Peirianneg Bensaernïol (MEng)
- Maes pwnc: Peirianneg
- Côd UCAS: H294
- Derbyniad nesaf: Medi 2025
- Hyd: 4 blwyddyn
- Modd (astudio): Amser llawn
Pam astudio'r cwrs hwn
Sgiliau proffesiynol
Mae prosiectau grŵp gyda myfyrwyr peirianneg o ddisgyblaethau eraill yn adlewyrchu dynameg tîm peirianneg proffesiynol a byddant yn eich helpu i ddatblygu sgiliau hanfodol.
Cwrs hyblyg
Gallwch deilwra eich cwrs gradd i gyd-fynd â’ch diddordebau eich hun gyda'r hyblygrwydd i ddewis lle rydych am ganolbwyntio eich astudiaethau’n ddiweddarach yn y cwrs. Os byddwch yn newid eich meddwl am eich rhaglen, yn y rhan fwyaf o achosion gallwch ofyn i newid ar ddiwedd y flwyddyn gyntaf.
Cynnwys a arweinir gan ddiwydiant
Caiff cynnwys ein cwrs ei lywio gan gydweithrediad diwydiannol a'i gyflwyno gan staff academaidd blaenllaw, y mae llawer ohonynt yn Beirianwyr Siartredig neu wedi gweithio mewn diwydiant.
Elfen ddylunio gref
Mae elfen ddylunio gref drwy gydol y cwrs, a bydd gennych ddigonedd o gyfleoedd ar gyfer gwaith ymarferol yn ein gofod stiwdio dylunio dynodedig, ein labordai arbenigol, ein gweithdai a’n hystafelloedd cyfrifiaduron. Bydd cyfle i'r rhai sy'n astudio yn y ddisgyblaeth peirianneg sifil fynd ar deithiau maes diwydiannol.
Cwrs sydd wedi’i achredu’n broffesiynol
Wedi'i achredu gan Sefydliad y Peirianwyr Sifil, Sefydliad y Peirianwyr Strwythurol, Sefydliad Siartredig Priffyrdd a Chludiant a Sefydliad y Peirianwyr Priffyrdd ar ran y Cyngor Peirianneg at ddibenion cyflawni'n llawn y gofyniad academaidd ar gyfer cofrestru’n Beiriannydd Siartredig.
Mae peirianwyr pensaernïol yn cynllunio, yn dylunio, yn adeiladu ac yn cynnal a chadw’r adeiladau sy'n ffurfio ein bodolaeth o ddydd i ddydd, gan ganolbwyntio ar beirianneg adeiladu, dylunio pensaernïol a gwasanaethau adeiladu.
Mae’r cwrs achrededig hwn yn darparu’r wybodaeth, y sgiliau a’r profiad ymarferol sydd eu hangen arnoch i ddod yn beiriannydd pensaernïol sy’n barod am waith. Trwy sesiynau labordy, teithiau maes, prosiectau unigol a dosbarthiadau dylunio, byddwch yn ymgorffori'r wybodaeth a gafwyd o'ch darlithoedd a'ch tiwtorialau ac yn datblygu eich galluoedd ymarferol mewn tirfesur a dylunio.
Byddwch yn dewis o blith amrywiaeth o broblemau peirianneg dilys yn y byd go iawn a senarios sy'n canolbwyntio ar y diwydiant, i weithio arnynt yn unigol a chyda pheirianwyr-fyfyrwyr o ddisgyblaethau eraill. Mae gwaith grŵp yn adlewyrchu perthnasoedd tîm peirianneg a bydd yn eich helpu i feithrin sgiliau proffesiynol, megis gwaith tîm a chyfathrebu. Mae ein mannau creu mynediad agored yn darparu lle i chi ddylunio, creu a chydweithio.
Mae rhaglen radd MEng yn eich galluogi i ehangu a chryfhau eich gwybodaeth am beirianneg bensaernïol, a byddwch yn elwa ar ddysgu lefel uwch mewn dylunio a rheoli yn ogystal â phrosiect dylunio peirianneg amlddisgyblaethol.
