Ewch i’r prif gynnwys

Cardiau preswylfeydd

Diweddarwyd: 10/08/2023 13:13

Byddwch yn derbyn eich cerdyn preswylfeydd pan fyddwch yn cyrraedd.

Pan rydych ar dir y brifysgol, mae angen i chi gadw eich cerdyn preswylfeydd gyda chi bob amser a'i gyflwyno ynghyd â'ch Cerdyn Adnabod Prifysgol er mwyn profi eich hunaniaeth yn unol â pholisi a chanllaw'r brifysgol.

Bydd hefyd angen i chi gyflwyno eich cerdyn preswylfeydd a'ch Cerdyn Adnabod Prifysgol ar gyfer y canlynol:

  • Casglu parseli a llythyron cofrestredig wrth dderbynfa eich preswylfeydd.
  • Pan fyddwch chi wedi'ch cloi allan o'ch ystafell a bod angen allwedd/cerdyn allwedd arall arnoch.
  • Defnyddio'r gwasanaeth bws rhwng Neuadd y Brifysgol a'r Prif Gampws neu Gampws Parc y Mynydd Bychan.