Adolygu a gwella blynyddol
Rydym yn rhoi’r flaenoriaeth uchaf i wella’n barhaus ansawdd ein rhaglenni a’r profiad addysgol a gynigir i bob un o’n myfyrwyr.
Mae Adolygu a Gwella Blynyddol yn llywio prosesau cynllunio ar lefel yr Ysgol ac yn rhoi gwybodaeth briodol i’r Coleg a’r Brifysgol ar gyfer goruchwylio sicrhau ansawdd a gwelliant y rhaglenni sy’n cael eu haddysgu a’r rhai ymchwil.
Mae’r Ysgol wrth wraidd y broses, fodd bynnag mae blaenoriaethau strategol Coleg a Phrifysgol a fydd hefyd yn cael eu hystyried yn rhan o’r broses adolygu a gwella flynyddol. Ar bob lefel, mae disgwyl i fyfyrwyr gyfrannu at bob agwedd ar y broses i werthuso darpariaeth a phrofiad addysgol Ysgol.
Egwyddorion
I wneud yn siŵr bod y broses adolygu a gwella flynyddol yn gweithredu’n effeithiol, mae hi wedi’i datblygu ar sail portffolio o dystiolaeth ynghylch gofynion rheoleiddiol a gweithgareddau gwella sylfaenol. Gofynnir i ysgolion fyfyrio ar brif feysydd ffocws a ystyrir gan Bwyllgor Adolygu a Gwella Blynyddol y Coleg yn rheolaidd. Mae’r broses wedi’i diwygio er mwyn canolbwyntio ar yr egwyddorion canlynol.
Ar sail tystiolaeth
Dyluniwyd y broses i ddefnyddio ystod fawr o ddata sy’n sail i’r drafodaeth ynghylch pob maes ffocws, gan hwyluso dull strategol o adolygu a datblygu.
Cyfraneddol
Dyluniwyd y broses i gyfrif am faint a siâp pob Ysgol - nid dull ‘un maint i bawb’ yw hwn. Gofynnir i Ysgolion fyfyrio ar yr holl ddata, ond mae angen iddynt lunio cynlluniau gweithredu lle mae’r data’n nodi eu bod yn ffiniol neu’n is na’r meincnod yn unig.
Amserol
Dyluniwyd y broses i hwyluso trafodaethau ar yr adeg briodol yn y cylch academaidd, yn hytrach na chynhyrchu un cyflwyniad y flwyddyn. Mae hyn yn gwneud yn siŵr y gellir gweithredu’n syth ar yr adeg pan gaiff yr effaith fwyaf.
Cysylltiedig
Dyluniwyd y broses i gysylltu â chylchoedd adolygu Colegau ac Ysgolion, gan osgoi gorlenwi a hwyluso canolbwyntio strategol fel bo angen.
Monitro a gwerthuso
Dyluniwyd Cynllun Gwella Profiad y Myfyrwyr (SEEP) i fod yn ddogfen fyw, weithredol gyda'r pwyslais ar ddatblygu nifer cyfyngedig o gamau gweithredu SMART y gall yr ysgol eu cymryd yn hyderus ar ôl myfyrio arnynt a’u trafod yn fewnol ym Mhwyllgor Adolygu a Gwella Blynyddol y Coleg.
Meysydd i ganolbwyntio arnynt
Y themâu allweddol i’w hystyried o fewn adolygu a gwella blynyddol yw:
- Boddhad Myfyrwyr
- Canlyniadau Rhaglenni (cynnydd, dyfarnu a diffyg parhad)
- Gwerthuso modiwlau a chanlyniadau
- Cynllunio a chyflwyno cwricwlwm