Ewch i’r prif gynnwys

Economeg (BSc Econ)

  • Maes pwnc: Economeg
  • Côd UCAS: L100
  • Derbyniad nesaf: Medi 2024
  • Hyd: 3 blwyddyn
  • Modd (astudio): Amser llawn

Pam astudio'r cwrs hwn

book

Dysgu gan y gorau

Manteisiwch ar arbenigedd a chefnogaeth staff sy’n cynnal ymchwil mewn ysgol sydd â'r sgôr uchaf posibl ar gyfer amgylchedd ymchwil.

location

Wedi'i deilwra i’ch diddordebau

Arbenigwch mewn economeg ddiwydiannol, hanes economaidd, economeg llafur neu economeg ryngwladol.

building

Ystafell fasnachu o’r radd flaenaf

Paratowch eich hun ar gyfer masnachu a rheoli risg mewn amgylchedd rheoledig gydag Investor Simulations, TRETS a Bloomberg.

briefcase

Cyfleoedd am leoliad gwaith

Datblygwch y sgiliau, yr hyder a’r cysylltiadau i gyflymu eich gyrfa.

certificate

Nodwyd am ragoriaeth

Achrededig gan y Gymdeithas er Hyrwyddo Ysgolion Busnes Colegol (AACSB).

O Brexit a Threth Ystafell Wely i gyflogau a chyfoeth, yr amgylchedd ac ynni i iechyd a’r digartref, prin yw’r dylanwad fu gan economegwyr erioed yng nghyfeiriad a’r drafodaeth ynghylch materion sy’n effeithio ar gymunedau’r byd.

Does dim syndod felly, bod cyflogwyr yn cynnig gyrfaoedd â chyflog uchel i raddedigion ledled y sector cyhoeddus, busnes, bancio, cyfrifeg ac ymgynghori i’r rhai hynny sydd ag arbenigedd economaidd.

Mae ein BScEcon Economeg yn ceisio darganfod cenhedlaeth newydd o feddylwyr economaidd.

Bydd ein cyfadran dan arweiniad ymchwil yn eich annog i ystyried goblygiadau cymdeithasol, economaidd a moesegol eich penderfyniadau ar fodiwlau mewn economeg llafur, datblygiad, moeseg a moesoldeb.

Gyda’u cefnogaeth, byddwch yn trosi theori yn ymarfer ac yn chwilio am atebion i amrywiaeth o faterion cymdeithasol a gwleidyddol, wrth baratoi ar gyfer gyrfaoedd mewn busnes, bancio a rolau ymgynghori neu astudio ôl-raddedig a doethurol.

Achrediadau

Maes pwnc: Economeg

  • academic-schoolYsgol Busnes Caerdydd
  • icon-chatGofyn cwestiwn
  • Telephone+44 (0)29 2087 4674
  • MarkerRhodfa Colum, Cathays, Caerdydd, CF10 3EU

Gofynion mynediad

Rydym yn derbyn cyfuniad o gymwysterau Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn ogystal â chymwysterau rhyngwladol cyfatebol yn amodol ar ofynion mynediad. Dyma ein cynigion nodweddiadol:

Lefel A

AAB-ABB. Rhaid i’r rhain gynnwys Mathemateg.

Cymhwyster Prosiect Estynedig/Rhynglwadol: Fel arfer, bydd ymgeiswyr sydd wedi ennill gradd A yn y Cymhwyster Cymhwyster Prosiect Estynedig/Rhyngwladol: Bydd ymgeiswyr sydd â gradd A mewn Cymhwyster Prosiect Estynedig (EPQ)/Cymhwyster Prosiect Rhyngwladol (IPQ) fel arfer yn derbyn cynnig un radd yn is na'r cynnig safonol. Sylwch fod yn rhaid parhau i fodloni unrhyw ofynion penodol pwnc.

