Ewch i’r prif gynnwys

Radiotherapi ac Oncoleg (BSc)

  • Maes pwnc: Radiotherapi
  • Côd UCAS: B824
  • Derbyniad nesaf: Medi 2025
  • Hyd: 3 blwyddyn
  • Modd (astudio): Amser llawn

Pam astudio'r cwrs hwn

rosette

Sgôr safle cyntaf yn y DU

Yn ôl y Complete University Guide 2021 (*fel sefydliad sy’n cynnig Radiotherapi ac Oncoleg o dan y categori Technoleg Feddygol).

people

Cyswllt clinigol cynnar

Byddwch chi’n treulio amser gwerthfawr ar leoliad, yn dysgu ac yn gweithio gyda chleifion go iawn ochr yn ochr â staff cefnogol a gwybodus.

screen

Offer modern, arbenigol

Byddwch yn datblygu sgiliau amlinellu a chynllunio triniaeth radiograffeg gan ddefnyddio systemau Oncentra Masterplan a ProSoma.

tick

Mae cyllid ar gael

Mae cyllid bwrsariaeth y GIG ar gael i fyfyrwyr y DU, gan gynnwys cymorth gyda ffioedd dysgu a chostau byw (mae'r amodau'n berthnasol).

building

Cyfleusterau o’r radd flaenaf

Gan gynnwys ystafell fowldiau a ddyluniwyd yn arbennig a’n Hamgylchedd Rhithwir i Radiotherapi (VERT), sy’n cynnig dysgu anatomeg 3-D.

Ydych chi’n angerddol dros wyddoniaeth, technoleg a’r corff dynol? Beth am ymuno â'r rhaglen orau yn y DU yng nghategori Technoleg Feddygol yn ôl The Complete University Guide 2021, ac sydd wedi’i hachredu gan Gymdeithas a Choleg y Radiograffwyr?

Bydd y rhaglen dair blynedd, BSc (Anrh.) Radiotherapi ac Oncoleg amser llawn hon yn eich helpu i ddatblygu'r sgiliau sy'n angenrheidiol i ddod yn radiograffydd therapiwtig cymwysedig sy'n rhagweithiol ac ymatebol i gyd-destun radiorherapi clinigol sy'n newid yn gyflym.

Mae gan radiograffyddion therapiwtig rôl allweddol wrth drin a gofalu am bobl â chanser. Mae'r proffesiwn heriol a gwerth chweil hwn yn defnyddio pelydriadau ïoneiddio ynni uchel wrth drin afiechyd malaen a diniwed. Byddwch yn cael eich cyflwyno i wyddorau ymddygiadol, delweddu ac ymbelydredd a chewch eich cefnogi i feithrin dealltwriaeth gadarn o anatomeg ddynol, ffisioleg a chanser fel proses afiechyd.

Fel radiograffydd therapiwtig, byddwch yn gweithio'n agos gyda meddygon, ffisegwyr meddygol ac aelodau eraill o'r tîm gofal iechyd, i ddarparu gofal personol a chefnogol i bobl o bob oedran, sy’n aml yn dioddef o glefyd sy'n bygwth bywyd. Byddwch yn cydweithio’n agos ym mhob cam o driniaeth unigolyn gan gynnwys cefnogaeth cyn y driniaeth, cynllunio’r radiotherapi, darparu a gwerthuso triniaeth, rheoli sgîl-effeithiau, a chefnogaeth ar ôl rhoi triniaeth.

Pobl sydd wrth wraidd ein gwaith, a datblygu’r sgiliau sydd eu hangen i ofalu am unigolion yw canolbwynt y rhaglen. Mae'r Ysgol yn cynnig amgylchedd rhyngddisgyblaethol, gyda chyfleoedd i ddysgu ar y cyd a chael addysg ryngbroffesiynol. Felly, bydd cyfleoedd i ddysgu gyda myfyrwyr gofal iechyd eraill, a dysgu ganddynt, yn enwedig o ran gofal sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, yn rhan o'r rhaglen.

Rydym yn cynnig cymysgedd integredig o astudio yn y Brifysgol a lleoliadau ymarfer mewn sefyllfa glinigol Rydym yn cydweithio â sefydliadau’r GIG ledled Cymru i’ch gwneud yn gystadleuol yn y farchnad gyflogaeth ar ôl cymhwyso.

Byddwch yn cael y cyfle i drin a thrafod prosiect ymchwil gwreiddiol a fydd yn ffrwyth llafur eich tair blynedd o astudio. Nod yr astudiaeth ymchwil yw rhoi’r sgiliau angenrheidiol i chi allu datblygu'n broffesiynol yn barhaus ac ymarfer ar sail tystiolaeth.

