Ewch i’r prif gynnwys

Crefydd a Diwinyddiaeth (BA)

Pam astudio'r cwrs hwn

location

Dilynwch eich llwybr eich hun

Drwy fodiwlau dewisol, cewch fynd i'r afael â phynciau o ddiddordeb i chi, yn amrywio o Islam i iaith ysgrythurol i fwdhaeth.

structure

Crefydd yn ei gyd-destun

Cewch ddeall sut mae crefydd yn dylanwadu ar y cyfryngau, cymdeithas, hanes a gwleidyddiaeth, ac yn cael ei ddylanwadu ganddynt.

star

Traethawd hir gyda gwahaniaeth

Dilynwch bwnc sy'n sbarduno eich chwilfrydedd; cewch wella sgiliau niferus gyda chyflwyniad ac elfen ysgrifenedig.

briefcase

Cyfleoedd am leoliad gwaith

Datblygwch y sgiliau, yr hyder a’r cysylltiadau i gyflymu eich gyrfa.

Yn ein gradd BA Crefydd a Diwinyddiaeth gyfoethog a gwerth chweil, byddwch yn archwilio hanes, diwylliannau a chredoau traddodiadau crefyddol mawr a llai adnabyddus, gan ddewis o blith amrywiaeth o ddulliau ac arbenigeddau ymchwil sy'n ymestyn y tu hwnt i Hindŵaeth, Bwdhaeth, Iddewiaeth, Islam a Christnogaeth.

Rydych yn teilwra’ch rhaglen eich hunan o blith ystod eang o fodiwlau. Gallwch gyfuno dulliau thematig, ieithyddol, hanesyddol, a rhai sy’n deillio o’r gwyddorau cymdeithasol, gan fynd i'r afael â hanes a chredoau sylfaenol traddodiadau crefyddol a'u rôl mewn bywyd cyhoeddus, o grefydd yn y cyfryngau i fytholeg mewn ffilmiau modern. Byddwch yn archwilio hanes a diwylliant crefyddol ar draws sbectrwm eang, ac yn ystyried agweddau gwleidyddol a chymdeithasol ar grefydd, o rywedd a rhywioldeb i ryfela a moeseg gymdeithasol.

Gan ddod â chyfoeth o arbenigedd ar draws thema a thraddodiad crefyddol, mae ein hacademyddion yn rhannu'r syniadau diweddaraf yn yr ystafell ddosbarth, gan gynnwys eu hymchwil flaengar eu hunain.

Mae ein cymuned gefnogol yn eich galluogi i ffynnu. Rydym yn cydweithio ar delerau enw cyntaf, ac mae addysgu mewn grwpiau bach yn golygu y gall pob myfyriwr gymryd rhan yn y trafodaethau, rhywbeth a gaiff ei ganmol yn gyson yn yr adborth a roddir i'r Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr.

Maes pwnc: Astudiaethau crefyddol a diwinyddiaeth

Gofynion mynediad

Rydym yn derbyn cyfuniad o gymwysterau Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn ogystal â chymwysterau rhyngwladol cyfatebol yn amodol ar ofynion mynediad. Dyma ein cynigion nodweddiadol:

Lefel A

BBB-BBC

Cymhwyster Prosiect Estynedig/Rhynglwadol: Fel arfer, bydd ymgeiswyr sydd wedi ennill gradd A yn y Cymhwyster Cymhwyster Prosiect Estynedig/Rhyngwladol: Bydd ymgeiswyr sydd â gradd A mewn Cymhwyster Prosiect Estynedig (EPQ)/Cymhwyster Prosiect Rhyngwladol (IPQ) fel arfer yn derbyn cynnig un radd yn is na'r cynnig safonol. Sylwch fod yn rhaid parhau i fodloni unrhyw ofynion penodol pwnc.

Mae ein hystod gradd yn cwmpasu ein cynnig safonol a'n cynnig cyd-destunol. Rydym yn ystyried yn ofalus yr amgylchiadau rydych chi wedi bod yn astudio (eich data cyd-destunol) ar gais.