Mae ein hystod gradd yn cwmpasu ein cynnig safonol a'n cynnig cyd-destunol. Rydym yn ystyried yn ofalus yr amgylchiadau rydych chi wedi bod yn astudio (eich data cyd-destunol) ar gais.

  • Bydd myfyrwyr cymwys yn cael cynnig y rhan isaf yn yr ystod gradd a hysbysebir.
  • Lle nad oes ystod gradd yn cael ei hysbysebu a/neu lle mae prosesau dethol yn eu lle (fel cyfweliad) efallai y byddwch yn derbyn pwyntiau ychwanegol yn y broses ddethol neu'n sicr o gael cyfweliad/ystyriaeth.

Dysgwch am gyrsiau cymwys a sut mae data cyd-destunol yn cael ei gymhwyso.

Y Fagloriaeth Rhyngwladol

34-32 yn gyffredinol neu 666-665 mewn 3 phwnc Lefel Uwch. Rhaid i’r rhain gynnwys gradd 6 mewn Bioleg Lefel Uwch.

Bagloriaeth Cymru

O fis Medi 2023, bydd cymhwyster newydd o'r enw Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru (lefel 3). Bydd y cymhwyster hwn yn disodli'r Dystysgrif Her Sgiliau Uwch (Bagloriaeth Cymru). Bydd y cymhwyster yn parhau i gael ei dderbyn yn lle un Safon Uwch (ar y graddau a restrir uchod), ac eithrio unrhyw bynciau penodol.

Rhaid i chi fod yn meddu ar y canlynol neu’n gweithio tuag atynt:
- TGAU Iaith Saesneg neu Gymraeg gradd C/4 neu gyfwerth (fel Safon Uwch). Os oes angen fisa Myfyriwr arnoch, rhaid i chi sicrhau bod eich cymhwyster iaith yn cydymffurfio â gofynion UKVI.

Nid ydym yn derbyn Meddwl yn Feirniadol, Astudiaethau Cyffredinol, Astudiaethau Dinasyddiaeth, na phynciau eraill tebyg neu gyfatebol.
Byddwn yn derbyn cyfuniad o bynciau BTEC, Safon Uwch, a chymwysterau eraill, yn amodol ar ofynion gradd a phwnc penodol y cwrs.

GCSE

Gradd C neu radd 4 mewn TGAU Iaith Saesneg.

IELTS (academic)

O leiaf 6.5 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob is-sgil.

TOEFL iBT

O leiaf 90 yn gyffredinol gydag o leiaf 17 ar gyfer ysgrifennu, 17 am wrando, 18 ar gyfer darllen, ac 20 ar gyfer siarad.

PTE Academic

O leiaf 69 ar y cyfan gydag o leiaf 59 yn yr holl sgiliau cyfathrebu.

Trinity ISE II/III

II: dau Ragoriaeth a dau Deilyngdod o leiaf.
III: o leiaf Llwyddo ym mhob cydran.

Cymwysterau eraill a dderbynnir

Os ydych yn ymgeisydd tramor ac nid Saesneg yw eich iaith gyntaf, ewch i'n tudalen am ofynion Iaith Saesneg i gael rhagor o wybodaeth am ba gymwysterau y byddwn yn eu derbyn.

Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Gwahardd Datgelu) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn.

Os ydych chi'n destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro ar hyn o bryd a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau'ch astudiaethau yn llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu'ch cofnod troseddol. Mae'r amodau'n cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • mynediad at gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
  • defnyddio offer / dyfeisiau rhyngrwyd a chyfathrebu
  • cyrffyw
  • rhyddid i symud
  • cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.

Cymwysterau o'r tu allan i'r DU

BTEC

DD mewn Diploma BTEC mewn Busnes, a gradd B mewn Mathemateg Safon Uwch.

Lefel T

Nid ydym yn derbyn Lefelau T ar gyfer y rhaglen hon.