Nod y rhaglen yw creu radiograffwyr therapiwtig sydd:

  • yn gyfrifol, yn addasadwy, yn ddewr ac yn wydn gyda ffocws ar ymarfer sy'n cael ei lywio gan dystiolaeth;
  • yn cydnabod pwysigrwydd gwybodaeth a dealltwriaeth, ac sy'n cwestiynu eu hymarfer proffesiynol presennol ac yn y dyfodol;
  • yn gallu trosglwyddo gwybodaeth a sgiliau ar draws gwahanol amgylcheddau dysgu gan roi pobl wrth wraidd eu hymarfer.

Achrediadau

Maes pwnc: Radiotherapi

  • academic-schoolYsgol y Gwyddorau Gofal Iechyd
  • icon-chatGofyn cwestiwn
  • Telephone+44(0) 29 2068 7538
  • MarkerYsbyty Athrofaol Cymru, Parc y Mynydd Bychan, Caerdydd, CF14 4XN

Gofynion mynediad

Rydym yn derbyn cyfuniad o gymwysterau Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn ogystal â chymwysterau rhyngwladol cyfatebol yn amodol ar ofynion mynediad. Dyma ein cynigion nodweddiadol:

Lefel A

BBB-BBC. Rhaid cynnwys gradd B mewn un pwnc gwyddoniaeth. Naill ai Bioleg, Cemeg, Daearyddiaeth, Mathemateg, AG, Ffiseg neu Seicoleg.

Cymhwyster Prosiect Estynedig/Rhynglwadol: Fel arfer, bydd ymgeiswyr sydd wedi ennill gradd A yn y Cymhwyster Cymhwyster Prosiect Estynedig/Rhyngwladol: Bydd ymgeiswyr sydd â gradd A mewn Cymhwyster Prosiect Estynedig (EPQ)/Cymhwyster Prosiect Rhyngwladol (IPQ) fel arfer yn derbyn cynnig un radd yn is na'r cynnig safonol. Sylwch fod yn rhaid parhau i fodloni unrhyw ofynion penodol pwnc.

Mae ein hystod gradd yn cwmpasu ein cynnig safonol a'n cynnig cyd-destunol. Rydym yn ystyried yn ofalus yr amgylchiadau rydych chi wedi bod yn astudio (eich data cyd-destunol) ar gais.

  • Bydd myfyrwyr cymwys yn cael cynnig y rhan isaf yn yr ystod gradd a hysbysebir.
  • Lle nad oes ystod gradd yn cael ei hysbysebu a/neu lle mae prosesau dethol yn eu lle (fel cyfweliad) efallai y byddwch yn derbyn pwyntiau ychwanegol yn y broses ddethol neu'n sicr o gael cyfweliad/ystyriaeth.

Dysgwch am gyrsiau cymwys a sut mae data cyd-destunol yn cael ei gymhwyso.

Y Fagloriaeth Rhyngwladol

31-30 yn gyffredinol neu 665-655 mewn 3 phwnc Lefel Uwch. Rhaid cynnwys gradd 6 mewn Bioleg, Cemeg, Daearyddiaeth, Mathemateg, AG, Ffiseg neu Seicoleg Lefel Uwch.

Bagloriaeth Cymru

O fis Medi 2023, bydd cymhwyster newydd o'r enw Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru (lefel 3). Bydd y cymhwyster hwn yn disodli'r Dystysgrif Her Sgiliau Uwch (Bagloriaeth Cymru). Bydd y cymhwyster yn parhau i gael ei dderbyn yn lle un Safon Uwch (ar y graddau a restrir uchod), ac eithrio unrhyw bynciau penodol.

Rhaid i chi fod yn meddu ar y canlynol neu’n gweithio tuag atynt:
- TGAU Iaith Saesneg neu Gymraeg gradd B/6 neu gymhwyster cyfatebol (fel Safon Uwch). Derbynnir gradd C/4 mewn TGAU Iaith Saesneg lle rydych yn astudio cymwysterau ar lefel uwch sy'n cael eu haddysgu trwy gyfrwng Saesneg, fel Safon Uwch.
- pedwar TGAU ar radd C/4. Rhaid cynnwys Mathemateg, a dwy wyddoniaeth (naill ai Bioleg, Cemeg, neu Ffiseg), neu gymwysterau cyfatebol (pwnc a gradd).

