Cerddoriaeth (BA)
- Maes pwnc: Cerddoriaeth
- Côd UCAS: W300
- Derbyniad nesaf: Medi 2023
- Hyd: 3 blwyddyn
- Modd (astudio): Amser llawn

Pam astudio'r cwrs hwn
Yr offeryn o’ch dewis
Cyrhaeddwch eich llawn botensial drwy hyfforddiant offerynnol sydd wedi'i ariannu'n llawn.
Treuliwch semester dramor
Mentrwch i ddiwylliant newydd; agorwch eich meddwl i syniadau a phrofiadau newydd.
Bywyd fel cerddor teithiol
Cewch flas o'r hyn sy’n bosibl drwy deithio gydag un o'n ensembles.
Interniaethau yn y diwydiant cerddoriaeth
Cysylltwch â cherddorion drwy weithdai cyfansoddi; dosbarthiadau meistr perfformio, a chyfresi o gyngherddau.
Lleoliad gwaith yn y diwydiant cerddoriaeth
Dysgwch am yr hyn sydd gan y diwydiant cerddoriaeth i'w gynnig gyda lleoliad gwaith.
Bydd y rhaglen hyblyg a heriol hon yn rhoi’r cyfle i chi arbenigo a datblygu’ch diddordebau cerddorol eich hun wrth i chi gael addysg eang a chadarn mewn estheteg, dadansoddi, cyfansoddi, ethnogerddoleg, hanes cerddoriaeth a pherfformio.
Yn ogystal â sylfeini allweddol addysg ym maes cerddoriaeth, mae’r rhaglen hon yn cynnig ystod hyblyg ac amrywiol o fodiwlau. Efallai y byddwch hefyd yn gallu astudio pynciau mewn Ysgolion eraill, yn amodol ar argaeledd. Os byddai’n well gennych ganolbwyntio ar gerddoriaeth yn unig, dylech ystyried ein cwrs BMus (sy’n cynnwys cyfansoddi a pherfformio fel prif brosiectau yn y drydedd flwyddyn) fel dewis arall.
At hynny, cewch eich annog i ymuno ag ensembles cerddorol a arweinir gan ein Hysgol, gan gynrychioli ystod eang o repertoires a thraddodiadau cerddorol.

Maes pwnc: Cerddoriaeth
Gofynion mynediad
Rydym yn derbyn cyfuniad o gymwysterau Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn ogystal â chymwysterau rhyngwladol cyfatebol yn amodol ar ofynion mynediad. Dyma ein cynigion nodweddiadol:
Lefel A
AAB-BBB. Rhaid i'r rhain gyynnwys Cerddoriaeth.
Bydd ymgeiswyr heb Safon Uwch mewn Cerddoriaeth yn cael eu hystyried fesul achos i bennu lefelau priodol o berfformiad cerddoriaeth a sgiliau theori (fel Theori Cerddoriaeth Gradd 6/7).
Cymhwyster Prosiect Estynedig/Rhynglwadol: Fel arfer, bydd ymgeiswyr sydd wedi ennill gradd A yn y Cymhwyster Prosiect Estynedig/Rhyngwladol yn cael cynnig un radd yn is na'r cynnig safonol ar gyfer Safon Uwch. Sylwer bod yn rhaid bodloni unrhyw ofynion sy'n benodol i'r pwnc o hyd.
Mae'r radd hon yn adlewyrchu ein cynigion safonol a chyd-destunol nodweddiadol. Rydym yn ystyried eich data cyd-destunol (yr amgylchiadau yr ydych wedi bod yn astudio ynddynt) yn ofalus mewn cais. Bydd myfyrwyr cymwys sy'n gwneud cais ar gyfer y cwrs hwn yn cael cynnig ym mhen isaf yr amrediad graddau a hysbysebir.
Y Fagloriaeth Rhyngwladol
32-31 yn gyffredinol neu 665 mewn 3 phwnc Lefel Uwch. Rhaid i’r rhain gynnwys gradd 6 mewn Mathemateg Lefel Uwch.