Cymwysterau eraill o'r tu mewn i'r DU

Gweld ein arweiniad i gymwysterau cyfatebol

Cewch ragor o wybdoaeth am y broses ymgeisio yn ein polisïau derbyn myfyrwyr.

Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2024

Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.

Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd

Ffioedd am statws cartref

Blwyddyn Ffioedd dysgu Blaendal
Blwyddyn un £9,000 Dim
Blwyddyn dau £9,000 Dim
Blwyddyn tri £9,000 Dim

Mae'r Brifysgol yn cadw'r hawl i gynyddu ffioedd dysgu yn yr ail flwyddyn a blynyddoedd dilynol y cwrs yn unol â'r gyfraith neu bolisi Llywodraeth Cymru. Lle bo'n berthnasol, byddwn yn eich hysbysu o unrhyw newidiadau yn y ffioedd dysgu erbyn diwedd mis Mehefin yn y flwyddyn academaidd cyn i'r ffioedd gynyddu.

Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir

Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2022/23 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.

Ffioedd am statws ynys

Dysgwch ragor am ffioedd israddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.

Ffioedd am statws tramor

Blwyddyn Ffioedd dysgu Blaendal
Blwyddyn un £22,700 Dim
Blwyddyn dau £22,700 Dim
Blwyddyn tri £22,700 Dim

Rhagor o wybodaeth am ein ffioedd dysgu

Cymorth ariannol

Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.

Costau ychwanegol

Llety

Mae gennym amrywiaeth o breswylfeydd sydd yn gweddu i anghenion a phoced yr unigolyn. Cewch wybod rhagor ar ein tudalennau llety.

Costau byw

Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.

Strwythur y cwrs

Mae'r cwrs Economeg yn gwrs astudio amser llawn tair blynedd, sy'n cynnwys modiwlau gorfodol a dewisol. Byddwch fel arfer yn ennill 120 credyd bob blwyddyn a 360 i gyd.

Mae cyfran sylweddol o fodiwlau’r rhaglen yn cael eu haddysgu gan Adran Economeg yr Ysgol tra bod rhai modiwlau, yn enwedig ym mlwyddyn 1, yn cael eu haddysgu gan adrannau eraill o'r Ysgol.

Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2024/2025. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2024

Blwyddyn un

Byddwch yn mynd i'r afael â hanfodion dadansoddi economaidd drwy astudio economeg ficro a macro ac yn dysgu sgiliau dadansoddi meintiol allweddol.

Gallwch ddarganfod sut mae eich sgiliau dadansoddi'n croestorri â chyfrifeg, y gyfraith, marchnata a strategaeth, materion economaidd hanesyddol a chyfoes.

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Stats Cymhwysol a Mathemateg mewn Econ a BusnesBS150120 Credydau
Hanes EconomaiddBS154620 Credydau
Micro-economegBS155120 Credydau
Macro-economegBS165220 Credydau

Blwyddyn dau

Byddwch yn cyfuno theori ac ymarfer wrth i'ch dealltwriaeth o'r hanfodion ddatblygu.

Byddwch yn dechrau gwerthfawrogi'r theori sy’n sail i ddadansoddi economaidd ac yn ymarfer technegau empirig a ddefnyddir gan economegwyr i fynd i'r afael â heriau gwleidyddol, cymdeithasol, amgylcheddol a rheoli cyfredol.

Ffocws ar economeg, rheolaeth neu gyllid Prydain ac Ewrop i ategu eich sgiliau dadansoddi cynyddol.

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Theori macro-economaiddBS254920 Credydau
Theori Micro-economaiddBS255020 Credydau
Econometreg RhagarweiniolBS257020 Credydau
Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Economi PrydainBS254720 Credydau
Bancio Arian a ChyllidBS255120 Credydau
Economeg yr UEBS255820 Credydau
Rheolaeth EconomegBS256020 Credydau
Wladwriaeth, Busnes ac Economi Prydain yn yr 20fed GanrifBS257220 Credydau

Blwyddyn tri

Profwch eich gwybodaeth wrth i chi feistroli cymhwyso dadansoddi economaidd micro a macro.