Achrediadau
Maes pwnc: Peirianneg
Gofynion mynediad
Rydym yn derbyn cyfuniad o gymwysterau Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn ogystal â chymwysterau rhyngwladol cyfatebol yn amodol ar ofynion mynediad. Dyma ein cynigion nodweddiadol:
Lefel A
AAA-AAB. Rhaid i'r rhain gynnwys gradd A mewn Mathemateg. Bydd angen i chi basio yr elfen ymarferol o bwnc gwyddoniaeth Safon Uwch os yw hyn yn rhan o'ch rhaglen astudio.
Cymhwyster Prosiect Estynedig/Rhynglwadol: Fel arfer, bydd ymgeiswyr sydd wedi ennill gradd A yn y Cymhwyster Cymhwyster Prosiect Estynedig/Rhyngwladol: Bydd ymgeiswyr sydd â gradd A mewn Cymhwyster Prosiect Estynedig (EPQ)/Cymhwyster Prosiect Rhyngwladol (IPQ) fel arfer yn derbyn cynnig un radd yn is na'r cynnig safonol. Sylwch fod yn rhaid parhau i fodloni unrhyw ofynion penodol pwnc.
Mae ein hystod gradd yn cwmpasu ein cynnig safonol a'n cynnig cyd-destunol. Rydym yn ystyried yn ofalus yr amgylchiadau rydych chi wedi bod yn astudio (eich data cyd-destunol) ar gais.
- Bydd myfyrwyr cymwys yn cael cynnig y rhan isaf yn yr ystod gradd a hysbysebir.
- Lle nad oes ystod gradd yn cael ei hysbysebu a/neu lle mae prosesau dethol yn eu lle (fel cyfweliad) efallai y byddwch yn derbyn pwyntiau ychwanegol yn y broses ddethol neu'n sicr o gael cyfweliad/ystyriaeth.
Dysgwch am gyrsiau cymwys a sut mae data cyd-destunol yn cael ei gymhwyso.
Y Fagloriaeth Rhyngwladol
36-34 yn gyffredinol neu 666 mewn 3 phwnc Lefel Uwch. Rhaid i'r rhain gynnwys gradd 6 mewn Bioleg Lefel Uwch.
Bagloriaeth Cymru
O fis Medi 2023, bydd cymhwyster newydd o'r enw Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru (lefel 3). Bydd y cymhwyster hwn yn disodli'r Dystysgrif Her Sgiliau Uwch (Bagloriaeth Cymru). Bydd y cymhwyster yn parhau i gael ei dderbyn yn lle un Safon Uwch (ar y graddau a restrir uchod), ac eithrio unrhyw bynciau penodol.
Gofynion eraill
Rhaid i chi fod yn meddu ar y canlynol neu’n gweithio tuag atynt:
- TGAU Iaith Saesneg neu Gymraeg gradd C/4 neu gyfwerth (fel Safon Uwch). Os oes angen fisa Myfyriwr arnoch, rhaid i chi sicrhau bod eich cymhwyster iaith yn cydymffurfio â gofynion UKVI.
Nid ydym yn derbyn Meddwl yn Feirniadol, Astudiaethau Cyffredinol, Astudiaethau Dinasyddiaeth, na phynciau eraill tebyg neu gyfatebol.
Byddwn yn derbyn cyfuniad o bynciau BTEC, Safon Uwch, a chymwysterau eraill, yn amodol ar ofynion gradd a phwnc penodol y cwrs.
Gofynion Iaith Saesneg
GCSE
Gradd C neu radd 4 mewn TGAU Iaith Saesneg.
IELTS (academic)
O leiaf 6.5 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob is-sgil.
TOEFL iBT
O leiaf 90 yn gyffredinol gydag o leiaf 17 ar gyfer ysgrifennu, 17 am wrando, 18 ar gyfer darllen, ac 20 ar gyfer siarad.
PTE Academic
O leiaf 69 ar y cyfan gydag o leiaf 59 yn yr holl sgiliau cyfathrebu.
Trinity ISE II/III
II: dau Ragoriaeth a dau Deilyngdod o leiaf.
III: o leiaf Llwyddo ym mhob cydran.