Rhaid i chi hefyd ddarparu datganiad personol sy'n berthnasol i'r proffesiwn. Os ydych yn cyflwyno cais i fwy nag un rhaglen broffesiynol, dylech ebostio datganiad personol pwrpasol ar gyfer pob rhaglen at admissions@caerdydd.ac.uk. Gwnewch hyn ar yr un pryd â chyflwyno'ch cais trwy UCAS. Yn eich datganiad personol, dylech ddangos eich bod yn deall y proffesiwn, bod gennych fewnwelediad i'r cwrs ei hun, a dylech ddisgrifio unrhyw brofiad gwaith perthnasol. Dim ond un datganiad personol y gellir ei gyflwyno ar gyfer pob rhaglen.

Nid ydym yn derbyn Meddwl yn Feirniadol, Astudiaethau Cyffredinol, Astudiaethau Dinasyddiaeth, na phynciau eraill tebyg neu gyfatebol.
Byddwn yn derbyn cyfuniad o bynciau BTEC, Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn amodol ar ofynion gradd a phwnc penodol y cwrs.

AMODAU YMRESTRU
Cyn dechrau eich cwrs, bydd hefyd angen i chi lenwi holiadur iechyd galwedigaethol, mynd i unrhyw apwyntiadau dilynol, a chael yr holl frechiadau sydd eu hangen i ymgymryd â lleoliadau clinigol yn ddiogel.

GCSE

Gradd B neu radd 6 mewn TGAU Saesneg Iaith.

IELTS (academic)

O leiaf 7.0 yn gyffredinol, gydag o leiaf 6.5 ym mhob is-sgil.

TOEFL iBT

O leiaf 100 yn gyffredinol, gydag o leiaf 22 ym mhob is-sgil.

PTE Academic

O leiaf 76 yn gyffredinol gydag o leiaf 69 ar gyfer yr holl sgiliau cyfathrebu.

Trinity ISE II/III

II: Heb ei dderbyn.
III: o leiaf Teilyngdod ym mhob cydran.

Cymwysterau eraill a dderbynnir

Os ydych yn ymgeisydd tramor ac nid Saesneg yw eich iaith gyntaf, ewch i'n tudalen am ofynion Iaith Saesneg i gael rhagor o wybodaeth am ba gymwysterau y byddwn yn eu derbyn.

Bydd gofyn i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Gwahardd Datgelu) a yw'ch cais yn llwyddiannus. Os ydych chi'n gwneud cais o rai gwledydd dramor, efallai y bydd angen Tystysgrif Ymddygiad Da.

Os oes gennych euogfarn droseddol berthnasol, bydd hyn yn cael ei nodi yn y gwiriad a gallai effeithio ar eich gallu i gofrestru ar y cwrs. Dylai ymgeiswyr sydd ar y rhestr wahardd fod yn ymwybodol bod gwneud cais i'r cwrs hwn yn debygol o gael ei ystyried yn drosedd.

Cymwysterau o'r tu allan i'r DU

BTEC

DDM-DMM mewn Diploma Estynedig BTEC mewn Gwyddoniaeth Gymhwysol. Byddwn yn ystyried cymwysterau BTEC mewn pynciau amgen ochr yn ochr â chymwysterau academaidd eraill ac unrhyw brofiad gwaith neu wirfoddoli perthnasol.

Lefel T

M mewn Lefel T Iechyd, Gwyddor Gofal Iechyd, neu Wyddoniaeth.

Cymwysterau eraill o'r tu mewn i'r DU

International equivalencies are not accepted for this course. Please contact the International Office for information about entry requirements from your country.

Please view your country page for information on our entry requirements, funding opportunities and who our local advisors are.

Cewch ragor o wybdoaeth am y broses ymgeisio yn ein polisïau derbyn myfyrwyr.

Y broses ddethol neu gyfweld

Ni fyddwn yn gwneud cynnig heb gyfweld ymgeisydd yn gyntaf.

Mae’n bosib y bydd angen bod wedi cynnal pob cyfweliad ar gyfer y rhaglen, cyn y gellir rhyddhau cynigion.

Rhaid i bob ymgeisydd fodloni'r gofynion sylfaenol ar Lefel 2 (TGAU fel arfer) a Lefel 3 (Lefel A fel arfer) er mwyn bod yn gymwys i'w hystyried ar gyfer cyfweliad. Os ydych chi'n bodloni'r gofynion mynediad sylfaenol, bydd eich cais yn derbyn sgôr yn seiliedig ar eich datganiad personol. Bydd ymgeiswyr cymwys yn cael eu rhestru yn ôl y sgôr hon, a bydd yr ymgeiswyr sydd ar y brig yn cael gwahoddiad i ddod i gyfweliad.

