadau Graddau Ymchwil. Bydd y rheoliadau’n cael eu hadolygu'n rheolaidd i wneud yn siŵr eu bod yn parhau i gefnogi prosesau mewnol i weithredu'n effeithlon ac yn effeithiol, ac i fodloni gofynion Côd Ansawdd diwygiedig Addysg Uwch y DU yn llawn. Mae'r disgwyliadau a'r arferion a nodwyd yn y cyngor a'r arweiniad ategol yn arbennig o berthnasol:

Disgwyliadau o ran safonauDisgwyliadau o ran ansawdd
Mae safonau academaidd cyrsiau yn bodloni gofynion y fframwaith cymwysterau cenedlaethol perthnasol.Mae cyrsiau wedi'u dylunio'n dda, ac yn rhoi profiad academaidd o safon uchel i bob myfyriwr, ac yn galluogi ffordd ddibynadwy o asesu cyrhaeddiad myfyriwr.
Mae gwerth y cymwysterau a ddyfernir i fyfyrwyr, wrth iddynt gymhwyso a thros amser, yn unol â'r safonau a gydnabyddir gan y sector.O gael eu derbyn hyd at gwblhau, caiff yr holl fyfyrwyr y cymorth sydd ei angen arnynt i lwyddo mewn addysg uwch, ac elwa ohoni.
Arferion craidd o ran safonauArferion craidd o ran ansawdd
Mae’r darparwr yn sicrhau bod safonau’r trothwy ar gyfer ei gymwysterau yn gyson â’r fframweithiau cenedlaethol perthnasol.Mae gan y darparwr system dderbyn ddibynadwy, deg a chynhwysol.
 Mae’r darparwr yn dylunio ac/neu’n cyflenwi cyrsiau o ansawdd uchel.
 Mae gan y darparwr staff cymwysedig digonol sy'n meddu ar sgiliau i gynnig profiad academaidd o safon uchel.
 Mae gan y darparwr gyfleusterau, adnoddau dysgu a gwasanaethau cynorthwyo myfyrwyr digonol a phriodol er mwyn darparu profiad academaidd o safon uchel.
 Pan fydd y darparwr yn cynnig graddau ymchwil mae’n cyflawni’r rhain mewn amgylcheddau ymchwil priodol a chefnogol.
 Mae'r darparwr yn cefnogi pob myfyriwr i lwyddo yn academaidd ac yn broffesiynol.
Arferion cyffredin o ran safonauArferion cyffredin o ran ansawdd
Mae’r darparwr yn adolygu ei arferion craidd ar gyfer safonau’n rheolaidd ac yn defnyddio’r canlyniadau i sbarduno gwelliant.Mae’r darparwr yn adolygu ei arferion craidd ar gyfer ansawdd yn rheolaidd ac yn defnyddio’r canlyniadau i sbarduno gwelliant.
 Mae'r darparwr yn ymgysylltu â myfyrwyr, yn unigol ac ar y cyd wrth ddatblygu, gwarantu a gwella safon eu profiadau academaidd.

Rheoliadau graddau ymchwil

1. Datganiadau cyffredinol

1.1 Mae’r rheoliadau hyn ar gyfer rhaglenni gradd ymchwil sy’n arwain at ddyfarnu’r graddau canlynol: PhD (Doethur mewn Athroniaeth); MD (Doethur mewn Meddygaeth); EngD (Doethur mewn Peirianneg); Graddau Doethurol drwy Arholiad a Thraethawd Ymchwil (Doethuriaethau Proffesiynol); ac MPhil (Athro mewn Athroniaeth).

1.2 Os oes rheoliadau penodol ar gyfer dyfarniadau unigol, caiff y rhain eu diffinio isod.  Os na chyfeirir at raddau penodol, mae’r rheoliadau yn berthnasol ar gyfer yr holl raddau ymchwil a enwir uchod.

1.3 Nid yw’r rheoliadau hyn yn berthnasol i’r PhD drwy Waith a Gyhoeddwyd, Doethuriaethau Uwch, neu raglenni MRes (Athro mewn Ymchwil

1.4 Mae rhaglen gradd ymchwil yn canolbwyntio ar astudiaeth ac ymchwil annibynnol. Mae hefyd yn cynnwys i gefnogi gwaith academaidd y myfyriwr ymchwil a’u datblygiad fel ymchwilydd proffesiynol yn fwy eang.

1.5 Wrth ymgymryd â rhaglen gradd ymchwil, disgwylir i’r myfyriwr gymryd cyfrifoldeb dros gynnydd a gonestrwydd ei waith academaidd, ei ddatblygiad fel ymchwilydd proffesiynol ac, oni bai mewn amgylchiadau eithriadol nad oedd modd eu rhagweld, cyflwyno eu traethawd ymchwil terfynol o fewn y cyfnod a ganiateir ar gyfer eu gradd a’r dull astudio.

1.6 Bydd disgwyl i’r holl fyfyrwyr gymryd ran mewn gweithgareddau hyfforddiant perthnasol a chyfrannu at yr amgylchedd ymchwil mewn modd mor gyflawn â’r hyn sy’n gymwys ochr yn ochr â chwblhau eu hastudiaethau’n llwyddiannus ac yn brydlon.

2.Gofynion mynediad

2.1 Bydd gofyn i ymgeisydd sy'n ceisio am le ar raglen gradd ymchwil:

  1. gyflawni amodau’r Gofynion Mynediad Cyffredinol a Gofynion Rhaglen y Radd fel y nodir yn y Rheoliadau Derbyn Myfyrwyr;
  2. bodloni gofynion penodol rhaglen y radd ymchwil;
  3. lle bo’n berthnasol, bodloni’r Ysgol ei fod yn meddu ar brofiad ac/neu wedi cymryd rhan mewn gweithgaredd proffesiynol ar lefel briodol i allu rhoi’r cyd-destun proffesiynol ar gyfer cwblhau’r rhaglen;
  4. bodloni’r Ysgol ei fod yn meddu ar y gallu academaidd i gwblhau’r rhaglen radd ymchwil.

2.2 Gall myfyriwr ymchwil ddechrau eu cyfnod ymchwil yn ffurfiol ar y diwrnod cyntaf o Hydref, Ionawr, Ebrill neu Orffennaf ar yr amod bod Pennaeth yr Ysgol neu ei enwebai yn cytuno, neu yn unol â'r wybodaeth berthnasol am y rhaglen yn achos Doethuriaethau Proffesiynol.

2.3 Pennaeth yr Ysgol neu ei enwebai fydd yn gwneud penderfyniadau ynghylch derbyn myfyrwyr yn unol â Gofyniad Mynediad Cyffredinol Prifysgol Caerdydd a'r Rheoliadau Derbyn Myfyrwyr.

3.Dull astudio

3.1Gall ymgeisydd astudio ar gyfer gradd ymchwil fel myfyriwr amser llawn neu ran-amser, neu os ydynt yn aelod o staff yn y Brifysgol, gall wneud hynny fel ymgeisydd staff1 yn amodol ar gyfyngiadau canlynol y rhaglen:

  1. dim ond ar sail amser llawn cyn ennill cymhwyster proffesiynol y gellir astudio DClinPsy a DEdPsy, neu’n rhan-amser yn unig ar ôl ennill cymhwyster proffesiynol, y gellir astudio DClinPsy a DEdPsy;

3.2 Bydd myfyriwr ymchwil amser llawn yn ymgymryd â'u rhaglen astudio ac ymchwil yn y Brifysgol, ar wahân i yn ystod cyfnod(au) astudio mewn sefydliad partner a gefnogir gan gytundeb a gymeradwyir gan y Brifysgol, neu pan ganiateir y myfyriwr i ddilyn ymchwil amser llawn mewn lleoliad cyflogaeth allanol.

3.3 Pan fydd Ysgol yn ystyried derbyn myfyriwr fydd yn gwneud gwaith ymchwil amser llawn mewn lleoliad cyflogaeth allanol, rhaid i'r cyflogwr ddarparu’r sicrwydd ysgrifenedig canlynol:

  1. bydd y myfyriwr yn gweithio ar ymchwil amser llawn ac ar brosiect penodol, y cytunwyd arno;
  2. caiff y gwaith ymchwil ei wneud o dan gyfarwyddyd a goruchwyliaeth prif-oruchwylydd o'r Brifysgol a enwebwyd gan Bennaeth yr Ysgol (yn unol ag adran 6 isod); gall camau rheoli o'r fath gynnwys hawl y goruchwylydd i gael mynediad rhesymol i'r myfyriwr a'i waith yn lleoliad eu gwaith.

3.4 Gall myfyrwyr ymchwil wneud cais i newid o fod yn amser llawn i fod yn rhan-amser, ac i'r gwrthwyneb, yn ystod y cyfnod pan mae ffioedd yn daladwy2. Rhaid i astudiaeth ran-amser fod yn hafal i o leiaf 50% o'r hyn sy'n cyfateb i amser llawn. Os caiff ei gymeradwyo, bydd cyfnod cofrestru diwygiedig a dyddiadau cynharaf/hwyraf ar gyfer cyflwyno'r traethawd ymchwil yn cael eu pennu ar sail pro-rata.

1Cyfyngir ymgeisyddiaeth i aelodau staff sydd â chytundeb gwaith cyflogedig sydd yn cyfateb i o leiaf un rhan o dair o’r hyn ydyw aelod amser llawn a berthyn i’r math hwnnw o staff.

2Dylai myfyrwyr a ariennir wirio telerau ac amodau eu cyllid cyn gwneud cais i newid eu dull astudio.

4. Cyfnodau astudio

4.1 Dylai myfyrwyr ymchwil gofrestru yn y Brifysgol, talu'r ffi ofynnol a dilyn y rhaglen yn ystod y cyfnod astudio a ddiffinnir isod, sef y cyfnod pan mae ffioedd yn daladwy:

  1. PhD fel myfyriwr amser llawn neu aelod staff3: isafswm o 3 blynedd ac uchafswm o 4 blynedd (ar wahân i'r model 2+2);
  2. PhD fel myfyriwr rhan-amser, neu ar sail ran-amser fel aelod o staff, lle gwelir tystiolaeth bod y cyfnod o gofrestru yn gymesur ag astudio'n rhan-amser: o leiaf 5 mlynedd ac uchafswm o 7 mlynedd;
  3. PhD model 2+2 fel myfyriwr amser llawn, isafswm o 2 flynedd ac uchafswm o 3 blynedd ar gyfer eu cam PhD;
  4. PhD model 2+2 fel myfyriwr rhan-amser, isafswm o 3 blynedd ac uchafswm o 5 mlynedd ar gyfer eu cam PhD;
  5. MD fel myfyriwr amser llawn, neu fel aelod o staff: isafswm o 2 flynedd ac uchafswm o 3 blynedd4;
  6. MD fel myfyriwr rhan-amser, neu ar sail rhan-amser fel aelod o staff, lle gwelir tystiolaeth bod y cyfnod o gofrestru yn gymesur ag astudio'n rhan-amser: o leiaf 3 mlynedd ac uchafswm o 5 mlynedd;
  7. EngD fel myfyriwr amser llawn, isafswm o 4 blynedd ac uchafswm o 4 blynedd a 6 mis;
  8. Doethuriaeth Broffesiynol fel myfyriwr amser llawn, isafswm o 3 blynedd ac uchafswm o 4 blynedd;
  9. Doethuriaeth Broffesiynol fel myfyriwr rhan-amser, neu ar sail rhan-amser fel aelod o staff, lle gwelir tystiolaeth bod y cyfnod o gofrestru yn gymesur ag astudio'n rhan-amser: o leiaf 5 mlynedd ac uchafswm o 7 mlynedd;
  10. MPhil fel myfyriwr amser llawn, neu fel aelod o staff: isafswm o flwyddyn ac uchafswm o 2 flynedd5;
  11. MPhil fel myfyriwr rhan-amser, neu ar sail ran-amser fel aelod o staff, lle gwelir tystiolaeth bod y cyfnod o gofrestru yn gymesur ag astudio'n rhan-amser: o leiaf 2 flynedd ac uchafswm o 3 blynedd6.

4.2 Ni chaiff myfyrwyr doethurol gyflwyno eu traethawd ymchwil mwy na 6 mis cyn diwedd y cyfnod pan mae eu ffioedd yn daladwy.

4.3 Ni chaiff myfyrwyr MPhil gyflwyno eu traethawd ymchwil mwy na mis cyn diwedd y cyfnod pan mae eu ffioedd yn daladwy.

4.4 Gall myfyriwr sydd wedi cwblhau gofynion ei radd doethur yn llwyddiannus ac yn cael ei dderbyn ar gyfer y dyfarniad, ofyn am ymestyn i’w gofrestriad ar ei raglen ddoethurol am gyfnod o hyd at 12 mis er mwyn ymgymryd â gweithgareddau sy'n gymesur â chyfnerthu eu hyfforddiant doethurol a chefnogi eu cyfnod pontio i lwybr gyrfa ôl-ddoethuriaeth: megis cyhoeddi eu gwaith, gwneud ceisiadau am grant, datblygu rhwydweithiau proffesiynol. Bydd y cyfnod cofrestru estynedig yn caniatáu mynediad at adnoddau TG y Brifysgol (ebost, mewnrwyd ac adnoddau llyfrgell electronig).

3Ar gyfer ymgeisydd PhD staff a ddechreuodd ei astudiaeth cyn 1 Awst 2017, 7 mlynedd yw'r cyfnod hiraf a ganiateir.

4Gellir cynyddu'r cyfnod astudio hwyaf ar gyfer myfyriwr rhan-amser i 8 mlynedd, lle mae angen cyfnod cofrestru hirach fel rhan o gytundeb ysgoloriaeth unigol neu drefniant cydweithredol ffurfiol. Ar gyfer pob ymgeisydd staff MD a ddechreuodd eu hastudiaethau cyn Awst 1, 2017, 5 mlynedd yw'r cyfnod hiraf.

5Ar gyfer myfyriwr MPhil amser llawn a ddechreuodd ei astudiaeth cyn 1 Awst 2016, 3 blynedd yw'r cyfnod hiraf a ganiateir.

6Ar gyfer myfyriwr MPhil rhan-amser a ddechreuodd ei astudiaeth cyn 1 Awst 2016, 5 mlynedd yw'r cyfnod hiraf a ganiateir.

5.Mynediad gydag uwch-sefyllfa:

5.1 Caiff myfyrwyr ddechrau rhaglen gradd ymchwil gyda statws uwch yn ôl penderfyniad Pennaeth yr Ysgol neu ei enwebai, o fewn y cyfyngiadau isod.

5.2 Gellir eithrio myfyrwyr PhD o fod wedi cofrestru'n amser llawn am uchafswm o flwyddyn, neu gofrestru'n rhan-amser am 2 flynedd os ydynt yn gallu dangos eu bod wedi paratoi'n eithriadol o dda ar gyfer rhaglen y radd ymchwil. Ym mhob achos, dylent feddu ar o leiaf radd Meistr ôl-raddedig mewn maes perthnasol a/neu fod wedi gwneud o leiaf flwyddyn (neu gyfnod rhan-amser cyfatebol) o waith academaidd o dan oruchwyliaeth yn yr un ddisgyblaeth.

5.3 Research students may be permitted readmission to the University to complete a research degree programme from which they had withdrawn, where:

  1. the combined periods of registration will equate to, or exceed, the minimum period of study permitted for the Cardiff University award;
  2. the School still has appropriate and available supervisory capacity, resources and facilities in place to support the student’s project;
  3. the student registers and pays the required fee for at least 12 months full-time or 18 months part-time, regardless of the period of previous study.

5.4 Gellir eithrio myfyrwyr EngD a Doethuriaeth Broffesiynol rhag elfennau o'r gydran ddysgu cyfeiriedig a asesir yn eu rhaglen.

5.5 Bydd myfyrwyr DClinPsy a DEdPsy a dderbynnir ar gyfer y llwybr rhan-amser ôl-gymhwyster yn cael eu derbyn gyda statws uwch yn unol â gofynion y rhaglen.