Bydd ymgeiswyr heb Safon Uwch mewn Cerddoriaeth yn cael eu hystyried fesul achos i bennu lefelau priodol o berfformiad cerddoriaeth a sgiliau theori (fel Theori Cerddoriaeth Gradd 6/7).
Bagloriaeth Cymru
O fis Medi 2023, bydd cymhwyster newydd o'r enw Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru (lefel 3). Bydd y cymhwyster hwn yn disodli'r Dystysgrif Her Sgiliau Uwch (Bagloriaeth Cymru). Bydd y cymhwyster yn parhau i gael ei dderbyn yn lle un Safon Uwch (ar y graddau a restrir uchod), ac eithrio unrhyw bynciau penodol.
Cymwysterau o'r tu allan i'r DU
BTEC
DDM mewn Diploma Estynedig BTEC mewn Cerddoriaeth.
Bydd ymgeiswyr heb BTEC mewn Cerddoriaeth yn cael eu hystyried fesul achos i bennu lefelau priodol o berfformiad cerddoriaeth a sgiliau theori (fel Theori Cerddoriaeth Gradd 6/7).
Lefel T
Bydd yr Ysgol Academaidd yn ystyried derbyn Lefelau T ar gyfer y rhaglen hon fesul achos. Rhoddir ystyriaeth i'r radd / pwnc Lefel T a'r graddau/pynciau a gyflawnir ar lefel TGAU/Lefel 2.
Gofynion mynediad ychwanegol
Gofynion Iaith Saesneg
GCSE
Gradd C neu radd 4 mewn TGAU Iaith Saesneg.
IELTS (academic)
O leiaf 6.5 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob is-sgil.
TOEFL iBT
O leiaf 90 ar y cyfan gyda sgôr o 17 o leiaf ar gyfer ysgrifennu, 17 ar gyfer gwrando, 18 ar gyfer darllen a 20 ar gyfer siarad.
PTE Academic
O leiaf 62 ar y cyfan gydag o leiaf 59 yn yr holl sgiliau cyfathrebu.
Trinity ISE II/III
II: dau Ragoriaeth a dau Deilyngdod o leiaf.
III: o leiaf Llwyddo ym mhob cydran.
Cymwysterau eraill a dderbynnir
Os ydych yn ymgeisydd tramor ac nid Saesneg yw eich iaith gyntaf, ewch i'n tudalen am ofynion Iaith Saesneg i gael rhagor o wybodaeth am ba gymwysterau y byddwn yn eu derbyn.
Gofynion eraill
Rhaid i chi fod yn meddu ar y canlynol neu’n gweithio tuag atynt:
- TGAU Iaith Saesneg neu Gymraeg gradd C/4 neu gyfwerth (fel Safon Uwch). Os oes angen fisa Myfyriwr arnoch, rhaid i chi sicrhau bod eich cymhwyster iaith yn cydymffurfio â gofynion UKVI.
- TGAU Mathemateg gradd C/4 neu gymhwyster cyfatebol (pwnc a gradd). Os ydych chi'n gwneud Mathemateg Safon Uwch (neu gyfwerth), nid oes angen TGAU Mathemateg. Gellir derbyn Mathemateg Craidd hefyd yn lle TGAU Mathemateg.
- gradd 8 Cerddoriaeth Ymarferol mewn offeryn neu lais.
Nid ydym yn derbyn Meddwl yn Feirniadol, Astudiaethau Cyffredinol, Astudiaethau Dinasyddiaeth, na phynciau eraill tebyg neu gyfatebol.
Byddwn yn derbyn cyfuniad o bynciau BTEC, Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn amodol ar ofynion gradd a phwnc penodol y cwrs.
Euogfarnau troseddol
Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Gwahardd Datgelu) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn.
