Y Cyngor
Y Cyngor yw corff llywodraethu'r Brifysgol. Y corff hwn sydd â'r gair olaf ynglŷn â phob mater sy'n effeithio ar y Brifysgol.
Y Cyngor yw prif awdurdod y Brifysgol. Mae'n gyfrifol am reoli a chynnal busnes y Brifysgol yn effeithlon, gan gynnwys ei chyllid a'i heiddo. Mae manylion llawn cylch gorchwyl y Cyngor i’w gweld yn Statud VII.
Mae'r Cyngor yn adolygu ei effeithiolrwydd yn rheolaidd ac mae cynllun datblygu'n cael ei baratoi ar sail yr adolygiad. Comisiynwyd Dr Jonathan Nicholls gan y Cyngor i gynnal yr adolygiad allanol yn 2021. Lawrlwythwch yr adroddiad [920KB, PDF].
Elusen gofrestredig yw’r Brifysgol a'r Cyngor yw Bwrdd Ymddiriedolwyr yr elusen.
Fel arfer bydd y coleg yn cyfarfod bedair gwaith y flwyddyn a cheir cyfres o weithgareddau drwy gydol y flwyddyn, gan gynnwys gweithgarwch datblygu.
Yr Aelodau Presennol
Unigolion lleyg/annibynnol yw'r rhan fwyaf o aelodau'r Cyngor. Mae hefyd yn cynnwys aelodau o’r staff a myfyrwyr. Dewch i wybod rhagor am aelodau presennol y Cyngor.
Cadeirydd y Cyngor

Ac yntau wedi creu gyrfa ryngwladol ym myd teledu a’r cyfryngau, Patrick Younge (BSc 1987) yw un o brif ffigyrau’r DU ym maes y cyfryngau.
Penodwyd Patrick yn Gadeirydd y Cyngor ym mis Ionawr 2022. Mae hefyd yn aelod o'r Pwyllgor Cyllid ac Adnoddau, y Pwyllgor Llywodraethu a'r Pwyllgor Taliadau.
Cofrestr Buddiannau
Yn unol ag Ordinhadau’r Brifysgol, ac er mwyn cyd-fynd ag arferion da, mae’r Brifysgol yn cyhoeddi Cofrestr Buddiannau pob aelod o’r Cyngor a’r Pwyllgor Archwilio a Risg.
Lawrlwythwch gofrestr buddiannau ddiweddaraf y Cyngor (PDF).
Lawrlwythwch gofrestr buddiannau ddiweddaraf y Pwyllgor Archwilio a Risg (PDF).
Datganiad ynghylch Annibyniaeth
Mae Cyngor y Brifysgol yn penodi Aelodau Lleyg i fod yn llywodraethwyr annibynnol. Mae'r Brifysgol wedi mabwysiadu dull cadarn o sicrhau annibyniaeth Aelodau Lleyg. Gallwch ddod o hyd i'r dull hwn, ynghyd â Diffiniad ac Egwyddorion Annibyniaeth, yn y Datganiad ynghylch Annibyniaeth
Polisi buddion
Mae gan y Brifysgol Bolisi Buddion ar gyfer pob aelod lleyg o’r Cyngor, gan gynnwys talu treuliau, buddion a lletygarwch.
Lawrlwythwch y Polisi Buddion ar gyfer Ymddiriedolwyr (PDF).
Rhagor o wybodaeth
Os oes gennych gwestiynau am rôl aelodau'r cyngor, neu'r broses enwebu, cysylltwch â’r Tîm Llywodraethu: