Ewch i’r prif gynnwys

Ailddilysu

Mae ailddilysu’n gyfle i’r holl Ysgolion adolygu eu portffolio o raglenni er mwyn sicrhau eu bod yn parhau i fod yn addas i’r diben yn strategol ac yn academaidd.

Mae ailddilysu, sy’n disodli’r Adolygiad Cyfnodol, yn seiliedig ar set o egwyddorion sy’n sicrhau bod portffolios yr Ysgolion yn parhau i gyd-fynd â strategaeth yr Ysgol, y Coleg a’r Brifysgol. Rhennir y broses yn ddwy ran a bydd yn digwydd dros gyfnod o amser y cytunir arno, sef rhwng blwyddyn a 3 blynedd

Yn ystod Cam un bydd yr Ysgol a’r Coleg yn adolygu portffolio rhaglenni’r Ysgol ochr yn ochr â’r wybodaeth allweddol yn yr Ysgol a’r Brifysgol ehangach, a bydd hyn yn eu caniatáu i greu cynllun i gyflwyno newidiadau yn eu rhaglenni neu eu grwpiau o raglenni at y dyfodol. Mae’r cam hwn yn canolbwyntio ar adolygu’r penderfyniadau strategol y bydd yr Ysgol yn eu cymryd a’r ffordd y bydd yn cyd-fynd â chyfeiriad strategol y Brifysgol.

Yn ystod Cam dau bydd yr Ysgol yn ogystal â thimau Addysg ac Ansawdd Academaidd y Coleg yn adolygu strwythur, cynnwys a dull cyflwyno’r rhaglenni. Mae’r cam hwn yn sicrhau bod unrhyw ailaddasiadau arfaethedig yn rhaglenni neu grwpiau o raglenni’r Ysgol yn cyd-fynd ag egwyddorion academaidd y Brifysgol.

Bydd un neu ragor o Baneli Ailddilysu yn ystyried yr holl raglenni neu grwpiau o raglenni sy’n destun adolygiad fel rhan o gam dau yn y broses Ailddilysu.  Erbyn diwedd y broses, bydd y Panel(i) Ailddilysu yn cyflwyno adroddiad i’r Pwyllgor Safonau ac Ansawdd Academaidd (ASQC) sy’n cadarnhau bod y rhaglenni yn cydymffurfio â phob un o’r egwyddorion allweddol, a bydd yn argymell i Cadeirydd ASQC y gall y Brifysgol fod â hyder yng ngwerth a dilysrwydd parhaus ei dyfarniadau.

Egwyddorion allweddol

Mae canlyniad y broses Ailddilysu yn golygu y gallwn ni gadarnhau bod:

  • Pwrpas ac amcanion y rhaglenni’n parhau’n berthnasol.
  • Deilliannau dysgu lefelau’r rhaglenni’n parhau i fod yn briodol a’u bod yn diogelu’r Dyfarniad arfaethedig.
  • Strategaeth asesu gynhwysfawr, dryloyw a hygyrch ar gyfer yr holl raglenni sy’n destun adolygiad ac y bwriedir iddi fod mor gynhwysol â phosibl er mwyn adlewyrchu anghenion cymuned o fyfyrwyr sy’n amrywiol.
  • Cynnwys ac asesiadau modiwlau yn cael eu pennu yn unol â lefel briodol y Fframwaith ar gyfer Cymwysterau Addysg Uwch (FHEQ) a’u bod yn ystyried y datganiadau meincnod priodol ar gyfer y pwnc.
  • Rheolau’r rhaglen (gan gynnwys y rheolau ynghylch dyfarniadau, ailsefyll ac ailadrodd) yn cael eu cadarnhau a’u bod yn parhau i gyd-fynd â rheoliadau’r Brifysgol.
  • Pan fo'n berthnasol, mae’r rhaglenni'n bodloni gofynion Cyrff Proffesiynol, Statudol a Rheoleiddiol (PSRB) ac yn barod i'w hachredu.
  • Y wybodaeth am y rhaglen a gyhoeddir yn parhau i fod yn gyfredol ac yn gywir, yn unol â'n cyfrifoldebau o dan y Gyfraith o ran Diogelu Defnyddwyr.