Ewch i’r prif gynnwys

Cenhadaeth ddinesig ac Ymgysylltu â'r cyhoedd

A young girl learns about the brain

Rydyn ni'n rhoi ein cymunedau wrth galon popeth a wnawn.

Rydym wedi bod yn ymateb i heriau mawr y mae cymdeithas yn eu hwynebu ac yn ymgymryd â gwaith er budd y cyhoedd ers dros 130 o flynyddoedd. Dyma'r hyn rydyn ni'n ei alw'n genhadaeth ddinesig. Rydym wedi ymrwymo i wella iechyd, cyfoeth a llesiant ein cymunedau lleol yn Rhanbarth Prifddinas Caerdydd ac o ddifrif yn ein rôl i hyrwyddo cynaliadwyedd ac amrywiaeth amgylcheddol.

Mae ymgysylltu â'r cyhoedd yn adeiladu ar y sylfeini cadarn a osodwyd gan ein gwaith seiliedig ar le mewn cenhadaeth ddinesig. Rydym yn gwneud hyn drwy amrywiaeth o weithgareddau sy'n canolbwyntio ar fynd i'r afael ag anghydraddoldebau cymdeithasol, estyn allan at bobl ifanc a chymunedau sydd wedi'u hallgáu'n lleol, drwy Gymru benbaladr a thu hwnt. Rydym am gefnogi'r rhai a fydd yn elwa o'n hymchwil, ein gwybodaeth a'n haddysgu. Rydym yn gweithio gydag aelodau'r cyhoedd i siapio, cyflawni a rhannu ein gwaith yn genedlaethol ac yn fyd-eang i agor deialog gyhoeddus a chreu budd i'r ddwy ochr.

Ein huchelgais

Ein nod yw cael ein cydnabod yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol am ein cenhadaeth ddinesig gydweithredol a chynhwysol a'n harfer ymgysylltu â'r cyhoedd.

Ewch i'n tudalennau cymunedol i gael gwybod mwy am ein prosiectau cenhadaeth ddinesig cyffrous dan arweiniad y gymuned sy'n canolbwyntio ar adeiladu sgiliau Cymru ar gyfer y dyfodol, ysgogi adferiad gwyrdd Cymru, a chroesawu ymgysylltu â'r gymuned. Dysgwch sut rydym yn defnyddio ein hymchwil, ein haddysgu a'n harbenigedd i fod o fudd i'n cymunedau amrywiol drwy ein gweithgareddau ymgysylltu â'r cyhoedd amrywiol.

Cenhadaeth ddinesig

Mae ein cymunedau wrth galon popeth a wnawn. Rydym yn defnyddio ein harbenigedd er budd ein cymunedau amrywiol, ac i helpu Cymru i adeiladu'n ôl yn decach o'r pandemig COVID-19.

Ymgysylltu â’r cyhoedd

Mae ymgysylltu â'r cyhoedd yn ein galluogi i flaenoriaethu a rhannu syniadau ac arbenigedd i sicrhau bod pawb yn cael budd drwy ymdrechion gweithredol a chydweithredol