Os ydych chi'n destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro ar hyn o bryd a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau'ch astudiaethau yn llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu'ch cofnod troseddol. Mae'r amodau'n cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:
- mynediad at gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
- defnyddio offer / dyfeisiau rhyngrwyd a chyfathrebu
- cyrffyw
- rhyddid i symud, gan gynnwys y gallu i deithio i'r tu allan i'r DU neu i ymgymryd â lleoliad / astudiaethau y tu allan i Brifysgol Caerdydd
- cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.
Cewch ragor o wybdoaeth am y broses ymgeisio yn ein polisïau derbyn myfyrwyr.
Y broses ddethol neu gyfweld
Ar ôl i chi wneud cais, byddwn yn eich gwahodd i un o bum diwrnod clyweliad a chyfweliad, a gynhelir rhwng mis Tachwedd a mis Chwefror.
Yn y clyweliad
Cynhelir clyweliadau gan aelodau staff. Byddwn yn gofyn i chi ganu neu berfformio ar eich prif offeryn am tua phum munud. Chi sydd i ddewis eich repertoire, a byddwn yn seilio ein hasesiad o'ch perfformiad ar safonau mynegiannol a thechnegol cyffredinol.
Bydd cyfweliad byr yn dilyn lle y gallwn eich holi am y gerddoriaeth a berfformiwyd gennych, eich diddordebau cerddorol a'ch profiad. Nid profi eich gwybodaeth ffeithiol na barnu eich hoff a'ch cas bethau fydd y nod; diben ein cyfweliadau yw yn ein galluogi i ddod i'ch adnabod yn well a rhoi cyfle i chi ofyn cwestiynau a dangos i ni beth sydd o ddiddordeb i chi.
Mae penderfyniad terfynol y tiwtor derbyn yn seiliedig ar adroddiad y cyfweliad a'r cais UCAS.
Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2023
Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.
Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd
Ffioedd am statws cartref
Rydym yn aros am gadarnhad o'r ffioedd dysgu ar gyfer blwyddyn academaidd 2023/24. Ffioedd dysgu y flwyddyn flaenorol oedd £9,000.
Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir
Rydym yn aros am gadarnhad o'r ffioedd dysgu ar gyfer blwyddyn academaidd 2023/24.
Ffioedd am statws ynys
Dysgwch ragor am ffioedd israddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.
Ffioedd am statws tramor
Rydym yn aros am gadarnhad o'r ffioedd dysgu ar gyfer blwyddyn academaidd 2023/24.
Costau ychwanegol
Cyfarpar ar gyfer cwrs penodol
Oni bai am eich prif offeryn astudio, ni fydd angen unrhyw offer penodol.
Llety
Mae gennym amrywiaeth o breswylfeydd sydd yn gweddu i anghenion a phoced yr unigolyn. Cewch wybod rhagor ar ein tudalennau llety.
Costau byw
Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.
Strwythur y cwrs
Rydym yn gweithio gyda'n myfyrwyr ar hyn o bryd yn diweddaru ac yn gwella cynnwys y cwrs hwn. Mae'r wybodaeth isod yn adlewyrchu'r cwricwlwm presennol a fydd yn newid yn ôl pob tebyg. Disgwylir i ni fod wedi gorffen adolygu'r cwrs erbyn mis Awst 2023. Bydd y dudalen hon wedi'i diweddaru erbyn mis Hydref 2023 i ddangos y newidiadau.
Gradd tair blynedd amser llawn yw hon, yn cynnwys 120 credyd y flwyddyn. Mae pob blwyddyn yn cael ei rhannu i semester hydref a semester gwanwyn ac mae ganddi strwythur modiwlaidd. Mae mwyafrif y modiwlau’n werth 10 neu 20 credyd.
Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2023/2024. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2023
Blwyddyn un
Mae’r flwyddyn gyntaf mewn Cerddoriaeth yn gosod y sylfeini i’ch paratoi i fanteisio ar fuddion creadigol a deallusol addysg uwch.