Byddwch yn mireinio eich gallu i wneud penderfyniadau gyda chymorth modelau cyfrifiadurol i ganfod datrysiadau rhesymegol i heriau soffistigedig.

Gallwch deilwra eich gradd i’ch dyheadau gyrfaol gyda modiwlau dewisol mewn economeg llafur, lles cymdeithasol, masnach, datblygu a diwydiant.

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
EconometricsBS355120 Credydau
Economeg AriannolBS355420 Credydau
Cyllid RhyngwladolBS355520 Credydau
Hanes Economaidd RhyngwladolBS355620 Credydau
Economeg LlafurBS355820 Credydau
Masnach RyngwladolBS356820 Credydau
Economeg DiwydiannolBS357220 Credydau
Ystadegau Economaidd mewn Theori ac YmarferBS357820 Credydau
Economeg DatblyguBS359520 Credydau

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle'n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Dysgu ac asesu

Caiff ein dulliau addysgu eu llywio’n helaeth gan ymchwil ac maen nhw’n cyfuno manylrwydd academaidd gyda pherthnasedd ymarferol. Tra bo ein staff, a gaiff eu cydnabod yn rhyngwladol, yn cynnwys academyddion sydd ar flaen y gad o ran gwybodaeth o fewn eu maes. Maen nhw’n dod â’r gwersi maen nhw wedi eu dysgu o’u hymchwil diweddaraf i’r ystafell ddosbarth, gan eich galluogi i feddwl yn feirniadol am fusnes a chynnig enghreifftiau a senarios go iawn a chyfoes.

Byddwn yn darparu eich adnoddau addysgu a dysgu, ac yn ymateb i’ch anghenion a’ch safbwyntiau. O'ch rhan chi, bydd gofyn i chi wneud y gwaith angenrheidiol yn ystod a thu allan i’r sesiynau addysgu ffurfiol, a gwneud defnydd da o'r cyfleusterau a ddarperir.

Mae'r rhan fwyaf o fodiwlau yn cynnwys cymysgedd o ddarlithoedd ac addysgu mewn grwpiau bach (dosbarthiadau, seminarau, gweithdai neu sesiynau tiwtorial).

Mae darlithoedd yn darparu trosolwg o gysyniadau a fframweithiau allweddol pwnc, gan eich paratoi chi ar gyfer ymgymryd â gwaith ymchwil annibynnol ar gyfer y seminarau a datblygu eich syniadau eich hunan. Mae seminarau’n rhoi cyfle i chi ymchwilio i’r syniadau a gafodd eu hamlinellu yn y darlithoedd. Gall ffurf y seminarau amrywio, gan gynnwys trafodaeth grŵp sy’n cynnwys pawb, gwaith mewn grwpiau bach a chyflwyniadau sy’n cael eu harwain gan y myfyrwyr.

Sut y caf fy nghefnogi?

Byddwch yn cael tiwtor personol ar ddechrau eich astudiaethau. Fel arfer, bydd eich tiwtor personol Cymraeg yn addysgu ar eich cwrs gradd chi a byddwch yn cadw’r un tiwtor personol drwy gydol eich cwrs.

Bydd eich tiwtor personol yn gallu rhoi cyngor i chi ar faterion academaidd, gan gynnwys dewis modiwlau ac asesu. Os ydych yn profi unrhyw broblemau sy'n effeithio ar eich astudiaethau, eich tiwtor personol yw eich pwynt cyswllt cyntaf bob tro. Bydd ef neu hi yn gallu eich rhoi mewn cysylltiad ag ystod eang o wasanaethau cymorth arbenigol ar gyfer myfyrwyr a ddarperir gan y Brifysgol, ac Undeb y Myfyrwyr, fel y bo'n briodol. Bydd gofyn i chi gyfarfod â’ch tiwtor personol dair gwaith yn ystod pob blwyddyn academaidd, ond fe’ch anogir hefyd i gysylltu â nhw ar unrhyw adeg arall os oes angen help neu gyngor arnoch chi.