5.6 Gall myfyrwyr ymchwil drosglwyddo o brifysgol arall, naill ai er mwyn dod gyda goruchwylydd neu o ganlyniad i newid mewn amgylchiadau yn eu cyn-sefydliad, ar yr amod:

  1. bydd y cyfnodau cofrestru cyfun yn cyfateb i’r cyfnod byrraf o astudio a ganiateir ar gyfer y dyfarniad gan Brifysgol Caerdydd, neu fod yn hwy na hynny;
  2. bod Pennaeth yr Ysgol neu ei enwebai yn fodlon bod y myfyriwr wedi gwneud cynnydd digonol i allu cwblhau'r rhaglen ymchwil yn y cyfnod sy'n weddill;
  3. yn yr achosion hynny lle y trosglwyddir am resymau heblaw dilyn y goruchwylydd, mae’r myfyriwr yn cofrestru ac yn talu’r ffi ofynnol am 12 mis, o leiaf, yn amser-llawn neu am 18 mis yn rhan-amser, pa gyfnod bynnag o astudio sydd eisoes wedi’i gyflawni yn y brifysgol arall;
  4. bod cytundebau ar gyfer y trosglwyddiad a pherchnogaeth data ymchwil, fel y bo'n briodol, rhwng yr adrannau/penaethiaid Ysgol sy'n colli/ennill myfyrwyr.

6.Goruchwylio a monitro

6.1 Penaethiaid Ysgolion sy'n gyfrifol am benodi tîm goruchwyliol yn unol â'r Polisi Goruchwylio Myfyrwyr Ymchwil.

6.2 Mae goruchwylwyr yn gyfrifol am gefnogi'r myfyrwyr ymchwil sydd wedi'u dyrannu ar eu cyfer yn unol â'r Polisi ar Gyfrifoldebau Goruchwylwyr.

6.3 Y Polisi a Gweithdrefn ynghylch Monitro Myfyrwyr Ymchwil yw'r dull ffurfiol o fonitro cynnydd myfyriwr ar eu rhaglen gradd ymchwil. Mae parhau i fod yn gofrestredig ar raglen gradd ymchwil yn dibynnu ar p'un a yw'r myfyriwr yn gwneud cynnydd boddhaol a ddangosir drwy'r Gweithdrefn Monitro Cynnydd Myfyrwyr Ymchwil.

6.4 Mae cydymffurfio â'r Polisi a Gweithdrefn ynghylch Monitro Myfyrwyr Ymchwil yn orfodol ac yn berthnasol i bob myfyriwr sydd wedi cofrestru ar gyfer graddau ymchwil, gan gynnwys rhai amser llawn, rhan-amser ac ymgeiswyr staff.

6.5 Os oes unrhyw bryderon ynghylch cynnydd myfyriwr, bydd y Polisi a'r Gweithdrefn ynghylch Cynnydd neu Ymgysylltiad Anfoddhaol (Myfyrwyr Ymchwil) yn mynd i'r afael â'r rhain.

7.Terfynau amser

7.1 Rhaid i fyfyrwyr ymchwil gyflwyno eu traethawd ymchwil i'w arholi ymhen y cyfnodau astudio hiraf a ganiateir ar gyfer eu gradd.

  1. PhD, amser llawn: 4 blynedd
  2. PhD o dal fodel 2+2, amser llawn: 3 mlynedd (cam PhD)
  3. PhD, rhan-amser 7 mlynedd
  4. PhD o dal fodel 2+2, rhan-amser: 5 mlynedd (cam PhD);
  5. MD, amser llawn 3 blynedd
  6. MD, rhan-amser: 5 mlynedd
  7. MPhil, amser llawn 2 flynedd7;
  8. MPhil, rhan-amser 3 blynedd8;
  9. EngD: 4 blynedd a 6 mis;
  10. Doethuriaethau Proffesiynol Amser Llawn: yn unol â gwybodaeth y rhaglen ac ymhen uchafswm o 4 blynedd;
  11. Doethuriaethau Proffesiynol Rhan-amser: yn unol â gwybodaeth y rhaglen ac ymhen uchafswm o 7 blynedd.

7.2 Rhaid i fyfyrwyr ymchwil sy’n cael eu derbyn gyda statws uwch gyflwyno eu traethawd ymchwil i’w asesu ymhen yr amser a ganiateir sy’n weddill ar gyfer y rhaglen.

7.3 Bydd methu â cyflwyno o fewn y terfyn amser, a ddiffinnir fel y dyddiad cau terfynol ar gyfer cyflwyno (neu’r diwrnod gwaith nesaf os yw’r Brifysgol ar gau), os nad yw’r Brifysgol wedi ymestyn y dyddiad, yn golygu dod â’r rhaglen i ben.

7Os dechreuwyd astudio ar ôl 1 Awst 2016.

8Os dechreuwyd astudio ar ôl 1 Awst 2016.

8.Gohiriadau ac estyniadau i derfynau amser

8.1 Gall y Brifysgol darfu ar gyfnod astudio neu estyn terfyn amser yn unol â’r Polisi a’r Weithdrefn Gohirio ac Estyn Terfynau Amser (Myfyrwyr Ymchwil).

9.Terfyn amser cyffredinol9

9.1 Os bydd y Brifysgol yn cymeradwyo cais i ohirio a/neu estyn, bydd hynny’n arwain at addasu’r dyddiad diweddaraf y gall y myfyriwr gyflwyno eu traethodau ymchwil. Ni all yr addasiad cyffredinol sy’n deillio o un neu ragor o ohiriadau a/neu estyniadau fynd y tu hwnt i’r terfyn amser cyffredinol a ganiateir ar gyfer y rhaglen.

9.2 Y terfyn amser cyffredinol ar gyfer pob rhaglen gradd ymchwil yw’r cyfnod hiraf o astudio a ddiffinnir uchod, a dwy flynedd.

9.3 Os oes angen, caiff y terfyn amser cyffredinol ei ymestyn er mwyn i’r Bwrdd Arholi allu argymell penderfyniad i ailgyflwyno.

9Mae’r terfyn amser cyffredinol yn berthnasol i fyfyrwyr sy’n dechrau astudio ar ôl 1 Awst 2019.

Rheoliadau ar gyfer PhD drwy waith a gyhoeddir

Trosolwg sefydliadol

Mae'r Senedd wedi cymeradwyo Rheoliadau ar gyfer PhD drwy Waith a Gyhoeddir.  Bydd y rheoliadau’n cael eu hadolygu'n rheolaidd i wneud yn siŵr eu bod yn parhau i gefnogi prosesau mewnol i weithredu'n effeithlon ac yn effeithiol, ac i fodloni gofynion Côd Ansawdd diwygiedig Addysg Uwch y DU yn llawn.  Mae'r disgwyliadau a'r arferion a nodwyd yn y cyngor a'r arweiniad ategol yn arbennig o berthnasol:

Disgwyliadau o ran safonauDisgwyliadau o ran ansawdd
Mae safonau academaidd cyrsiau yn bodloni gofynion y fframwaith cymwysterau cenedlaethol perthnasol.Mae cyrsiau wedi'u dylunio'n dda, ac yn rhoi profiad academaidd o safon uchel i bob myfyriwr, ac yn galluogi ffordd ddibynadwy o asesu cyrhaeddiad myfyriwr.
Mae gwerth y cymwysterau a ddyfernir i fyfyrwyr, wrth iddynt gymhwyso a thros amser, yn unol â'r safonau a gydnabyddir gan y sector.O gael eu derbyn hyd at gwblhau, caiff yr holl fyfyrwyr y cymorth sydd ei angen arnynt i lwyddo mewn addysg uwch, ac elwa ohoni.
Arferion craidd o ran safonauArferion craidd o ran ansawdd
Mae’r darparwr yn sicrhau bod safonau’r trothwy ar gyfer ei gymwysterau yn gyson â’r fframweithiau cenedlaethol perthnasol.Mae gan y darparwr system dderbyn ddibynadwy, deg a chynhwysol.
Mae’r darparwr yn defnyddio arbenigedd allanol, prosesau asesu a dosbarthu sy’n ddibynadwy, teg a thryloyw.Mae’r darparwr yn dylunio ac/neu’n cyflenwi cyrsiau o ansawdd uchel.
 Mae gan y darparwr staff cymwysedig digonol sy'n meddu ar sgiliau i gynnig profiad academaidd o safon uchel.
 Mae gan y darparwr gyfleusterau, adnoddau dysgu a gwasanaethau cynorthwyo myfyrwyr digonol a phriodol er mwyn darparu profiad academaidd o safon uchel.
 Pan fydd y darparwr yn cynnig graddau ymchwil mae’n cyflawni’r rhain mewn amgylcheddau ymchwil priodol a chefnogol.
 Mae'r darparwr yn cefnogi pob myfyriwr i lwyddo yn academaidd ac yn broffesiynol.
Arferion cyffredin o ran safonauArferion cyffredin o ran ansawdd
Mae’r darparwr yn adolygu ei arferion craidd ar gyfer safonau’n rheolaidd ac yn defnyddio’r canlyniadau i sbarduno gwelliant.Mae’r darparwr yn adolygu ei arferion craidd ar gyfer ansawdd yn rheolaidd ac yn defnyddio’r canlyniadau i sbarduno gwelliant.
 Mae agwedd y darparwr tuag at reoli ansawdd yn cymryd i ystyriaeth arbenigedd allanol.
 Mae'r darparwr yn ymgysylltu â myfyrwyr, yn unigol ac ar y cyd wrth ddatblygu, gwarantu a gwella safon eu profiadau academaidd.

Rheoliadau ar gyfer PhD drwy waith a gyhoeddir

1.Datganiadau cyffredinol

1.1 Mae'r rheoliadau hyn yn gymwys i PhD drwy Waith a Gyhoeddir yn unig.

1.2 Mae'r llwybr Gwaith Cyhoeddedig tuag at ddyfarniad PhD yn agored i'r ymgeiswyr hynny sydd, dros gyfnod o flynyddoedd, wedi bod ynghlwm wrth ysgolheictod ac ymchwil annibynnol. Mae ymgeisydd yn cael ei asesu ar sail y gwaith a wneir ac a gyhoeddir cyn bod yr ymgeisydd yn cofrestru, yn hytrach na gwaith a wneir fel myfyriwr ym Mhrifysgol Caerdydd. Yn ystod cyfnod cofrestru'r ymgeisydd, bydd yn creu sylwebaeth werthusol i gyd-fynd â'r gwaith a llunio rhan o'r cyflwyniad.

1.3 Caiff cyflwyniad PhD drwy Waith a Gyhoeddir ei asesu yn erbyn y meini prawf a ddiffinnir yn y Rheoliadau Asesu Gradd Ymchwil ar gyfer dyfarniadau doethurol Prifysgol Caerdydd.

2.Diffiniad o waith cyhoeddedig

2.1 At ddibenion y Rheoliadau hyn, nid ystyrir bod gwaith yn gyhoeddedig oni bai modd ei olrhain drwy gatalogau, crynodebau neu fynegeion dyfyniadau cyffredin, a bod copïau ar gael yn gyhoeddus. Nid yw adroddiadau ymchwil sydd wedi'u paratoi ar gyfer cylch cyfyngedig o ddarllenwyr a/neu'n gyfrinachol yn gymwys i'w cynnwys mewn cyflwyniad ar gyfer y radd hon.

2.2 Mae'r canlynol yn ambell enghraifft o waith cyhoeddedig: papurau academaidd; erthyglau cyfnodolion; monograffau; penodau; llyfrau.

2.3 Gallai gwaith electronig fod yn gymwys pan mae'r ymgeisydd yn rhoi tystiolaeth y bydd y gwaith yn parhau i fod ar gael yn gyhoeddus hyd y gellir rhagweld, yn ei ffurf bresennol.

2.4 Ni ddylai'r gwaith fod wedi'i gyhoeddi fwy na degawd cyn y dyddiad cofrestru ar gyfer y radd.

2.5 Dylai'r gwaith cyhoeddedig fod o safon y gellir ei chymharu â chynnwys traethawd ymchwil PhD traddodiadol, ac yn dangos cyfraniad gwreiddiol yr ymgeisydd at ddysgu.

2.6 At hynny, dylai'r gwaith cyhoeddus gynnwys corff o waith sy'n nes at fod yn draethawd hir cydlynol, yn hytrach na chyfres o gyhoeddiadau heb gysylltiad.

2.7 Bydd nifer y gwaith yn dibynnu ar y maes academaidd a'r math o waith cyhoeddedig sydd wedi'u cynnwys yn y cyflwyniad. Mae'n rhaid i'r gwaith cyhoeddedig fod yn ddigonol o ran maint a safon er mwyn bodloni'r meini prawf ar gyfer dyfarniad doethurol.

2.8 Gall ymgeisydd gynnwys gwaith sydd wedi'u cyd-ysgrifennu yn eu cyflwyniad. Rhaid i fwyafrif y gwaith fod gan awdur unigol, neu awdur cyntaf. Rhaid i'r ymgeisydd allu dangos yn glir beth yw cyfraniad yr ymgeisydd mewn unrhyw waith a gyd-ysgrifennir.

3.Pwy sy'n gymwys

3.1 I fod yn gymwys i gofrestru ar gyfer y PhD drwy waith cyhoeddedig, mae'n rhaid i ymgeisydd fodloni un neu fwy o'r meini prawf canlynol:

  1. yn fyfyriwr gradd Prifysgol Caerdydd, neu Brifysgol Cymru yn dilyn ymgeisyddiaeth ym Mhrifysgol Caerdydd, ers o leiaf chwe blynedd cyn cofrestru;
  2. yn aelod o staff ym Mhrifysgol Caerdydd ers o leiaf chwe blynedd cyn cofrestru am y radd;
  3. yn ddeiliad teitl anrhydeddus Prifysgol Caerdydd ers o leiaf chwe blynedd cyn cofrestru.

3.2 Ni all ymgeisydd ar gyfer PhD drwy Waith Cyhoeddedig fod hefyd wedi cofrestru ar yr un pryd ar raglen PhD ym Mhrifysgol Caerdydd neu unrhyw sefydliad dyfarnu arall.

3.3 Rhaid i ymgeiswyr ar gyfer PhD drwy Waith Cyhoeddedig fodloni amodau Gofyniad Mynediad Cyffredinol y Brifysgol.

4.Cyfnod astudio a ffioedd

4.1 Mae'n ofynnol i ymgeisydd ar gyfer PhD drwy waith cyhoeddedig ymrestru yn y Brifysgol a thalu'r ffi priodol.

4.2 Bydd yr ymgeisydd wedi cofrestru am gyfnod o hyd at 12 mis o'r dyddiad ymrestru ymlaen, a bydd yn ofynnol i'r ymgeisydd gyflwyno ar gyfer gradd PhD drwy Waith Cyhoeddedig heb fod yn hwyrach na 12 mis o'r dyddiad pan wnaeth ymrestru.

4.3 Mae'r ffi gofrestru a chyflwyno ar y cyd ar gyfer PhD drwy Waith Cyhoeddedig yn cyfateb i'r ffi ddysgu flynyddol safonol y mae'r Brifysgol yn ei chodi ar fyfyrwyr PhD rhan-amser, fel y mae hi adeg ymrestru.

4.4 Nid oes rhaid i aelodau staff Prifysgol Caerdydd dalu’r ffi gofrestru, ond mae'n ofynnol iddynt dalu ffi gyflwyno sy'n cyfateb i'r hynny a godir ar staff sy'n ymgeisio ar gyfer PhD safonol.

5.Y cynghorwyr

5.1 Bydd Pennaeth y r Ysgol/enwebai'n penodi cynghorydd neu gynghorwyr ar gyfer cyfnod cofrestru ymgeisydd. Bydd o leiaf un o'r cynghorwyr yn aelod staff o'r Ysgol o dan sylw.

5.2 Bydd gan gynghorydd(ion) yr ymgeisydd yn ddealltwriaeth briodol o'r pwnc a bydd(ant) â phrofiad o oruchwylio ac arholi PhD.

5.3 Bydd y cynghorydd(ion) yn cefnogi, cynghori ac arwain yr ymgeisydd drwy'r broses o ddrafftio'r adolygiad beirniadol sy'n cyd-fynd â'r gwaith cyhoeddedig, yn unol ag atodlen o gysylltiadau, a'r broses o gyflwyno ac arholi.

5.4 Ni fydd y Polisi a'r Weithdrefn ar gyfer Monitro Myfyrwyr Ymchwil, na'r Polisi ar Oruchwylio Myfyrwyr Ymchwil yn gymwys.