  • Bydd myfyrwyr cymwys yn cael cynnig y rhan isaf yn yr ystod gradd a hysbysebir.
  • Lle nad oes ystod gradd yn cael ei hysbysebu a/neu lle mae prosesau dethol yn eu lle (fel cyfweliad) efallai y byddwch yn derbyn pwyntiau ychwanegol yn y broses ddethol neu'n sicr o gael cyfweliad/ystyriaeth.

Dysgwch am gyrsiau cymwys a sut mae data cyd-destunol yn cael ei gymhwyso.

Y Fagloriaeth Rhyngwladol

31-30 yn gyffredinol neu 665-655 mewn 3 phwnc Lefel Uwch.

Bagloriaeth Cymru

O fis Medi 2023, bydd cymhwyster newydd o'r enw Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru (lefel 3). Bydd y cymhwyster hwn yn disodli'r Dystysgrif Her Sgiliau Uwch (Bagloriaeth Cymru). Bydd y cymhwyster yn parhau i gael ei dderbyn yn lle un Safon Uwch (ar y graddau a restrir uchod), ac eithrio unrhyw bynciau penodol.

Rhaid i chi fod yn meddu ar y canlynol neu’n gweithio tuag atynt:
- TGAU Iaith Saesneg neu Gymraeg gradd C/4 neu gyfwerth (fel Safon Uwch). Os oes angen fisa Myfyriwr arnoch, rhaid i chi sicrhau bod eich cymhwyster iaith yn cydymffurfio â gofynion UKVI.

Nid ydym yn derbyn Meddwl yn Feirniadol, Astudiaethau Cyffredinol, Astudiaethau Dinasyddiaeth, na phynciau eraill tebyg neu gyfatebol.
Byddwn yn derbyn cyfuniad o bynciau BTEC, Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn amodol ar ofynion gradd a phwnc penodol y cwrs.

GCSE

Gradd C neu radd 4 mewn TGAU Iaith Saesneg.

IELTS (academic)

O leiaf 6.5 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob is-sgil.

TOEFL iBT

O leiaf 90 yn gyffredinol gydag o leiaf 17 ar gyfer ysgrifennu, 17 am wrando, 18 ar gyfer darllen, ac 20 ar gyfer siarad.

PTE Academic

O leiaf 69 ar y cyfan gydag o leiaf 59 yn yr holl sgiliau cyfathrebu.

Trinity ISE II/III

II: dau Ragoriaeth a dau Deilyngdod o leiaf.
III: o leiaf Llwyddo ym mhob cydran.

Cymwysterau eraill a dderbynnir

Os ydych yn ymgeisydd tramor ac nid Saesneg yw eich iaith gyntaf, ewch i'n tudalen am ofynion Iaith Saesneg i gael rhagor o wybodaeth am ba gymwysterau y byddwn yn eu derbyn.

Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Gwahardd Datgelu) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn.

Os ydych chi'n destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro ar hyn o bryd a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau'ch astudiaethau yn llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu'ch cofnod troseddol. Mae'r amodau'n cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • mynediad at gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
  • defnyddio offer / dyfeisiau rhyngrwyd a chyfathrebu
  • cyrffyw
  • rhyddid i symud, gan gynnwys y gallu i deithio i'r tu allan i'r DU neu i ymgymryd â lleoliad / astudiaethau y tu allan i Brifysgol Caerdydd
  • cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.

Cymwysterau o'r tu allan i'r DU

BTEC

DDM-DMM mewn Diploma Estynedig BTEC mewn pynciau Dyniaethau neu Wyddor Gymdeithasol. Byddwn yn ystyried cymwysterau BTEC mewn pynciau amgen ochr yn ochr â chymwysterau academaidd eraill ac unrhyw brofiad gwaith neu wirfoddoli perthnasol.

Lefel T

Bydd yr Ysgol Academaidd yn ystyried derbyn Lefelau T ar gyfer y rhaglen hon fesul achos. Rhoddir ystyriaeth i'r radd / pwnc Lefel T a'r graddau/pynciau a gyflawnir ar lefel TGAU/Lefel 2.

