Ewch i’r prif gynnwys

Rheoli Busnes (Rheoli Adnoddau Dynol) (BSc)

  • Maes pwnc: Rheoli busnes
  • Côd UCAS: NN26
  • Derbyniad nesaf: Medi 2025
  • Hyd: 3 blwyddyn
  • Modd (astudio): Amser llawn

Pam astudio'r cwrs hwn

book

Dysgu gan y gorau

Manteisiwch ar arbenigedd a chefnogaeth staff sy’n cynnal ymchwil mewn ysgol sydd â'r sgôr uchaf posibl ar gyfer amgylchedd ymchwil.

building

Newid busnes er lles

Gallwch ymgorffori newid cadarnhaol gyda gwybodaeth arbenigol am sefydliadau a'u gweithluoedd yn ysgol busnes gwerth cyhoeddus gyntaf y byd.

briefcase

Cyfleoedd am leoliad gwaith

Datblygwch y sgiliau, yr hyder a’r cysylltiadau i gyflymu eich gyrfa.

certificate

Nodwyd am ragoriaeth

Achrededig gan y Gymdeithas er Hyrwyddo Ysgolion Busnes Colegol (AACSB).

Mae gweithwyr AD proffesiynol effeithiol, brwdfrydig ac empathig yn ganolog i lwyddiant sefydliadau cyfoes. Felly bydd galw mawr amdanoch mewn rolau yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector gyda chyflogau cystadleuol a rhagolygon gwych o ran datblygu gyrfa.

Mae hyn yn golygu y bydd galw mawr amdanoch mewn rolau yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector gyda chyflogau cystadleuol a rhagolygon gwych o ran datblygu gyrfa.

Mae ein rhaglen BSc Rheoli Busnes (Rheoli Adnoddau Dynol) yn canolbwyntio ar sefydliadau o bob math, o gwmnïau amlwladol i fentrau cymdeithasol ac elusennau. Mae’r ymagwedd gyfannol hon yn sicrhau eich bod yn datblygu’r sgiliau i ymateb i anghenion datblygol pob busnes, ni waeth beth fo'r sector.

Byddwch yn datblygu arbenigedd rheoli pobl gan ein tîm o ymchwilwyr ac ymarferwyr AD rhyngwladol. Byddant ein harbenigwyr yn eich cyflwyno i rolau a chysylltiadau mewn cyflogaeth ac arferion rheoli pobl mewn sefydliadau amlddiwylliannol, strategaeth, dadansoddi a chreu newid.

Gyda’u cefnogaeth nhw, byddwch yn datblygu sgiliau i ymateb i faterion cyfoes mewn gwaith a chyflogaeth, wrth baratoi i lansio eich gyrfa AD neu ymgymryd ag astudiaethau ac ymchwil ôl-raddedig pellach.

Achrediadau

Maes pwnc: Rheoli busnes

  • academic-schoolYsgol Busnes Caerdydd
  • icon-chatGofyn cwestiwn
  • Telephone+44 (0)29 2087 4674
  • MarkerRhodfa Colum, Cathays, Caerdydd, CF10 3EU

Gofynion mynediad

Rydym yn derbyn cyfuniad o gymwysterau Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn ogystal â chymwysterau rhyngwladol cyfatebol yn amodol ar ofynion mynediad. Dyma ein cynigion nodweddiadol:

Lefel A

AAB-BBB

Cymhwyster Prosiect Estynedig/Rhynglwadol: Fel arfer, bydd ymgeiswyr sydd wedi ennill gradd A yn y Cymhwyster Cymhwyster Prosiect Estynedig/Rhyngwladol: Bydd ymgeiswyr sydd â gradd A mewn Cymhwyster Prosiect Estynedig (EPQ)/Cymhwyster Prosiect Rhyngwladol (IPQ) fel arfer yn derbyn cynnig un radd yn is na'r cynnig safonol. Sylwch fod yn rhaid parhau i fodloni unrhyw ofynion penodol pwnc.

Mae ein hystod gradd yn cwmpasu ein cynnig safonol a'n cynnig cyd-destunol. Rydym yn ystyried yn ofalus yr amgylchiadau rydych chi wedi bod yn astudio (eich data cyd-destunol) ar gais.