Efallai y bydd myfyrwyr sy'n hanu o Gymru sy'n astudio / ar ôl cwblhau rhai Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch yn ymwneud â Gofal Iechyd yn gymwys i gael cyfweliad gwarantedig ar gais. Cysylltwch â'r tîm derbyniadau Gofal Iechyd am fanylion penodol: HCAREadmissions@caerdydd.ac.uk

Ein proses gyfweld

Mae'r cyfweliadau hyn yn ein helpu i benderfynu a ydych chi:

  • yn gallu meddwl am ateb yn y fan a'r lle
  • wedi meddwl am rai o'r materion sy'n bwysig i'r proffesiwn
  • yn gallu gwerthuso gwybodaeth yn feirniadol
  • yn gallu cyfathrebu syniadau yn effeithiol.

Maent hefyd yn canolbwyntio ar archwilio'r rhinweddau a'r priodoleddau personol sy'n bwysig i ddatblygiad eich gyrfa yn y dyfodol.

Mae'r cyfweliadau hyn yn ein galluogi i gwrdd â chi ac asesu gwybodaeth nad yw bob amser yn hawdd ei chael yn y broses ymgeisio – ni fwriedir iddynt brofi faint o wybodaeth flaenorol sydd gennych am y pwnc na'r proffesiwn.

Sylwch y gall cyfweliadau gael eu cynnal mewn amgylchedd ar-lein. Bydd cyfweliadau ar-lein yn parhau i asesu ymgeiswyr ar y sgiliau a'r priodoleddau a amlinellwyd uchod.

Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2025

Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.

Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd

Ffioedd am statws cartref

Mae bwrsariaeth lawn gan y GIG ar gael ar gyfer y rhaglen hon. Mae'n cynnwys ffioedd dysgu a bwrsariaeth nad yw'n ad-daladwy ar gyfer costau byw, ac mae ar gael i ymgeiswyr 'r DU. Mae manylion llawn, gan gynnwys gwybodaeth i ymgeiswyr o'r UE, ar gael ar ein tudalennau ynghylch cyllid GIG.

Mae'r Brifysgol yn cadw'r hawl i gynyddu ffioedd dysgu yn yr ail flwyddyn a blynyddoedd dilynol y cwrs yn unol â'r gyfraith neu bolisi Llywodraeth Cymru. Lle bo'n berthnasol, byddwn yn eich hysbysu o unrhyw newidiadau yn y ffioedd dysgu erbyn diwedd mis Mehefin yn y flwyddyn academaidd cyn i'r ffioedd gynyddu.

Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir

Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2022/23 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.

Ffioedd am statws ynys

Dysgwch ragor am ffioedd israddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.

Ffioedd am statws tramor

Mae lleoliad GIG yn rhan angenrheidiol o'r cwrs hwn. Mae'r GIG yn trefnu lleoliadau sydd ar gael i fyfyrwyr sy'n gymwys i dalu ffioedd DU yn unig. Felly, nid yw'r cwrs hwn ar gael ar gyfer myfyrwyr rhyngwladol.

Costau ychwanegol

Cyfarpar ar gyfer cwrs penodol

Fe'ch cynghorir i gadw llyfr nodiadau poced bach ar gyfer lleoliad ymarfer fel y gallwch wneud nodiadau yn ystod y dydd fydd o gymorth wrth fyfyrio nes ymlaen.

Llety

Mae gennym amrywiaeth o breswylfeydd sydd yn gweddu i anghenion a phoced yr unigolyn. Cewch wybod rhagor ar ein tudalennau llety.

Costau byw

Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.

Strwythur y cwrs

Rhaglen 3 blynedd amser llawn yw hon sy'n cynnwys tair lefel astudio. Mae pob lefel yn fodiwlaidd o ran fformat ac mae ganddi gymysgedd o fodiwlau academaidd a modiwlau ar sail ymarfer. Mae un modiwl ar sail ymarfer ym mhob blwyddyn ac mae'r amser a dreulir yn ymarfer yn cyfrif am 40% o'r rhaglen.

Cyfanswm gwerth credyd y modiwlau ar bob lefel yw 120 credyd y flwyddyn. Ar lefel 4 (blwyddyn 1) byddwch yn astudio 4 modiwl 30 credyd; ar lefel 5 (blwyddyn 2) byddwch yn astudio 4 modiwl 30 credyd; ar lefel 6 (blwyddyn 3) byddwch yn astudio 1 modiwl 20 credyd, 2 fodiwl 30 credyd ac 1 modiwl 40 credyd. Rhaid llwyddo ym mhob blwyddyn er mwyn i chi ennill dyfarniad BSc (Anrh.) Radiotherapi ac Oncoleg ond dim ond lefelau 5 a 6 sy'n cyfrannu at ddosbarthiad cyffredinol eich dyfarniad.