Cymwysterau eraill a dderbynnir
Os ydych yn ymgeisydd tramor ac nid Saesneg yw eich iaith gyntaf, ewch i'n tudalen am ofynion Iaith Saesneg i gael rhagor o wybodaeth am ba gymwysterau y byddwn yn eu derbyn.
Euogfarnau troseddol
You are not required to complete a DBS (Disclosure Barring Service) check or provide a Certificate of Good Conduct to study this course.
If you are currently subject to any licence condition or monitoring restriction that could affect your ability to successfully complete your studies, you will be required to disclose your criminal record. Conditions include, but are not limited to:
- access to computers or devices that can store images
- use of internet and communication tools/devices
- curfews
- freedom of movement, including the ability to travel to outside of the UK or to undertake a placement/studies outside of Cardiff University
- contact with people related to Cardiff University.
Cymwysterau o'r tu allan i'r DU
BTEC
DD mewn Diploma BTEC mewn unrhyw bwnc a gradd A mewn Mathemateg Safon Uwch.
Lefel T
Bydd yr Ysgol Academaidd yn ystyried derbyn Lefelau T ar gyfer y rhaglen hon fesul achos. Rhoddir ystyriaeth i'r radd/pwnc Lefel T a'r graddau/pynciau a gyflawnir ar lefel TGAU/Lefel 2.
Cewch ragor o wybdoaeth am y broses ymgeisio yn ein polisïau derbyn myfyrwyr.
Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2025
Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.
Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd
Ffioedd am statws cartref
Rydym yn aros am gadarnhad o'r ffioedd dysgu ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26.
Mae'r Brifysgol yn cadw'r hawl i gynyddu ffioedd dysgu yn yr ail flwyddyn a blynyddoedd dilynol y cwrs yn unol â'r gyfraith neu bolisi Llywodraeth Cymru. Lle bo'n berthnasol, byddwn yn eich hysbysu o unrhyw newidiadau yn y ffioedd dysgu erbyn diwedd mis Mehefin yn y flwyddyn academaidd cyn i'r ffioedd gynyddu.
Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir
Rydym yn aros am gadarnhad o'r ffioedd dysgu ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26.
Ffioedd am statws ynys
Dysgwch ragor am ffioedd israddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.
Ffioedd am statws tramor
Rydym yn aros am gadarnhad o'r ffioedd dysgu ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26.
Costau ychwanegol
Mae’r costau gwaith maes ar gyfer eich modiwlau craidd wedi’u cynnwys, ond bydd angen i chi gyfrannu at fwyd os caiff ei ddarparu yn ystod y daith.
Cyfarpar ar gyfer cwrs penodol
Ni fydd angen unrhyw gyfarpar penodol. Bydd y Brifysgol yn darparu adnoddau fel cyfrifiaduron a meddalwedd cysylltiedig, offer labordy (gan gynnwys unrhyw offer diogelwch) ac amrywiaeth o adnoddau dysgu ychwanegol.
Llety
Mae gennym amrywiaeth o breswylfeydd sydd yn gweddu i anghenion a phoced yr unigolyn. Cewch wybod rhagor ar ein tudalennau llety.
Costau byw
Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.
Strwythur y cwrs
Mae hon yn gwrs gradd pedair blynedd amser llawn, gyda modiwlau craidd yn bennaf ym Mlynyddoedd Un a Dau. Mae gan Flynyddoedd Tri a Phedwar gydbwysedd a ddewiswyd yn ofalus o fodiwlau craidd a dewisol, sy'n eich galluogi i ddewis pynciau i gyd-fynd â'ch diddordebau personol neu'ch llwybr gyrfa dewisol.
Mae angen i chi ennill 120 credyd y flwyddyn.
Bydd angen i fyfyrwyr sy'n dymuno symud ymlaen i’r rhaglen MEng ar ddiwedd Blwyddyn Dau gyflawni marc o 60% neu uwch ar gyfer y flwyddyn ar gyfartaledd, neu symud ymlaen i un o'n dwy raglen BEng fel arall.
Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2025/2026. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2025
Blwyddyn un
Mae’r flwyddyn gyntaf yn cynnwys cyfres o ddarlithoedd wedi'u hategu gan sesiynau labordy ymarferol.
