Ewch i’r prif gynnwys

Mae sbarc|spark wedi dathlu ei ben-blwydd yn 2 oed

20 Mawrth 2024

Sally O'Connor - Cyfarwyddwr Gweithrediadau SPARK, Emily Travis - Rheolwr Cymunedol SPARK, ac Alice Walden - Swyddog Cymorth Busnes Arloesedd Caerdydd o amgylch baneri trigolion sbarc|spark.

Mae adeilad sbarc|spark wedi dathlu ei ben-blwydd yn 2 oed mewn ffordd ysblennydd.

Ar 6 Mawrth dathlodd sbarc|spark ei ben-blwydd yn 2 oed drwy gynnal gweithgareddau cymunedol a sgyrsiau carlam ledled yr adeilad.

Dechreuodd y diwrnod pan gynhaliwyd gemau agoriadol 'sbarc|spark'. Yn y rhain, roedd y sawl a oedd yn cymryd rhan yn gweithio mewn timau benben â’i mewn cyfres o heriau meddyliol a chorfforol a oedd yn talu gwrogaeth i sioeau gemau poblogaidd gan gynnwys 'The Traders' a 'Treasure Hunt'.

Ar ôl y gemau, cafwyd cyfres o sgyrsiau carlam ysgogi meddwl a gynhaliwyd gan 15 o sefydliadau a busnesau yn sbarc|spark. Yn y sgyrsiau, trafodwyd yr ymchwil llawn effaith sy'n digwydd yn SPARK yn ogystal ag entrepreneuriaeth fentrus Arloesi Caerdydd. Yn y sgyrsiau, dangoswyd yr ystod o sefydliadau sydd bellach yn rhan o sbarcIspark, gan gynnwys busnesau newydd graddedigion, busnesau sy’n ehangu, sefydliadau trydydd sector a chanolfannau ymchwil SPARK yn ogystal â'r cyfle i gydweithio yn yr adeilad.

Cafwyd y cyfle hefyd i rwydweithio dros ginio a chwrdd a chymdeithasu mewn awyrgylch hamddenol a dathliadol.

Dyma a ddywed yr Athro Chris Taylor, Cyfarwyddwr Academaidd SPARK:

“Wrth inni gyrraedd diwedd yr ail flwyddyn yn sbarc|spark mae gennym lawer i'w ddathlu."

Peth hyfryd oedd gweld cynifer o gydweithwyr o bob rhan o gymuned sbarc|spark yn dod at ei gilydd i rannu eu syniadau a thrafod cydweithio, creadigrwydd, arloesi ac entrepreneuriaeth. Mae ein cymuned yn tyfu ac rydyn ni eisoes yn dechrau gweld manteision hyn o ran ymchwil ar y cyd a grymuso gwybodaeth.
Yr Athro Chris Taylor Professor

Parhaodd: "Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf rydyn ni wedi croesawu mwy na 300 o aelodau newydd SPARK a thenantiaid Arloesi Caerdydd. Ymhlith ein canolfannau ymchwil newydd mae Canolfan yr Economi Greadigol, Canolfan Hartree Caerdydd, a CARE: Y Ganolfan Ymchwil Er Gofal Cymdeithasol i Oedolion – sawl sefydliad busnes allanol, gan gynnwys Rockley Photonics, a'r Compound Semiconductor Centre, a sefydliadau cyhoeddus a thrydydd sector o bwys, gan gynnwys Caerdydd yn Ddinas sy’n Dda i Blant ac Anabledd Cymru. Edrychwn ymlaen at flwyddyn arall o ehangu ein cymuned a gweld sut y bydd sbarc|spark yn chwarae rhan allweddol yn nyfodol Prifysgol Caerdydd.”

sbarc|spark yw'r ganolfan arloesi fwyaf o'i math yng Nghymru. Mae'n creu cysylltiadau rhwng ymchwilwyr yn y gwyddorau cymdeithasol, arweinwyr y sector gyhoeddus, entrepreneuriaid, a chynghorwyr proffesiynol er mwyn llunio ein dyfodol.

Mae'r 12,000 metr sgwâr yn cefnogi cymuned gynyddol o fwy na 700 o bobl o nifer o gefndiroedd, gan feithrin arloesi a chydweithio ar draws sectorau.

Dyma gartref SPARK - parc ymchwil gwyddorau cymdeithasol cyntaf y byd. Mae SPARK yn dwyn ynghyd 16 o grwpiau ymchwil rhyngddisgyblaethol i fynd i'r afael â materion sy'n effeithio ar bob un ohonon ni ac mae'n cydweithio â mwy na 100 o bartneriaid ar draws pob cyfandir yn y byd, gan gynnwys 50 yn Ewrop.

Yma hefyd y mae Arloesi Caerdydd sy'n croesawu mwy na 40 o sefydliadau allanol, boed graddedigion sy’n entrepreneuriaid, cyrff anllywodraethol neu’r sector preifat, i'w swyddfa a labordai ar y cyd y gellir eu gosod lle caiff pobl weithio ochr yn ochr â’i gilydd.