  • Bydd myfyrwyr cymwys yn cael cynnig y rhan isaf yn yr ystod gradd a hysbysebir.
  • Lle nad oes ystod gradd yn cael ei hysbysebu a/neu lle mae prosesau dethol yn eu lle (fel cyfweliad) efallai y byddwch yn derbyn pwyntiau ychwanegol yn y broses ddethol neu'n sicr o gael cyfweliad/ystyriaeth.

Dysgwch am gyrsiau cymwys a sut mae data cyd-destunol yn cael ei gymhwyso.

Y Fagloriaeth Rhyngwladol

34-31 yn gyffredinol neu 666-665 mewn 3 phwnc HL.

Bagloriaeth Cymru

O fis Medi 2023, bydd cymhwyster newydd o'r enw Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru (lefel 3). Bydd y cymhwyster hwn yn disodli'r Dystysgrif Her Sgiliau Uwch (Bagloriaeth Cymru). Bydd y cymhwyster yn parhau i gael ei dderbyn yn lle un Safon Uwch (ar y graddau a restrir uchod), ac eithrio unrhyw bynciau penodol.

Mae'n rhaid eich bod chi wedi bod yn gweithio tuag at:
- Iaith Saesneg neu Gymraeg ar radd TGAU gradd C/4 neu gyfwerth (fel Safon Uwch). Os oes angen fisa Visa Myfyrwyr arnoch, rhaid i chi sicrhau bod eich cymhwyster iaith yn cydymffurfio â gofynion UKVI.
- TGAU Mathemateg gradd B/6 neu gymhwyster cyfatebol (pwnc a gradd). Os ydych chi'n cymryd Mathemateg Safon Uwch (neu gyfwerth), nid oes angen Mathemateg TGAU. Gellir derbyn Mathemateg Craidd hefyd yn lle TGAU Mathemateg.

Nid ydym yn derbyn Meddwl yn Feirniadol, Astudiaethau Cyffredinol, Astudiaethau Dinasyddiaeth na phynciau cyfatebol tebyg eraill.
Byddwn yn derbyn cyfuniad o bynciau BTEC, Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn amodol ar ofynion gradd a phwnc penodol y cwrs. 

GCSE

Gradd C neu radd 4 mewn TGAU Iaith Saesneg.

IELTS (academic)

O leiaf 6.5 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob is-sgil.

TOEFL iBT

O leiaf 90 yn gyffredinol gydag o leiaf 17 ar gyfer ysgrifennu, 17 am wrando, 18 ar gyfer darllen, ac 20 ar gyfer siarad.

PTE Academic

O leiaf 69 ar y cyfan gydag o leiaf 59 yn yr holl sgiliau cyfathrebu.

Trinity ISE II/III

II: dau Ragoriaeth a dau Deilyngdod o leiaf.
III: o leiaf Llwyddo ym mhob cydran.

Cymwysterau eraill a dderbynnir

Os ydych yn ymgeisydd tramor ac nid Saesneg yw eich iaith gyntaf, ewch i'n tudalen am ofynion Iaith Saesneg i gael rhagor o wybodaeth am ba gymwysterau y byddwn yn eu derbyn.

Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn.

Os ydych ar hyn o bryd yn destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau eich astudiaethau yn llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu eich cofnod troseddol. Mae amodau yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • mynediad i gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
  • defnydd o'r rhyngrwyd ac offer/dyfeisiau cyfathrebu
  • cyrffyw
  • rhyddid symud
  • cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.

Cymwysterau o'r tu allan i'r DU

BTEC

DDD-DDM mewn Diploma Estynedig BTEC mewn Busnes.

Lefel T

D-M mewn Cyfrifeg neu Gyllid Lefel T.

Cymwysterau eraill o'r tu mewn i'r DU

Gweld ein arweiniad i gymwysterau cyfatebol

Cewch ragor o wybdoaeth am y broses ymgeisio yn ein polisïau derbyn myfyrwyr.

Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2025

Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.

Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd

Ffioedd am statws cartref

Blwyddyn Ffioedd dysgu Blaendal
Blwyddyn un £9,250 Dim
Blwyddyn dau £9,250 Dim
Blwyddyn tri £9,250 Dim

Mae'r Brifysgol yn cadw'r hawl i gynyddu ffioedd dysgu yn yr ail flwyddyn a blynyddoedd dilynol y cwrs yn unol â'r gyfraith neu bolisi Llywodraeth Cymru. Lle bo'n berthnasol, byddwn yn eich hysbysu o unrhyw newidiadau yn y ffioedd dysgu erbyn diwedd mis Mehefin yn y flwyddyn academaidd cyn i'r ffioedd gynyddu.

Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir

Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2022/23 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.

Ffioedd am statws ynys

Dysgwch ragor am ffioedd israddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.

Ffioedd am statws tramor

Blwyddyn Ffioedd dysgu Blaendal
Blwyddyn un £23,700 Dim
Blwyddyn dau £23,700 Dim
Blwyddyn tri £23,700 Dim

Rhagor o wybodaeth am ein ffioedd dysgu

Cymorth ariannol

Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.

Costau ychwanegol

Nid oes costau ychwanegol

Llety

Mae gennym amrywiaeth o breswylfeydd sydd yn gweddu i anghenion a phoced yr unigolyn. Cewch wybod rhagor ar ein tudalennau llety.

Costau byw

Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.

Strwythur y cwrs

Rydym yn gweithio gyda'n myfyrwyr ar hyn o bryd yn diweddaru ac yn gwella cynnwys y cwrs hwn. Mae'r wybodaeth isod yn adlewyrchu'r cwricwlwm presennol a fydd yn newid yn ôl pob tebyg. Disgwylir i ni fod wedi gorffen adolygu'r cwrs erbyn mis Awst 2025. Bydd y dudalen hon wedi'i diweddaru erbyn mis Hydref 2025 i ddangos y newidiadau.

Rhaglen tair blynedd amser llawn yw hon, sy’n cynnwys 120 credyd y flwyddyn. Mae'r holl fyfyrwyr, beth bynnag fo’u llwybr, yn astudio Blwyddyn Gyntaf gyffredin, ac nid yw'r flwyddyn hon yn cyfrif tuag at y radd derfynol. Ar ddiwedd Blwyddyn 1, mae gennych yr opsiwn i naill ai aros gyda'r radd BSc Rheoli Busnes (Rheoli Adnoddau Dynol) neu symud i un o'r rhaglenni Rheoli Busnes eraill os ydych wedi datblygu diddordeb mewn maes arall.

Ym Mlynyddoedd 2 a 3, mae modiwlau gorfodol yn dibynny ar y llwybr a ddewisir, ond rydych hefyd yn dewis modiwlau dewisol o restr gymeradwy sy'n eich galluogi i deilwra'r radd ymhellach i'ch diddordebau.

Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2025/2026. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2025

Blwyddyn un

Mynd i’r afael â’r hanfodion ar flwyddyn gyntaf ein cwrs rheoli busnes byd-eang.

Byddwn yn eich cyflwyno chi i ddisgyblaethau gan gynnwys cyfrifeg, technoleg ac economeg ochr yn ochr â chyd-fyfyrwyr o’n llwybrau marchnata, rheoli rhyngwladol a logisteg a gweithrediadau.

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Cymdeithas a'r EconomiBS100120 Credydau
Rheoli GweithrediadauBS100210 Credydau
Cyflwyniad i GyfrifegBS150320 Credydau
Rheolaeth: Theori a ThystiolaethBS151120 Credydau
MarchnataBS152820 Credydau
Pobl mewn sefydliadauBS152920 Credydau
Technoleg a'r Oes DdigidolBS153210 Credydau

Blwyddyn dau

Byddwch yn cyfuno theori ac ymarfer wrth i'ch dealltwriaeth o'r hanfodion ddatblygu.

Byddwch chi'n darganfod sut mae astudio rheoli pobl yn croestorri gyda chyllid, marchnata a strategaeth gan adeiladu dealltwriaeth gynhwysfawr o'r dirwedd busnes gyfoes.

Ategu eich offer adnoddau dynol gyda modiwlau arbenigol mewn amlddiwylliannedd, prynu a rheoli cadwyni cyflenwi.

Blwyddyn tri

Profwch eich gwybodaeth wrth ddod ar draws materion o'r byd go iawn mewn gwaith a chyflogaeth.

Bydd modiwlau mewn strategaeth, dadansoddi a newid yn arwain at gyfleoedd i deilwra eich gradd i'ch dyheadau gyrfa.