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Mathemateg a Chyfrifiant Peirianneg | EN1211 | 30 Credydau |
Hanfodion Peirianneg Sifil | EN1212 | 50 Credydau |
Dylunio ac Ymarfer Cymhwysol | EN1217 | 40 Credydau |
Blwyddyn dau
Mae’r ail flwyddyn eto'n cynnwys cyfres o ddarlithoedd wedi'u hategu gan sesiynau labordy ymarferol.
Mae cwrs maes preswyl oddi ar y safle yn cael ei gynnal am bum niwrnod yn semester y gwanwyn, fel rhan o'r modiwl Astudiaethau Maes o'r Amgylchedd Naturiol ac Adeiledig.
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Dadansoddiad Peirianneg | EN2026 | 20 Credydau |
Modelu Adeiladu | EN2091 | 10 Credydau |
Hanes Pensaernïaeth y Gorllewin | EN2207 | 10 Credydau |
Hydroleg a Mecaneg Pridd | EN2314 | 20 Credydau |
Dadansoddiad Strwythurol a Theori Dylunio | EN2320 | 30 Credydau |
Dylunio ac Ymarfer Peirianneg Sifil Cynaliadwy | EN2321 | 30 Credydau |
Blwyddyn tri
Mae'r drydedd flwyddyn hefyd yn cynnwys prosiect mawr, sy’n werth chwarter y flwyddyn fel arfer. Byddwch yn gweithio'n unigol ar y prosiect, ochr yn ochr ag aelod o staff goruchwylio.
Mae yna fodiwlau craidd eraill ond mae yna fodiwlau dewisol hefyd, gan adeiladu ar y sylfeini a sefydlwyd yn y blynyddoedd cynharach.
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Rheoli Adeiladu ac Adeiladu | EN3104 | 10 Credydau |
Dylunio Adeiladu Integredig | EN3201 | 10 Credydau |
Stiwdio Dylunio Peirianneg Bensaernïol | EN3211 | 10 Credydau |
Strwythurau tynnol | EN3213 | 10 Credydau |
Prosiect | EN3300 | 30 Credydau |
Dadansoddiad Strwythurol | EN3302 | 10 Credydau |
Peirianneg Geodechnegol | EN3304 | 10 Credydau |
Astudiaethau Dylunio Strwythurol | EN3307 | 10 Credydau |
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Deunyddiau a Strwythurau Concrit | EN3311 | 10 Credydau |
Geotechnig Amgylcheddol | EN3314 | 10 Credydau |
Elfennau Cyfyngedig ar gyfer Problemau Peirianneg ar raddfa lawn | EN3440 | 10 Credydau |
Blwyddyn pedwar
Byddwch yn gwneud prosiect grŵp yn y bedwaredd flwyddyn, sy'n werth chwarter yr asesiad cyfan.
Mae sawl modiwl craidd a dewisol hefyd.
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Dylunio Adeiladu Integredig | EN4102 | 30 Credydau |
Modelu Gwybodaeth Adeiladu a Seilwaith | EN4308 | 10 Credydau |
Astudiaethau Peirianneg Proffesiynol | EN4321 | 10 Credydau |
Dynameg | EN4570 | 10 Credydau |
Teitl modiwl | Côd modiwl | Credydau |
---|---|---|
Cyflwyniad i Fodelu 3D a Dylunio Parametrig | ART801 | 10 Credydau |
Ffurflen gyfrifiannol Dod o hyd | ART802 | 20 Credydau |
Meddwl Dylunio Algorithmig | ART803 | 30 Credydau |
Dulliau rhifiadol Cymhwysol mewn Peirianneg | EN4018 | 10 Credydau |
Theori ac Ymarfer Elfen Gyfyngedig | EN4302 | 10 Credydau |
Dichonoldeb Dylunio | EN4306 | 10 Credydau |
Mecaneg y pridd | EN4325 | 10 Credydau |
Peirianneg Strwythurol | EN4326 | 10 Credydau |
Data Mawr ac AI mewn Peirianneg Sifil | EN4380 | 10 Credydau |
Astudiaethau Adeiladu Amgylcheddol | EN4572 | 10 Credydau |
Strwythurau Steel | EN4573 | 10 Credydau |
Mecaneg Strwythurol Uwch | EN4574 | 10 Credydau |
Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle'n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.
