Ewch i'r prif gynnwys
Polisi

Polisi Gwirio Ceisiadau

1. Cyflwyniad

1.1. Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i sicrhau bod ymgeiswyr yn cael eu derbyn ar sail arferion derbyn teg ac ni chânt eu derbyn i’r Brifysgol ar sail gwybodaeth anwir, anghywir neu gamarweiniol. Mewn amgylchiadau o’r fath, mae Rheoliadau’r Senedd yn datgan y gall yr Is-Ganghellor (neu ddirprwy enwebedig) ddiddymu cynigion mynediad a wneir ar sail ceisiadau sy’n cynnwys gwybodaeth anwir neu gamarweiniol.

1.2. Os oes gan staff y Brifysgol sy’n ymwneud â derbyn myfyrwyr achos i gredu bod y wybodaeth a roddir mewn cais yn anwir, yn anghywir neu’n gamarweiniol, bydd y Brifysgol yn ceisio dilysu’r wybodaeth a roddwyd, naill ai gyda’r ymgeisydd neu unrhyw unigolyn neu sefydliad arall sy’n gallu tystio i gywirdeb a/neu ddilysrwydd y wybodaeth a roddwyd.

1.3. Os bydd y Brifysgol yn fodlon – yn dilyn ymchwiliad i’r cais – bod y wybodaeth a roddwyd gan ymgeisydd yn anwir, yn gamarweiniol neu’n anghywir, bydd yn cymryd y camau canlynol:

i) gwrthod y cais, pan fydd y penderfyniad ynghylch derbyn heb ei wneud;

ii) gwrthod pob cais, lle mae'r penderfyniad dethol heb ei benderfynu;

iii. hysbysu'r tîm Achosion Myfyrwyr lle mae'r ymgeisydd hefyd yn fyfyriwr cyfredol, i'w ymchwilio ymhellach dan Weithdrefnau Ymddygiad Myfyrwyr;

iv. mae'r Brifysgol hefyd yn cadw'r hawl i wrthod mynediad mewn cylchoedd derbyn yn y dyfodol.

1.4. Os oes gan y Brifysgol reswm dros gredu bod myfyriwr cofrestredig wedi cael ei le ar sail gwybodaeth anwir, anghywir neu gamarweiniol, caiff achos y myfyriwr ei ymchwilio a’i glywed drwy gyfrwng y Weithdrefn Disgyblu Myfyrwyr, gan gynnwys Addasrwydd i Ymarfer lle bo'n berthnasol.

1.5. Dylid darllen y polisi hwn ar y cyd â:

2. Rôl a Chyfrifoldebau’r Ymgeisydd

2.1. Caiff rôl a chyfrifoldebau’r ymgeisydd eu diffinio fel a ganlyn:

2.1.1. darparu gwybodaeth gywir ar bob cam o’r broses dderbyn er mwyn helpu’r Brifysgol i ddod i benderfyniad;

2.1.2. ymateb yn brydlon i unrhyw geisiadau am wybodaeth sydd ei hangen i helpu’r Brifysgol wrth ddod i benderfyniad; a

2.1.3. sicrhau bod y Brifysgol yn cael gwybod am unrhyw newidiadau i’w amgylchiadau personol sy'n berthnasol i gais y myfyriwr.

3. Diogelu Data

3.1. Un o amodau derbyn lle ym Mhrifysgol Caerdydd yw bod yr ymgeisydd yn cydsynio i wybodaeth bersonol – wedi’i chaffael gan y Brifysgol mewn cysylltiad â’r broses dderbyn – gael ei chadw am gyfnod penodol. Wrth wneud hynny, mae’r ymgeisydd yn derbyn y gall gwybodaeth o’r fath gael ei defnyddio a’i rhannu gydag UCAS neu gyrff perthnasol eraill at ddibenion gwireddu hunaniaeth, cymwysterau neu eirda’r ymgeisydd.

3.2. Lle bo’n ddilys ac yn angenrheidiol, gallai’r Brifysgol brosesu data personol ymgeisydd heb ei gydsyniad, er enghraifft drwy rannu gwybodaeth ag asiantaethau eraill yn y Deyrnas Unedig sydd â dyletswyddau sy’n ymwneud ag atal a chanfod troseddau, dal ac erlyn troseddwyr, casglu trethi neu dollau, neu warchod diogelwch cenedlaethol. Gallai hynny gynnwys Arolygwyr Budd-daliadau neu Arolygwyr Trethi, yr Heddlu, Cyfarwyddiaeth Mewnfudo a Chenedligrwydd y Swyddfa Gartref, a’r Swyddfa Dramor a’r Gymanwlad.

4. Hawl i Apelio

4.1. Nid oes hawl i apelio, ond os bydd cais wedi’i wrthod neu gynnig o le wedi’i ddiddymu o fewn cwmpas y polisi hwn, a bod yr ymgeisydd yn gallu cyflwyno gwybodaeth ychwanegol neu ddogfennaeth wreiddiol sy’n dilysu’r rhan o’i gais y mae cwestiynau yn ei gylch, bydd y Brifysgol yn adfer y cais yn amodol ar gymeradwyaeth yr Is-ganghellor neu’r enwebai, wrth ymgynghori â Phennaeth yr Ysgol berthnasol, ac yn amodol ar leoedd ar y cwrs fod ar gael (.lle mae cwrs yn llawn, bydd y Brifysgol yn gwneud cynnig ar gyfer mynediad gohiriedig).

5. Manylion cyswllt

5.1. Mae rhagor o wybodaeth am y weithdrefn gefnogi ar gyfer y polisi hwn ar gael gan y:

Tîm Cefnogi Derbyniadau
Prifysgol Caerdydd
Tŷ McKenzie
30-36 Heol Casnewydd
Caerdydd
CF24 0DE
Admissions-Advice@caerdydd.ac.uk
+44 (0)29 20879999