Mae’r modiwlau sydd ar gael yn canolbwyntio ar sgiliau sylfaenol gallu cerddorol llythrennog: harmoni a gwrthbwynt, gallu cerddorol, ymwybyddiaeth hanesyddol ac arddulliadol o genres a thraddodiadau cerddorol, a sgiliau o ran ymchwil ac ysgrifennu am gerddoriaeth. Ceir hefyd fodiwlau mewn cyfansoddi, hanes cerddoriaeth ac ethnogerddoleg.
Byddwch yn dilyn isafswm o 80 o gredydau ac uchafswm o 120 o gredydau mewn Cerddoriaeth ym mlwyddyn un. Gall myfyrwyr ar y cwrs hwn ddewis astudio modiwlau y tu hwnt i faes Cerddoriaeth, yn amodol ar argaeledd.
Sylwer bod rhai modiwlau yn 'rhagofynion' sy'n rhoi paratoad hanfodol ar gyfer modiwlau mwy datblygedig os ydych chi’n dymuno eu dilyn mewn blynyddoedd diweddarach.
I ategu eich astudiaeth academaidd, cewch eich annog yn weithredol i ymuno â’r nifer o ensembles a gynhelir gan yr Ysgol Cerddoriaeth neu a arweinir gan y myfyrwyr. Mae ensembles yr ysgol yn archwilio amrywiaeth o repertoires a thraddodiadau clasurol, jazz, cyfoes nad ydynt yn orllewinol.
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Composition 1A | MU1107 | 10 Credydau |
Elements of Tonal Music 1 | MU1125 | 20 Credydau |
The Full Works | MU1128 | 20 Credydau |
From Page to Stage: Dramaturgy in Musical Theatre | MU1129 | 10 Credydau |
Composition 1B | MU1208 | 10 Credydau |
Elements of Tonal Music 2 | MU1227 | 20 Credydau |
Ethnomusicology 1: Music in Human Life | MU1233 | 10 Credydau |
Rewinding Pop | MU1234 | 10 Credydau |
Practical Musicianship 1 | MU1314 | 10 Credydau |
Repertoire Studies | MU1317 | 20 Credydau |
Practical Portfolio I | MU1319 | 10 Credydau |
Blwyddyn dau
Ym mlwyddyn dau, byddwch yn astudio ar lefel uwch a chewch y cyfle i atgyfnerthu eich cryfderau wrth barhau â’ch gweithgareddau mewn amrywiaeth o ddisgyblaethau, gan ddewis modiwlau o bedwar grŵp: cyfansoddi ac astudiaethau electroacwstig, dawn gerddorol ysgrifenedig ac ymarferol, sgiliau dadansoddol a beirniadol, ac astudiaethau hanesyddol.
Lluniwyd ein modiwlau blwyddyn dau, Busnes Cerddoriaeth, i’ch helpu i ddeall gwahanol ganghennau o’r proffesiwn cerddoriaeth yn well ac i roi cyfle i chi gael lleoliad gwaith byr mewn maes sy’n ymwneud â cherddoriaeth neu’r celfyddydau, naill ai mewn un bloc neu ar ffurf cyfres o ymweliadau rheolaidd â gweithle.
Byddwch yn astudio isafswm o 100 o gredydau mewn Cerddoriaeth ym mlwyddyn dau, a gallwch ddewis astudio modiwlau y tu hwnt i faes Cerddoriaeth, yn amodol ar argaeledd.
Blwyddyn tri
Ym mlwyddyn tri, byddwch chi unwaith eto’n dewis o blith y pedwar grŵp pwnc, a gallwch ddilyn un o'r tri phrosiect academaidd 30 o gredydau o bwys: Traethawd Hir, Prosiect mewn Ethnogerddoreg, neu Brosiect mewn Dadansoddi Cerddoriaeth.
Byddwch yn astudio isafswm o 100 o gredydau mewn Cerddoriaeth ym mlwyddyn tri, a gallwch ddewis astudio modiwlau y tu hwnt i faes Cerddoriaeth, yn amodol ar argaeledd.