Penderfynir ar hyd cyffredinol pob lefel astudio gan nifer yr wythnosau dysgu ar sail ymarfer, sy'n amrywio bob blwyddyn. Mae hyn yn angenrheidiol i sicrhau bod gennych ddigon o amser i ddatblygu'r holl sgiliau sydd eu hangen i ymarfer yn effeithlon fel radiograffydd therapiwtig, yn unol â gofynion Cyngor y Proffesiynau Iechyd a Gofal (HCPC) a darpar gyflogwyr.

Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2025/2026. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2025

Blwyddyn un

Dyluniwyd lefel pedwar y rhaglen i roi'r wybodaeth a'r sgiliau sylfaenol sydd eu hangen arnoch i ddechrau eich datblygiad fel radiograffydd therapiwtig.

Bydd modiwlau academaidd yn cynnwys ymarfer proffesiynol, ffiseg ac offer radiotherapi yn ogystal â rheoli anatomeg, ffisioleg, oncoleg a radiotherapi canser yn y croen a'r thoracs (gan gynnwys y fron). Dilynir y rhain gan fodiwl dysgu yn seiliedig ar ymarfer.

Bydd dysgu rhyngbroffesiynol ar lefel pedwar yn rhoi'r cyfleoedd i chi ddatblygu ymwybyddiaeth o'ch proffesiwn eich hun a phroffesiynau grwpiau proffesiynol eraill sy'n cefnogi'r claf ar ei daith.

Byddwch yn gweithio mewn grŵp o fyfyrwyr o'ch rhaglen eich hun i ddatblygu eich dealltwriaeth o rôl y Radiograffydd Therapiwtig a rhannu hwn fel poster gyda myfyrwyr o raglenni eraill yn Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd.

Blwyddyn dau

Dyluniwyd lefel pump y rhaglen i adeiladu ar y wybodaeth a gafwyd ar lefel pedwar. Bydd modiwlau academaidd yn cynnwys rheoli anatomeg, ffisioleg, oncoleg a radiotherapi canser yn yr abdomen, y pelfis, y pen a'r gwddf a'r system nerfol ganolog (CNS), yn ogystal â chynllunio triniaeth radiotherapi.

Mae dysgu yn seiliedig ar ymarfer yn digwydd trwy gydol y lefel astudio hon. Bydd pob modiwl yn canolbwyntio ar ymarfer proffesiynol gan adeiladu ar eich dealltwriaeth o'r hyn y mae'n ei olygu i fod yn radiograffydd therapiwtig. Rhoddir cyfleoedd i weithio ar brosiectau gyda disgyblaethau proffesiynol eraill yn yr Ysgol yn rhan o'r lefel astudio hon.

Bydd addysg ryngbroffesiynol yn rhoi cyfleoedd i chi weithio gyda myfyrwyr o raglenni eraill yn Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd, gan ddatblygu eich dealltwriaeth o waith tîm a chyfathrebu yn yr amgylchedd gofal iechyd amlddisgyblaethol. Bydd grwpiau'n cynnwys myfyrwyr o dri phroffesiwn a byddant yn defnyddio dysgu ar sail ymholiadau i archwilio sefyllfaoedd gwaith tîm go iawn o ymarfer.

Blwyddyn tri

Dyluniwyd lefel chwech y rhaglen i adeiladu ar y wybodaeth a gafwyd ar lefel pedwar a phump. Ar y lefel hon, disgwylir i ddysgwyr gymryd rhan amlwg mewn trafodaethau dosbarth gan rannu safbwyntiau a syniadau am faterion cymhleth sy'n gysylltiedig ag ymarfer radiotherapi. Bydd cyfle i ddysgwyr ddatblygu eu gwybodaeth a'u dealltwriaeth o arweinyddiaeth ym maes radiotherapi a chyd-destun ehangach y GIG.

Mae cyfleoedd i ddatblygu a chynnal prosiect ymchwil yn rhan o'r lefel astudio hon. Bydd pob modiwl yn canolbwyntio ar ymarfer proffesiynol, a rhoddir cyfleoedd i weithio ar brosiectau gyda disgyblaethau proffesiynol eraill yn yr Ysgol a'r tu allan iddi.

Gan ddatblygu eich sgiliau rhyngbroffesiynol a enillwyd ym mlynyddoedd un a dau, cewch gyfle i ddatblygu eich maes arbenigol eich hun lle byddwch yn gallu ymgysylltu â myfyrwyr yn yr Ysgol a thu hwnt i ddatblygu dealltwriaeth o arweinyddiaeth, rheolaeth a gwytnwch wrth weithio mewn tîm aml-broffesiynol.