Cymwysterau eraill o'r tu mewn i'r DU

Gweld ein arweiniad i gymwysterau cyfatebol

Cewch ragor o wybdoaeth am y broses ymgeisio yn ein polisïau derbyn myfyrwyr.

Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2024

Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.

Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd

Ffioedd am statws cartref

Blwyddyn Ffioedd dysgu Blaendal
Blwyddyn un £9,000 Dim
Blwyddyn dau £9,000 Dim
Blwyddyn tri £9,000 Dim

Mae'r Brifysgol yn cadw'r hawl i gynyddu ffioedd dysgu yn yr ail flwyddyn a blynyddoedd dilynol y cwrs yn unol â'r gyfraith neu bolisi Llywodraeth Cymru. Lle bo'n berthnasol, byddwn yn eich hysbysu o unrhyw newidiadau yn y ffioedd dysgu erbyn diwedd mis Mehefin yn y flwyddyn academaidd cyn i'r ffioedd gynyddu.

Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir

Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2022/23 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.

Ffioedd am statws ynys

Dysgwch ragor am ffioedd israddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.

Ffioedd am statws tramor

Blwyddyn Ffioedd dysgu Blaendal
Blwyddyn un £22,700 Dim
Blwyddyn dau £22,700 Dim
Blwyddyn tri £22,700 Dim

Rhagor o wybodaeth am ein ffioedd dysgu

Cymorth ariannol

Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.

Costau ychwanegol

Llety

Mae gennym amrywiaeth o breswylfeydd sydd yn gweddu i anghenion a phoced yr unigolyn. Cewch wybod rhagor ar ein tudalennau llety.

Costau byw

Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.

Strwythur y cwrs

Rydym yn gweithio gyda'n myfyrwyr ar hyn o bryd yn diweddaru ac yn gwella cynnwys y cwrs hwn. Mae'r wybodaeth isod yn adlewyrchu'r cwricwlwm presennol a fydd yn newid yn ôl pob tebyg. Disgwylir i ni fod wedi gorffen adolygu'r cwrs erbyn mis Awst 2024. Bydd y dudalen hon wedi'i diweddaru erbyn mis Hydref 2024 i ddangos y newidiadau.

Cyflwynir eich rhaglen dros dair blynedd. Ym mhob blwyddyn rhaid i chi gaffael 120 credyd (cyfanswm o 360 credyd erbyn diwedd eich astudiaethau).

Mae cymysgedd o fodiwlau gorfodol a dewisol ym mhob blwyddyn.

Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2024/2025. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2024

Blwyddyn un

Byddwch yn astudio 120 credyd ym mhob blwyddyn o'ch gradd.

Byddwch yn cymryd dau fodiwl craidd, gan ddewis y gweddill o'n hystod eang o fodiwlau dewisol.

Gallwch hefyd ddewis astudio modiwlau o Hanes yr Henfyd, Archaeoleg neu Hanes yn yr Ysgol.

Blwyddyn dau

Byddwch yn astudio 120 credyd ym mhob blwyddyn o'ch gradd.

Byddwch yn cymryd dau fodiwl craidd, gan ddewis y gweddill o'n hystod eang o fodiwlau dewisol.

Blwyddyn tri

Rydych yn dewis o ystod eang o fodiwlau dewisol (cyfanswm o 90 credyd) a naill ai'n dewis ysgrifennu traethawd hir ar bwnc o'ch dewis neu’n ymgymryd â Chyfieithiad Beirniadol (30 credyd).

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle'n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Dysgu ac asesu

Byddwch yn cael eich addysgu trwy gyfuniad o ddarlithoedd a seminarau, sy'n cyfateb i oddeutu wyth i ddeg awr yr wythnos o addysgu ffurfiol. Bydd hyn yn cael ei ategu gan ymchwil ac astudiaeth annibynnol lle byddwch yn cael gwybodaeth a dealltwriaeth fwy datblygedig. Os cymerwch iaith ysgrythurol, cewch eich dysgu mewn dosbarthiadau bach (o tua 20 myfyriwr).