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Systemau Rheoli AsiaiddBS300220 Credydau
Entrepreneuriaeth a Busnesau NewyddBS300320 Credydau
Rheoli Cyflenwyr Strategol CyfrifolBS300610 Credydau
Strategaeth LogistegBS300710 Credydau
Logisteg yn yr Oes DdigidolBS300810 Credydau
Tueddiadau Cyfoes mewn Rheoli Cadwyn GyflenwiBS300910 Credydau
Dadansoddi a Gwella GweithrediadauBS301010 Credydau
Marchnata DigidolBS301210 Credydau
Deall a rheoli gwobrBS301310 Credydau
Pobl yn ymddwyn yn waelBS302310 Credydau
Rheoli Busnes BachBS302410 Credydau
Dadansoddiad Data ArchwiliadolBS351910 Credydau
Amgylchedd Busnes EwropBS359420 Credydau
Modelu mewn Gwyddoniaeth RheolaethBS361910 Credydau
Rheoli Cyfathrebu Hysbysebu a MarchnataBS372520 Credydau
Moeseg a moesoldeb busnesBS372820 Credydau
Rheoli Adnoddau Dynol RhyngwladolBS374020 Credydau
Busnes RhyngwladolBS374420 Credydau
Marchnata GwasanaethauBS374620 Credydau
Marchnata diwylliannolBS374710 Credydau
Dylunio BusnesBS374810 Credydau
Stori Pwy? Cyfathrebu CymruMC362620 Credydau
Cyfiawnder Byd-eangSE439420 Credydau

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle'n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Dysgu ac asesu

Caiff ein dulliau addysgu eu llywio’n helaeth gan ymchwil ac maen nhw’n cyfuno manylrwydd academaidd gyda pherthnasedd ymarferol. Mae cyfadran a gydnabyddir yn rhyngwladol, sydd ar flaen y gad o ran gwybodaeth yn eu maes, yn dod â'r gwersi a ddysgwyd o'u hymchwil ddiweddaraf i'r ystafell ddosbarth, gan eich galluogi i feddwl yn feirniadol am fusnes a chynnig enghreifftiau a senarios go iawn cyfoes.

Byddwn yn darparu eich adnoddau addysgu a dysgu, ac yn ymateb i’ch anghenion a’ch safbwyntiau. O'ch rhan chi, bydd gofyn i chi wneud y gwaith angenrheidiol yn ystod a thu allan i’r sesiynau addysgu ffurfiol, a gwneud defnydd da o'r cyfleusterau a ddarperir.

Mae'r rhan fwyaf o fodiwlau yn cynnwys cymysgedd o ddarlithoedd ac addysgu mewn grwpiau bach (dosbarthiadau, seminarau, gweithdai neu sesiynau tiwtorial).

Mae darlithoedd yn darparu trosolwg o gysyniadau a fframweithiau allweddol pwnc, gan eich paratoi chi ar gyfer ymgymryd â gwaith ymchwil annibynnol ar gyfer y seminarau a datblygu eich syniadau eich hunan. Mae seminarau’n rhoi cyfle i chi ymchwilio i’r syniadau a gafodd eu hamlinellu yn y darlithoedd. Gall ffurf y seminarau amrywio, gan gynnwys trafodaeth grŵp sy’n cynnwys pawb, gwaith mewn grwpiau bach a chyflwyniadau sy’n cael eu harwain gan y myfyrwyr.

Sut y caf fy nghefnogi?

Byddwch yn cael tiwtor personol ar ddechrau eich astudiaethau. Fel arfer, bydd eich tiwtor personol Cymraeg yn addysgu ar eich cwrs gradd chi a byddwch yn cadw’r un tiwtor personol drwy gydol eich cwrs.

Bydd eich tiwtor personol yn gallu rhoi cyngor i chi ar faterion academaidd, gan gynnwys dewis modiwlau ac asesu. Os ydych yn profi unrhyw broblemau sy'n effeithio ar eich astudiaethau, eich tiwtor personol yw eich pwynt cyswllt cyntaf bob tro. Bydd eich tiwtor yn gallu eich rhoi mewn cysylltiad ag ystod eang o wasanaethau cymorth arbenigol ar gyfer myfyrwyr a ddarperir gan y Brifysgol, ac Undeb y Myfyrwyr, fel y bo'n briodol. Bydd gofyn i chi gyfarfod â’ch tiwtor personol dair gwaith yn ystod pob blwyddyn academaidd, ond fe’ch anogir hefyd i gysylltu â nhw ar unrhyw adeg arall os oes angen help neu gyngor arnoch chi.