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle'n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Dysgu ac asesu

Lluniwyd y rhaglen i adlewyrchu theori ac ymarfer ar draws radiotherapi. Bydd hyn yn eich galluogi i roi eich gwybodaeth ddamcaniaethol ar waith pan fyddwch ar leoliad.

Defnyddir dull sy'n seiliedig ar ymholiadau wrth addysgu a dysgu ar y rhaglen, sy'n ceisio'ch ysbrydoli i ddysgu'n annibynnol drwy ganolbwyntio ar gwestiynau, problemau neu sefyllfaoedd. Gwnaed hyn er mwyn eich helpu i gael gwybodaeth i ddatrys problemau yn y byd go iawn. Cewch astudiaethau achos perthnasol a fydd yn cael eu defnyddio i ddatblygu gwybodaeth am fathau penodol o ganser.

Bydd adnoddau ar gael ar-lein ac yn ystod darlithoedd a thiwtorialau er mwyn eich helpu ac fe'ch anogir yn weithredol i geisio tystiolaeth o lenyddiaeth i helpu i gefnogi a llywio'ch syniadau.

Bydd gweithdai ymarferol yn yr ystafell radiotherapi mewn amgylchedd rhithwir (VERT), yr ystafell cynllunio triniaeth, yr ystafell mowldiau a'r ystafell triniaeth cilofoltedd yn eich helpu i ddatblygu sgiliau ac atgyfnerthu'ch dysgu

Darperir cyfleoedd i glywed yn uniongyrchol gan ddefnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr trwy gydol eich astudiaeth er mwyn eich galluogi i ddeall sut brofiad yw cael canser o safbwynt y rhai sydd â mewnwelediad personol. Bydd hyn yn helpu i ddatblygu eich ymarfer proffesiynol.

Cynhelir addysg ryngbroffesiynol drwy gydol tair blynedd y rhaglen. Yn lefel 4, bydd hyn yn canolbwyntio ar ddatblygu eich dealltwriaeth o'r hyn sydd ei angen i fod yn radiograffydd therapiwtig, ar y cyd ag aelodau eraill eich dosbarth. Wrth i chi fynd trwy'r rhaglen, bydd addysg ryngbroffesiynol yn cynyddu i gynnwys gweithio gyda grwpiau o ddisgyblaethau gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill o fewn yr Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd a thu hwnt, gan ganiatáu i chi gael gwell dealltwriaeth o daith unigolyn ar hyd ei lwybr gofal canser.

Bydd sesiynau tiwtorial yn eich helpu i gymhwyso theori i'r lleoliad ymarferol a bydd lleoliadau ymarfer yn cynnig rhagor o gyfleoedd i arsylwi a datblygu eich sgiliau damcaniaethol yn rhyngweithiol mewn amgylchedd go iawn.

Mae'r rhaglen hon yn cynnig elfennau o'r ddarpariaeth drwy gyfrwng y Gymraeg.

Sut y caf fy nghefnogi?

Bydd gennych diwtor personol trwy gydol eich astudiaethau a byddwch yn cael cyfarfodydd rheolaidd. Bydd yn rhoi cefnogaeth fugeiliol ac arweiniad academaidd trwy gydol y rhaglen. Yn ogystal â hyn, bydd gennych oruchwyliwr academaidd a fydd yn eich cefnogi wrth i chi ddatblygu eich prosiect ymchwil. Pan fyddwch allan ar leoliad bydd darlithydd clinigol a mentoriaid o'n grŵp staff cymwys yn eich cefnogi.

Mae ein hamgylchedd dysgu rhithwir o fewn cyrraedd drwy ddyfeisiau bwrdd gwaith a symudol, sy'n eich galluogi i gael mynediad at adnoddau electronig o unrhyw le. Mae labordai cyfrifiadurol pwrpasol, ystafelloedd astudio i fyfyrwyr, rhwydweithiau WiFi ar draws y campws, cyfleusterau argraffu a llyfrgell gofal iechyd bwrpasol ar gael drwy gydol y flwyddyn. Mae staff ar gael ar y safle i gynorthwyo myfyrwyr a rhoi cymorth a chyngor.

Mae gan yr Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd fynediad at amrywiaeth o gyfleusterau radiotherapi er mwyn helpu i gefnogi'ch dysgu. Mae'r rhain yn cynnwys ystafell Amgylchedd Rhithwir i Radiotherapi (VERT), ystafell mowldiau, ystafell cynllunio triniaeth a mynediad i uned triniaeth cilofoltedd.

Bydd gennych fynediad, trwy Amgylcheddau Dysgu Rhithwir Dysgu Canolog, at ddeunydd amlgyfrwng perthnasol, cyflwyniadau, taflenni darlithoedd, recordiad o'ch darlithoedd drwy'r system recordio darlithoedd, llyfryddiaethau, dolenni pellach, ymarferion electronig a chylchoedd trafod.

