Ewch i’r prif gynnwys

Cloddio tir caeëdig o'r Oes Efydd sydd ynghudd o dan un o barciau’r ddinas

21 Mehefin 2023

Mid shot man smiling at camera with archaeological dig in the background
Students and volunteers are working with archaeologists on the four-week dig. Pic credit: Oliver Davis

Mae cloddfa archeolegol a ddatgelodd yr hyn y credir yw'r tŷ cynharaf iddo gael ei ddarganfod yng Nghaerdydd wedi ailgychwyn mewn parc yn y ddinas.

Mae Prosiect Treftadaeth Ailddarganfod Caerau a Threlái (CAER), sef partneriaeth rhwng Prifysgol Caerdydd, Gweithredu yng Nghaerau a Threlái (ACE), ysgolion lleol, trigolion a phartneriaid treftadaeth, yn digwydd ym Mharc Trelái, hanner milltir o Fryngaer Caerau, sef safle treftadaeth o arwyddocâd cenedlaethol. Cyn hyn, mae archeolegwyr ac aelodau o'r gymuned wedi dod o hyd i wreiddiau sy’n dyddio o’r cyfnod Neolithig, Oes yr Haearn a’r cyfnod Rhufeinig a chanoloesol.

Mae’r cloddio eleni yn y tŷ crwn yn Nhrelái’n canolbwyntio ar y llawr sydd wedi parhau’n gyfan i raddau helaeth a heb ei ddifetha o dan gaeau chwarae’r parc ers 3,500 o flynyddoedd.

Cyn y cloddio cychwynnol y llynedd, roedd yr arbenigwyr yn gobeithio y gallai'r strwythur fod yn ddolen goll rhwng yr Oes Haearn hwyr a'r cyfnod Rhufeinig cynnar, gan ddangos yr hyn a ddigwyddodd i bobl ar ôl iddyn nhw symud o'r fryngaer.

Ond darganfuwyd mewn gwirionedd bod y tŷ crwn, ger Ysgol Uwchradd Gymunedol Gorllewin Caerdydd, yn ei ragflaenu i tua 1500 CC. Mae pot clai a ddarganfuwyd ar y safle ac sydd bellach wedi'i roi yn ôl at ei gilydd yn ofalus, yn dyddio'r tir caeëdigi'r Oes Efydd.

Mae'r cloddio archaeolegol diweddaraf yn cynnwys 100 o wirfoddolwyr cymunedol yn ogystal â 200 o ddisgyblion o ysgolion lleol.

Dyma a ddywedodd cyd-gyfarwyddwr Prosiect Treftadaeth CAER, Dr Oliver Davis, o Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd Prifysgol Caerdydd: “Rydyn ni wrthi’n agor yr hyn a gredwn yw’r tŷ cynharaf a ddarganfuwyd yng Nghaerdydd efallai. Dangosodd y cloddio y llynedd fod llawr y tŷ crwn mewn cyflwr arbennig o dda, gan roi’r cyfle inni archwilio’r arwyneb yr oedd pobl yn ei droedio 3,500 o flynyddoedd yn ôl. Byddwn ni hefyd yn gallu ymchwilio i nodweddion eraill y tŷ crwn. Dyma gyfle prin iawn i archaeolegwyr. Rydyn ni’n gobeithio y bydd y gwaith cloddio yn rhoi rhagor o wybodaeth a chyd-destun inni ynghylch gwreiddiau prifddinas Cymru.”

Ychwanega: “Mae treftadaeth yr ardal hon o bwys aruthrol. Mae’n arwyddocaol yn genedlaethol. Mae archaeoleg yr ardal hon yn destun eiddigedd ym mhob rhan arall o Gaerdydd. Rydyn ni mor ddiolchgar ein bod yn gweithio gyda’r gymuned i ddatgelu’r hanes rhyfeddol hwn o’r oes efydd sydd wedi bod ynghudd ers cyhyd.”

Delwedd o'r awyr o gloddio archeolegol

Dod â phobl at ei gilydd

Dyma a ddywedodd Michelle Powell o Gweithredu yng Nghaerau a Threlái: “Rwy wrth fy modd yn gweld beth gaiff ei ddarganfod yn ystod y cloddio cymunedol eleni. Yr hyn sy'n wych am y gwaith cloddio, a dyma’r wythfed tro inni ei wneud, yw eu bod yn cynnwys pobl o bob oedran, gan roi’r cyfle i ddatblygu sgiliau newydd a dod â phobl leol ynghyd i ddarganfod ein treftadaeth anhygoel.  Mae’r gwaith cloddio a Chanolfan Dreftadaeth CAER yn ein galluogi i adrodd hanes gwahanol am ein cymuned – gan ddangos yr wybodaeth, y dalent, y gweithgarwch a’r gwresogrwydd anhygoel yn Nhrelái a Chaerau – sydd, mewn sawl ffordd, wrth galon yr hyn yw Gweithredu yng Nghaerau a Threlái yn y bôn hefyd.”