I gael gwybodaeth gyffredinol, mae staff ein Hwb Myfyrwyr Israddedig ar gael, yn bersonol, dros y ffôn neu trwy ebost, rhwng 8am a 6pm bob dydd o'r wythnos yn ystod y tymor i ateb eich cwestiynau.

Trwy wefan Dysgu Canolog, byddwch yn gallu cael gafael ar ddeunydd amlgyfrwng perthnasol, cyflwyniadau, taflenni darlithoedd, llyfryddiaethau, dolenni pellach, ymarferiadau electronig a chylchoedd trafod.

Mae’r Brifysgol yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau sy’n cynnwys y Gwasanaeth Gyrfaoedd, y Gwasanaeth Cwnsela, y Gwasanaeth Anabledd a Dyslecsia, y Gwasanaeth Cefnogi Myfyrwyr, a llyfrgelloedd a chanolfannau adnoddau ardderchog.

Sut caf fy asesu?

Assessment methods vary from module to module but, across your degree scheme as a whole, you can expect a mixture of exams, coursework, essays, practical work, presentations, and individual and group projects.

Feedback

We will provide you with regular feedback on your work. This comes in a variety of formats including oral feedback, personalised feedback on written work, and generic written feedback.

You will be given general feedback following each examination period and will be able to discuss your overall performance with your personal tutor.

Pa sgiliau bydda i'n eu hymarfer a'u datblygu?

Gwybodaeth a Dealltwriaeth:

Ar ôl cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu dangos:

  • Dealltwriaeth o'r agweddau mewnol ar strwythur, llywodraethu, swyddogaethau a phrosesau sefydliadau.
  • Gwerthfawrogiad o'r rhyngweithio deinamig rhwng sefydliadau a’r amgylchedd busnes cymdeithasol ac economaidd y maent yn gweithredu ynddo.
  • Gwybodaeth am brosesau, gweithdrefnau ac arferion ar gyfer rheoli sefydliadau amrywiol yn effeithiol a chyfrifol.
  • Gwerthfawrogiad o ba mor bwysig yw hi bod sefydliadau yn deall ar yn rheoli eu marchnadoedd.
  • Dealltwriaeth o sut mae pobl yn rhyngweithio o fewn sefydliadau a sut y gellir eu harwain, eu rheoli a'u datblygu.
  • Gwybodaeth am wahanol systemau a phrosesau ar gyfer rheoli gweithrediadau o fewn sefydliadau a rhwng sefydliadau.
  • Ymwybyddiaeth o'r polisïau a’r strategaethau priodol i fodloni buddiannau rhanddeiliaid, rheoli risg a chyflawni cymaint o amcanion strategol ag sy’n bosibl.
  • Gwerthfawrogiad o sut y gall sefydliadau greu gwelliant cymdeithasol yn ogystal â gwelliant economaidd.
  • Gwerthfawrogiad o'r ffactorau sy'n dylanwadu ar reoli pobl yn y gwaith.
  • Dealltwriaeth o lunio polisïau ym maes Rheoli Adnoddau Dynol a'r ffactorau y mae angen eu hystyried wrth ddylunio gwaith a systemau sefydliadol.
  • Dealltwriaeth o brosesau Adnoddau Dynol gan gynnwys dulliau datblygu, gwobrwyo a chynnwys gweithwyr a rhoi adnoddau iddynt.

Sgiliau Deallusol:

Ar ôl cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu dangos:

  • Y gallu beirniadol i ddadansoddi, gwerthuso a chyfosod gwybodaeth.
  • Y gallu i ddatrys problemau.
  • Cymhwysedd wrth arddangos dadleuon beirniadol gwybodus a chytbwys.
  • Y gallu i gymhwyso damcaniaethau a dulliau arfer perthnasol.

Sgiliau Ymarferol Proffesiynol:

Ar ôl cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu dangos:

  • Sgiliau Rheoli Pobl.
  • Y gallu i ddefnyddio ymchwil i fabwysiadu ymagwedd yn seiliedig ar dystiolaeth o ran rheoli.
  • Craffter masnachol.
  • Arloesedd, creadigrwydd a menter.

Sgiliau Trosglwyddadwy/Allweddol:

Ar ôl cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu dangos:

  • Hunan-reoli effeithiol a thueddiad i ddatblygu'n bersonol.
  • Y gallu i gyfathrebu'n effeithiol trwy amrywiaeth o gyfryngau, ac i gynulleidfaoedd arbenigol ac anarbenigol.
  • Y gallu i ddefnyddio sgiliau cydweithio a gweithio'n effeithiol mewn gydag eraill.