6. Ymestyn y Terfyn Amser

6.1 Gall y Brifysgol ymestyn cyfnod cofrestru yn unol â’r Polisi a’r Weithdrefn Gohirio ac Estyn Terfynau Amser (Myfyrwyr Ymchwil).

7.Asesu

7.1 Caiff cyflwyniad PhD drwy Waith Cyhoeddedig ei asesu yn unol â'r Rheoliadau Asesu Gradd Ymchwil ar gyfer dyfarniadau doethurol Prifysgol Caerdydd.

Regulations for higher doctorates

1.Datganiadau cyffredinol

1.1 Mae'r rheoliadau hyn yn gymwys ar gyfer Doethuriaethau Uwch Prifysgol Caerdydd. Mae'r Doethuriaethau Uwch sydd ar gael wedi'u rhestru yn y Rheoliadau Dyfarniadau: Dyfarniadau Prifysgol Caerdydd.

1.2 Mae Doethuriaethau Uwch yn ddyfarniadau a enillir yn y Brifysgol, sy'n cael eu dyfarnu i gydnabod rhagoriaeth o ran ysgolheictod academaidd, gyda thystiolaeth yn sgîl cyflwyno cyhoeddiadau.

1.3 Gallai'r cyhoeddiad a gyflwynwyd fod yn unrhyw gyfuniad o lyfrau, erthyglau a gwaith cyhoeddedig, wedi'u hargraffu neu fel arall wedi'u hailgynhyrchu, y gellir eu holrhain drwy gatalogau, crynodebau neu fynegeion dyfyniadau cyffredin, a'u bod ar gael yn gyhoeddus.

2.Pwy sy'n gymwys

2.1 I fod yn gymwys i wneud cais am Ddoethuriaeth Uwch, rhaid i ymgeisydd fodloni un o'r meini prawf canlynol:

  1. bod yn aelod o staff Prifysgol Caerdydd am o leiaf chwe blynedd, a bod yn ddeiliad doethuriaeth, neu radd Meistr neu Faglor am o leiaf wyth mlynedd o unrhyw Brifysgol neu awdurdod dyfarnu cydnabyddedig; neu
  2. bod yn gynfyfyriwr Prifysgol Caerdydd (yn cynnwys graddedigion Prifysgol Cymru a gyflwynwyd gan Brifysgol Caerdydd neu un o'i rhagflaenwyr sefydliadol), ac wedi cael doethuriaeth neu radd Meistr neu Faglor o'r Brifysgol ers o leiaf wyth mlynedd.

3.Ymgeisio ac Asesu

3.1 Bydd ymgeisio ac asesu yn unol â'r Gweithdrefnau ar gyfer Gwneud Cais, Cyflwyno ac Asesu Doethuriaethau Uwch.

3.2 Codir ffi wrth ddau gam: blaendal wrth wneud cais a'r gweddill wrth asesiad llawn pan mae cyflwyniad yn cael ei gyfeirio'n llwyddiannus yn dilyn adolygiad cychwynnol.

4.Meini prawf y dyfarniad

4.1 Bydd gofyn i'r cyflwyniad ddangos y canlynol:

  1. rhagoriaeth o ran ysgolheictod academaidd;
  2. gwaith o safon uchel ac unigryw;
  3. gwaith sy'n sylweddol o ran graddfa a chyfraniad parhaus at wybodaeth;
  4. pwysigrwydd rhyngwladol a chyrhaeddiad byd-eang;
  5. effaith y gwaith ar eraill yn y maes.

5.Ailgyflwyno cais

5.1 Mae ymgeisydd sydd heb gael gwahoddiad i asesiad llawn, neu nad oedd y cyflwyniad llawn yn deilwng o Ddoethuriaeth Uwch, yn gymwys i ailgyflwyno cais ar un achlysur arall.

Asesu

Rheoliadau asesu a’r bwrdd arholi

Trosolwg sefydliadol

Mae'r Senedd wedi cymderadwyo’r Rheoliadau Asesu a’r Bwrdd Arholi.  Bydd y rheoliadau’n cael eu hadolygu'n rheolaidd i wneud yn siŵr eu bod yn parhau i gefnogi prosesau mewnol i weithredu'n effeithlon ac yn effeithiol, ac i fodloni gofynion Côd Ansawdd diwygiedig Addysg Uwch y DU yn llawn.  Mae'r disgwyliadau a'r arferion a nodwyd yn y cyngor a'r arweiniad ategol ynghylch Asesu, Galluogi Cyflawniad Myfyrwyr, ac Arbenigedd Allanol yn arbennig o berthnasol:

Disgwyliadau o ran safonauDisgwyliadau o ran ansawdd
Mae safonau academaidd cyrsiau yn bodloni gofynion y fframwaith cymwysterau cenedlaethol perthnasol.Mae cyrsiau wedi'u dylunio'n dda, ac yn rhoi profiad academaidd o safon uchel i bob myfyriwr, ac yn galluogi ffordd ddibynadwy o asesu cyrhaeddiad myfyriwr.
Mae gwerth y cymwysterau a ddyfernir i fyfyrwyr, wrth iddynt gymhwyso a thros amser, yn unol â'r safonau a gydnabyddir gan y sector.O gael eu derbyn hyd at gwblhau, caiff yr holl fyfyrwyr y cymorth sydd ei angen arnynt i lwyddo mewn addysg uwch, ac elwa ohoni.
Arferion craidd o ran safonauArferion craidd o ran ansawdd
Mae’r ddarparwr yn sicrhau bod safonau’r trothwy ar gyfer ei gymwysterau yn gyson â’r fframweithiau cenedlaethol perthnasol.Mae’r darparwr yn dylunio ac/neu’n cyflenwi cyrsiau o ansawdd uchel.
Mae'r darparwr yn sicrhau bod myfyrwyr y dyfernir cymwysterau iddynt yn cael y cyfle i gyflawni safonau y tu hwnt i'r trothwy y gellir eu cymharu'n rhesymol â'r rheiny a gyflawnir mewn darparwyr eraill yn y DU.Mae gan y darparwr staff cymwysedig digonol sy'n meddu ar sgiliau i gynnig profiad academaidd o safon uchel.
Pan fydd darparwr yn gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau eraill, bydd wedi gosod trefniadau effeithiol er mwyn gwneud yn siŵr bod safonau ei ddyfarniadau'n gredadwy ac yn ddiogel waeth ble neu ym mha fodd y darperir cyrsiau, neu bwy sy'n eu darparu.Mae gan y darparwr gyfleusterau, adnoddau dysgu a gwasanaethau cynorthwyo myfyrwyr digonol a phriodol er mwyn darparu profiad academaidd o safon uchel.
Mae’r darparwr yn defnyddio arbenigedd allanol, prosesau asesu a dosbarthu sy’n ddibynadwy, teg a thryloyw.Mae'r darparwr yn ymgysylltu'n weithredol â myfyrwyr, yn unigol ac ar y cyd, o ran safon eu profiadau addysg.
 Mae'r darparwr yn cefnogi pob myfyriwr i lwyddo yn academaidd ac yn broffesiynol.
Arferion cyffredin o ran safonauArferion cyffredin o ran ansawdd
Mae’r darparwr yn adolygu ei arferion craidd ar gyfer safonau’n rheolaidd ac yn defnyddio’r canlyniadau i sbarduno gwelliant.Mae’r darparwr yn adolygu ei arferion craidd ar gyfer ansawdd yn rheolaidd ac yn defnyddio’r canlyniadau i sbarduno gwelliant.
 Mae agwedd y darparwr tuag at reoli ansawdd yn cymryd i ystyriaeth arbenigedd allanol.
 Mae'r darparwr yn ymgysylltu â myfyrwyr, yn unigol ac ar y cyd wrth ddatblygu, gwarantu a gwella safon eu profiadau academaidd.

Rheoliadau asesu a’r bwrdd arholi

1. Cyffredinol

1.1 Mae’r rheoliadau hyn yn gymwys i bob myfyriwr ar raglenni Is-raddedig ac Ôl-raddedig a addysgir sy’n arwain at un o ddyfarniadau penodol y Brifysgol.

2. Asesu ac Arholi drwy gyfrwng y Gymraeg

2.1 Mae'r Brifysgol yn cydnabod pwysigrwydd yr iaith Gymraeg a'i statws swyddogol yng Nghymru.  Mae gan bob myfyriwr yr hawl i gael ei asesu drwy gyfrwng y Gymraeg. Er mwyn i'r Brifysgol allu sicrhau nad yw asesiadau neu arholiadau a gyflwynir yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na gwaith a gyflwynir yn Saesneg, mewn rhai achosion, fel y nodir isod, dylai myfyrwyr gyflwyno cais i gael eu hasesu drwy gyfrwng y Gymraeg.

2.2 Bydd asesiadau modiwlau a addysgir yn gyfan gwbl neu'n rhannol drwy gyfrwng y Gymraeg ar gael i fyfyrwyr drwy gyfrwng y Gymraeg ac nid yw'n ofynnol i fyfyrwyr gyflwyno cais.

2.3 Os yw myfyriwr sy'n dilyn modiwl a addysgir drwy gyfrwng y Saesneg yn dymuno cael ei asesu'n gyfan gwbl neu'n rhannol drwy gyfrwng y Gymraeg, rhaid iddo roi gwybod i Bennaeth yr Ysgol, neu ei enwebai, o'i fwriad yn ysgrifenedig cyn gynted â phosibl ar ôl dechrau'r modiwl.  Dylid cyflwyno unrhyw hysbysiad mewn digon o amser i sicrhau y gellir gwneud trefniadau priodol i ddarparu'r asesiad drwy gyfrwng y Gymraeg ac ar gyfer marcio'r asesiad.

2.4 Bydd manylion am gynnal ac arholi asesiadau drwy gyfrwng y Gymraeg yn y Broses Asesu Cyfrwng Cymraeg, sy'n sicrhau cynnig gweithredol i fyfyrwyr sy'n glir o ran sut a phryd y dylai myfyrwyr gyflwyno eu cais.

3. Cadw gwyliau crefyddol

3.1 Rhaid i unrhyw fyfyriwr sy’n rhagweld na fydd yn gallu sefyll arholiadau na chymryd rhan mewn unrhyw asesiad arall, am resymau crefyddol, ar ddyddiau penodol gyflwyno cais ysgrifenedig i’r Cofrestrydd Academaidd cyn gynted â phosibl ac erbyn diwedd wythnos 3 o bob semester, fan bellaf, i sicrhau bod modd ystyried yr amgylchiadau.

3.2 Mae’r Brifysgol yn cydnabod pwysigrwydd defodau crefyddol, ac er y bydd yn gwneud pob ymdrech i ddarparu ar gyfer ceisiadau o'r fath, efallai na fydd hi'n bosib eu bodloni ym mhob achos. Os bydd cais yn cael ei wrthod, bydd y myfyriwr yn cael y penderfyniad, yn ysgrifenedig, ynghyd â’r rhesymau am y penderfyniad hwnnw.

4. Myfyrwyr sy'n ofalwyr

4.1 Mae’r Brifysgol yn cydnabod efallai y bydd myfyrwyr sydd â chyfrifoldebau gofal angen addasiadau i’w rhaglen astudio i’w galluogi i chwarae rhan lawn a theg yn rhaglenni’r Brifysgol. Dylai myfyriwr sy’n ofalwr, ac sy’n rhagweld y bydd angen addasiadau i’w rhaglen o ganlyniad i’r cyfrifoldebau gofal, wneud cais i Bennaeth yr Ysgol am addasiadau.

4.2 Gellir gwneud addasiadau i alluogi myfyrwyr i ddilyn eu hastudiaethau, er enghraifft, drwy adolygu dyddiadau cyflwyno asesiadau, pan fydd arholiadau’n cael eu cynnal, neu’r modd astudio. Ni ellir gwneud newidiadau i’r cynnwys academaidd nac i ofynion dulliau asesu.

4.3 Gall myfyrwyr a fydd yn profi newidiadau i’w cyfrifoldebau gofal, a fydd yn effeithio ar asesiadau lle nad oes addasiadau wedi’u gwneud, wneud cais am amgylchiadau esgusodol o dan y Weithdrefn Amgylchiadau Esgusodol.

5. Myfyrwyr ag anableddau

5.1 Mae’r Brifysgol yn cydnabod efallai y bydd angen addasiadau i asesiadau ar fyfyrwyr ag anableddau er mwyn eu galluogi i gyfranogi’n llawn yn rhaglenni’r Brifysgol. Yn unol â’r ddeddfwriaeth berthnasol, bydd y Brifysgol yn ystyried addasiadau rhesymol i fyfyrwyr ag anableddau, ar yr amod na fydd hynny’n effeithio ar safonau cymhwysedd academaidd.

5.2 Mae’r Polisi a’r Weithdrefn Addasiadau Rhesymol yn cynnwys manylion am y broses sy’n galluogi myfyrwyr ag anableddau i ofyn am addasiadau rhesymol.

5.3 Bydd unrhyw addasiadau i asesiad yn parhau i ddangos y bydd myfyrwyr yn gallu cyflawni’r deilliannau neu’r cymwyseddau dysgu penodol ac na fydd safonau academaidd a, phan yn berthnasol, safonau cyrff proffesiynol, statudol a rheoliadol yn cael eu peryglu.

6. Amgylchiadau esgusodol

6.1 Mae’r Brifysgol yn cydnabod y bydd adegau pan fydd amgylchiadau personol myfyrwyr yn gallu effeithio ar eu hastudiaethau. Diffinnir Amgylchiadau Esgusodol fel rhai sydd:

  • yn ddifrifol ac eithriadol; a
  • heb eu rhagweld neu na ellid eu hosgoi; a
  • yn digwydd yn agos at amser yr asesiad, neu lle gall y myfyriwr ddangos bod yr amgylchiadau wedi parhau i gael effaith ar eu perfformiad academaidd yn yr asesiad.

6.2 Gellir barnu bod amgylchiadau o'r fath wedi cael effaith niweidiol ar berfformiad academaidd y myfyriwr mewn asesiad a/neu eu bod wedi atal myfyriwr rhag cyflwyno asesiad gwaith cwrs a/neu fynychu asesiad a oedd wedi’i drefnu.

6.3 Mae’r Weithdrefn Amgylchiadau Esgusodol yn nodi sut y dylai myfyrwyr wneud cais i ofyn am i effaith yr amgylchiadau hyn ar asesiadau ac arholiadau gael eu hystyried. Os derbynnir fod amgylchiadau esgusodol, bydd y Bwrdd Arholi’n gweithredu’r datrysiad priodol. Bydd myfyrwyr yn cael manylion am y Weithdrefn Amgylchiadau Esgusodol ar ddechrau bob sesiwn gan Bennaeth yr Ysgol.

7.  Cyflwyno gwaith cwrs yn hwyr

7.1 Bydd myfyrwyr yn cael eu hysbysu o’r dyddiadau cwblhau ar gyfer cyflwyno gwaith cwrs a’r gofyniad i’w gyflwyno erbyn dyddiad penodedig. Mewn achosion lle bydd gwaith cwrs yn cael ei gyflwyno’n hwyr, a lle nad oes amgylchiadau esgusodol:

  1. Os bydd yr asesiad yn cael ei gyflwyno’n ddim mwy na 24 awr ar ôl y dyddiad cwblhau, bydd y marc ar gyfer yr asesiad yn cael ei gapio ar isafswm y marc pasio;
  2. Os bydd yr asesiad yn cael ei gyflwyno’n hwyrach na 24 awr ar ôl y dyddiad cwblhau, bydd marc o 0 yn cael ei roi am yr asesiad.

8. Arholiadau

Trefniadaeth a Chynnal Arholiadau

8.1 Bydd pob Arholiad ar gyfer rhaglenni modiwlaidd yn cael eu cynnal yn ystod y cyfnodau arholi dynodedig neu'r cyfnod ailsefyll arholiadau. Y Cofrestrydd Academaidd sy'n gyfrifol am amserlennu arholiadau.