Cyfleoedd newydd

Myfyriwr yn y flwyddyn gyntaf ar y Cwrs BA Hanes yr Henfyd ac Archaeoleg yw Scott Bees, 34. Yn gyn-bostmon, penderfynodd astudio gradd ar ôl derbyn bwrsariaeth Treftadaeth CAER i gwblhau rhaglen llwybr Archwilio'r Gorffennol y Brifysgol.

Yn dad i bump o ferched rhwng chwech a 15 oed sy’n byw gyda’i deulu yn Nhrelái, dyma a ddywedodd: “Penderfynodd fy ngwraig fynd yn ôl i’r coleg flwyddyn o fy mlaen i, a hi oedd wedi fy mherswadio i wneud yr un peth. Roeddwn i eisiau dangos i fy mhlant y gallwch chi geisio gwireddu eich breuddwydion bob amser.

“Y llynedd ro’n i’n wirfoddolwr yma, gan ei wneud y tu allan i’r oriau gwaith. Bellach myfyriwr ydw i yma am fis cyfan ac yn cael profiad go iawn o fyd archaeoleg.

“Rwy’n caru hanes – rwy’n gwylltio fy mhlant o hyd drwy fynd â nhw i gestyll a henebion gwahanol. Ond mae yna dreftadaeth ddiwylliannol mor gyfoethog yma lle rydyn ni'n byw. Dylen ni ddefnyddio hynny i wella’r ardal o dipyn i beth.”

Dyn gyda chap yn edrych i mewn i gamera
Mae'r cyn-bostmon a’r tad i bump o blant, Scott Bees, ym mlwyddyn gyntaf ei radd.

Diddordeb cymunedol

Dyma a ddywedodd y wirfoddolwraig reolaidd Jacque Young, sydd wedi byw yng Nghaerau ers mwy na 50 mlynedd: “Rwy wrth fy modd yn cymryd rhan. Mae yna lawer o ddiddordeb gan bobl sy'n byw gerllaw, gan ofyn sut rydyn ni'n dod ymlaen. Mae’r gair ar led go iawn. Mae’n gyffrous meddwl bod modd dod o hyd i hyn ar garreg eich drws eich hun.”

Myfyriwr Hanes yr Henfyd ac Archaeoleg yn yr ail flwyddyn ac sydd wedi byw yn yr ardal ar hyd ei oes yw Dylan Bond, 20.

Dyma a ddywedodd: “Roeddwn i’n arfer chwarae pêl-droed ar y caeau hyn bob wythnos. Syfrdanol o beth yw meddwl bod tŷ crwn a thir amgaeëdig sy’n dyddio o'r Oes Efydd o dan fy nhraed. Bryd hynny, doedd neb yma yn gwybod beth oedd yma – y cyfan y gallech chi ei weld oedd pentwr o laswellt hir.

“Dw i ar bigau’r draen i gael gwybod beth fyddwn ni’n ei ddarganfod. Teimlad arbennig yw bod yn rhan o hyn.”

Dyma a ddywedodd Martin Hulland, Pennaeth Ysgol Uwchradd Gymunedol Gorllewin Caerdydd, sydd ychydig bellter o’r safle:  “Mae ein myfyrwyr yn falch o fod yn rhan o’r gwaith o ddod o hyd i dreftadaeth gyfoethog eu hardal unwaith eto. Bydd myfyrwyr ym Mlynyddoedd 7 ac 8 yn cymryd rhan yn y cloddio ac yn ceisio dod o hyd i dystiolaeth archaeolegol fwy arwyddocaol. Bydd yn brofiad dysgu anhygoel iddyn nhw, ac rydyn ni’n parhau i fod yn bartneriaid balch gyda Gweithredu yng Nghaerau a Threlái, Treftadaeth CAER a Phrifysgol Caerdydd. Rwy ar bigau’r draen i gael gwybod beth a gaiff ei ddarganfod yn ystod y cyfnod cyffrous nesaf hwn."

Mae'r cloddio wrthi’n digwydd ym Mharc Trelái tan 7 Gorffennaf, a bydd diwrnod agored yn cael ei gynnal ar 24 Mehefin rhwng 10:00 a 14:00. I gael gwybod rhagor cysylltwch â: caerevents@aceplace.org neu drwy Facebook: @CAERHeritage

Bydd canfyddiadau o gloddio’r mis hwn ar gael i’w gweld mewn arddangosfa yng Nghanolfan Dreftadaeth CAER a gynhelir ym mis Rhagfyr.

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol yn lle i'r disgleiriaf a'r gorau i archwilio ac i rannu eu hangerdd dros astudio cymdeithasau'r gorffennol a chredoau crefyddol, o gyfnod cynhanes i'r presennol.