Dysgu ac asesu
Addysgir trwy ddarlithoedd a thiwtorialau, ac ategir hyn gan waith ymarferol mewn labordai a gwaith prosiect. Mae yna lyfrgell gyfoethog o ddeunyddiau dysgu ar-lein, wedi'i deilwra ar gyfer pob gwers ym mhob modiwl, gan gynnwys fideos cyfarwyddiadol/gwybodaeth, nodiadau astudio, cwestiynau ymarfer dan arweiniad a rhai cwisiau ar-lein.
Rhaid i bob myfyriwr gwblhau prosiect unigol 30 credyd ym Mlwyddyn Tri, a dyrennir goruchwyliwr ar ei gyfer o blith y staff addysgu.
Bydd cyfleoedd i ryngweithio â darpar gyflogwyr trwy ffeiriau gyrfaoedd a darlithoedd gwadd. Bydd siaradwyr o’r diwydiant yn cyflwyno darlithoedd rheolaidd am eu meysydd arbenigol. Mae’r rhain yn rhoi’r cyfle i chi glywed arbenigwyr yn siarad am bynciau sy’n berthnasol i’ch gradd, ac mae'n rhoi dealltwriaeth i chi o sut beth yw gweithio yn y diwydiant.
Sut y caf fy nghefnogi?
Ym Mlwyddyn Un, dyrennir tiwtor personol i chi sy'n aelod o'r staff academaidd sy'n gysylltiedig â'ch cwrs gradd. Bydd eich tiwtor personol wrth law i'ch cynghori ar faterion academaidd, materion nad ydynt yn rhai academaidd a materion phersonol, a hynny mewn modd cyfrinachol ac anffurfiol. Ein nod yw eich helpu i oresgyn unrhyw broblem, ni waeth pa mor fach neu fawr ydyw, mor effeithlon a chyflym â phosibl.
Ar gyfer y prosiect 30 credyd ym Mlwyddyn Tri, bydd goruchwyliwr yn y maes arbenigedd ymchwil perthnasol yn cael ei ddyrannu i chi a fydd yn cwrdd â chi’n rheolaidd i roi arweiniad a chyngor ar gynnydd yn y gwaith.
Trwy wefan Dysgu Canolog, byddwch yn gallu cael gafael ar ddeunydd amlgyfrwng perthnasol, cyflwyniadau, taflenni darlithoedd, llyfryddiaethau, dolenni pellach, ymarferion electronig a chylchoedd trafod.
Cyflwynir rhaglen helaeth o weithdai a darlithoedd gyrfaoedd yn yr Ysgol Peirianneg ac mae Ymgynghorydd Gyrfaoedd ar gael hefyd.
Mae Prifysgol Caerdydd yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau sy’n cynnwys y Gwasanaeth Gyrfaoedd, y Gwasanaeth Cwnsela, y Gwasanaeth Anabledd a Dyslecsia, y Gwasanaeth Cefnogi Myfyrwyr, a llyfrgelloedd a chanolfannau adnoddau ardderchog.
Adborth
Byddwn yn rhoi adborth i chi ar eich gwaith yn aml. Daw hyn mewn sawl fformat gan gynnwys adborth llafar mewn dosbarthiadau fel dylunio a gwaith prosiect a thrwy ddychwelyd gwaith cwrs wedi'i farcio.
Cewch y cyfle i brofi'ch gwybodaeth a'ch dealltwriaeth trwy gydol y semester trwy brofion dosbarth ym Mlynyddoedd 1 a 2, yn ogystal ag adborth am asesiadau ysgrifenedig trwy gydol y cwrs. Weithiau, gellir defnyddio asesiad cyfoedion o gyfraniad unigolyn at grŵp, ac efallai y byddwch hefyd yn cael adborth llafar am gyflwyniadau a chyfraniadau at weithgareddau grŵp.