Mae’r Brifysgol yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau sy’n cynnwys y Gwasanaeth Gyrfaoedd, y Gwasanaeth Cwnsela, y Gwasanaeth Anabledd a Dyslecsia, y Gwasanaeth Cefnogi Myfyrwyr, a llyfrgelloedd a chanolfannau adnoddau.

Adborth

Byddwn yn darparu adborth i chi ar eich gwaith mewn amrywiaeth o fformatau. Bydd y rhain yn cynnwys rhoi adborth llafar yn ystod sesiynau tiwtorial, adborth yn ystod darlithoedd, adborth ysgrifenedig drwy fforymau trafod modiwlau ar-lein, ac adborth ysgrifenedig electronig am waith cwrs a asesir drwy Stiwdio Adborth.

Cewch adborth ysgrifenedig crynodol mewn cysylltiad ag arholiadau a gallwch drafod eich perfformiad cyffredinol gyda'ch tiwtor personol. Yn ystod lleoliadau clinigol, bydd mentoriaid/athrawon clinigol yn cefnogi eich cynnydd drwy roi adborth llafar ac ysgrifenedig am eich perfformiad clinigol.

Sut caf fy asesu?

You will be assessed in a variety of ways throughout your study to make sure that you have the opportunity to learn and improve upon your formative assessments and to showcase your skills and knowledge base through different assessment methods.

These include, formal unseen written examinations, electronic examinations, practical examinations, written coursework, a research article, presentations (both group and individual) and posters.  Electronic examinations make use of computers to provide access to diagrams, CT images and radiotherapy treatment plans which are explored through written examination questions.

Practice placements will be assessed through practical demonstration of skills and behaviours across each of the levels.  Throughout level 4 and 5, you will develop a clinical diary which will include, clinical goals, progress record, personal reflections, learning contracts and placement checklists.  The clinical diary will be formatively assessed throughout this time so that you can track your progress and be proactive in determining your practical learning needs.  At level 6, you will continue to develop your clinical diary but at this level, it will form part of your summative assessment for the module.

Pa sgiliau bydda i'n eu hymarfer a'u datblygu?

Gwybodaeth a Dealltwriaeth o:

  • anatomeg, ffisioleg a phatholeg a sut mae hyn yn effeithio ar gynllunio a darparu radiotherapi yn ymarferol;
  • sut mae pelydriadau yn rhyngweithio â mater ac effeithiau hyn ar y corff dynol;
  • canser fel proses y clefyd;
  • amlder a nifer yr achosion o ganser yn y DU (ac ar draws y byd) a sut mae hyn yn llywio'r ddarpariaeth gofal;
  • cyd-destun ehangach oncoleg a rheolaeth cleifion â chanser;
  • technolegau delweddu o fewn y broses radiotherapi;
  • yr amrywiaeth o ddulliau triniaeth sydd ar gael a phryd y gellir defnyddio pob un;
  • dimensiynau seicogymdeithasol gofalu am gleifion a'u teuluoedd yn ystod y broses radiotherapi a thu hwnt;
  • proffesiynoldeb a sut mae hyn yn llywio ymarfer radiograffeg therapiwtig;
  • canllawiau proffesiynol a rheoleiddiol.

Sgiliau Deallusol:

  • Sgiliau datrys problemau
  • Sgiliau ymchwil
  • Sgiliau gwneud penderfyniadau
  • Y gallu i ddadansoddi, gwerthuso a chymhwyso ymarfer sy'n seiliedig ar dystiolaeth

Sgiliau Ymarferol Proffesiynol:

  • Y gallu i weithio fel gweithiwr proffesiynol awtonomaidd sy'n rhoi ei ddyfarniadau proffesiynol ei hun ar waith o fewn cwmpas yr ymarfer yn unol â safonau Ymddygiad, Perfformiad a Moeseg (2016) y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal (HCPC).
  • Dull cyfannol o ddarparu gwasanaeth, sy'n cynnwys gweithio mewn partneriaeth â'r defnyddiwr gwasanaeth wrth gyflwyno ei gynllun gofal unigol.
  • Dadansoddi, dewis, addasu a defnyddio technegau ac arferion delweddu priodol i drin defnyddwyr gwasanaeth yn gywir ac yn effeithiol.
  • Y gallu i addasu i rôl, cyfrifoldebau, arferion gwaith ac amgylcheddau newidiol darpariaeth radiograffeg therapiwtig a dangos arweinyddiaeth ac arloesedd ym maes gofal defnyddwyr gwasanaeth.
  • Sgiliau gwaith tîm effeithiol gyda phob aelod o'r tîm amlbroffesiynol yn ymwneud â gofal defnyddwyr gwasanaeth.

