Ewch i’r prif gynnwys

Pa fath o wyddonydd fyddwch chi?

26 Mawrth 2024

Mae merch ifanc sy'n gwisgo côt labordy a goglau diogelwch yn sefyll rhwng dwy jar o hylif glas a gwyrdd, gan ddal piped.
Ysgogwyd diddordeb plant mewn gyrfaoedd STEM yn nigwyddiad ‘Byddwch yn Wyddonydd!’ y Brifysgol a gynhaliwyd yn sbarc|spark.

Mae ymchwilwyr Prifysgol Caerdydd wedi rhannu eu syniadau a'u harbenigedd â mwy na 500 o blant, pobl ifanc ac aelodau'r gymuned yn rhan o ŵyl ledled y ddinas sy'n ceisio ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o wyddonwyr o Gymru.

Cyflwynwyd digwyddiad ‘Byddwch yn wyddonydd!’ i ddathlu Gŵyl Wyddoniaeth Caerdydd ac annog plant i feddwl am yrfaoedd mewn gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg (STEM).

Boed yn foduron magnetig, peirianneg drydanol neu bosau dyrys a gweithdai gwych, cafodd y rheini a ddaeth i’r digwyddiad brofiad ymarferol o'r ymchwil wyddonol sydd ar y gweill yn y Brifysgol.

Dyma a ddywedodd un plentyn: "Rwy eisiau gwneud rhywbeth sy’n ystyrlon a rhoi rhywbeth yn ôl i'r byd drwy wyddoniaeth a byd darganfod. Hoffwn i fod yn feddyg i allu gwneud gwahaniaeth go iawn ym mywyd rhywun."

Ychwanegodd plentyn arall: "Rwy i wir yn mwynhau dysgu a deall prosesau gwahanol y corff ac effeithiau rhai cyffuriau ar y corff!"

Roedd y digwyddiad, a gynhaliwyd yn adeilad sbarc|spark, wedi dangos gwaith 16 o ysgolion academaidd, canolfannau ymchwil y Brifysgol a busnesau lleol mewn 20 stondin a phedwar gweithdy.

Dyma farn un ymwelydd: "Cymeron ni ran mewn sesiwn wyddoniaeth ac roedd yn brofiad anhygoel i’r plant bach a mawr fel ei gilydd. Roedd cymaint i'w wneud, ei weld a chymryd rhan ynddo.

"Roedd y plant yn dotio at y ffaith bod y staff a'r athrawon mor gyfeillgar! Rhoddwyd cymaint o wybodaeth am bob arbrawf. Roedd yn amlwg pa mor angerddol oedd y gwyddonwyr a chafodd gryn effaith ar y plant. Profiad hyfryd iawn."

Cefnogwyd y digwyddiad gan Gronfa Arloesi Ymchwil Cymru a’r Cyfrifon Sbarduno Effaith Wedi’u Cysoni.

Rhannu’r stori hon

Rydym yn cyflwyno cenhadaeth ddinesig i gefnogi iechyd, cyfoeth a lles pobl Cymru drwy weithio gyda’n cymunedau.