8.2 Caiff cyfnodau arholi semester yr Hydref a’r Gwanwyn eu neilltuo ar gyfer cynnal arholiadau ac ar gyfer cyfnodau astudio preifat y myfyrwyr. Gall Pennaeth yr Ysgol arfer ei ddisgresiwn a defnyddio'r cyfnod hwn at ddibenion academaidd eraill os nad oes gan y rhaglen unrhyw arholiadau yn ystod y cyfnod arholi penodol.  Ar gyfer rhaglenni gradd cydanrhydedd, mae’n rhaid i'r ddwy Ysgol fod yn rhydd rhag arholiadau yn y cyfnod arholi penodol ac ymgynghori â'i gilydd er mwyn i hyn fod yn berthnasol.

8.3 Bydd yr amserlen ar gyfer arholiadau, a fformat y cyfarwyddiadau papur arholiad yn unol â'r canllawiau a nodir yn y weithdrefn arholi.

8.4 Mae disgwyliadau o ran ymddygiad myfyrwyr yn lleoliad yr arholiadau, ac mae manylion am eiriaduron a chyfrifianellau a ganiateir mewn arholiadau wedi’u nodi yn y Weithdrefn Arholi.

8.5 Mae’r trefniadau ar gyfer goruchwylio mewn arholiadau, gan gynnwys nifer y goruchwylwyr a’u dyletswyddau, wedi’u nodi yn y Weithdrefn Arholi.

Arholiadau y tu allan i Gaerdydd

8.6 Mae’r Brifysgol yn caniatáu i fathau o asesiadau, gan gynnwys arholiadau, gael eu cynnal mewn lleoliadau y tu allan i Gaerdydd a Phrifysgol Caerdydd.

8.7 Mae’r Brifysgol yn fodlon ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr unigol i ymgymryd ag asesiadau, gan gynnwys arholiadau, y tu allan i Gaerdydd yn ystod cyfnod ailsefyll arholiadau’r haf, ac mewn amgylchiadau eithriadol, a cheisiadau gan fyfyrwyr unigol i ymgymryd ag asesiadau, gan gynnwys arholiadau, y tu allan i Gaerdydd ar adegau eraill. Manylir ar y drefn ar gyfer hyn yn y Polisi a Gweithdrefnau Arholiadau ac Asesu.

9. Marcio ac adborth

9.1 Rhaid i Ysgolion roi gwybodaeth i'r myfyrwyr am asesiadau ymlaen llaw, gan bennu'r safonau a ddisgwylir yn yr asesiad hwnnw ac sy’n nodi'r meini prawf asesu a/neu'r cynlluniau marcio a ddefnyddir.

9.2 Bydd Pennaeth yr Ysgol yn sefydlu gweithdrefnau a phrosesau sy'n sicrhau tegwch, cysondeb a thryloywder wrth farcio.

9.3 Rhaid i bob asesiad, lle bo modd, gael ei farcio yn ôl rhif.

9.4 Bydd Penaethiaid Ysgol yn rhoi gweithdrefnau ar waith i sicrhau bod marciau'n cael eu rhoi i fyfyrwyr yn brydlon. Bydd myfyrwyr yn cael adborth fel y nodir yn y Polisi Adborth Academaidd i Fyfyrwyr a Addysgir.

9.5 Mae'n ofynnol i Benaethiaid Ysgol roi gweithdrefnau ar waith i sicrhau bod gan aseswyr y sgiliau priodol i asesu gwaith myfyrwyr.

9.6 Bydd y polisi marcio’n cynnwys rhagor o wybodaeth o ran disgwyliadau wrth farcio asesiadau.

10.       Traethodau Hir Gradd Meistr

10.1 Bydd Cam Traethawd Hir Rhaglen gradd Meistr yn cael ei addysgu ar ffurf Traethawd Hir.  Gall hyn gynnwys unrhyw ffurfiau ansafonol o gyflwyno/asesu a gymeradwyir gan y Pwyllgor Safonau ac Ansawdd Academaidd mewn perthynas â Rhaglenni penodol.

10.2 Nifydd hyd traethawd hir safonol yn fwy na 20,000 o eiriau.  Gall rhaglenni penodol hefyd bennu isafswm nifer o eiriau ar gyfer y Traethawd Hir.

10.3 Yn achos ymgeiswyr sy’n dilyn Gradd Meistr a Addysgir sy’n rhan o faes pwnc Ysgrifennu Creadigol a Chelfyddydau Perfformio, gall y Traethawd Hir fod ar ffurf unrhyw un neu ragor o’r canlynol: sgor gerddorol, portffolio o waith gwreiddiol, neu berfformiad.  Bydd sylwebaeth ysgrifenedig (5,000 - 6,000 o eiriau fel arfer) gyda’r cyflwyniad fydd yn ei roi yn ei gyd-destun academaidd gydag unrhyw eitemau eraill a allai fod yn ofynnol (e.e. deunyddiau sain neu weledol).

11. Byrddau arholi

11.1 Mae’r Rheolau Dadlau ar gyfer Byrddau Arholi wedi’u nodi yn y Rheolau Sefydlog, Ordinhad 3.  Rôl Bwrdd Arholi yw:

  • ystyried perfformiad pob myfyriwr mewn asesiadau;
  • cadarnhau marciau modiwl/uned a chadarnhau penderfyniadau dilyniant ar gyfer myfyrwyr yn unol â rheolau Dilyniant, Ailsefyll ac Ailadrodd y Rhaglen;
  • argymell i Bwyllgor Dyfarniadau a Chynnydd y Brifysgol y dyfarniadau, i fyfyrwyr, yn unol â'r dyfarniadau priodol a, lle bo'n berthnasol, y rheolau dosbarthu;
  • monitro ansawdd a safon dyfarniadau a gwneud argymhellion yn ymwneud â gwella ansawdd a safonau i’r Bwrdd Astudiaethau.

11.2 Ni fydd Byrddau Arholi’n newid, yn diwygio nac yn amcangyfrif marciau.

Strwythur Byrddau Arholi

11.3 Bydd Byrddau Arholi’n cael eu sefydlu gan Benaethiaid Ysgol, yn unol ag un o’r strwythurau canlynol:

11.3.1 Strwythur Unedol

Bwrdd Arholi Rhaglen: Mae Bwrdd Arholi Rhaglen yn llwyr gyfrifol am un rhaglen neu fwy heb gyfeiriad at Fwrdd Arholi Pwnc. Bydd Byrddau Arholi Rhaglen, pan yn briodol, yn:

  1. ystyried unrhyw ddiffygion neu anghysondebau wrth gynnal arholiadau;
  2. penderfynu ar y camau sydd i'w cymryd yn achos myfyriwr sydd ag amgylchiadau esgusodol;
  3. cael cofnod o bob myfyriwr sydd wedi cyflwyno cais am addasiadau rhesymol, a chofnodi a yw’r addasiad rhesymol wedi’i gymeradwyo;
  4. cael cofnod o'r myfyrwyr hynny y caniatawyd iddynt sefyll asesiad atodol neu gael estyniad i ddyddiad cyflwyno gwaith cwrs;
  5. cadarnhau marciau pob myfyriwr am fodiwlau neu unedau astudio unigol;
  6. cadarnhau a yw pob myfyriwr wedi pasio neu fethu pob modiwl neu uned astudio;
  7. cadarnhau'r cyfleoedd, os oes rhai, i adfer y modiwlau neu’r unedau astudio a fethwyd;
  8. cadarnhau a gaiff myfyriwr symud ymlaen i gam nesaf y rhaglen;
  9. cadarnhau a fydd myfyriwr yn gymwys ai peidio i gael unrhyw ddyfarniad pwynt ymadael ar gyfer y rhaglen, pe bai’n tynnu’n ôl yn ddiweddarach neu fel arall yn methu cwblhau’r rhaglen;
  10. cadarnhau a ddylai'r myfyriwr dderbyn y dyfarniad a fwriadwyd ar gyfer y rhaglen;
  11. cadarnhau, lle bo hynny'n briodol, ddosbarthiad pob myfyriwr.
11.3.2   Strwythur 2 Haen

Bwrdd Arholi Pwnc: Mae Bwrdd Arholi Pwnc yn is-fwrdd sy’n gyfrifol am un neu ragor o fodiwlau neu unedau astudio ac sy’n gwneud argymhellion i Fwrdd Arholi Cyfun. Bydd Byrddau Arholi Pwnc yn gwneud argymhellion, yn ysgrifenedig, i’r Bwrdd Arholi Cyfun ar:

  1. y marciau sydd i’w rhoi i bob myfyriwr am bob modiwl neu uned astudio unigol;
  2. unrhyw ddiffygion neu anghysondebau wrth gynnal arholiadau.

Bwrdd Arholi Cyfun: Mae Bwrdd Arholi Cyfun yn gyfrifol am un neu ragor o raglenni a chaiff argymhellion gan un neu ragor o Fyrddau Arholi Pwnc. Bydd Byrddau Arholi Cyfun, os yw’n briodol, yn:

  1. ystyried unrhyw ddiffygion neu anghysondebau wrth gynnal arholiadau, ac argymhellion y Bwrdd Arholi Pwnc yn eu cylch, os oes rhai;
  2. penderfynu ar y camau sydd i'w cymryd yn achos myfyriwr sydd ag amgylchiadau esgusodol;
  3. cael cofnod o bob myfyriwr sydd wedi cyflwyno cais am addasiadau rhesymol, a chofnodi a yw’r addasiad rhesymol wedi’i gymeradwyo;
  4. cael cofnod o'r myfyrwyr hynny y caniatawyd iddynt sefyll asesiad atodol neu gael estyniad i ddyddiad cyflwyno gwaith cwrs;
  5. cadarnhau marciau pob myfyriwr am fodiwlau neu unedau astudio unigol;
  6. cadarnhau a yw pob myfyriwr wedi pasio neu fethu pob modiwl neu uned astudio;
  7. cadarnhau'r cyfleoedd, os oes rhai, i adfer y modiwlau neu’r unedau astudio a fethwyd;
  8. cadarnhau a gaiff myfyriwr symud ymlaen i flwyddyn nesaf neu gam academaidd nesaf y rhaglen;
  9. cadarnhau a fydd myfyriwr yn gymwys ai peidio i gael unrhyw ddyfarniad pwynt ymadael ar gyfer y rhaglen, pe bai’n tynnu’n ôl yn ddiweddarach neu fel arall yn methu cwblhau’r rhaglen;
  10. cadarnhau a ddylai'r myfyriwr dderbyn y dyfarniad dynodedig ar gyfer y Rhaglen;
  11. cadarnhau, lle bo hynny'n briodol, ddosbarthiad pob myfyriwr.

Aelodaeth

11.4      Bydd aelodaeth Byrddau Arholi yn cynnwys:

  1. Cadeirydd y Bwrdd Arholi; 

    Cadeirydd Rhaglen neu Fwrdd Arholi Rhaglen fydd Pennaeth yr Ysgol neu bydd aelod arall o staff yn cael ei enwebu. Os bydd Cadeirydd yn absennol o gyfarfod, bydd y Bwrdd yn penodi dirprwy, o blith y staff uwch sy’n bresennol yn y cyfarfod lle bo hynny’n bosibl.

  2. Yr Arholw(y)r Mewnol;

    Caiff Arholwyr Mewnol eu penodi gan Bennaeth yr Ysgol ar sail cyngor Bwrdd yr Ysgol, a bydd yn cynnwys llefarydd ar gyfer pob modiwl/uned astudio.

    Bydd disgwyl i bob Arholwyr Mewnol fynychu holl gyfarfodydd y Bwrdd Arholi oni chafodd eu habsenoldeb ei awdurdodi gan Gadeirydd y Bwrdd Arholi.

  3. Yr Arholw(y)r Allanol, os oes modiwl neu uned astudio sy’n cyfrannu at yr asesiad terfynol yn cael eu hystyried.
  4. Cadeirydd y Grŵp Amgylchiadau Esgusodol neu enwebai.
  5. Aelodau Ymgynghorol

    Gall Cadeirydd Bwrdd Arholi wahodd unigolion priodol i ddod i gyfarfod o Fwrdd Arholi i weithredu fel ymgynghorwyr. Ni fydd gan yr unigolion hynny hawliau pleidleisio.

Datgan Budd Personol

11.5 Rhaid i staff hysbysu Pennaeth eu Hysgol o unrhyw fudd personol sy’n gysylltiedig â myfyriwr, a hynny cyn gynted â phosibl er mwyn gallu rhoi trefniadau priodol ar waith i ddiogelu uniondeb yr asesiad..

11.6 Os bydd aelod o staff wedi hysbysu Pennaeth yr Ysgol o fudd personol sy’n gysylltiedig â myfyriwr, bydd Pennaeth yr Ysgol, ar ôl ymgynghori â’r Cofrestrydd Academaidd, fel y gwêl yn briodol:

  1. rhoi trefniadau ar waith i sicrhau nad yw’r aelod o’r staff yn gyfrifol am osod papurau cwestiwn arholiad sydd i’w sefyll gan y myfyriwr na marcio unrhyw un o asesiadau’r myfyriwr, a rhaid iddo/iddi hysbysu’r Cofrestrydd Academaidd o’r mesurau a gymerwyd;
  2. hysbysu Cadeirydd y Bwrdd Arholi o fudd yr aelod o staff yn gysylltiedig â’r myfyriwr a bod gofyn i’r aelod hwnnw dynnu’n ôl o’r cyfarfod o’r Bwrdd Arholi pan drafodir achos y myfyriwr;
  3. cyfarwyddo Cadeirydd y Bwrdd Arholi i sicrhau bod datganiad o fudd, a’r ffaith bod yr aelod o’r staff wedi tynnu’n ôl o’r Bwrdd Arholi, yn cael eu cofnodi yn yr adroddiad ar y cyfarfod o’r Bwrdd Arholi.

Cworwm

11.7 Bydd cworwm ar gyfer Byrddau Arholi pan fydd y Cadeirydd yn fodlon bod llefarydd/llefarwyr priodol ar gyfer pob modiwl/uned astudio yn bresennol.

Cydoddefiad

11.8 Bydd Bwrdd Arholi yn dyfarnu credyd i fyfyriwr mewn modiwl(au) fel bod myfyriwr yn cyflawni credydau llawn ar gyfer cam y rhaglen a fydd yn caniatáu symud ymlaen neu ddyfarniad lle:

1. ar gyfer credyd lefel 3, 4, 5 neu 6 mae marc modiwl o 30% i 39% wedi’i gyflawni ac mae canlyniad lefel/blwyddyn y myfyriwr yn y lefel/blwyddyn astudio honno, ym mhob modiwl sy’n cyfrannu, yn 45% o leiaf;

neu

ar gyfer credyd lefel 7 ac 8 mae marc modiwl o 40% i 49% wedi’i gyflawni ac mae canlyniad lefel/blwyddyn y myfyriwr yn y lefel/blwyddyn astudio honno, ym mhob modiwl sy’n cyfrannu, yn 55% o leiaf;

ac

2. nid yw'r modiwl(au) yn fodiwl(au) gorfodol; ac

.3 yn achos modiwl lle mae angen llwyddiant critigol neu orfodol ar gyfer un neu fwy o gydrannau asesu, mae'r llwyddiant critigol neu orfodol wedi'i gyflawni, a

.4 nid yw'r myfyriwr wedi methu dim mwy na'r terfynau a gydoddefir ac sydd wedi'u nodi yn y tabl isod:

Hyd y rhaglen (mewn camau)Credyd y gellir ei gydoddef mewn 1 cam (uchafswm)Credyd y gellir ei gydoddef mewn 1 rhaglen (uchafswm)
Rhaglenni i israddedigion
1 neu 23030
3 neu ragor3060
Rhaglenni Meistr a Diploma Ôl-raddedig
1 neu ragor3030

11.9 Wrth ddyfarnu credyd, ni chaiff marc y modiwl a gadarnhawyd gan y Bwrdd Arholi ei newid, a bydd yn cael ei ddefnyddio, pan yn gymwys, wrth gyfrifo dosbarthiad unrhyw ddyfarniad, a bydd yn ymddangos yn y trawsgrifiad. Ni chaniateir i Fyrddau Arholi newid marciau modiwl unigol.

11.10 Ni fydd cydoddefiad yn cael ei weithredu mewn modiwlau a effeithir gan amgylchiadau esgusodol, oni bai bod y myfyriwr ym mlwyddyn/cam olaf y rhaglen ac y gellir ei argymell ar gyfer dyfarniad arfaethedig. Os yw cydoddefiad yn cael ei weithredu mewn modiwlau sy’n cael eu heffeithio gan amgylchiadau esgusodol, bydd y modiwl yn parhau’n gymwys ar gyfer diystyru dosbarthiad y dyfarniad.