Yn wahanol i fyfyrwyr BMus, nid yw opsiynau portffolio 30 credyd na pherfformiad cyhoeddus ar gael i fyfyrwyr BA, ond gallant gwblhau portffolio cyfansoddi byrrach (Cyfansoddiad IV) (20 credyd) a/neu ddatganiad 'agored' gerbron arholwyr a chynulleidfa a wahoddwyd (Gallu Cerddorol Ymarferol IV).
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Women in 19th Century Music | MU3117 | 20 Credydau |
Challenging Tradition: Counterpoint from Bartok to Bartsch | MU3120 | 20 Credydau |
Ensemble | MU3138 | 20 Credydau |
Studio Techniques 2: Audio and Hard Disk Recording | MU3163 | 20 Credydau |
Nineteenth Century Italian Opera | MU3214 | 20 Credydau |
Performance Practice and Organology the Long Seventeenth Century, 1550-1700 | MU3285 | 20 Credydau |
Jazz, Culture and Politics | MU3287 | 20 Credydau |
Practical Portfolio 3 | MU3301 | 20 Credydau |
Practical Musicianship 3 | MU3302 | 20 Credydau |
Dissertation | MU3351 | 40 Credydau |
Composition 3 | MU3353 | 40 Credydau |
Project in Music Analysis | MU3357 | 40 Credydau |
Project in Ethnomusicology | MU3358 | 40 Credydau |
Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle'n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.
Dysgu ac asesu
Cewch eich addysgu gan staff academaidd gydag arbenigedd ar draws cyfansoddi, perfformio, cerddoleg, ethnogerddoreg a cherddoriaeth boblogaidd.
Mae eich hyfforddiant offerynnol yn cael ei ariannu'n llawn gan yr Ysgol ar gyfer y prif offeryn yr ydych chi’n ei astudio, os ydych chi'n astudio modiwl Sgiliau Cerddorol Ymarferol. Mae hyn yn cynnwys cyfeiliant yn eich datganiad terfynol. Byddwch yn cael 24 gwers hanner awr yn ystod y flwyddyn.
Rydyn ni’n defnyddio amrywiaeth o arddulliau addysgu a dysgu, gan gynnwys darlithoedd, seminarau a gweithdai mewn grwpiau bach, sesiynau tiwtorial unigol, hyfforddiant offerynnol ensemble, ymarferion ac astudio annibynnol.
Sut y caf fy nghefnogi?
Ar ddechrau pob blwyddyn byddwch yn cael canllaw i nodau modiwlau, deilliannau dysgu, dulliau asesu, meysydd llafur modiwlau, a rhestrau darllen a gwrando. Bydd y tiwtoriaid personol a ddyrennir i chi yn gallu rhoi cyngor ac arweiniad ar ddewis modiwlau a byddwch yn cael cyfarfodydd rheolaidd gyda nhw.
Ar gyfer prosiectau’r flwyddyn olaf, byddwch yn cael goruchwyliwr i fonitro cynnydd a darparu ymgynghoriadau unigol trwy drefniant.
Trwy wefan Dysgu Canolog, byddwch yn gallu cael gafael ar ddeunydd amlgyfrwng perthnasol, cyflwyniadau, taflenni darlithoedd, llyfryddiaethau, dolenni pellach, ymarferiadau electronig a chylchoedd trafod.
Mae’r Brifysgol yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau sy’n cynnwys y Gwasanaeth Gyrfaoedd, y Gwasanaeth Cwnsela, y Gwasanaeth Anabledd a Dyslecsia, y Gwasanaeth Cefnogi Myfyrwyr, a llyfrgelloedd a chanolfannau adnoddau ardderchog.
Sut caf fy asesu?
Mae'r dulliau asesu yn amrywio o fodiwl i fodiwl a gallent gynnwys aseiniadau traethawd, cyflwyniadau, prosiectau estynedig, perfformiadau ac arholiadau ysgrifenedig.
