Ewch i’r prif gynnwys

Cwynion ac apeliadau am eich cais

Rydym wedi ymrwymo i roi cyfle i ymgeiswyr aflwyddiannus dderbyn adborth priodol ynghylch eu ceisiadau.

Dim ond adborth ynghylch y penderfyniad cyntaf a anfonwyd atynt gan y Brifysgol sydd ar gael i ymgeiswyr.

Man rhaid i geisiadau am adborth:

  • gael eu cyflwyno gan yr ymgeisydd i'r Tîm Derbyniadau gan fod deddfwriaeth diogelu data yn golygu na all y Brifysgol ymateb i geisiadau am adborth a gyflwynir gan drydydd partïon
  • darparu cyfeirnod eu cais, eu henw llawn a'r rhaglen astudio y gwnaed cais amdanynt yn eu cais ysgrifenedig.

Byddwn yn darparu adborth am y cais mewn un ymateb ysgrifenedig. Mae'n ddrwg gennym na allwn gynnal deialog gydag ymgeiswyr i ddarparu adborth, o ystyried y nifer fawr o geisiadau a dderbynnir bob blwyddyn.

I ofyn am adborth dylech gysylltu â'n Tîm Derbyniadau:

Tîm derbyn

Os ydych chi'n anfodlon â'r adborth anffurfiol rydych chi wedi'i dderbyn neu'n teimlo bod y Brifysgol wedi gwyro oddi wrth bolisi cyhoeddedig yna gellir cyflwyno cwyn neu apêl ffurfiol.

Complaints and Appeals Procedure (Applications) (Welsh version)

Gweithdrefn cwynion ac apelio i fyfyrwyr (ceisiadau)