11.11 Ni chaiff cydoddefiad ei weithredu:

  1. lle mae myfyriwr wedi methu mwy o gredydau na'r hyn sydd wedi'u nodi yn y tabl uchod nac;
  2. mewn Modiwlau Gofynnol; nac
  3. yn achos modiwl lle mae angen llwyddiant critigol neu orfodol ar gyfer un gydran neu fwy o'r asesiad, lle na chyrhaeddwyd y llwyddiant critigol neu orfodol.
  4. Lle nad yw Corff Proffesiynol, Statudol, neu Reoleiddiol yn caniatáu cydoddefiad, neu’n cyfyngu at uchafswm y cydoddefiad a ganiateir. Mewn achosion o’r fath, rhaid i Bennaeth yr Ysgol sicrhau bod myfyrwyr yn cael eu hysbysu o unrhyw amrywiad i’r rheoliadau cydoddef at ddechrau’r rhaglen.

Diystyru

11.12 Gall Byrddau Arholi Terfynol ddiystyru marciau modiwl sydd wedi’u heffeithio gan amgylchiadau esgusodol neu ddiffyg neu anghysondeb yn y modd y cafodd yr asesiad ei gynnal wrth gyfrifo’r marc terfynol i ddosbarthu dyfarniad myfyriwr, os:

  1. nad oes unioni digonol wedi’i weithredu’n flaenorol;
  2. os yw o fudd i’r myfyriwr;
  3. bod y myfyriwr wedi cyflawni digon o gredydau i gael y dyfarniad.

11.13 Gellir diystyru uchafswm o 1/6ed o gyfanswm y credydau a addysgir, ac eithrio blwyddyn o Ddysgu drwy Brofiad, neu flwyddyn dramor, sy’n cyfrannu at y dyfarniad terfynol.

11.14 Mewn amgylchiadau eithriadol gall Pennaeth Ysgol wneud cais i’r Pwyllgor Dyfarniadau a Chynnydd i ganiatáu i’r Bwrdd Arholi ddiystyru rhagor o gredydau o ddosbarthiad y dyfarniad.

12. Arholwyr Allanol

12.1 Penodir arholwyr allanol i roi cyngor diduedd ac annibynnol, i wneud sylwadau ar ansawdd a safon y rhaglen(ni) o ran safonau a fframweithiau cenedlaethol, ac i wneud sylwadau ar gymharoldeb â safonau prifysgolion eraill y DU. Gofynnir i arholwyr allanol hefyd gadarnhau bod y polisïau a’r gweithdrefnau sy’n sicrhau cywirdeb academaidd wedi cael eu gweithredu’n gyson a theg, ac i wneud sylwadau ar ymarfer da ac i wneud argymhellion ar eu gwella.

12.2 Bydd gan arholwyr allanol fri, hygrededd ac ehangder profiad digonol yn y ddisgyblaeth fel eu bod yn ennyn parch cymheiriaid academaidd a, lle bo hynny’n briodol, cymheiriaid proffesiynol;

12.3 Bydd arholwyr allanol yn cael ei penodi ar gyfer Byrddau Rhaglen/Cyfansawdd a Phwnc sy’n ystyried modiwlau neu unedau astudio sy’n cyfrannu tuag at y dyfarniad terfynol.

12.4 Bydd arholwyr allanol yn cael eu penodi gan y Pwyllgor Safonau ac Ansawdd Academaidd yn unol ag argymhelliad Pennaeth yr Ysgol.

12.5 Mae rôl a dyletswyddau arholwyr allanol, gwybodaeth am y trefniadau cynefino, a gofynion adrodd wedi’u nodi yn y Polisi Arholwyr Allanol.

13. Dyfarniadau Aegrotat - Rhaglenni a Addysgir

13.1 Os bydd salwch neu resymau meddygol eraill yn atal ymgeisydd rhag cwblhau arholiadau terfynol neu asesiadau terfynol eraill mewn rhaglen, gall y Bwrdd Arholi, ar ôl ystyried y dystiolaeth berthnasol (a ddylai gynnwys tystysgrif feddygol foddhaol) argymell i'r Pwyllgor Dyfarniadau a Chynnydd, drwy'r Cofrestrydd Academaidd, bod dyfarniad Aegrotat yn cael ei wneud.

13.2 Rhaid i Fwrdd Arholi sy’n argymell dyfarnu dyfarniad Aegrotat gael ei fodloni bod perfformiad blaenorol yr ymgeisydd yn dangos, yn ôl pob tebygolrwydd, y byddai wedi pasio oni bai am y salwch/y digwyddiad dan sylw. Rhaid i’r Pwyllgor Dyfarniadau a Chynnydd gael ei fodloni nad yw’r ymgeisydd yn debygol o allu dychwelyd i gwblhau ei astudiaethau ar ddyddiad diweddarach o fewn cyfnod rhesymol.

13.3 Rhaid i Gadeirydd y Bwrdd Arholi ofyn bod y myfyriwr yn cadarnhau’n ysgrifenedig eu bod yn barod i dderbyn dyfarniad Aegrotat. Bydd cadarnhad a lofnodwyd gan y myfyriwr sy’n nodi eu parodrwydd i dderbyn dyfarniad Aegrotat yn cael ei gyflwyno gan Gadeirydd y Bwrdd Arholi gyda'r argymhelliad i'r Pwyllgor Dyfarniadau a Chynnydd i wneud dyfarniad Aegrotat.

13.4 Os nad yw myfyriwr yn barod i dderbyn dyfarniad Aegrotat, gall y Bwrdd Arholi ystyried, pan yn briodol, ddyfarniad ymadael neu gall ofyn am estyniad priodol i gyfnod astudio’r myfyriwr a chaniatáu i’r myfyriwr gwblhau’r arholiadau/asesiadau’n ddiweddarach.

13.5 Bydd gradd, diploma neu dystysgrif Aegrotat yn ddi-ddosbarth, ac ni fydd yn cael eu graddio fel arall. Ni fydd dyfarniad Aegrotat o reidrwydd yn rhoi hawl i'r deilydd i gofrestru gyda chorff proffesiynol, nac yn eu heithrio rhag gofynion unrhyw gymhwyster proffesiynol, nac yn caniatáu iddynt symud ymlaen i raglen academaidd arall neu gam arall mewn rhaglen a allai fod yn gysylltiedig mewn modd arall â'r rhaglen dan sylw.

13.6 Ni chaiff unrhyw ymgeisydd ei eithrio rhag cyflwyno traethawd hir Meistr (neu gyflwyniad cyfatebol) os yw’n ofynnol gwneud hynny. Dim ond os oes modd asesu’r traethawd hir y gellir dyfarnu graddau Meistr Aegrotat a addysgir. Nid yw’r gofyniad hwn yn atal rhoi unrhyw ddyfarniad perthnasol i’r myfyriwr y gellid ei wneud mewn perthynas â gwaith astudio a gwblhawyd yn flaenorol.

14. Dyfarniadau ar ôl Marwolaeth - Rhaglenni a Addysgir

14.1 Gall Bwrdd Arholi, drwy’r Cofrestrydd Academaidd, argymell y Pwyllgor Dyfarniadau a Chynnydd i gyflwyno dyfarniad ar ôl marwolaeth lle mae ymgeisydd sy’n gweithio tuag at ddyfarniad a addysgir wedi marw ac mae’r Bwrdd Arholi yn fodlon, ar sail tebygolrwydd, bod perfformiad yr ymgeisydd ar y rhaglen yn dangos y byddai wedi pasio.

15. Canlyniadau, Trawsgrifiadau, a Datgelu Marciau

15.1 Bydd y Cofrestrydd Academaidd yn hysbysu myfyrwyr yn ysgrifenedig o'r penderfyniadau a wnaed gan y Bwrdd/Byrddau Arholi mewn perthynas â marciau modiwlau, canlyniadau modiwlau, cynnydd, dyfarniadau a dosbarthiadau, fel y bo'n briodol.

15.2 Ar ôl cwblhau astudiaethau myfyriwr, bydd y Cofrestrydd Academaidd yn cyflwyno trawsgrifiad i bob myfyriwr, mewn ffurf gymeradwy, a phan yn briodol tystysgrif radd.

15.3 Ni chodir ffi am gyhoeddi'r trawsgrifiad a’r dystysgrif. Codir ffi weinyddol am dystysgrif neu drawsgrifiad newydd.

16. Ffioedd Ailgofrestru

16.1 Bydd y Cofrestrydd Academaidd yn hysbysu myfyrwyr yn ysgrifenedig o unrhyw Ffioedd ailgofrestru sy'n daladwy gan ymgeiswyr sydd am gael eu hailasesu mewn un neu fwy o fodiwlau neu unedau astudio.

17. Eithriadau

17.1 Mewn achosion lle byddai cymhwyso’r rheoliadau hyn yn rhoi myfyriwr unigol dan anfantais annheg, ond heb effeithio ar safonau academaidd, gall Cadeirydd Bwrdd Arholi ofyn i’r Rhag Is-Ganghellor (Profiad y Myfyriwr a Safonau Academaidd) i eithrio myfyriwr o ran o’r Rheoliadau hyn.

Rheoliadau asesu gradd ymchwil

Trosolwg sefydliadol

Mae'r Senedd wedi cymeradwyo’r Rheoliadau Asesu Graddau Ymchwil. Bydd y rheoliadau’n cael eu hadolygu'n rheolaidd i wneud yn siŵr eu bod yn parhau i gefnogi prosesau mewnol i weithredu'n effeithlon ac yn effeithiol, ac i fodloni gofynion Côd Ansawdd diwygiedig Addysg Uwch y DU yn llawn. Mae'r disgwyliadau a'r arferion a nodwyd yn y cyngor a'r arweiniad ategol yn arbennig o berthnasol.

Disgwyliadau o ran safonauDisgwyliadau o ran ansawdd
Mae safonau academaidd cyrsiau yn bodloni gofynion y fframwaith cymwysterau cenedlaethol perthnasol.O gael eu derbyn hyd at gwblhau, caiff yr holl fyfyrwyr y cymorth sydd ei angen arnynt i lwyddo mewn addysg uwch, ac elwa arno.
Mae gwerth y cymwysterau a ddyfernir i fyfyrwyr, wrth iddynt gymhwyso a thros amser, yn unol â'r safonau a gydnabyddir gan y sector.O gael eu derbyn hyd at gwblhau, caiff yr holl fyfyrwyr y cymorth sydd ei angen arnynt i lwyddo mewn addysg uwch, ac elwa ohoni.
Arferion craidd o ran safonauArferion craidd o ran ansawdd
Mae’r darparwr yn sicrhau bod safonau’r trothwy ar gyfer ei gymwysterau yn gyson â’r fframweithiau cenedlaethol perthnasol.Mae gan y darparwr staff cymwysedig digonol sy'n meddu ar sgiliau i gynnig profiad academaidd o safon uchel.
Mae’r darparwr yn defnyddio arbenigedd allanol, prosesau asesu a dosbarthu sy’n ddibynadwy, teg a thryloyw.Mae gan y darparwr gyfleusterau, adnoddau dysgu a gwasanaethau cynorthwyo myfyrwyr digonol a phriodol er mwyn darparu profiad academaidd o safon uchel.
 Pan fydd y darparwr yn cynnig graddau ymchwil mae’n cyflawni’r rhain mewn amgylcheddau ymchwil priodol a chefnogol.
 Mae'r darparwr yn cefnogi pob myfyriwr i lwyddo yn academaidd ac yn broffesiynol.
Arferion cyffredin o ran safonauArferion cyffredin o ran ansawdd
Mae’r darparwr yn adolygu ei arferion craidd ar gyfer safonau’n rheolaidd ac yn defnyddio’r canlyniadau i sbarduno gwelliant.Mae’r darparwr yn adolygu ei arferion craidd ar gyfer ansawdd yn rheolaidd ac yn defnyddio’r canlyniadau i sbarduno gwelliant.
 Mae agwedd y darparwr tuag at reoli ansawdd yn cymryd i ystyriaeth arbenigedd allanol.
 Mae'r darparwr yn ymgysylltu â myfyrwyr, yn unigol ac ar y cyd wrth ddatblygu, gwarantu a gwella safon eu profiadau academaidd.

Rheoliadau asesu gradd ymchwil

1.Datganiadau cyffredinol

1.1 Mae’r rheoliadau asesu hyn ar gyfer rhaglenni gradd ymchwil sy’n arwain at ddyfarnu’r graddau canlynol: PhD (Doethur mewn Athroniaeth), gan gynnwys PhD drwy Waith a Gyhoeddwyd; MD (Doethur mewn Meddygaeth); EngD (Doethur mewn Peirianneg); Graddau Doethurol drwy Arholiad a Thraethawd Ymchwil (Doethuriaethau Proffesiynol), gan gynnwys EngD (Doethur mewn Peirianneg); ac MPhil (Athro mewn Athroniaeth).

1.2 Gall y Brifysgol gyflwyno gradd ymchwil i gydnabod bod rhaglen astudiaeth ac ymchwil annibynnol wedi'i chwblhau yn llwyddiannus, a allai fod wedi cynnwys cyfnodau o ymarfer proffesiynol cymeradwy.

1.3 Mae’r asesiad ar gyfer dyfarnu gradd ymchwil yn cynnwys asesu traethawd ymchwil, neu fformat arall cyfatebol a gymeradwyir, ac amddiffyniad yr ymgeisydd o’r traethawd hwnnw drwy arholiad llafar. Mae asesiad ar gyfer dyfarnu Gradd Ddoethurol drwy Arholiad a Thraethawd Ymchwil (Doethuriaeth Broffesiynol) yn cynnwys hefyd arholiad o gydraddau a addysgir a/neu ymarfer proffesiynol.

2. Meini prawf ar gyfer dyfarnu’r Radd

2.1 Er mwyn dyfarnu gradd ddoethurol, ystyrir bod canlyniadau’r rhaglen astudio annibynnol a’r ymchwil yn gyfraniad gwreiddiol at ddysgu ac yn dystiolaeth o:

  1. greu a dehongli gwybodaeth newydd, drwy gyfrwng ymchwil gwreiddiol sy’n ehangu’r ddisgyblaeth ac sydd o ansawdd sy'n bodloni adolygiad gan gymheiriaid, ac yn haeddu ei chyhoeddi;
  2. dealltwriaeth systematig o gorff sylweddol o wybodaeth sydd ar flaen y ddisgyblaeth academaidd neu faes ymarfer proffesiynol;
  3. y gallu i gysylltu canlyniadau astudiaeth o'r fath â chorff cyffredinol gwybodaeth yn y ddisgyblaeth;
  4. y gallu i gysyniadu, dylunio a rhoi prosiect ar waith ar gyfer creu gwybodaeth, cymwysiadau neu ddealltwriaeth, ac addasu dyluniad y prosiect yng ngoleuni problemau nas rhagwelwyd;
  5. dealltwriaeth fanwl o dechnegau a dulliau cymwys ar gyfer ymchwil ac ymchwiliad academaidd uwch;
  6. gwerthusiad o dechnegau a methodolegau, datblygu beirniadaeth a, lle bo'n briodol, cynnig damcaniaethau newydd.

2.2 Ar ben hynny, mewn perthynas â dyfarniad MD, bernir bod canlyniadau'r astudiaeth ac ymchwil yn gyfystyr â chyfraniad gwreiddiol at wybodaeth feddygol neu lawfeddygol, a bydd yn darparu tystiolaeth o wreiddioldeb naill ai trwy ddarganfod ffeithiau newydd neu drwy arfer pŵer beirniadol annibynnol. Bydd yr ymgeisydd yn dangos sut mae'r traethawd ymchwil yn hyrwyddo ymarfer a/neu wybodaeth glinigol.

2.3 Hefyd, o ran Graddau Doethurol drwy Arholiad a Thraethawd Ymchwil (Doethuriaethau Proffesiynol), rhaid pasio cydrannau a addysgir a/neu broffesiynol a’r cydrannau ymchwil annibynnol (y gellir cyfeirio ato fel ‘traethawd ymchwil’ neu ‘bortffolio ymchwil’) er mwyn cymhwyso ar gyfer y dyfarniad.