I gael gwybodaeth gyffredinol, mae staff ein Hwb Myfyrwyr Israddedig ar gael, yn bersonol, dros y ffôn neu trwy ebost, rhwng 8am a 6pm bob dydd o'r wythnos yn ystod y tymor i ateb eich cwestiynau.

Trwy wefan Dysgu Canolog, byddwch yn gallu cael gafael ar ddeunydd amlgyfrwng perthnasol, cyflwyniadau, taflenni darlithoedd, llyfryddiaethau, dolenni pellach, ymarferiadau electronig a chylchoedd trafod.

Mae’r Brifysgol yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau sy’n cynnwys y Gwasanaeth Gyrfaoedd, y Gwasanaeth Cwnsela, y Gwasanaeth Anabledd a Dyslecsia, y Gwasanaeth Cefnogi Myfyrwyr, a llyfrgelloedd a chanolfannau adnoddau ardderchog.

Adborth

Byddwn yn rhoi adborth i chi ar eich gwaith yn rheolaidd. Cyflwynir adborth mewn amrywiaeth o fformatau gan gynnwys adborth ar lafar, adborth personol ar waith ysgrifenedig, ac adborth ysgrifenedig cyffredinol.

Byddwch yn cael adborth cyffredinol ar ôl pob cyfnod arholiadau a byddwch yn gallu trafod eich perfformiad cyffredinol gyda'ch tiwtor personol.

Sut caf fy asesu?

Assessment methods vary from module to module but, across your degree scheme as a whole, you can expect a mixture of exams, coursework, essays, practical work, presentations, and individual and group projects.

Pa sgiliau bydda i'n eu hymarfer a'u datblygu?

Drwy ymgysylltu’n llawn â’r cwrs hwn, byddwch yn caffael ac yn datblygu amrywiaeth o sgiliau gwerthfawr, yn rhai penodol i’r ddisgyblaeth a ‘sgiliau cyflogadwyedd’ mwy cyffredinol. Bydd y rhain yn fodd i chi:

  • deall pynciau cymhleth gyda hyder
  • gofyn y cwestiynau iawn am destunau cymhleth
  • cael gwerthfawrogiad llawn dychymyg o safbwyntiau a dewisiadau gwahanol a dadansoddi'r rhain yn feirniadol
  • nodi a defnyddio data perthnasol
  • datblygu sgiliau ymchwil ymarferol
  • cynnig eich atebion llawn dychymyg eich hun yn seiliedig ar dystiolaeth
  • cyfathrebu'n glir, yn gryno ac yn argyhoeddiadol yn ysgrifenedig ac ar lafar
  • dod o hyd i wybodaeth rifol berthnasol, ei dehongli a'i chyflwyno ��� i gefnogi sail adroddiadau prosiect ac achosion busnes
  • gweithio yn ôl terfynau amser a blaenoriaethau, a rheoli amrywiaeth o dasgau ar yr un pryd
  • gweithio’n rhan o dîm, gan ddatblygu dull cydweithredol o ddatrys problemau
  • defnyddio rhaglenni TG a phecynnau meddalwedd safonol, lle bo hynny'n briodol
  • cymryd cyfrifoldeb am eich rhaglen ddysgu a’ch datblygiad proffesiynol eich hun

Gyrfaoedd a lleoliadau gwaith

Rhagolygon gyrfa

Rydym wedi ymrwymo i’ch helpu chi i gyflawni eich dyheadau proffesiynol, gan roi’r sgiliau, y chwilfrydedd a’r hyder i chi adael eich marc mewn marchnad swyddi gystadleuol. P’un a oes gennych syniad clir o’r hyn yr hoffech chi ei wneud ar ôl y brifysgol neu ddim syniad o gwbl, mae gennym yr adnoddau a’r cymorth i’ch tywys chi.