Pa sgiliau bydda i'n eu hymarfer a'u datblygu?
Byddwch yn caffael ac yn datblygu amrywiaeth o sgiliau gwerthfawr, yn rhai penodol i’r ddisgyblaeth a ‘sgiliau cyflogadwyedd’ mwy cyffredinol, fel:
- llythrennedd datblygedig
- llythrennedd cyfrifiadurol
- sgiliau beirniadol (rhesymu, gwerthuso tystiolaeth, datrys problemau, cysylltu theori ac ymarfer)
- sgiliau cyfathrebu ar lafar ac yn ysgrifenedig
- ymdopi ag ansicrwydd/cymhlethdod
- creadigrwydd a meddwl yn arloesol.
- sgiliau fel arweinyddiaeth, gwaith tîm a hunan-reoli, yn rhan annatod o weithgareddau cerddorol ymarferol
- nodi, cofnodi a chyfleu eich cyraeddiadau gyrfa perthnasol.
Gyrfaoedd a lleoliadau gwaith
Rhagolygon gyrfa
Mae'r sgiliau sy'n cael eu datblygu drwy ddilyn gradd mewn Cerddoriaeth yn helpu'n myfyrwyr i symud ymlaen i amrywiaeth o yrfaoedd, yn y proffesiwn cerddoriaeth a thu hwnt.
Mae graddedigion wedi mynd ymlaen i gael gyrfa gyda’r BBC, Cynghorau Celfyddydau, Glyndebourne Opera, Opera Cenedlaethol Lloegr, prifysgolion, Oxford University Press, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, a’r London Symphony Orchestra, ynghyd ag amrywiaeth o sefydliadau diwydiannol, masnachol, addysgol ac elusennol eraill.
Mae sgiliau cyflogadwyedd yn rhan o'r modiwlau yn yr Ysgol Cerddoriaeth fel eich bod yn dysgu sgiliau sy'n benodol i gerddoriaeth a sgiliau academaidd hefyd y mae modd eu trosglwyddo i feysydd eraill, yn enwedig i'r gweithle. Mae ein modiwlau ar gyfer yr ail flwyddyn ar Fusnes Cerddoriaeth wedi'u cynllunio i'ch helpu i ddeall y gwahanol ganghennau yn y proffesiwn cerddoriaeth yn well. Maen nhw hefyd yn rhoi cyfle i chi gael lleoliad gwaith byr mewn maes sy'n gysylltiedig â cherddoriaeth neu'r celfyddydau.
Mae ein cyfres flynyddol o sgyrsiau ar Yrfaoedd mewn Cerddoriaeth yn gyfle gwych i chi gwrdd â phobl broffesiynol mewn amryw feysydd fel perfformio, addysg cerddoriaeth, newyddiaduraeth cerddoriaeth, rheoli’r celfyddydau ac artistiaid, cynhyrchu a thrwyddedu, a chyfansoddi ar gyfer y cyfryngau.
Gyrfaoedd graddedigion
- Cerddor
- Athro
- Newyddiadurwr cerddoriaeth
- Cynhyrchydd
- Gweinyddwr y Celfyddydau
- Llyfrgellydd Cerddoriaeth
Lleoliadau
Mae modiwlau Blwyddyn dau ar Fusnes Cerddoriaeth I/II yn rhoi cyfle am leoliad gwaith byr, naill ai mewn un bloc neu fel cyfres o ymweliadau rheolaidd â gweithle.
Astudio yn Gymraeg
Camau nesaf
Ymweliadau Diwrnod Agored
Cofrestrwch ar gyfer gwybodaeth am ein dyddiadau yn 2021
Rhyngwladol
Mwy o wybodaeth am ein brifysgol fyd-eang
Cysylltwch
Cysylltwch â ni am gymorth ac unrhyw gwestiwn sydd gennych
Sut i wneud cais
Sut i wneud cais am y cwrs hwn
Rhagor o wybodaeth
Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.