2.4 Er mwyn dyfarnu gradd MPhil, ystyrir bod canlyniadau’r rhaglen astudio annibynnol a’r ymchwil yn werthusiad beirniadol ac yn ddadansoddiad o gorff o wybodaeth, ac er mwyn rhoi tystiolaeth o:

  1. ddealltwriaeth systematig o wybodaeth, ac ymwybyddiaeth gritigol o broblemau cyfredol a/neu ddealltwriaeth newydd, llawer ohono ar flaen y pwnc academaidd, y maes astudio, neu'r maes ymarfer proffesiynol neu'n seiliedig arno;
  2. dealltwriaeth gynhwysfawr o dechnegau sy'n berthnasol i'r ymchwil neu'r ysgoloriaeth uwch;
  3. gwreiddioldeb wrth ddefnyddio gwybodaeth, a dealltwriaeth ymarferol o sut mae technegau ymchwil ac ymholi sefydledig yn cael eu defnyddio i greu a dehongli gwybodaeth yn y pwnc
  4. dealltwriaeth gysyniadol sy'n galluogi gwerthusiad beirniadol o ymchwil gyfredol ac ysgolheictod uwch yn y ddisgyblaeth, ac o dechnegau a dulliau.

3.Asesu cydrannau a addysgir a/neu ymarfer proffesiynol (doethuriaethau proffesiynol)

3.1 Bydd Gwybodaeth y Rhaglen yn cynnwys manylion:

  1. natur ac amseriad asesiadau;
  2. y penderfyniadau sy'n agored i Fyrddau Arholi, gan gynnwys unrhyw ddilyniant;
  3. decisions and opportunities for the reassessment of failed assessments;
  4. the timing of reassessments.

3.2 Bydd asesu cydraddau a addysgir a gwerthuso ymarfer proffesiynol, lle bo'n berthnasol, yn cynnwys asesiadau o gymeriad uwch mewn meysydd astudio a nodwyd yn y wybodaeth am y rhaglen.

3.3 Bydd y Bwrdd Arholi sy'n gweithredu yn unol â Rheoliadau Asesu’r Senedd ar gyfer Rhaglenni a Addysgir yn asesu'r cydrannau a addysgir a/neu ymarfer proffesiynol.

3.4 Bydd ymgeisydd sy'n methu arholiad o gydran a addysgir neu ymarfer yn cael, os yw'r Bwrdd Arholi yn caniatáu, ailsefyll yr arholiad un waith eto yn unig. Bydd rhaid talu ffi ail-arholi.

4. Asesiad o’r traethawd/portffolio ymchwil

4.1 Bydd pob traethawd ymchwil (a ddyfernir fel ‘portffolio ymchwil’ o ran Doethuriaethau Proffesiynol) a gaiff eu derbyn ar gyfer arholiad yn llawn neu’n rhannol er mwyn bodloni anghenion y dyfarniad a asesir gan y Bwrdd Arholi a ymgynullir yn unol â’r Polisi a Gweithdrefn ar gyfer Penodi Byrddau Arholi Graddau Ymchwil (Viva).

4.2 Mae’r arholiad llafar (viva) yn elfen annatod a gorfodol o’r broses arholi. Caiff ei drefnu a'i gynnal yn unol â’r Polisi a Gweithdrefnau ar gyfer Cynnal arholiadau Graddau Ymchwil.

4.3 Gall yr arholwyr hepgor yr gofyniad i gynnal ail viva ar gyfer traethawd ymchwil a ailgyflwynwyd, ond rhaid iddynt fod yn unfrydol eu barn bod y traethawd ymchwil yn bodloni gofyniad y dyfarniad o dan sylw.

4.4 Rhaid i'r viva gael ei gynnal wyneb yn wyneb yn y Brifysgol gyda phawb sy'n berthnasol yn bresennol yn yr un ystafell ar yr un amser, oni bai bod cymeradwyaeth wedi'i rhoi i gynnal y viva drwy gyfryngau electronig neu y tu allan i'r Brifysgol yn unol â'r Polisi a'r Gweithdrefnau ar gyfer Trefnu a Chynnal Arholiadau Gradd Ymchwil (Viva) mewn Fformatau Amgen.

5.Argymhellion ar gyfer y dyfarniad

5.1 Wrth argymell yr ymgeisydd ar gyfer y radd, bydd y Bwrdd Arholi yn cadarnhau bod y traethawd ymchwil/portffolio ymchwil a gyflwynwyd yn bodloni’r meini prawf gofynnol. Ar ôl asesu’r gwaith, bydd yn gwneud un o’r argymhellion canlynol:

  1. Graddau doethurol ar wahân i DClinPsy, DEdPsy a PhD drwy Waith a Gyhoeddir

      1.1 Cymeradwyir yr ymgeisydd ar gyfer y dyfarniad.

      Gall yr arholwyr ofyn am ddim cywiriadau neu am fân gywiriadau sillafu i’r traethawd ymchwil. Caiff unrhyw gywiriadau eu gwneud ymhen 1 wythnos ar ôl yr arholiad ac nid ydynt fel arfer yn rhai y byddai’r arholwr yn gwirio eu bod wedi’u cwblhau’n ddigonol fel arfer.

      1.2 Caiff yr ymgeisydd ei gymeradwyo ar gyfer y dyfarniad ar ôl cwblhau cywiriadau a newidiadau.

      Mae’n ofynnol i’r ymgeisydd gwblhau cywiriadau a newidiadau a nodwyd gan yr arholwyr, ymhen 12 wythnos ar ôl yr arholiad. Gofynnir i un o’r arholwyr, neu’r ddau ohonynt, gadarnhau bod y cywiriadau wedi’i cwblhau’n foddhaol.

      1.3 Gwahoddir yr ymgeisydd i adolygu ac ailgyflwyno ei draethawd ymchwil ar gyfer y dyfarniad.

      Caniateir i’r ymgeisydd ailgyflwyno ei draethawd ymchwil unwaith yn ychwanegol yn unig. Rhaid ailgyflwyno’r traethawd ymchwil rhwng 12 wythnos a dim mwy na 1 flwyddyn ar ôl dyddiad yr arholiad. Rhaid asesu’r traethawd ymchwil o’r newydd, gan yr arholwyr gwreiddiol fel arfer. Mae’n ofynnol i’r ymgeisydd dalu ffi ailgyflwyno.

      1.4 Ni chymeradwyir yr ymgeisydd ar gyfer dyfarniad doethurol ond fe’i cymeradwyir ar gyfer MPhil neu’r is-ddyfarniad a nodwyd ar gyfer y rhaglen.

      Gall yr arholwyr ofyn am ddim cywiriadau neu am fân gywiriadau sillafu i’r traethawd ymchwil. Caiff unrhyw gywiriadau eu gwneud ymhen 1 wythnos ar ôl yr arholiad ac nid ydynt fel arfer yn rhai y byddai’r arholwr yn gwirio eu bod wedi’u cwblhau’n ddigonol fel arfer.

      1.5 Ni chymeradwyir yr ymgeisydd ar gyfer dyfarniad doethurol ond fe’i cymeradwyir ar gyfer MPhil neu’r is-ddyfarniad a nodwyd ar gyfer y rhaglen ar ôl cwblhau cywiriadau a newidiadau.

      Mae’n ofynnol i’r ymgeisydd gwblhau cywiriadau a newidiadau a nodwyd gan yr arholwyr, ymhen 12 wythnos ar ôl yr arholiad. Gofynnir i un o’r arholwyr, neu’r ddau ohonynt, gadarnhau bod y cywiriadau wedi’i cwblhau’n foddhaol.

      1.6 Ni chymeradwyir yr ymgeisydd ar gyfer dyfarniad doethurol ond fe’i gwahoddir i adolygu ac ailgyflwyno ei draethawd ymchwil ar gyfer MPhil neu’r is-ddyfarniad a nodwyd ar gyfer y rhaglen.

      Caniateir i’r ymgeisydd ailgyflwyno ei draethawd ymchwil ar gyfer is-ddyfarniad unwaith yn ychwanegol yn unig. Rhaid ailgyflwyno’r traethawd ymchwil rhwng 12 wythnos a dim mwy na 1 flwyddyn ar ôl dyddiad y broses arholi. Rhaid asesu’r traethawd ymchwil o’r newydd, gan yr arholwyr gwreiddiol fel arfer. Mae’n ofynnol i’r ymgeisydd dalu ffi ailgyflwyno.

      1.7 Ni chymeradwyir yr ymgeisydd i gael y dyfarniad ac ni chaniateir cyflwyniad arall.

  2. DClinPsy a DEdPsy: asesiad o gydran ymchwil o bwys

      2.1 Mae’r ymgeisydd wedi’i gymeradwyo i basio eu traethawd ymchwil neu eu portffolio ymchwil.

      Gall yr arholwyr ofyn am ddim cywiriadau neu am fân gywiriadau sillafu i’r traethawd ymchwil/portffolio. Caiff unrhyw gywiriadau eu gwneud ymhen 1 wythnos ar ôl yr arholiad ac nid ydynt fel arfer yn rhai y byddai’r arholwr yn gwirio eu bod wedi’u cwblhau’n ddigonol fel arfer.

      2.2 Caiff yr ymgeisydd ei gymeradwyo i basio ei draethawd ymchwil neu bortffolio ymchwil ar ôl cwblhau cywiriadau a newidiadau.

      Mae’n ofynnol i’r ymgeisydd gwblhau cywiriadau a newidiadau a nodwyd gan yr arholwyr, ymhen 12 wythnos ar ôl yr arholiad. Gofynnir i un o’r arholwyr, neu’r ddau ohonynt, gadarnhau bod y cywiriadau wedi’i cwblhau’n foddhaol.

      2.3 Gwahoddir yr ymgeisydd i adolygu ac ailgyflwyno ei draethawd ymchwil neu bortffolio ymchwil.

      Caniateir i’r ymgeisydd ailgyflwyno ei draethawd ymchwil/portffolio unwaith yn ychwanegol yn unig. Rhaid ailgyflwyno’r traethawd/portffolio ymchwil rhwng 12 wythnos a dim mwy na 1 flwyddyn ar ôl dyddiad yr arholiad. Rhaid asesu’r traethawd ymchwil/portffolio o’r newydd, gan yr arholwyr gwreiddiol fel arfer. Mae’n ofynnol i’r ymgeisydd dalu ffi ailgyflwyno.

      2.4 Ni chymeradwyir yr ymgeisydd i basio ei draethawd ymchwil neu bortffolio ymchwil ac ni chaniateir unrhyw gyflwyniad pellach.

  3. DClinPsy a DEdPsy: asesu’r rhaglen

      3.1 Bydd Bwrdd Arholi’r Rhaglen yn ystyried yr holl asesiadau terfynol o gydrannau clinigol, ymchwil ac a addysgir ar ddiwedd y rhaglen.

  4. MPhil

      4.1 Cymeradwyir yr ymgeisydd ar gyfer y dyfarniad.

      Gall yr arholwyr ofyn am ddim cywiriadau neu am fân gywiriadau sillafu i’r traethawd ymchwil. Caiff unrhyw gywiriadau eu gwneud ymhen 1 wythnos ar ôl yr arholiad ac nid ydynt fel arfer yn rhai y byddai’r arholwr yn gwirio eu bod wedi’u cwblhau’n ddigonol fel arfer.

      4.2 Caiff yr ymgeisydd ei gymeradwyo ar gyfer y dyfarniad ar ôl cwblhau cywiriadau a newidiadau.

      Mae’n ofynnol i’r ymgeisydd gwblhau cywiriadau a newidiadau a nodwyd gan yr arholwyr, ymhen 12 wythnos ar ôl yr arholiad. Gofynnir i un o’r arholwyr, neu’r ddau ohonynt, gadarnhau bod y cywiriadau wedi’i cwblhau’n foddhaol.

      4.3 Gwahoddir yr ymgeisydd i adolygu ac ailgyflwyno ei draethawd ymchwil ar gyfer y dyfarniad.

      Caniateir i’r ymgeisydd ailgyflwyno ei draethawd ymchwil unwaith yn ychwanegol yn unig. Rhaid ailgyflwyno’r traethawd ymchwil rhwng 12 wythnos a dim mwy na 1 flwyddyn ar ôl dyddiad yr arholiad. Rhaid asesu’r traethawd ymchwil o’r newydd, gan yr arholwyr gwreiddiol fel arfer. Mae’n ofynnol i’r ymgeisydd dalu ffi ailgyflwyno.

      4.4 Ni chymeradwyir yr ymgeisydd i gael y dyfarniad ac ni chaniateir cyflwyniad arall.

  5. PhD drwy Waith a Gyhoeddir

      5.1 Cymeradwyir yr ymgeisydd ar gyfer y dyfarniad.

      Gall yr arholwyr ofyn am ddim cywiriadau neu am fân gywiriadau sillafu i’r sylwadau beirniadol. Caiff unrhyw gywiriadau eu gwneud ymhen 1 wythnos ar ôl yr arholiad ac nid ydynt fel arfer yn rhai y byddai’r arholwr yn gwirio eu bod wedi’u cwblhau’n ddigonol fel arfer.

      5.2 Caiff yr ymgeisydd ei gymeradwyo ar gyfer y dyfarniad ar ôl cwblhau cywiriadau a newidiadau.

      Mae’n ofynnol i’r ymgeisydd gwblhau cywiriadau a newidiadau o’r sylwadau beirniadol, fel y nodwyd gan yr arholwyr, ymhen 12 wythnos ar ôl yr arholiad. Gofynnir i un o’r arholwyr, neu’r ddau ohonynt, gadarnhau bod y cywiriadau wedi’i cwblhau’n foddhaol.

      5.3 Ni chymeradwyir yr ymgeisydd ar gyfer y dyfarniad.

      Pan mae Bwrdd Arholi yn argymell peidio â chymeradwyo ymgeisydd PhD gan Waith Cyhoeddedig ar gyfer y dyfarniad, gall y Bwrdd benderfynu argymell y dylid caniatáu ymgeisydd i wneud cyflwyniad arall ar ôl talu ffi ailgyflwyno, er mwyn cynnwys rhagor o waith cyhoeddedig. Rhaid ailgyflwyno ymhen 5 mlynedd ar ôl dyddiad yr arholiad.

6.Dyfarniadau aegrotat : graddau ymchwil

6.1 Gellir dyfarnu gradd ymchwil os na all myfyriwr gwblhau ei raglen astudio oherwydd salwch angheuol. Lle cyflwynir dyfarniad aegrotat, bydd y Brifysgol yn cytuno y byddai'r myfyriwr, heblaw am ei salwch, wedi cwblhau'r radd ymchwil.

6.2 Gellir dyfarnu gradd ymchwil o dan yr amgylchiadau canlynol:

  1. Yn dilyn y viva lle byddai salwch y myfyriwr yn eu hatal rhag gwneud addasiadau i'r traethawd ymchwil, neu rhag ailgyflwyno'r traethawd ymchwil i'w arholi ymhellach.
  2. Ar ôl i'r traethawd ymchwil gael ei gyflwyno (neu ailgyflwyno) ond cyn yr arholiad viva (lle bo angen ailgyflwyno) ac ni all y myfyriwr fynd i'r arholiad viva.
  3. Cyn i'r traethawd ymchwil gael ei gyflwyno i'w arholi, lle bod digon o waith wedi cael ei gyflawni at safon gyfatebol i ofynion y radd o dan archwiliad.

6.3 Rhaid i'r myfyriwr roi tystiolaeth feddygol o'i gyflwr a chadarnhau'n ysgrifenedig ei fod yn fodlon derbyn dyfarniad aegrotat cyn i'r broses asesu ddechrau.

Ystyried dyfarniad aegrotat yn dilyn y viva

6.4 Os oes arholiad viva wedi’i gynnal ac mae salwch y myfyriwr yn eu hatal rhag gwneud adolygiadau i'r traethawd ymchwil sy'n ofynnol gan yr arholwyr i ddyfarniad gael ei argymell yn y ffordd arferol, gellir gofyn i arholwyr ystyried argymell dyfarniad aegrotat.