Mae ein graddedigion yn mynd ymlaen i amrywiaeth o ddiwydiannau a phroffesiynau gan gynnwys bancio a rheoli cyllid, logisteg a rheoli cadwyni cyflenwi, Llywodraeth y DU a'r Gwasanaeth Sifil, a dadansoddi data.

Yn yr Ysgol Fusnes mae gennym Ganolfan Gyrfaoedd bwrpasol sy'n cynnig cefnogaeth benodol i fusnes, gan gynnwys lleoliadau diwydiannol, interniaethau, profiad gwaith a mewnwelediadau.

Byddwch yn elwa ar ymgynghoriadau gyrfa, gweithdai cyfweliadau ac ysgrifennu CV, digwyddiadau diwydiant-benodol ac asesiadau seicometrig arbenigol a hyfforddiant sgiliau eang.

Gyrfaoedd graddedigion

  • Cyfrifydd
  • Dadansoddwr Busnes
  • Economegydd
  • Rheolwr AD
  • Darlithydd
  • Gweithredwr Marchnata, Rheolwr Cynhyrchu
  • Brocer Stoc

Lleoliadau

Rydym ni’n cydnabod pwysigrwydd ennill profiad gwaith yn ystod eich astudiaethau. Mae ein Rheolwr Lleoliadau Gwaith dynodedig yn cynnig cyngor ar leoliadau gwaith, interniaethau, profiad gwaith a chyfleoedd sydd ar gael i wella eich CV ac ehangu eich gorwelion. Mae cymorth gyda cheisiadau am swyddi a thechnegau cyfweliad hefyd ar gael gan Ymgynghorydd Gyrfaoedd mewnol yr Ysgol Busnes.

Os ydych yn penderfynu yr hoffech ymgymryd â lleoliad gwaith blwyddyn o hyd, gallwch naill ai wneud cais ar gyfer un o'n rhaglenni ‘Blwyddyn Lleoliad Gwaith Proffesiynol’ neu drosglwyddo i un ar unrhyw adeg hyd at ddiwedd eich ail flwyddyn. Byddwch yn mynd ar leoliad gwaith yn y drydedd flwyddyn mewn gradd pedair blynedd.

Myfyrwyr Rhyngwladol

I roi cyfle i fyfyrwyr gael safbwynt byd-eang, rydym yn cynnig rhaglenni gradd pedair blynedd “gyda Blwyddyn Dramor”. Yn ystod eich ail flwyddyn, gallwch wneud cais am le ar y rhaglenni hyn ac os byddwch yn llwyddiannus byddwch yn trosglwyddo i'r cynllun gradd pedair blynedd. Bydd y Flwyddyn Dramor yn dod yn rhan annatod o'r radd.

Mae gennym gytundebau cyfnewid gydag Ysgolion Busnes a phrifysgolion o safon ledled y byd lle byddwch chi'n astudio modiwlau a addysgir ac a asesir yn Saesneg. Mae rhestr o sefydliadau partner sy’n cynnig modiwlau a addysgir yn Saesneg i’w gweld ar ein gwefan.

Mae ein tîm Cyfnewid a Chanolfan Cyfle Byd-eang y Brifysgol yn gweithio'n agos gyda myfyrwyr i baratoi ar gyfer ac yn ystod eu hastudiaethau dramor.

Camau nesaf

icon-academic

Ymweliadau Diwrnod Agored

Cofrestrwch i gael ein newyddion diweddaraf

icon-international

Rhyngwladol

Mwy o wybodaeth am ein brifysgol fyd-eang

icon-chat

Gofyn cwestiwn

Gofynnwch gwestiwn i ni neu siaradwch â'n tîm derbyn myfyrwyr.

icon-pen

Sut i wneud cais

Sut i wneud cais am y cwrs hwn


Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.