Bwrsari Interniaethau’r Genhadaeth Ddinesig
Lleoliadau profiad gwaith gwirfoddol i fyfyrwyr gyda chymorth bwrsari yw Interniaethau’r Genhadaeth Ddinesig. Prifysgol Caerdydd sy’n arwain y prosiect ar y cyd â Phrifysgol Metropolitan Caerdydd, a Phrifysgol De Cymru.
Rhoddodd y prosiect peilot hwn y cyfle i fyfyrwyr gefnogi gweithgareddau’r Genhadaeth Ddinesig ac Ymgysylltu â’r Cyhoedd drwy brofiad gwaith ymarferol sy’n gwneud gwahaniaeth go iawn i’r prosiectau a’r chymunedau lleol sy’n eu derbyn, tra eu bod yn datblygu sgiliau cyflogadwyedd.
Hyd yma, mae'r rhaglen beilot hon wedi rhoi cymorth ariannol i 90 o fyfyrwyr i gefnogi dros 57 o sefydliadau a phrosiectau gan gynnwys Anturiaethau Organig Cwm Cynon; Tyfu Caerdydd; Oasis Caerdydd: Helpu ffoaduriaid a cheiswyr lloches i integreiddio’n rhan o’u cymuned; Cymdeithas Hanes Iddewig De Cymru (Partneriaeth Ymchwil y Trydydd Sector); Pafiliwn y Grange; y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion (SHRN); Rhwydwaith Ymchwil Iechyd Ysgolion Namibia (NSHRN); a Chanolfan Datblygu Cymunedol De Glan yr Afon (Prosiect Treialon Siarad).
Adborth gan fyfyrwyr
Yn ogystal â chyfle i gael cipolwg gwerthfawr ar weithio gydag amrywiaeth o gymunedau a sefydliadau dinesig, roedd adborth gan fyfyrwyr wedi amlygu’r effaith yr oedd cymryd rhan wedi’i chael.
“Roedd yn brofiad gwerth chweil. Dysgais i am sector nad oeddwn i’n gwybod llawer amdano o’r blaen, ac roeddwn i'n gallu siarad â rhai pobl anhygoel ar ochrau ymchwil ac elusennol y lleoliad profiad gwaith”.
“Roedd yr wythnos yn amhrisiadwy o ran cael cipolwg ar sector benodol yn ymwneud â gyrfa yn y dyfodol. Rydych chi'n creu perthynas go iawn yn y maes ac yn dysgu sgiliau allweddol sy'n gysylltiedig â'r swydd. Mae cyflogwyr hefyd yn edrych ar leoliadau yn ffafriol"
Adborth ar y prosiect gan staff a’r lleoliadau
Roedd staff Prifysgol Caerdydd a fu’n goruchwylio myfyrwyr ar y prosiect hefyd wedi gwerthfawrogi’r rhan yr oedd y myfyrwyr wedi’i chwarae wrth ymwneud â’r cyhoedd:
“Hoffwn i ddiolch i’r tri myfyriwr a ddaeth ar leoliad gyda ni yn SPARK ac am eu cefnogaeth i dri sefydliad y trydydd sector. Roedden nhw’n fedrus, yn effeithlon, yn broffesiynol, yn hyblyg ac roedd eu hadolygiad llenyddiaeth yn rhagorol. Roedd wedi'i dargedu at anghenion a dymuniadau sefydliad y trydydd sector, gan gyflwyno eu canlyniadau mewn ffordd glir, creadigol ac effeithiol. Mae pob un o sefydliadau’r trydydd sector wedi dweud wrthon ni gymaint o argraff yr oedd y myfyrwyr wedi’i chael arnyn nhw.” – Dr Anna Skeels, Partneriaeth Ymchwil y Trydydd Sector
“Roedd yn wych gweithio gyda Tianwei. Roedd ei safbwyntiau a’r wybodaeth y rhannodd hi yn werthfawr iawn ac roedd hi wedi helpu’n fawr i gyflawni amcanion y prosiect. Roedd hefyd yn hyfryd gallu rhannu’r hyn y gwnaethon ni ei ddysgu gyda rhywun a oedd â diddordeb ac yn awyddus"- Rosie Cripps, Gwerthuswr Annibynnol y Porth Cymunedol