Gyrfaoedd a lleoliadau gwaith

Rhagolygon gyrfa

Rydym wedi ymrwymo i’ch helpu chi i gyflawni eich dyheadau proffesiynol, gan roi’r sgiliau, y chwilfrydedd a’r hyder i chi adael eich marc mewn marchnad swyddi gystadleuol. P’un a oes gennych syniad clir o’r hyn yr hoffech chi ei wneud ar ôl y brifysgol neu ddim syniad o gwbl, mae gennym yr adnoddau a’r cymorth i’ch tywys chi.

Mae ein graddedigion yn mynd ymlaen i amrywiaeth o ddiwydiannau a phroffesiynau gan gynnwys bancio a rheoli cyllid, logisteg a rheoli cadwyni cyflenwi, Llywodraeth y DU a'r Gwasanaeth Sifil, a dadansoddi data.

Yn yr Ysgol Fusnes mae gennym Ganolfan Gyrfaoedd bwrpasol sy'n cynnig cefnogaeth benodol i fusnes, gan gynnwys lleoliadau diwydiannol, interniaethau, profiad gwaith a mewnwelediadau.

Byddwch yn elwa ar ymgynghoriadau gyrfa, gweithdai cyfweliadau ac ysgrifennu CV, digwyddiadau diwydiant-benodol ac asesiadau seicometrig arbenigol a hyfforddiant sgiliau eang.

Gyrfaoedd graddedigion

  • Cyfrifydd
  • Dadansoddwr Busnes
  • Economegydd
  • Rheolwr AD
  • Darlithydd
  • Gweithredwr Marchnata
  • Rheolwr Cynhyrchu
  • Brocer Stoc

Lleoliadau

Rydym ni’n cydnabod pwysigrwydd ennill profiad gwaith yn ystod eich astudiaethau. Mae ein Rheolwr Lleoliadau Gwaith dynodedig yn cynnig cyngor ar leoliadau gwaith, interniaethau, profiad gwaith a chyfleoedd sydd ar gael i wella eich CV ac ehangu eich gorwelion. Mae cymorth gyda cheisiadau am swyddi a thechnegau cyfweliad hefyd ar gael gan ein Hymgynghorydd Gyrfaoedd mewnol.

Ar raglen BSc Rheoli Busnes (Rheoli Adnoddau Dynol) mae cyfle i ymgymryd â lleoliad gwaith blwyddyn o hyd. Os penderfynwch yr hoffech fachu ar y cyfle hwn gallwch naill ai wneud cais am y BSc Rheoli Busnes (Rheoli Adnoddau Dynol) pedair blynedd gyda rhaglen Blwyddyn Lleoliad Gwaith Proffesiynol neu drosglwyddo iddo ar unrhyw adeg hyd at ddiwedd eich ail flwyddyn astudio. Byddwch yn mynd ar leoliad gwaith yn y drydedd flwyddyn mewn gradd pedair blynedd.

Myfyrwyr Rhyngwladol

Mae’r rhaglen yn rhoi’r cyfle i dreulio blwyddyn yn astudio dramor yn ystod blwyddyn 3. Mae gennym gytundebau cyfnewid gydag Ysgolion Busnes a phrifysgolion o safon ledled y byd lle byddwch chi'n astudio modiwlau a addysgir ac a asesir yn Saesneg. Mae rhestr o sefydliadau partner sy’n cynnig modiwlau a addysgir yn Saesneg i’w gweld ar ein gwefan.

Mae ein tîm Cyfnewid a Chanolfan Cyfle Byd-eang y Brifysgol yn gweithio'n agos gyda chi i baratoi ar gyfer ac yn ystod eich hastudiaethau dramor.

Camau nesaf

icon-academic

Ymweliadau Diwrnod Agored

Cofrestrwch i gael ein newyddion diweddaraf

icon-international

Rhyngwladol

Mwy o wybodaeth am ein brifysgol fyd-eang

icon-chat

Gofyn cwestiwn

Gofynnwch gwestiwn i ni neu siaradwch â'n tîm derbyn myfyrwyr.

icon-pen

Sut i wneud cais

Sut i wneud cais am y cwrs hwn


Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.