Ystyried dyfarniad aegrotat ar ôl i draethawd ymchwil gael ei gyflwyno

6.5 Ar ôl i'r traethawd ymchwil gael ei gyflwyno (neu ailgyflwyno) ond cyn yr arholiad viva (lle bo angen ailgyflwyno) ac ni all y myfyriwr fynd i'r arholiad viva, penodir arholwyr, a chaiff y traethawd hir ei asesu yn y ffordd arferol. Bydd yr arholwyr yn cael gwybod na fydd arholiad viva yn cael ei gynnal, ac ni fydd angen cywiro nac adolygu'r traethawd hir.

Ystyried dyfarniad aegrotat cyn i draethawd ymchwil gael ei gyflwyno

6.6 Os na fydd myfyriwr wedi cyflwyno ei draethawd hir eto, mae'n rhaid i ddigon o waith gael ei gyflawn, o safon sy'n gymesur â'r dyfarniad. Gall y cyflwyniad gynnwys drafft llawn y traethawd ymchwil, traethawd ymchwil rhannol, penodau drafft, ac/neu unrhyw ddeunydd cysylltiedig a fydd wedi cael eu hymgorffori i'r traethawd ymchwil.

6.7 Gall goruchwylwyr y myfyrwyr gefnogi'r myfyrwyr i lunio eu cyflwyniad ond ni allant wella gwaith y myfyriwr. Mae'n rhaid i brif oruchwyliwr y myfyriwr ddarparu datganiad ysgrifenedig o gymorth, sy'n esbonio pam y dylid argymell dyfarniad aegrotat. Gall y goruchwyliwr gynnwys adroddiadau cynnydd a thystiolaeth eraill (e.e. o gyflawniadau penodol y myfyriwr) gyda'i ddatganiad o gefnogaeth.

6.8 Bydd Pennaeth yr Ysgol yn penodi adolygydd annibynnol sy'n arbenigwr priodol yn y maes pwnc er mwyn ystyried lle bo digon o ddeunydd i gynrychioli'r traethawd ymchwil, a chynghori a ddylid derbyn y traethawd ymchwil i'w arholi.

6.9 Pan mae'r cyngor yn dweud parhau i gael ei arholi, penodir arholwyr yn y ffordd arferol. Bydd yr arholwyr yn ystyried cyflwyniadau'r myfyrwyr a datganiad o gefnogaeth y goruchwyliwr. Bydd yr arholwyr yn cael gwybod na fydd arholiad viva yn cael ei gynnal, ac ni fydd angen cywiro nac adolygu'r traethawd hir.

6.10 Gall yr arholwyr ofyn am wybodaeth ychwanegol gan y goruchwylwyr cyn gwneud eu hargymhelliad.

Argymhelliad a chynnig dyfarniad aegrotat

6.11 Gall yr arholwyr wneud un o'r argymhellion canlynol:

  • dyfarniad aegrotat ar gyfer y radd y'i bwriadwyd
  • dyfarniad ymadael aegrotat, os yw ar gael
  • dim dyfarniad

6.12 Os bydd yr arholwyr wedi argymell i ddyfarniad aegrotat gael ei wneud, bydd Pennaeth yr Ysgol yn cyflwyno'r argymhelliad hwn i'r Pwyllgor Dyfarniadau a Chynnydd, drwy'r Cofrestrydd Academaidd.

6.13 Bydd y Pwyllgor Dyfarniadau a Chynnydd yn cael cadarnhad ysgrifenedig gan y myfyriwr yn cadarnhau ei fod yn fodlon derbyn dyfarniad aegrotat, datganiad o gefnogaeth y goruchwyliwr (lle bo'n gymwys) ac adroddiadau'r arholwyr ar y traethawd hir neu'r gwaith a ystyriwyd ar gyfer y dyfarniad. Hefyd, bydd Pennaeth yr Ysgol yn argymell i'r Pwyllgor Dyfarniadau a Chynnydd a ddylai'r gwaith, os fe'i gymeradwyir ar gyfer dyfarniad, fod ar gael yn ystorfa ddigidol y Brifysgol: os yw'n berthnasol, gellir ychwanegu nodyn yn esbonio bod natur y dyfarniad yn golygu gall y traethawd hir fod yn anghyflawn neu gynnwys rhai gwallau.

6.14 Nid yw dyfarniad aegrotat o reidrwydd yn rhoi’r hawl i'r deiliad gofrestru gyda chorff proffesiynol na chael ei eithrio rhag gofynion unrhyw gymhwyster proffesiynol.

6.15 Bydd dyfarniad aegrotat yn cael ei ystyried ar ddiwedd cofrestriad myfyriwr ar y rhaglen gradd ymchwil.

7. Dyfarniadau posthumous: graddau ymchwil

7.1 Gall Bwrdd Arholi, drwy’r Cofrestrydd Academaidd, argymell y Pwyllgor Dyfarniadau a Chynnydd i gyflwyno dyfarniad ar ôl marwolaeth pan mae ymgeisydd gradd ymchwil ôl-raddedig wedi marw:

  1. ar ôl i’r traethawd ymchwil gael ei arholi, neu ei gyflwyno i’w arholi, ond cyn y gallai’r arholiad llafar (os oedd angen) gael ei gynnal.
    Mewn achos o’r fath, bydd y Bwrdd yn ystyried y gwaith a gyflwynwyd ac, os yw’n fodlon mai gwaith yr ymgeisydd sydd wedi’i gyflwyno (drwy dderbyn adroddiadau gan Bennaeth yr Ysgol a’r goruchwylydd), gall benderfynu argymell y dylid cyflwyno dyfarniad.
  2. cyn cyflwyno’r traethawd hir.
    Mewn achos o’r fath, bydd y Bwrdd yn ystyried y dystiolaeth sydd ar gael o’r gwaith ymchwil a gwblhawyd gan y myfyriwr. Fel arfer, bydd tystiolaeth o’r fath yn cael ei chyflenwi gan oruchwylydd y myfyriwr, a fydd hefyd yn cyflwyno adroddiad i’w ystyried gan yr arholwyr. Bydd Pennaeth yr Ysgol dan sylw hefyd yn cyflwyno argymhelliad a drafodwyd ynghylch dyfarnu’r radd. Rhaid bodloni’r meini prawf canlynol hefyd:
    1. rhaid bod digon o’r prosiect ymchwil wedi’i gwblhau i allu cynnal asesiad trylwyr o gwmpas y traethawd hir;
    2. rhaid i safon y gwaith ymchwil a gwblhawyd gyrraedd yr hyn sydd fel arfer yn ofynnol i allu dyfarnu’r radd o dan sylw, a rhaid iddo ddangos dealltwriaeth yr ymgeisydd o’r pwnc;
    3. rhaid i’r deunydd ysgrifenedig sydd ar gael (penodau drafft, gwaith a gyhoeddwyd, gwaith oedd wedi’i baratoi i’w gyhoeddi, cyflwyniadau ar gyfer cynadleddau/seminarau, adroddiadau cynnydd gan yr ymgeisydd ar gyfer ei ysgol/sefydliad/noddwr) ddangos gallu’r ymgeisydd i ysgrifennu traethawd ymchwil hyd at y safon ofynnol.

Rheoliadau astudio ac ymgysylltu myfyrwyr

Trosolwg sefydliadol

Mae'r Senedd wedi cymeradwyo’r Rheoliadau Astudio ac Ymgysylltu â Myfyrwyr.  Bydd y rheoliadau'n cael eu hadolygu'n rheolaidd i sicrhau eu bod yn parhau i gefnogi prosesau mewnol i weithredu'n effeithlon ac yn effeithiol, ac i fodloni gofynion Cod Ansawdd diwygiedig Addysg Uwch y DU yn llawn.  Mae'r disgwyliadau a'r arferion a nodwyd yn y cyngor a'r arweiniad ategol ynghylch Pryderon, Cwynion ac Apeliadau, Galluogi Cyflawniad Myfyrwyr, a Dysgu ac Addysgu yn arbennig o berthnasol:

Disgwyliadau o ran ansawdd
Mae cyrsiau wedi'u dylunio'n dda, ac yn rhoi profiad academaidd o safon uchel i bob myfyriwr, ac yn galluogi ffordd ddibynadwy o asesu cyrhaeddiad myfyriwr.
O gael eu derbyn hyd at gwblhau, caiff yr holl fyfyrwyr y cymorth sydd ei angen arnynt i lwyddo mewn addysg uwch, ac elwa arno
Arferion craidd o ran ansawdd
Mae gan y darparwr staff cymwysedig digonol sy'n meddu ar sgiliau i gynnig profiad academaidd o safon uchel.
Mae gan y darparwr gyfleusterau, adnoddau dysgu a gwasanaethau cynorthwyo myfyrwyr digonol a phriodol er mwyn darparu profiad academaidd o safon uchel.
Mae'r darparwr yn cefnogi pob myfyriwr i lwyddo yn academaidd ac yn broffesiynol.
Mae’r darparwr yn dylunio ac/neu’n cyflenwi cyrsiau o ansawdd uchel.
Mae'r darparwr yn ymgysylltu'n weithredol â myfyrwyr, yn unigol ac ar y cyd, o ran safon eu profiadau addysg.
Mae gan y darparwr weithdrefnau teg a thryloyw ar gyfer mynd i’r afael â chwynion ac apeliadau sydd ar gael i bob myfyriwr.
Arferion cyffredin o ran ansawdd
Mae'r darparwr yn ymgysylltu â myfyrwyr, yn unigol ac ar y cyd wrth ddatblygu, gwarantu a gwella safon eu profiadau academaidd.
Mae’r darparwr yn adolygu ei arferion craidd ar gyfer ansawdd yn rheolaidd ac yn defnyddio’r canlyniadau i achosi gwelliant

Rheoliadau astudio ac ymgysylltu myfyrwyr

1. Cyflwyniad

1.1 Mae’r rheoliadau hyn yn gymwys i bob myfyriwr sydd wedi cofrestru ar raddau neu fodiwlau a addysgir ac ymchwil a all gynnwys ymgysylltu, boed yn astudio wyneb yn wyneb, dysgu o bell neu gyfunol, neu leoliad neu gyfnod o astudio dramor.

1.2 Disgwylir i fyfyrwyr y Brifysgol ymgysylltu’n llawn â’u rhaglen astudio yn unol â rheoliadau a pholisïau’r Brifysgol ac unrhyw ofynion ychwanegol y rhaglen. Bydd presenoldeb yn yr holl sesiynau astudio a chyfranogi yng nghymuned a gwasanaethau’r Brifysgol sydd ar gael yn arwain at brofiad mwy positif a chynhyrchiol i’r myfyriwr.

1.3 Mae pob myfyriwr yn elwa drwy ymgysylltu’n llawn yn eu hastudiaethau, ac mae gan staff y Brifysgol gyfrifoldeb i ymateb i unrhyw bryder am batrwm o absenoldeb a/neu ddiffyg ymgysylltu ar ran myfyrwyr.

1.4 Gall digwyddiadau neu amgylchiadau effeithio ar allu myfyrwyr i fynychu ac i ymgysylltu’n ôl y disgwyl. Beth bynnag fo’r rheswm, dylai myfyrwyr siarad â’u tiwtor personol neu oruchwyliwr ynglŷn ag unrhyw absenoldeb neu ddiffyg ymgysylltu. Bydd eu tiwtor neu oruchwyliwr yn gallu eu helpu drwy eu cynghori neu eu helpu, neu drwy eu cyfeirio at y gwasanaeth perthnasol.

1.5 Os ydych chi’n fyfyriwr anabl a bod angen addasu’r weithdrefn hon i’ch galluogi i ymgysylltu’n llawn â’r broses, cysylltwch â Chofrestrydd Academaidd i drafod unrhyw addasiadau rhesymol y gellid eu gwneud i’ch helpu i ymgysylltu.

2. Cyfrifoldebau

Cyfrifoldebau’r Myfyrwyr

2.1.Rydym yn disgwyl i fyfyrwyr ymgysylltu â’u rhaglen ar ei hyd ac i fodloni pwyntiau ymgysylltu penodedig y Brifysgol. Disgwylir y bydd myfyrwyr hefyd yn dangos eu bod yn mynychu sesiynau astudio ac yn gwneud cynnydd academaidd boddhaol yn ogystal â chyflawni’r pwyntiau ymgysylltu penodedig a nodir isod.

2.2 Rhaid i bob myfyriwr newydd ac sy’n parhau gwblhau eu hymrestriad a dangos tystiolaeth bod ganddynt yr hawl i astudio yn y Brifysgol, yn ddim hwyrach na 14 diwrnod ar ôl dechrau unrhyw flwyddyn academaidd. Bydd myfyrwyr yn cael eu cerdyn myfyriwr ar ôl cwblhau ymrestru.

2.3 Dylai pob myfyriwr fod wedi gorffen ymrestru a gyda cherdyn myfyriwr dilys yn eu meddiant i fynychu unrhyw weithgarwch sy’n gysylltiedig ag astudio. Gallai hyn gynnwys darlithoedd, seminarau, tiwtorialau, a bod ar y campws.

2.4 Disgwylir i fyfyrwyr dysgu o bell gwblhau ymrestru ar-lein o fewn 14 diwrnod o ddyddiad dechrau eu cwrs. Gall yr Ysgol drefnu i gyhoeddi Cardiau Myfyrwyr os bydd angen.

2.5 Bydd angen i chi hysbysu eich Ysgol o bob absenoldeb o’r rhaglen am unrhyw reswm. Os byddwch yn absennol am fwy na’r cyfnod a nodwyd yn y Weithdrefn Gohirio Astudiaethau, dylech naill ai wneud cais i ohirio astudiaethau neu, yn achos myfyrwyr a addysgir, wneud cais am amgylchiadau esgusodol fel y nodir yn y Polisi Amgylchiadau Esgusodol.

2.6 Disgwylir i fyfyrwyr ymateb yn brydlon i unrhyw gais gan y Brifysgol ynglŷn â’u presenoldeb neu eu llesiant, a dylent edrych at eu cyfrif e-bost Prifysgol Caerdydd yn rheolaidd am unrhyw hysbysiadau.

Cyfrifoldebau staff

2.7 Mae’r Cofrestrydd Academaidd yn gyfrifol am sicrhau bod pob myfyriwr yn cael gwybodaeth am sut i gofrestru â’r Brifysgol bob blwyddyn, a bod pob myfyriwr (ac eithrio myfyrwyr dysgu o bell) yn cael Cerdyn Myfyrwyr.

2.8 Mae’r Prif Swyddog Cyllid yn gyfrifol am sicrhau bod myfyrwyr yn cael gwybodaeth am lefel y ffioedd sy’n daladwy a sut i dalu ffi i’r Brifysgol.

2.9 Mae Pennaeth Ysgol yn gyfrifol am:

  • sicrhau bod myfyrwyr yn cael eu hysbysu am ofynion eu rhaglen, gan gynnwys pwyntiau ymgysylltu gofynnol, unrhyw bwyntiau ymgysylltu atodol - er enghraifft, fel sy’n ofynnol gan Gyrff proffesiynol, statudol a rheoleiddio - gofynion academaidd y rhaglen, a gofynion unrhyw leoliadau dysgu perthnasol.
  • sicrhau bod pwyntiau ymgysylltu ac unrhyw absenoldeb yn cael eu cofnodi yn achos pob myfyriwr sy’n astudio yn eu Hysgol;
  • dechrau’r weithdrefn berthnasol os nad yw’r pwyntiau ymgysylltu’n cael eu cyflawni os nad yw’r rhesymau am absenoldeb myfyriwr heb eu cofnodi;
  • ymateb i bryderon lle nad yw myfyrwyr yn bodloni gofyniad academaidd eu rhaglen astudio;
  • hysbysu Pennaeth yr ysgol bartner lle mae myfyriwr ar raglen cydanrhydedd neu radd ymchwil sy’n cael ei goruchwylio ar y cyd os oes unrhyw bryderon ynglŷn â phresenoldeb neu ymgysylltiad y myfyriwr;
  • cysylltu ag unrhyw sefydliad partner os oes unrhyw bryderon ynglŷn â phresenoldeb neu ymgysylltiad y myfyriwr.

