Llysgenhadon Iaith Colegau
Ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf i ddysgu iaith
Mae’r niferoedd sy’n dysgu iaith yng Nghymru wedi dirywio ers blynyddoedd. Yn 2024, dim ond 10.34% o ddysgwyr a safodd eu harholiadau TGAU a safodd arholiad TGAU mewn Ffrangeg, Almaeneg neu Sbaeneg (StatsCymru). Mae’r diffyg ymgysylltu hwn â dysgu iaith nid yn unig yn bygwth cyfleoedd unigol ond hefyd datblygiad cymunedau cydlynol, a gallu Cymru i fynd i’r afael â heriau byd-eang.
Creu llif o ddysgwyr iaith y dyfodol
Mae Llwybrau at Ieithoedd - prosiect allgymorth ar y cyd ledled Cymru gyfan a gydlynir yn genedlaethol gan Brifysgol Caerdydd - yn gweithio ar draws sawl cyfnod allweddol i ledaenu negeseuon cadarnhaol am ddysgu ieithoedd. Mae Llwybrau Cymru yn cyflwyno menter i godi proffil ieithoedd rhyngwladol mewn ysgolion gyda chymorth myfyrwyr israddedig. Ei nod yw ysbrydoli disgyblion iau, hybu brwdfrydedd dros ieithoedd, a chreu llif o ddysgwyr iaith y dyfodol drwy raglen o weithgareddau a digwyddiadau gwerth chweil sy’n canolbwyntio ar y disgybl.
Mae’r cymorth drwy gymheiriaid a gynigir yn sgil y modelau hyn wedi llwyddo i newid agweddau tuag at ddysgu iaith. Ehangodd cyllid prosiect SWCEP y model hwn i’r sector addysg bellach drwy ddod â myfyrwyr israddedig, myfyrwyr coleg a disgyblion blynyddoedd 5 a 6 at ei gilydd i edrych ar ieithoedd.
Myfyrwyr yn Arwain y Ffordd
Ochr yn ochr â Choleg Caerdydd a’r Fro, Coleg Merthyr Tudful, Coleg y Cymoedd a Choleg Gwent, bu’r prosiect yn galluogi Llysgenhadon Iaith Israddedig i hyfforddi myfyrwyr coleg i ddod yn Llysgenhadon Iaith Colegau i rannu negeseuon cadarnhaol o fewn y colegau, a thrwy weithio mewn partneriaeth ag ysgolion cynradd lleol.
Ymwelodd myfyrwyr y coleg â saith ysgol gynradd leol, gan gyflwyno 27 o sesiynau blasu iaith rhyngweithiol a llawn diwylliant i ddisgyblion ym mlynyddoedd 5 a 6, pob un wedi’i chynllunio i ysgogi chwilfrydedd a diddordeb am ieithoedd. Roedd yr ymateb yn hynod gadarnhaol, gyda disgyblion ysgolion cynradd yn cael safbwynt newydd ar bwysigrwydd ieithoedd a sut maen nhw’n cysylltu â’r byd ehangach.
Meithrin Hyder a Sgiliau ar gyfer y Dyfodol
I lawer o'r myfyrwyr coleg, dyma oedd eu cyfle cyntaf i gael profiad gwaith go iawn - un a'u helpodd i ddatblygu sgiliau gwerthfawr mewn cyfathrebu, cyflwyno a datrys problemau. Roedd y profiad nid yn unig wedi gwella eu hyder ond hefyd wedi rhoi mantais gystadleuol iddynt ar gyfer cyflogaeth neu addysg uwch yn y dyfodol.
Drwy rymuso dysgwyr ifanc a rhoi profiadau ystyrlon sy’n meithrin sgiliau i fyfyrwyr coleg, mae’r fenter hon yn helpu i ailgynnau brwdfrydedd dros ddysgu ieithoedd yng Nghymru—un ystafell ddosbarth ar y tro.