Ewch i’r prif gynnwys

Sefydliad Ymchwil Dŵr

Ein nod yw mynd i'r afael â her fawr rheoli dŵr yn gynaliadwy ar gyfer pobl ac ecosystemau mewn byd sy'n newid.

Yn 2022, cychwynnodd tîm rhyngddisgyblaethol o Ysgol y Biowyddorau a’r Ysgol Gwyddorau Cyfrifiadurol ar brosiect i fapio a chofnodi clefydau heintus mewn pysgod.

Newyddion diweddaraf

Delwedd a dynnwyd o loeren o ranbarth Mbale yn Uganda yn ystod llifogydd 2022.

Mae amrywiadau eithafol rhwng sychder a llifogydd yn dinistrio cymunedau sydd â'r risg fwyaf o effeithiau newid hinsawdd, yn ôl ymchwil newydd

14 Tachwedd 2023

Archwiliodd ymchwilwyr amlder a maint llifogydd a pheryglon sychder mewn chwe gwlad dros bedwar degawd

Riverflowing1

Mae gaeafau cynhesach a gwlypach yn berygl i bryfed dyfrol

7 Tachwedd 2023

Mae effeithiau newid hinsawdd yng nghefnfor yr Iwerydd yn cael eu teimlo gan bryfed yn nentydd Cymru

Image of pipe with water coming out of it

Academydd yn ennill Grant Cychwyn y Cyngor Ymchwil Ewropeaidd gwerth €1.3M

5 Medi 2023

Bydd Dr Joe Williams yn ymchwilio i’r ffordd y mae gwledydd yn y De Byd-eang yn troi at ddŵr anghonfensiynol i fynd i'r afael â heriau dŵr cronig sy'n gwaethygu

Mae mynd i'r afael â her fawr defnyddio a rheoli dŵr yn gofyn am ymateb ymchwil integredig, amlddisgyblaethol sy'n rhoi atebion ymarferol a realistig.

Cysylltwch â’n tîm i gael rhagor o wybodaeth am y sefydliad a sut gallwch weithio gyda ni.

Mae ein hymchwil hirdymor yn Afon Gwy ac Wysg yn darparu tystiolaeth ar gyfer rheoli dyfroedd croyw yn ogystal â datblygiadau ehangach mewn gwybodaeth systemau cyfan.