Sut caf fy asesu?
Bydd eich asesiadau'n amrywio i werthuso gwybodaeth, dealltwriaeth, sgiliau proffesiynol a sgiliau allweddol. Yn bennaf, asesir ym Mlwyddyn Un trwy brofion yn ystod y flwyddyn, adroddiadau byr, portffolio datblygiad proffesiynol, cyflwyniadau a dau arholiad ysgrifenedig. Mae'r amrywiaeth hwn o asesiadau'n cael eu cynnal i'r blynyddoedd uwch gyda newid graddol o brofion i arholiadau. Caiff y prosiect unigol mawr ym Mlwyddyn Tri ei asesu gan adroddiad traethawd hir, a bydd prosiectau grŵp ym Mlwyddyn Pedwar yn cael eu hasesu trwy adroddiadau prosiect aml-gydran mawr.
Pa sgiliau bydda i'n eu hymarfer a'u datblygu?
Mae Deilliannau Dysgu’r rhaglen hon yn disgrifio'r hyn y byddwch chi’n gallu ei wneud o ganlyniad i astudio ym Mhrifysgol Caerdydd. Byddan nhw’n eich helpu i ddeall yr hyn mae disgwyl ichi ei wneud.
Mae deilliannau dysgu’r rhaglen hon isod:
Ar ôl cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu:
Gwybodaeth a Dealltwriaeth:
KU1 Cymhwyso gwybodaeth gynhwysfawr am fathemateg, ystadegau, gwyddoniaeth naturiol ac egwyddorion peirianneg i ddatrys problemau cymhleth mewn peirianneg bensaernïol. Bydd llawer o'r wybodaeth ar flaen y gad yn y pwnc astudio penodol ac yn cael ei llywio gan ymwybyddiaeth feirniadol o ddatblygiadau newydd a chyd-destun ehangach peirianneg bensaernïol.
KU2 Llunio a dadansoddi problemau cymhleth i ddod i gasgliadau wedi'u cadarnhau. Bydd hyn yn cynnwys gwerthuso’r data sydd ar gael gan ddefnyddio egwyddorion cyntaf mathemateg, ystadegau, gwyddoniaeth naturiol ac egwyddorion peirianneg, a defnyddio barn beirianyddol i weithio gyda gwybodaeth a allai fod yn ansicr neu’n anghyflawn, gan drafod cyfyngiadau’r technegau a ddefnyddir.
KU3 Gwerthuso effaith amgylcheddol a chymdeithasol atebion i broblemau peirianneg bensaernïol cymhleth (gan gynnwys cylch bywyd cyfan cynnyrch neu broses) a lleihau effeithiau andwyol.
KU4 Trafod rôl systemau rheoli ansawdd a gwelliant parhaus yng nghyd-destun problemau peirianneg bensaernïol cymhleth.
KU5 Cymhwyso gwybodaeth am egwyddorion rheoli peirianneg, cyd-destunau masnachol, rheoli prosiectau a newid, a materion cyfreithiol perthnasol gan gynnwys hawliau eiddo deallusol.
Sgiliau Deallusol:
IS1 Dewis a chymhwyso technegau cyfrifiadurol a dadansoddol priodol, gan gydnabod/trafod cyfyngiadau'r technegau a ddefnyddir, ar gyfer cyfuno problemau peirianneg bensaernïol, a llunio barn ar gamau gweithredu priodol.
IS2m Dewis a gwerthuso llenyddiaeth dechnegol a ffynonellau eraill o wybodaeth yn feirniadol i fynd i'r afael â phroblemau cymhleth.
IS3m Dylunio datrysiadau ar gyfer problemau peirianneg pensaernïol cymhleth sy’n rhoi tystiolaeth o wreiddioldeb ac yn bodloni cyfuniad o anghenion cymdeithasol, defnyddwyr, busnes a chwsmeriaid fel y bo’n briodol, gan ystyried iechyd a diogelwch, amrywiaeth, cynhwysiant, materion diwylliannol, cymdeithasol, amgylcheddol a masnachol, codau ymarfer a safonau diwydiant
IS4 Cymhwyso dull integredig neu systemau i ddatrys problemau cymhleth.