Sut y caf fy nghefnogi?

Cewch diwtor personol a fydd yn eich helpu i fyfyrio ar eich perfformiad ar y cwrs a’ch cynghori ar dechnegau astudio, dewis modiwlau a chynllunio gyrfa (ar y cyd â Gwasanaeth Gyrfaoedd y Brifysgol). Byddant hefyd yn cynnig pwynt cyswllt cyntaf os ydych chi'n profi unrhyw anawsterau gyda'ch astudiaethau neu yn eich bywyd ehangach.

Cyflwynir rhaglen helaeth o ddarlithoedd a gweithdai gyrfaoedd yn yr Ysgol hefyd.

Rydym hefyd yn darparu ystod o staff sydd ar gael i roi rhagor o gefnogaeth, gan gynnwys uwch-diwtor cymorth academaidd, cydlynydd cynllun a llyfrgellwyr arbenigol. Mae aelod o staff academaidd yn gweithredu fel Swyddog Anabledd ac Amrywiaeth ac yn sicrhau fod addasiadau rhesymol yn cael eu gwneud ar gyfer myfyrwyr gydag anableddau.

Mae gan yr ysgol swyddog cyflogadwyedd a lleoliad pwrpasol hefyd, a all eich helpu i baratoi ar gyfer yr yrfa a ddewiswch (o wella CV i hwyluso lleoliadau ac interniaethau).

Adborth

Rhoddir adborth ar waith ffurfiannol yn aml ac mewn amrywiaeth eang o fformatau a'i fwriad yw eich helpu i nodi cryfderau a gwendidau yn eich dysgu.

Rhoddir Adborth Crynodol i chi yn ysgrifenedig a bydd yn rhoi manylion am sut y daethpwyd i benderfyniad ynglŷn â marc terfynol darn o waith ac awgrymiadau ar gyfer gwella yn y dyfodol.

Sut caf fy asesu?

Modules are assessed by means of written examination or coursework, or by a combination of the two (with staggered deadlines in the first and second semesters). You will receive a timetable of the assessments that determine your final marks at the beginning of each year, which will help you to organise your studies. These final, or summative, assessment deadlines will be staggered across the final four weeks of each semester.

The format of coursework varies, encompassing standard essays, reviews, extended essays, portfolios of work produced across a whole academic year and gobbet or film analyses, as well as presentations (both individual and group). You will also be required to complete various pieces of formative work, which are designed to assist you in achieving the learning outcomes of modules.

Formative Assessment (does not contribute to your final mark). This may be written or oral and may be submitted formally to a tutor or presented during seminars. Preparation for formative work will normally be done during your independent study time.

Formative assessment will rarely be of draft work for summative assessments (though essay plans might be the subject of formative feedback). Instead, knowledge and competency will be developed by means of formative assessment tasks that complement, but rarely overlap with, final assessment.  

Pa sgiliau bydda i'n eu hymarfer a'u datblygu?

Ar ôl cwblhau'r rhaglen hon byddwch yn gallu:

  • disgrifio testunau allweddol a datblygiadau hanesyddol a chyfoes o ystod o draddodiadau crefyddol.
  • trafod themâu a materion allweddol sy'n berthnasol i'r maes pwnc.
  • esbonio materion technegol a therminoleg sy'n berthnasol i grefyddau ac astudio crefydd.
  • defnyddio amrywiaeth o ddulliau o astudio crefydd a diwinyddiaeth (gan ymgorffori dulliau hanesyddol, exegetical, philolegol, cymdeithasegol ac anthropolegol).
  • defnyddio dulliau amrywiol o ddatblygu atebion i gwestiynau am natur a datblygiad meddwl ac ymarfer crefyddol.
  • trefnu ac archwilio ystod o ffynonellau tystiolaeth (testun, ffilm, ethnograffeg, data arolwg, deunydd a diwylliant gweledol) mewn perthynas â thasgau asesu penodol.
  • gwerthuso natur crefydd fel categori ymddygiad dynol.
  • dadansoddi prosesau newid a'u ffactorau achosol mewn perthynas â chrefydd a diwinyddiaeth yn y gymdeithas ddynol.
  • dadansoddi dealltwriaeth a dderbynnir o le crefyddau mewn cymdeithasau.
  • barnu effaith foesegol deialogau crefyddol mewn cymdeithasau hanesyddol a chyfoes (ee rôl cysyniadau crefyddol wrth gyfreithloni neu gwestiynu awdurdod gwleidyddol a hierarchaeth gymdeithasol).
  • cynllunio proses ymchwil er mwyn ateb cwestiwn mewn dull sy'n seiliedig ar dystiolaeth.
  • ail-lunio'r astudiaeth o'r hynafol yng ngoleuni'r modern a'r modern yng ngoleuni'r hynafol (mewn modiwlau dethol).
  • llunio damcaniaethau a rhagdybiaeth israddol mewn dull rhesymegol gyda thystiolaeth.
  • cyfleu gwybodaeth a syniadau yn effeithiol, ar lafar ac yn ysgrifenedig
  • paratoi a rhoi cyflwyniad llafar a darparu deunyddiau ategol clir a chywir mewn fformat priodol.
  • cymryd cyfrifoldeb am strwythuro, rheoli ac adrodd, ar lafar a/neu’n ysgrifenedig, prosiect ymchwil bach.
  • cyfrannu’n adeiladol ac yn ddibynadwy at dasg grŵp.
  • rheoli amser yn effeithiol a chynnal astudiaeth hunangyfeiriedig yng nghyd-destun amserlen strwythuredig, gweithgareddau dysgu penodol a dyddiadau cau tasgau.
  • myfyrio ar eu dysgu eu hunain, nodi bylchau yn eu gwybodaeth a chynllunio strategaethau ar gyfer cau'r bylchau hynny.

Gyrfaoedd

Rhagolygon gyrfa

Mae ein graddedigion yn symud ymlaen i ystod eang o yrfaoedd gan ddefnyddio'r sgiliau a enillwyd drwy gydol cyfnodau eu graddau. Mae rhai yn dewis mynd ar drywydd proffesiynau sy'n gwneud defnydd uniongyrchol o'u harbenigedd yn y ddisgyblaeth, tra bod eraill yn mynd i'r sectorau cyhoeddus neu breifat, o addysgu i reoli gwaith dilyn graddedigion.

Gan gymryd Graddedigion 2017 fel ein hesiampl ddiweddaraf, mae graddedigion o'r Ysgol wedi mynd ymlaen i rolau ym meysydd addysgu, y gwasanaeth sifil, y fyddin, bancio ac yswiriant, a'r sector elusennol, gyda chyflogwyr yn amrywio o Amgueddfa Cymru a Oxford Archaeology East, i awdurdodau ac ysgolion y Cyngor Sir.

Yn ystod eich gradd gallwch fanteisio'n llawn ar yr ystod eang o gyfleoedd a ddarperir gan y Gwasanaeth Gyrfaoedd, ac sydd wedi'u gwella gan Swyddog Partneriaethau gweithle'r Ysgol.

Gyrfaoedd graddedigion

  • Athro
  • Newyddiadurwr
  • Diwinydd
  • Darlithydd
  • Hanesydd
  • Offeiriad

Camau nesaf

icon-academic

Ymweliadau Diwrnod Agored

Cofrestrwch i gael ein newyddion diweddaraf

icon-international

Rhyngwladol

Mwy o wybodaeth am ein brifysgol fyd-eang

icon-contact

Cysylltwch

Cysylltwch â ni am gymorth ac unrhyw gwestiwn sydd gennych

icon-pen

Sut i wneud cais

Sut i wneud cais am y cwrs hwn

Nid oes data Darganfod Prifysgol ar gael ar gyfer y cwrs hwn eto.


Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.