2.10 Gall swyddogion y Brifysgol enwebu dirprwyon i weithredu ar eu rhan.

3. Pwyntiau ymgysylltu

3.1 Mae presenoldeb yn cael ei fonitro drwy gysylltiad â myfyrwyr gyda phwyntiau ymgysylltu diffiniedig drwy gydol y flwyddyn academaidd. Efallai y bydd gofynion presenoldeb sy’n benodol i’r rhaglen, a fydd yn cael eu cadarnhau i’r myfyrwyr ar adeg ymrestru, a dylai myfyrwyr lynu wrth hyn. Fodd bynnag, rhaid i bob myfyriwr o fewn pythefnos gyntaf y flwyddyn academaidd:

  • cwblhau’r broses gofrestru;
  • casglu eu cerdyn myfyrwyr (ac eithrio myfyrwyr dysgu o bell);
  • talu eu ffioedd dysgu neu gadarnhau manylion eu noddwr;
  • cadarnhau eu rhaglen astudio (gan gynnwys cadarnhau eu dewis o fodiwlaulle y bo’n briodol).

3.2 Rhaglenni a addysgir

Yn ychwanegol at y gofynion ar gyfer pob myfyriwr, rhaid i fyfyrwyr a addysgir ymgysylltu â’u rhaglen a bydd absenoldeb o 5 ymgysylltiad yn olynol yn arwain at weithredu’r weithdrefn briodol. Mae’r pwyntiau ymgysylltu fel a ganlyn:

  • cadarnhau’r dewis o fodiwlau (pan yn briodol);
  • cyflwyno gwaith cwrs;
  • presenoldeb mewn arholiadau a phrofion dosbarth;
  • cyswllt â thiwtoriaid personol - o leiaf unwaith bob semester;
  • ymgysylltu â systemau TG y Brifysgol - bydd adroddiadau monitro’n dangos os nad oes defnydd am 7 diwrnod.
  • presenoldeb mewn sesiynau gorfodol gofynnol.

3.3 Myfyrwyr ymchwil

Rhaid i fyfyrwyr ymchwil gwblhau’r broses ymrestru a byddant yn cael eu monitro’n unol â’r:

  • Polisi a Gweithdrefn ynghylch Monitro Myfyrwyr Ymchwil;
  • Polisi a Gweithdrefn ynghylch Cynnydd neu Ymgysylltiad Anfoddhaol;
  • Polisi a Gweithdrefn ynghylch Gohirio Astudiaethau ac Ymestyn Terfyn Amser (Myfyrwyr Ymchwil).

4.Polisïau a gweithdrefnau

4.1 Gweithdrefn Gohirio Astudiaethau (Rhaglenni a Addysgir)

Mae’r weithdrefn yn cynnwys y gofyniad i fyfyrwyr ar raglenni a addysgir i hysbysu’r Brifysgol o unrhyw absenoldeb, boed yn dymor byr neu hir. Mae hefyd yn cynnwys y gofyniad i fyfyrwyr ar raglenni a addysgir sy’n absennol am 14 diwrnod yn olynol neu fwy i gyflwyno cais i ohirio eu hastudiaethau er mwyn i’r Brifysgol allu eu helpu yn eu habsenoldeb a chynllunio iddynt i ddychwelyd at eu hastudiaethau.

4.2 Polisi a Gweithdrefn Gohirio Astudiaethau ac Ymestyn y Terfyn Amser (Myfyrwyr Ymchwil)

Mae’r weithdrefn yn cynnwys y gofyniad i fyfyrwyr i wneud cais i’r Brifysgol am gyfnod o absenoldeb o’u hastudiaethau ymchwil os ydynt yn absennol am fwy na chyfnod byr er mwyn i’r Brifysgol allu eu helpu yn eu habsenoldeb a chynllunio iddynt i ddychwelyd at eu hastudiaethau. Mae hefyd yn nodi sut y gall myfyrwyr gyflwyno cais i ymestyn y terfyn amser sydd ganddynt i gwblhau eu hymchwil.

4.3 Gweithdrefn Diffyg Ymgysylltu ac Ymgysylltu Anfoddhaol gan Fyfyrwyr

Defnyddir y weithdrefn hon pan nad yw myfyrwyr yn ymgysylltu â'u rhaglen, gan gynnwys peidio â chwblhau ymrestru, peidio ag ymgysylltu â'u rhaglen am 5 pwynt ymgysylltu yn olynol neu lle mae ymgysylltiad anfoddhaol â'r rhaglen.

4.4 Polisi a Gweithdrefn Rheoliadau Monitro Ymchwil (Myfyrwyr Ymchwil)

Bydd cynnydd yn cael ei gefnogi a'i fonitro er mwyn ei gwneud yn fwy tebygol y bydd myfyrwyr yn cwblhau eu gradd ymchwil o fewn yr amserlen ddisgwyliedig yn unol â'r Polisi a’r Weithdrefn hon.

4.5 Polisi a Gweithdrefn ynghylch Cynnydd neu Ymgysylltiad Anfoddhaol (Myfyrwyr Ymchwil)

Os na fydd myfyrwyr yn ymgysylltu â’u hastudiaethau ymchwil nac yn cwrdd â’u goruchwylydd yn rheolaidd gall hynny arwain at gymryd camau o dan y weithdrefn hon.

4.6 Polisi a Gweithdrefn ynghylch Addasiadau Rhesymol

Mae’r hyn yn darparu fframwaith ar gyfer gweithrediad effeithiol addasiadau rhesymol ar gyfer pob disgybl anabl ym Mhrifysgol Caerdydd.

Rheoliadau ymddygiad myfyrwyr

Trosolwg sefydliadol

Mae'r Senedd wedi cymeradwyo’r Rheoliadau Ymddygiad Myfyrwyr.  Bydd y rheoliadau'n cael eu hadolygu'n rheolaidd i sicrhau eu bod yn parhau i gefnogi prosesau mewnol i weithredu'n effeithlon ac yn effeithiol, ac i fodloni gofynion Fframwaith Arferion Da OIA ar gyfer delio â chwynion ac apeliadau academaidd, yn ogystal â Chôd Ansawdd diwygiedig Addysg Uwch y DU yn llawn.  Mae'r disgwyliadau a'r arferion a nodwyd yn y cyngor a'r arweiniad ategol ynghylch Pryderon, Cwynion ac Apeliadau a Galluogi Cyflawniad Myfyrwyr, yn arbennig o berthnasol:

Disgwyliadau o ran ansawdd
Mae cyrsiau wedi'u dylunio'n dda, ac yn rhoi profiad academaidd o safon uchel i bob myfyriwr, ac yn galluogi ffordd ddibynadwy o asesu cyrhaeddiad myfyriwr.
O gael eu derbyn hyd at gwblhau, caiff yr holl fyfyrwyr y cymorth sydd ei angen arnynt i lwyddo mewn addysg uwch, ac elwa arno
Arferion craidd o ran ansawdd
Mae gan y darparwr staff cymwysedig digonol sy'n meddu ar sgiliau i gynnig profiad academaidd o safon uchel.
Mae gan y darparwr gyfleusterau, adnoddau dysgu a gwasanaethau cynorthwyo myfyrwyr digonol a phriodol er mwyn darparu profiad academaidd o safon uchel.
Mae'r darparwr yn cefnogi pob myfyriwr i lwyddo yn academaidd ac yn broffesiynol.
Mae’r darparwr yn dylunio ac/neu’n cyflenwi cyrsiau o ansawdd uchel.
Mae'r darparwr yn ymgysylltu'n weithredol â myfyrwyr, yn unigol ac ar y cyd, o ran safon eu profiadau addysg.
Mae gan y darparwr weithdrefnau teg a thryloyw ar gyfer mynd i’r afael â chwynion ac apeliadau sydd ar gael i bob myfyriwr.
Arferion cyffredin o ran ansawdd
Mae’r darparwr yn adolygu ei arferion craidd ar gyfer ansawdd yn rheolaidd ac yn defnyddio’r canlyniadau i achosi gwelliant

Rheoliadau ymddygiad myfyrwyr

1. Cyflwyniad

1.1 Mae disgwyl i fyfyrwyr y Brifysgol ymddwyn mewn ffordd sy'n parchu cymuned y Brifysgol a’r holl staff a myfyrwyr eraill sy'n gweithio ac yn byw ynddi, yn ogystal â'r cyhoedd ac ymwelwyr. Mae disgwyl i fyfyrwyr hefyd ymddwyn gyda hygrededd personol a gonestrwydd.

1.2 Mae'r Brifysgol ac Undeb y Myfyrwyr yn gwneud ymrwymiad i'r bartneriaeth a wnaed rhwng staff a myfyrwyr yn Siarter y Myfyrwyr.

1.3 Gall fod adegau, fodd bynnag, pan nad yw myfyrwyr yn siŵr beth sydd i'w ddisgwyl ganddynt a sut y gallent gymryd rhan yng nghymuned y Brifysgol.  Nod y rheoliadau hyn a'r polisïau a'r gweithdrefnau cysylltiedig yw rhoi arweiniad i fyfyrwyr ar yr ymddygiad a ddisgwylir ganddynt nhw, myfyrwyr eraill a’r staff.

1.4 Gellir ymchwilio i bryderon ynghylch camymddygiad academaidd ar ôl i gofrestriad y myfyrwyr gyda'r Brifysgol ddod i ben.

1.5 Mae Adran 4 yn rhestru'r gweithdrefnau ffurfiol y gellir eu dilyn os oes pryderon nad yw disgwyliadau ymddygiad yn cael eu bodloni a/neu fod risg o niwed neu dramgwydd i chi neu aelodau eraill o'r gymuned neu eu heiddo.  Bydd y weithdrefn benodol a ddilynir yn dibynnu ar amgylchiadau'r achos o bryder, y rhaglen, ac unrhyw ffactorau perthnasol eraill.

1.6 Gall swyddogion y Brifysgol enwebu dirprwyon i weithredu ar eu rhan.

2. Disgwyliadau

2.1 Disgwylir i bob aelod o gymuned myfyrwyr y Brifysgol:

  • Gynrychioli'r Brifysgol ac ymddwyn yn briodol;
  • Gweithredu'n unol â rheoliadau a pholisïau'r Brifysgol;
  • Trin pobl eraill ag urddas a pharch;
  • Cynnal y safonau a ddisgwylir o ran ymarfer academaidd, gonestrwydd ac ymgysylltiad.

Cewch ragor o fanylion am ddisgwyliadau o ran ymddygiad myfyrwyr yng Ngweithdrefn Ymddygiad y Myfyrwyr.

3. Pryderon ynghylch Ymddygiad Myfyrwyr

3.1 Os oes gan fyfyriwr bryderon ynghylch ymddygiad myfyriwr arall, dylid rhoi gwybod i'r Brifysgol drwy Weithdrefn Gwyno’r Myfyrwyr ac mae'n bosibl y caiff ei gyfeirio ar gyfer ymchwiliad annibynnol.

3.2 Os oes gan aelod o staff bryderon ynghylch ymddygiad myfyriwr, dylai gael ei godi gyda Phennaeth Ysgol neu Adran y myfyriwr, fel sy'n briodol, a all gyfeirio'r achos ar gyfer ymchwiliad annibynnol.

3.3 Mae'n bosibl y bydd pryderon gan y cyhoedd ynghylch ymddygiad myfyriwr a gellir codi pryderon o'r fath drwy ysgrifennu at y Cofrestrydd Academaidd, yn amlinellu eu pryderon, ac yn cynnig unrhyw dystiolaeth.  Gallai'r Cofrestrydd Academaidd gyfeirio'r achos at ymchwiliad annibynnol.

4. Gweithdrefnau sydd wedi'u cynnwys yn y Rheoliadau hyn

  • Gweithdrefn Ymddygiad Myfyrwyr - ymchwilio i bryderon nad yw ymddygiad myfyrwyr yn bodloni disgwyliadau'r Brifysgol.
  • Polisi Ymyriad i Gefnogi Myfyrwyr - os ceir pryderon ynghylch afiechyd sy'n effeithio ar ymddygiad neu les myfyriwr, mae'n bosibl y bydd y Brifysgol yn dewis defnyddio'r polisi hwn i ymchwilio ac amlygu cymorth a allai fod ei angen fel bod modd i'r myfyriwr ymgysylltu'n effeithiol â’u hastudiaethau.  Efallai y bydd y Brifysgol hefyd yn gofyn i'r myfyriwr ohirio'u hastudiaethau nes bydd eu hiechyd neu eu hamgylchiadau’n gwella.
  • Gweithdrefn Addasrwydd i Ymarfer - dyma sy’n rheoli ymddygiad a lles myfyrwyr ar raglenni sy'n arwain at gymhwyster proffesiynol.
  • Polisi Gonestrwydd Academaidd - dyma sy’n pennu disgwyliadau ymarfer academaidd cywir a’r goblygiadau posibl o beidio â chyrraedd y safon briodol o onestrwydd academaidd.

Rheoliadau cwynion, apeliadau ac adolygu myfyrwyr

Trosolwg sefydliadol

Mae'r Senedd wedi cymeradwyo’r Rheoliadau Cwynion, Apeliadau ac Adolygu Myfyrwyr.  Bydd y rheoliadau'n cael eu hadolygu'n rheolaidd i sicrhau eu bod yn parhau i gefnogi prosesau mewnol i weithredu'n effeithlon ac yn effeithiol, ac i fodloni gofynion Fframwaith Arferion Da OIA ar gyfer delio â chwynion ac apeliadau academaidd, yn ogystal â Chôd Ansawdd diwygiedig Addysg Uwch y DU yn llawn.  Mae'r disgwyliadau a'r arferion a nodwyd yn y cyngor a'r arweiniad ategol ynghylch Pryderon, Cwynion ac Apeliadau, yn arbennig o berthnasol:

Disgwyliadau o ran ansawdd
Mae cyrsiau wedi'u dylunio'n dda, ac yn rhoi profiad academaidd o safon uchel i bob myfyriwr, ac yn galluogi ffordd ddibynadwy o asesu cyrhaeddiad myfyriwr.
O gael eu derbyn hyd at gwblhau, caiff yr holl fyfyrwyr y cymorth sydd ei angen arnynt i lwyddo mewn addysg uwch, ac elwa arno
Arferion craidd o ran ansawdd
Mae gan y darparwr weithdrefnau teg a thryloyw ar gyfer mynd i’r afael â chwynion ac apeliadau sydd ar gael i bob myfyriwr.
Arferion cyffredin o ran ansawdd
Mae’r darparwr yn adolygu ei arferion craidd ar gyfer ansawdd yn rheolaidd ac yn defnyddio’r canlyniadau i achosi gwelliant

Rheoliadau cwynion, apeliadau ac adolygu myfyrwyr

1. Cyflwyniad

1.1 Mae’r Brifysgol yn ymdrechu i roi ddarparu cyfleodd o ansawdd i’ch helpu i ddilyn eich rhaglen ac i astudio tuag at eich gradd.

1.2 Efallai y bydd adegau, fodd bynnag, pan fyddwch yn anfodlon â’ch cyfleoedd astudio, penderfyniad Bwrdd Arholi, neu ganlyniad gweithdrefn Prifysgol.  Nod y rheoliadau hyn, a’r polisïau a’r gweithdrefnau cysylltiedig yw rhoi arweiniad i chi ar sut y gallwch wneud iawn am hynny os ydych yn anfodlon.

1.3 Fel arfer bydd yn ofyniad gan Swyddfa'r Dyfarnwr Annibynnol (OIA) eich bod yn dilyn gweithdrefnau’r Brifysgol ac yn gofyn am adolygiad, o dan Weithdrefn Adolygu’r Brifysgol, cyn i chi gyflwyno cwyn i’r OIA.

1.4 Mae’r rheoliadau hyn a’r polisïau a’r gweithdrefnau cysylltiedig yn gymwys i bob myfyriwr sydd wedi cofrestru ar raddau israddedig, ôl-raddedig a addysgir neu ymchwil, neu fodiwlau â statws amser llawn neu ran-amser, sy’n cymryd rhan mewn astudiaethau wyneb yn wyneb neu o bell neu gyfun, ar leoliad neu ar gyfnod o astudio tramor.

1.5 Gall swyddogion y Brifysgol enwebu dirprwyon i weithredu ar eu rhan.

1.6 Os oes gennych chi anabledd ac angen addasiadau i’r Rheoliad hwn a gweithdrefnau cysylltiedig er mwyn gallu ymgysylltu’n llawn yn y broses, cysylltwch â Chofrestrydd Academaidd i drafod unrhyw addasiadau rhesymol y gellid eu gwneud i’ch helpu i ymgysylltu.

2. Gweithdrefnau sydd wedi’u cynnwys o fewn y rheoliadau hyn