Sgiliau Ymarferol Proffesiynol:
PS1 Dewis a chymhwyso sgiliau labordy a gweithdy ymarferol priodol mewn peirianneg bensaernïol, yn enwedig wrth ddyfeisio dulliau dadansoddol neu arbrofol, i ymchwilio i broblemau cymhleth.
PS2 Dewis, cymhwyso a gwerthuso deunyddiau, offer, technolegau a phrosesau peirianneg priodol, gan gydnabod eu cyfyngiadau.
PS3 Defnyddio proses rheoli risg i nodi, gwerthuso a lliniaru risgiau (effeithiau ansicrwydd) sy'n gysylltiedig â phrosiect neu weithgaredd peirianneg bensaernïol penodol.
PS4 Mabwysiadu dull cyfannol a chymesur o liniaru risgiau diogelwch mewn peirianneg bensaernïol.
PS5m Integreiddio gwybodaeth, dealltwriaeth, sgiliau a chreadigrwydd i ddatrys ystod eang o broblemau peirianneg, gan gynnwys rhai newydd neu gymhleth, yn enwedig trwy gymryd rhan mewn prosiectau dylunio mewn grŵp.
Sgiliau trosglwyddadwy/allweddol:
TS1 Cyfathrebu'n effeithiol am faterion peirianneg cymhleth â chynulleidfaoedd technegol ac annhechnegol, gan werthuso effeithiolrwydd y dulliau a ddefnyddir.
TS2 Nodi a dadansoddi pryderon moesegol a gwneud dewisiadau moesegol rhesymegol ar sail codau ymddygiad proffesiynol.
TS3 Mabwysiadu agwedd gynhwysol at ymarfer peirianneg a chydnabod/cyfleu cyfrifoldebau, buddion a phwysigrwydd cefnogi cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.
TS4m Gweithio'n effeithiol yn unigol, ac fel aelod neu arweinydd tîm, a gwerthuso effeithiolrwydd perfformiad eich hun a pherfformiad tîm.
TS5 Cynllunio a chofnodi gwerthusiad myfyriol o hunanddysgu a datblygiad fel sylfaen ar gyfer dysgu gydol oes/DPP.
Gyrfaoedd
Rhagolygon gyrfa
Cyflogir ein graddedigion yn bennaf yn y meysydd peirianneg sifil a strwythurol gyda chwmnïau ymgynghori a chontractio mawr, gyda rolau fel peiriannydd sifil neu beiriannydd strwythurol graddedig neu beiriannydd dylunio adeiladau.
Mae ein graddedigion fel arfer yn cael eu cyflogi gan gwmnïau mawr fel Arup, Atkins, Capita Symonds a Ramboll, ledled y DU a thu hwnt. Mae gennym hefyd raddedigion sy'n gweithio ar gyfer cwmnïau gwasanaethau pensaernïol ac adeiladu.
Mae nifer o raddedigion wedi dewis astudio ymhellach, naill ai ar lefel MSc neu PhD, mewn sefydliadau ledled y DU.
Mae eraill wedi dewis gweithio i gwmnïau cenedlaethol a rhyngwladol. Mae rhai enghreifftiau diweddar yn cynnwys cwmnïau yn y sectorau ariannol, y cyfryngau a marchnata gyda chyrchfannau gan gynnwys Deloitte, PwC a Virgin.
Gwaith maes
Byddwch yn cymryd rhan mewn cwrs maes preswyl oddi ar y safle am bum niwrnod yn yr ail flwyddyn, fel rhan o fodiwl craidd Astudiaethau Maes yr Amgylchedd Naturiol ac Adeiledig.
Camau nesaf
Ymweliadau Diwrnod Agored
Cofrestrwch i gael ein newyddion diweddaraf
Rhyngwladol
Mwy o wybodaeth am ein brifysgol fyd-eang
Gofyn cwestiwn
Gofynnwch gwestiwn i ni neu siaradwch â'n tîm derbyn myfyrwyr.
Sut i wneud cais
Sut i wneud cais am y cwrs hwn
Rhagor o wybodaeth
Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.