Sgiliau Trosglwyddadwy/Allweddol:

  • Ystod eang o sgiliau cyfathrebu datblygedig ac effeithiol iawn, gan gynnwys ar lafar, yn weledol ac yn ysgrifenedig, gan ddefnyddio dull beirniadol i addasu'r sgiliau hyn er mwyn sicrhau dull cydweithredol o roi gwybodaeth i ystod amrywiol o gynulleidfaoedd, a chael gwybodaeth ganddynt.
  • Sgiliau meddwl a rhesymu yn feirniadol wrth gymhwyso gweithgareddau proffesiynol.
  • Eich gallu i gymryd cyfrifoldeb am eich dysgu gydol oes eich hun o fewn fframwaith Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) ar y cyd â gofynion Cyngor y Proffesiynau Iechyd a Gofal (HCPC).
  • Cydweithio.
  • Myfyrio beirniadol i lywio ymarfer.
  • Arweinyddiaeth.
  • Gwydnwch a'r gallu i addasu.

Gwybodaeth arall

Will this course require a DBS Certificate?

Enrolment on to the course cannot take place until a satisfactory disclosure has been received from the Disclosure and Barring Service. Delay in returning the DBS form may also compromise an applicant's university accommodation options. Those who are known to be travelling overseas at the relevant time should endeavour to authorise another individual to deal with this correspondence on their behalf.

Detailed information will be given to successful applicants with letters offering places. Information on the Disclosure process can be found on the Disclosure and Barring Service website.

All information will be treated in absolute confidence and applicants with convictions to declare will be assessed as to their suitability for the programme to be studied.

Gyrfaoedd a lleoliadau gwaith

Rhagolygon gyrfa

Mae ein cyrsiau’n cynnig cryn dipyn o amser ar gyfleoedd dysgu ymarferol sy'n helpu i ddatblygu hyder, galluoedd a chyflogadwyedd fel gweithiwr proffesiynol gofal iechyd.

Dyna pam aeth 100% o fyfyrwyr a raddiodd gyda BSc mewn Radiotherapi ac Oncoleg yn 2019 ymlaen i gael swydd a/neu astudiaethau chwe mis ar ôl graddio (*UNISTATS 2019).

Gall darpar gyflogwyr gynnwys byrddau iechyd ac Ymddiriedolaethau GIG amrywiol, gwasanaethau iechyd rhyngwladol a sefydliadau addysg uwch.

Gyrfaoedd graddedigion

  • Radiograffydd

Lleoliadau

Bydd myfyrwyr yn ymgymryd â dysgu ar sail ymarfer ym mhob un o dair blynedd y rhaglen a gofynnir iddynt gyflawni hyn mewn adrannau radiotherapi ledled Cymru. Mae hyn yn golygu y bydd disgwyl i chi, mewn unrhyw flwyddyn, ymgymryd â dysgu ar sail ymarfer mewn dwy ganolfan neu fwy. Ceir adrannau yng Nghaerdydd, Gogledd Cymru ac Abertawe ar hyn o bryd. Mae nifer yr wythnosau dysgu ar sail ymarfer yn amrywio trwy gydol y rhaglen a bydd disgwyl i chi fynychu 35 awr ym mhob wythnos a ddyrennir i chi. Mae'r amseru hwn yn rhoi digon o gyfle i fyfyrwyr ddatblygu'r sgiliau sydd eu hangen gyda pheth hyblygrwydd pe bai angen iddynt ad-dalu oriau.

Ym mlynyddoedd 2 a 3 y rhaglen, caiff myfyrwyr y cyfle i ymgymryd â lleoliadau dewisol dramor, os byddent yn dymuno gwneud hynny, er mwyn datblygu eu gwybodaeth a'u dealltwriaeth o ymarfer radiotherapi yn rhyngwladol. Caiff y lleoliadau hyn trafod a'u trefnu gan y myfyriwr unigol gyda chymorth a chyngor gan staff perthnasol y brifysgol. Bydd pob lleoliad yn rhwym wrth brosesau Asesu Risg Lleoliad y Brifysgol.

Camau nesaf

icon-academic

Ymweliadau Diwrnod Agored

Cofrestrwch i gael ein newyddion diweddaraf

icon-international

Rhyngwladol

Mwy o wybodaeth am ein brifysgol fyd-eang

icon-contact

Cysylltwch

Cysylltwch â ni am gymorth ac unrhyw gwestiwn sydd gennych

icon-pen

Sut i wneud cais

Sut i wneud cais am y cwrs hwn


Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.