Ewch i’r prif gynnwys

Sefydliadau addysg yn Ne Cymru’n dod ynghyd i fod o fudd gwell i’r cymunedau sy’n cael eu gwasanaethu ganddyn nhw

8 Tachwedd 2023

grŵp o bobl yn sefyll ac yn edrych ar y camera
Partners of the South Wales Civic Engagement Partnership with Jeremy Miles, Minister for Education and Welsh Language

Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymuno â phrifysgolion a cholegau ledled De Cymru i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau.

Mae Partneriaeth Ymgysylltu Dinesig De Cymru’n gytundeb rhwng pum prifysgol a phum coleg addysg bellach ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd. Ymhlith y sefydliadau mae Prifysgol De Cymru, Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, y Brifysgol Agored, Coleg Caerdydd a’r Fro, Y Coleg Merthyr Tudful, Coleg Penybont, Coleg Gwent a Choleg y Cymoedd.

Mae’r bartneriaeth strategol yn sefydlu fframwaith cydweithredol ffurfiol ar gyfer agenda a rennir yn y rhanbarth ym maes y genhadaeth ddinesig a fydd yn ymateb i anghenion lleol a rhanbarthol.

Yn gynharach y mis hwn, daeth unigolion o bob un o’r deg sefydliad ynghyd i lofnodi Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth mewn digwyddiad a gynhaliwyd gan Brifysgol De Cymru ar ei champws yn Nhrefforest.

Wrth siarad yn y digwyddiad, dywedodd Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg: “Mae gan ein colegau a’n prifysgolion rôl hollbwysig i’w chwarae yn y broses o gefnogi llwybrau allan o dlodi, gweithio mewn partneriaeth â phobl a chymunedau a rhoi cyfle i unigolion o wahanol gefndiroedd ddod ynghyd. Ardderchog yw gweld ymrwymiad y sector i hyn.

“Bydd y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil yn gyrru ymagwedd fwy strategol at ymgysylltu dinesig ym maes addysg a hyfforddiant ôl-16, gan annog y sefydliadau i gyrraedd pobl y tu hwnt i’r campws a helpu i hybu lles economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol y cymunedau sy’n cael eu gwasanaethu ganddyn nhw. Mae'r cytundeb hwn rhwng y sefydliadau’n rhoi cyfle gwirioneddol i symud y gwaith hwn yn ei flaen mewn ffordd gadarnhaol iawn.”

Dywedodd Claire Sanders, Prif Swyddog Gweithredu Prifysgol Caerdydd: “Gyda’i gilydd, gall y sefydliadau gyflawni mwy drwy gydweithio ar ein huchelgeisiau ym maes y genhadaeth ddinesig. Mae Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth sydd wedi’i lofnodi gan bob un o’r sefydliadau’n ddatganiad cyhoeddus o fwriad i ddefnyddio ein harbenigedd a’n hadnoddau amrywiol er budd dinasyddion – nad yw rhai ohonyn nhw, efallai, erioed wedi ymweld â’n campysau ond sy’n haeddu elwa o’r sefydliadau sydd yn eu cymuned ac sy’n rhan ohoni.”

Mae gwaith cychwynnol y sefydliadau wedi canolbwyntio ar fapio eu priod weithgareddau presennol ym maes y genhadaeth ddinesig er mwyn nodi meysydd o gryfder, gan gynnwys gwrando ar amrywiaeth o leisiau yn y gymuned ac mewn cyrff dinesig. Bydd yr ymarferion gwrando pwysig hyn yn helpu i lywio sut orau y gall y sefydliadau a chyrff dinesig gydweithio i ymateb i heriau lleol a rhanbarthol.

Dywedodd Cadeirydd y Bartneriaeth, Dr Louise Bright, a Rhag Is-Ganghellor Menter, Ymgysylltiad a Phartneriaethau Prifysgol De Cymru: “Drwy wrando ar yr hyn sydd gan gyrff cymunedol i’w ddweud, gall y colegau a’r prifysgolion ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd gydweithio â nhw i’w helpu i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau yn yr ardal.

“Mae’r colegau a’r prifysgolion wedi dangos eu hymrwymiad i weithio mewn partneriaeth er mwyn gwella lles economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol y wlad, fel y nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, ac mae’r bartneriaeth hon yn atgyfnerthu’r addewid honno.”

Dywedodd Jacob Ellis o Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru: “Mae creu Partneriaeth Ymgysylltu Dinesig De Cymru’n cydnabod pa mor bwysig yw cydweithio rhwng y sector addysg uwch a’r sector addysg bellach er mwyn mynd i’r afael â’r heriau yn y rhanbarth.

“Yng nghyd-destun nodau’r Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, byddai cydweithio rhwng y sefydliadau’n eu rhoi mewn sefyllfa hollbwysig a strategol i wrando ar gymunedau er mwyn helpu i fynd i’r afael â’r heriau hyn.”

Rhannu’r stori hon

Ein nod yw rhoi cyfle i’n myfyrwyr astudio a byw eu bywyd drwy gyfrwng y Gymraeg.